Crynodeb

  • Cymru 1-1 Y Swistir - pwynt i Gymru

  • Twrci a'r Eidal yw'r ddau dîm arall sydd yng ngrŵp A gyda Chymru, a Twrci yw'r gwrthwynebwyr nesaf nos Fercher

  • Dim ond y ddau uchaf sy'n sicr o'u lle yn y rownd nesaf, ond mae'n bosib mynd ymlaen drwy orffen yn drydydd hefyd

  1. Hwyl tan nos Fercherwedi ei gyhoeddi 16:29 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    BBC Cymru Fyw

    Diolch am ddarllen - gobeithio i chi fwynhau'r llif os nad y gêm"

    Twrci yw'r gwrthwynebwyr nesaf nos Fercher, yn Baku eto.

    Mae'n rhaid i ni ennill!

    Welwn ni chi bryd hynny.

  2. Ymlaen at nos Fercherwedi ei gyhoeddi 16:24 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Dyna ni felly. Cymru 1-1 Y Swistir oedd hi yn y diwedd.

    Darllenwch adroddiad y gêm yma dewch atan ni eto nos Fercher am lif byw arall - mae buddugoliaeth yn erbyn Twrci nawr yn bwysicach fyth.

    kiefferFfynhonnell y llun, Reuters
  3. Ymateb Joe Allenwedi ei gyhoeddi 16:19 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Twitter

    Ymateb Joe Allen wedi'r chwiban olaf.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Rob Page yn cyfadde rhyddhadwedi ei gyhoeddi 16:16 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    kiefferFfynhonnell y llun, Getty Images
    Quote Message

    Mae'n teimlo fel buddugoliaeth i ni heddiw

  5. Ymateb Gareth Balewedi ei gyhoeddi 16:15 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Quote Message

    Fe naethon ni ddangos cymaint o gymeriad i ddod nol... roedd hi'n gêm anodd iawn. Ymlaen nawr at y nesaf

  6. Ymateb Joe Allenwedi ei gyhoeddi 16:12 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Dywedodd Joe Allen ei fod o wedi blino mewn gem anodd, a bod Cymru heb fedru cadw'r meddiant yn ddigon da.

    Ond wedi'r pwynt, roedd un dyfyniad ganddo yn aros yn y cof!

    Quote Message

    Dwi wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn casau VAR, ond nawr... 'VAR for life!'

  7. Gyda'n Gilydd yn Gryfachwedi ei gyhoeddi 16:06 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Gareth Bale oedd yn arwain y siarad ar ôl y gêm yn Baku wedi'r canlyniad cyfartal.

    CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Carfan Cymru ar ddiwedd y gêm yn erbyn Y Swistir

  8. Angen dechrau'n well tro nesa'wedi ei gyhoeddi 16:05 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Kath Morgan
    Un o sylwebwyr Radio Cymru

    Quote Message

    Odd rhaid neud rhywbeth, i fod yn deg i'r Swistir oedden nhw yn haeddu mynd ar y blaen. Ond roedd rhaid i Cymru ymateb i hynny. Y'n ni ffili mynd 'mlaen gyda y gemau yma yn chwarae mor sâl am hanner, mae'n mynd i gosbi ni yn y pendraw.

  9. Kieffer cafodd hiwedi ei gyhoeddi 16:04 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Roedd wyneb Kieffer Moore yn dweud y cyfan, ac yn adlewyrchu'r rhyddhad i bob cefnogwr..

    Ei gol o roddodd bwynt i Gymru mewn gêm yr oedd rhaid i ni beidio colli.

    Ymlaen at y nesaf - Twrci nos Fercher, eto yn Baku.

    kieffer
  10. Wrth fy modd!wedi ei gyhoeddi 16:01 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Torcalon wedi ildio y gôl gynnar yna - ac o ni meddwl bydde rhaid i lefel y perfformiad godi, ac aru fi ddefnyddio y gair cymeriad. A chwarae teg i'r chwaraewyr fe wnaethon ni ddangos cymeriad. Ti ddim yn licio bod yn feirniadol achos mae yn ofnadwy o boeth yma, mae'r gwres yn ofnadwy o anifyr... ond dwi wrth fy modd, am bwynt gwerthfawr.

  11. DIgon tegwedi ei gyhoeddi 15:57 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 1-1 Y Swistir

    Malcolm Allen
    Cyn ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Canlyniad teg... gafon nhw fwy o'r meddiant, ond roedd Cymru'n well yn yr ail hanner

  12. Mae hi ar ben - Cymru'n gorfod bodloni gyda phwyntwedi ei gyhoeddi 15:55 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 1-1 Y Swistir

    Chwiban Olaf

  13. Ramsey'n gadaelwedi ei gyhoeddi 15:53 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 1-1 Y Swistir

    Eilyddio

    Eilyddio amddiffynnol i Gymru...

    Aaron Ramsey sy'n gadael ac Ethan Ampdau sy'n dod ymlaen i roi cadernid i'r amddiffyn

  14. PUM MUNUD i'w hychwanegu!wedi ei gyhoeddi 15:51 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 1-1 Y Swistir

  15. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 15:50 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Carl Roberts
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Mae fy oriawr newydd atgoffa fi i anadlu

  16. Yr orau eto gan Ward!wedi ei gyhoeddi 15:50 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 1-1 Y Swistir

    Embolo gyda pheniad gwych, ond Danny Ward yn codi fel eryr i'w gwthio dros y trawst!

  17. Dim cwestiwnwedi ei gyhoeddi 15:48 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 1-1 Y Swistir

    Carl Roberts
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Camsefyll! Dwi’n eistedd y tu ol i’r llumanwr ac oedd o sicr yn camsefyll. Dim syniad sut oedd y llumanwr wedi methu hwna.

  18. VAR i'r adwy!!wedi ei gyhoeddi 15:46 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 1-1 Y Swistir

    Dyw hi ddim yn cyfri!

    A diolch byth am hynny - roedd amddiffyn Cymru yn llygad eu lle, ac mi oedd Gavranovic YN camsefyll!

  19. Y Swistir yn sgorio'r ailwedi ei gyhoeddi 15:45 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 1-2 Y Swistir

    Ail i'r Swistir a mynydd i'w ddringo i Gymru nawr!

    Gavranovic oedd y sgoriwr, ond roedd amddiffyn Cymru yn disgwyl ei fod yn camsefyll...

    bbc
  20. Dangos Cymeriadwedi ei gyhoeddi 15:43 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Kath Morgan
    Un o sylwebwyr Radio Cymru

    Quote Message

    Rhyddhad wrth weld y gôl 'na yn mynd mewn, ni ddim wedi cael prynhawn ffantastic ond o leiaf mae Cymru wedi dangos cymeriad a dod 'nol mewn i'r gêm. Nawr mae rhaid i ni sicrhau bod i ddim yn colli y pwynt sydd gyda ni.