Crynodeb

  • Ail ddiwrnod dan fesurau newydd - pawb i aros adref heblaw i brynu bwyd neu weithio

  • Pum person arall wedi marw ar ôl cael coronafeirws, gan ddod â'r cyfanswm i 22

  • 150 o achosion newydd wedi'u cadanrhau - cyfanswm o 628

  • Tywysog Cymru wedi cael prawf positif am Covid-19

  1. Hwyl am y tro!wedi ei gyhoeddi 18:02 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae wedi bod yn ddiwrnod arall llawn newyddion am coronafeirws - diolch am fod gyda ni i'w ddarllen.

    Fe fydd llawer mwy i ddod yfory, ac fe fyddwn ni'n dychwelyd gyda llif byw arall yn y bore.

    Tan hynny, hwyl fawr i chi, ac arhoswch yn ddiogel.

  2. Y DU wedi archebu "nifer enfawr" o brofionwedi ei gyhoeddi 17:56 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae cwestiwn ynghylch pa mor hir fydd hi cyn y bydd staff y GIG yn cael mwy o brofion coronafirws.

    Wrth ateb, dywed Boris Johnson fod y DU wedi archebu "niferoedd enfawr o brofion".

    Dywed y dylai nifer profion ledled y DU gyrraedd 250,000 "yn fuan iawn".

    Dywedodd yr Athro Chris Whitty, prif gynghorydd meddygol llywodraeth y DU, fod yn rhaid i'r DU wynebu'r "realiti ymarferol" fod gwledydd eraill eisiau'r cydrannau hefyd.

    Mynnodd y prif weinidog fod y DU wedi gwneud mwy o brofion na'r "mwyafrif o wledydd Ewropeaidd".

  3. Newid trefn cyfarfodydd Cynulliadwedi ei gyhoeddi 17:51 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Yn y dyfodol agos, mi fydd “Senedd frys” yn cymryd lle'r Cyfarfod Llawn, a fydd yn llai o faint ac yn cynnwys llai o Aelodau. Y grwpiau gwleidyddol a’r Aelodau annibynnol fydd yn penderfynu pwy fydd yn mynychu.

    Mae’r Rheolau Sefydlog wedi cael eu diwygio fel mai dim ond pedwar Aelod Cynulliad fydd eu hangen i bleidleisiau mewn Cyfarfodydd Llawn fod yn ddilys. Fe all cyfarfodydd fel hyn gael eu cynnal ar-lein trwy fideo-gynadledda.

    Ac fe gyhoeddwyd eisoes fod y Cynulliad wedi enwebu Cadeirydd Dros Dro ar gyfer y Cyfarfod Llawn, a Llywydd Dros Dro dynodedig a all weithredu yn absenoldeb y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd.

  4. Awyr las...awyr wagwedi ei gyhoeddi 17:46 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    Mae'r coronafeirws wedi cael effaith syfrdanol ar faint o awyrennau sy'n hedfan uwchlaw Cymru.

    Am 16:30 heddiw, mae'r gwasanaeth dilyn llwybrau awyrennau Flightradar24 wedi datgelu mai dim ond dwy awyren oedd uwchben y wlad gyfan - un oedd yn hedfan o Ddulyn i Fryste, a'r llall o Heathrow i Ddulyn.

    cymruFfynhonnell y llun, Flightradar24
  5. Eryri ar gau!wedi ei gyhoeddi 17:41 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. ....a'n gwaredo!wedi ei gyhoeddi 17:36 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    Twitter

    Mae Heddlu'r Gogledd wedi bod allan yn sicrhau fod pobl yn dilyn y mesurau coronafeirws diweddaraf.

    Fe gawson nhw ddiwrnod cymharol ddi-drafferth heblaw am un teulu o Lannau Mersi....!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Gofyn i letyau ymwelwyr i gauwedi ei gyhoeddi 17:31 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    Cyngor Gwynedd

    Mae arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn wedi ysgrifennu at holl asiantaethau llety gwyliau yng Ngwynedd i ofyn wrthyn nhw i gau yn syth.

    Dywedodd y Cynghorydd Siencyn: “Rydym yn byw mewn cyfnod digynsail oherwydd Coronafeirws Cofid-19, ac er gwaetha’r canllawiau clir gan ein Llywodraethau, mae rhai asiantaethau’n dal i fod yn cynnig llety ar gael yng Ngwynedd.

  8. 'Ddim yn gwybod faint sydd wedi cael y feirws'wedi ei gyhoeddi 17:25 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Pan ofynwyd i Syr Patrick Vallance, prif gynghorydd gwyddonol llywodraeth y DU, am astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol Rhydychen a ddywedodd y gallai cymaint â 50% o boblogaeth y DU fod wedi bod yn agored i'r feirws.

    Dywed Syr Patrick "nad ydyn nhw'n gwybod" eto faint o bobl yn y DU sydd wedi cael y firws, a dyna pam mae mwy o brofion yn hanfodol.

  9. Downing Street: 'Profion gwrthgyrff yn agos'wedi ei gyhoeddi 17:23 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae Boris Johnson wedi amddiffyn rhaglen y llywodraeth i gefnogi busnesau, gan alw'r sefyllfa yn "ddigynsail".

    Dywed fod y wlad yn "ymdopi'n dda iawn ar y cyfan" o dan amgylchiadau heriol.

    Pan ofynnwyd iddo am gyfradd y profion am y feirws yn y DU, dywedodd yr Athro Chris Whitty, prif gynghorydd meddygol llywodraeth y DU, fod profi pobl i ganfod a oes ganddyn nhw'r firws yn cael ei "rampio i fyny" ar draws y wlad.

