Crynodeb

  • Y Cynulliad yn cydsynio i ddeddf newydd i daclo'r feirws

  • Un farwolaeth a 60 o achosion newydd o coronafeirws yng Nghymru

  • Mesurau newydd - pawb i aros adref heblaw i brynu bwyd neu weithio

  1. Arloesi i daclo'r feirwswedi ei gyhoeddi 08:42 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae gwyddonwyr ar Ynys Môn yn helpu datblygu masg newydd arloesol i helpu taclo'r coronafeirws - ynghyd a dyfeisiadau eraill i geisio helpu atal yr haint rhag lledu.

    Mae cwmni Virustatic Shield wedi bod yn gweithio ar eu masg ers rhai blynyddoedd ond wedi gorfod cyflymu'r gwaith yn arw yn sgil y pandemig.

    Yn ôl y cynllunwyr, mae'r mwgwd yn lladd dros 95% o feirysau - yn cynnwys Covid-19.

    ann roberts
  2. Ateb eich cwestiynauwedi ei gyhoeddi 08:29 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    BBC Radio Cymru

    Ydych chi yn poeni am y coronafeirws? Mae'r #PostCyntaf, dolen allanol yn darlledu tan 9 heddiw o dan y drefn newydd, i ateb eich cwestiynau chi.

    Cysylltwch â @dylanAryMarc, dolen allanol drwy ebostio post.cyntaf@bbc.co.uk, ffoniwch 03703500500 neu @BBCRadioCymru, dolen allanol.

    Gallwch wrando ar y rhaglen drwy glicio'r linc ar frig y dudalen hon.

  3. Llacio mesurauwedi ei gyhoeddi 08:28 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    Golwg 360

    Wrth i fesurau llym ddod i rym yma, mae Golwg360 yn adrodd eu bod wedi cael eu llacio yn y dalaith yn China lle dechreuodd haint coronafeirws.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Stiwdio gyfforddus Cennydd!wedi ei gyhoeddi 08:21 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    Twitter

    Os ydych chi wedi bod yn gwrando ar y bwletin chwaraeon ar Radio Cymru heddiw, wel dyma olwg ar y stiwdio arbennig!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Cyhoeddi mesurau newyddwedi ei gyhoeddi 08:16 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae Prif Weinidogion y DU a Chymru, Boris Johnson a Mark Drakeford wedi cyhoeddi bod yn "rhaid i bawb" aros yn eu tai o hyn ymlaen er mwyn taclo coronafeirws.

    Yr unig eithriadau fyddai gadael y tŷ ar gyfer prynu nwyddau hanfodol, ymarfer corff unwaith y dydd a chynnig gofal iechyd.

    Bydd pobl hefyd yn cael teithio i'r gwaith ac yn ôl, ond dim ond os ydy hynny'n "hollol hanfodol".

    johnson a drakeford
  6. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:15 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Croeso i'n llif byw arbennig ar fore Mawrth, 24 Mawrth.

    Dyma'r diwrnod cyntaf o dan fesurau llym newydd i atal ymlediad coronafeirws. Rhaid i bawb aros adref heblaw am rai amgylchiadau arbennig.

    Fe gewch chi'r holl newyddion am y sefyllfa yn ystod y dydd.

    Bore da.