    Dywed fod prawf gwrthgyrff (antibodies) - i weld a yw pobl wedi cael COVID 19 - yn "eithaf agos", ond nid yw wedi gorffen cael ei brofi yn glinigol eto.

    Dywed Syr Patrick Vallance, prif gynghorydd gwyddonol llywodraeth y DU, fod profion yn “hanfodol” a bod angen i’r DU wneud mwy ohono.

  10. Datganiad y Prif Weinidog YN FYWwedi ei gyhoeddi 17:15 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    BBC News

    Cliciwch yma i weld y datganiad heddiw yn fyw o Downing Street.

    borisFfynhonnell y llun, bbc
  11. Cefnogaeth i denantiaid Powyswedi ei gyhoeddi 17:10 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. #HerArosAdre ....ymdrech go lew?wedi ei gyhoeddi 17:05 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    Twitter

    Catrin Heledd yw'r diweddara' i roi cynnig arni!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Galw am gynllun gwirfoddoli i'r GIGwedi ei gyhoeddi 16:55 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun gwirfoddoli ar gyfer y gwasanaeth iechyd.

    Dywedodd yr aelod Cynulliad Ceidwadol Angela Burns: "Yma yng Nghymru rydym angen i weithwyr rheng flaen y GIG i barhau i weithio ar eu dyletswyddau craidd tra bod gwirfoddolwyr yn eu cynorthwyo.

    "Mae pobl Cymru wedi cefnogi'r gwasanaeth iechyd erioed, a nawr rhaid iddyn nhw gael y cyfle i chwarae rhan ynddo.

    "Rwyf i ac eraill ymysg y Ceidwadwyr Cymreig wedi derbyn nifer o ymholiadau gan bobl oedd am wybod sut y gallen nhw fod o gymorth i'r gwasanaeth iechyd yr adeg yma, felly rhaid cael canllaw eglur iddyn nhw ar sut i wneud hyn."

    Angela Burns
  14. Darlledwyr yn eiriol ar ran gweithwyr llawryddwedi ei gyhoeddi 16:47 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    S4C

    Mae S4C wedi uno gyda BBC, ITV, Channel 4 a Channel 5 i bwyso ar y Llywodraeth i weithio gyda darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus i gefnogi gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y diwydiant darlledu yn ystod y cyfnod ansicr hwn.

    “Mewn llythyr ar y cyd at y Canghellor wedi’i lofnodi gan yr holl ddarlledwyr, rydym yn tynnu sylw at werth y gweithwyr llawrydd i lwyddiant Diwydiannau Creadigol y DU ac yn annog y Llywodraeth… i ddarparu pecyn o gefnogaeth i weithwyr llawrydd."

    Yn rhan o’r llythyr hefyd mae’r holl ddarlledwyr yn cynnig gweithio gyda’r Llywodraeth i gynorthwyo i lunio pecyn o fesurau a fyddai’n darparu lefel o ddiogelwch incwm a mynediad at dâl salwch statudol i’r gymuned lawrydd.

  15. Awgrymiadau am sut i gadw'n brysurwedi ei gyhoeddi 16:40 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Cau mynyddoedd Eryriwedi ei gyhoeddi 16:32 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

    Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cau mynediad i'r mynyddoedd prysuraf ar unwaith.

    Dywedodd yr awdurdod mewn datganiad:

    "Yn dilyn y niferoedd digynsail o ymwelwyr a welwyd y penwythnos diwethaf yn rhai o safleoedd poblogaidd Eryri, heddiw bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chyngor Gwynedd yn cau mynyddoedd prysuraf yr ardal gyda chymorth deddfwriaeth brys Llywodraeth Cymru. Gobeithiwn y bydd y mesurau hyn yn sicrhau na fydd y sefyllfa ddigynsail a welwyd y penwythnos diwethaf yn cael eu hailadrodd y penwythnos hwn.

    "Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac ni fyddwn yn oedi i gyflwyno mesurau pellach os bydd angen. Rydym yn cymryd y camau yma nid yn unig er mwyn gwarchod y cyhoedd yn gyffredinol, ond i warchod ein cymunedau gwledig ac i leihau’r pwysau fydd lledaeniad y firws yn ei gael ar ein gwasanaethau iechyd lleol."

  17. Lansiad digidol i nofel newyddwedi ei gyhoeddi 16:18 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    Dydd Sadwrn bydd lansiad digidol i nofel newydd yr awdures Mari Emlyn yn cael ei gynnal gan wasg Y Lolfa - y cyntaf erioed gan y wasg.

    Yn wreiddiol roedd lansiad Wal wedi’i drefnu yng Nghapel Salem, Canton, Caerdydd ond yn sgil y feirws, bu'n rhaid canslo’r digwyddiad.

    Dywedodd Lefi Gruffudd o’r Lolfa: “Mae Wal yn delio â themâu cyfoes ac amserol ac yn gwbl wahanol i unrhyw nofel arall a gyhoeddwyd yn y Gymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf - felly mae’n addas iawn ar gyfer lansiad o’r fath!”

    NofelFfynhonnell y llun, Y Lolfa
  18. Cartŵn: Sut mae’r amserlen dysgu adref?wedi ei gyhoeddi 16:05 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Efallai nad rhieni'n unig all uniaethu gyda chartŵn Huw Aaron am amserlen newydd y dydd yn rhai o gartrefi Cymru...

    CartwnFfynhonnell y llun, Huw Aaron
  19. Tymor CPD Wrecsam i orffen yn gynnar?wedi ei gyhoeddi 15:57 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Dim ymweliadau ysbytywedi ei gyhoeddi 15:47 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2020

    Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi oedi POB ymweliad i ysbytai'r bwrdd, a hynny er mwyn gwarchod cleifion a staff oherwydd coronafeirws.