Crynodeb

  • Cymru 1-1 Y Swistir - pwynt i Gymru

  • Twrci a'r Eidal yw'r ddau dîm arall sydd yng ngrŵp A gyda Chymru, a Twrci yw'r gwrthwynebwyr nesaf nos Fercher

  • Dim ond y ddau uchaf sy'n sicr o'u lle yn y rownd nesaf, ond mae'n bosib mynd ymlaen drwy orffen yn drydydd hefyd

  1. Tic Tacswedi ei gyhoeddi 14:42 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Y dyfarnwr yma yn reit hapus cael ei gerdiau coch allan. Falle mai dyma ydi y dactec, Bod yn amddiffynol gadarn, gadael i amddiffynwyr Y Swistir a'r chwaraewyr canol cae gael y bêl yn enwedig yn ein hanner ni, wedyn ennill y bêl `nol yn sydyn fel o'n ni yn neud yn 2016 a wedyn taro y gwrthwynebwyr gyda gwrthymosodiad cyflym.

  2. Ystadegau siomedig hyd ymawedi ei gyhoeddi 14:39 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Y Swistir

    Meddiant = Cymru 35% - Y Swistir 65%

    Ergydion = Cymru 2 - Y Swistir 8

    Ciciau cornel = Cymru 1 - Y Swistir 6

  3. Cerdyn i'r Swistirwedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Y Swistir

    Cerdyn Melyn

    Schaar yn derbyn cerdyn melyn - rhediad gwych gan Dan James, ond yn cael ei faglu ar ymyl y cwrt cosbi

  4. Rhy ddwfn!wedi ei gyhoeddi 14:30 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Y Swistir

    Malcolm Allen
    Cyn ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Dwi'n meddwl bo ni'n amddiffyn yn rhy ddwfn... mae angen i ni symud 10 llath i fyny'r cae er mwyn ennill y meddiant yn eu hanner nhw

  5. Mbabu yn ofni Jameswedi ei gyhoeddi 14:26 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Rwy'n edrych ar Gymru pan mae nhw yn adeiladu ac mae gan Mbabu gymaint o ofn Dan James. Mae e yn glynu wrth Dan James.

  6. Chwarter y gêm wedi mynd...wedi ei gyhoeddi 14:25 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Y Swistir

    Dal neb wedi sgorio...

    Y Swistir sydd wedi cael mwyafrif y meddiant, ond y cyfle gorau i Gymru o bosib.

  7. Rhwymyn coch a vasalinewedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Y Swistir

    Dylan Griffiths
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Mae yna rwymyn coch anferth nawr am dalcen Kieffer Moore sydd ar ei bennau gliniau. Felly am y tro Cymru lawr i 10...

    Kiefer MooreFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Kiefer Moore yn derbyn triniaeth

  8. Ward yn wych!wedi ei gyhoeddi 14:22 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Y Swistir

    Cyfle i'r Swistir!

    O gic gornel Xherdan Shaqiri yn creu i Shaer, ond Danny Ward yn arbed yn wych gyda'i draed!

  9. Mor agos!wedi ei gyhoeddi 14:21 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Twitter

    Cyfe cyntaf i Kieffer Moore!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Anaf i Moore..wedi ei gyhoeddi 14:19 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Y Swistir

    O'r gic gornel, Moore ac Mbapu sy'n codi amdani a tharo'u pennau yn erbyn ei gilydd...

    Mae yna waed ar wyneb Kieffer Moore, ond fe fydd yn iawn gobeithio...

  11. Mor agoswedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    O ni meddwl bod hi fewn.. dyna'r gorau da ni wedi gweld gan Gymru

  12. Waw! Bron yna!wedi ei gyhoeddi 14:17 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Y Swistir

    Arbediad gwych Sommer o beniad Kieffer Moore.

    Cyfle gorau Cymru hyd yma...

  13. Swistir i'w gwyliowedi ei gyhoeddi 14:14 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Dylan Griffiths
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Y Swistir sydd yn gweld ac yn cael y rhan fwyaf o'r meddiant yn y 10 munud agoriadol yma.

  14. Cyfnod da i'r Swistirwedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Y Swistir

    Er i Gymru gael dechrau da, mae'r Swistir wedi cael mwy o'r meddiant er hynny.

    Cyfnod da iddyn nhw.

  15. Angen hyderwedi ei gyhoeddi 14:11 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Gwennan Harries
    Cyn ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Falch o weld Mepham yn dechre'n dda... tacl dda sy'n mynd i godi ei hyder e wrth i'r gem fynd ymlaen

  16. Cefnogwyr ymhobmanwedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Mae cefnogwyr wedi ymgasglu mewn sawl man o gwmpas Cymru heddiw.

    Yn eu plith y criw yma yng nghlwb Mountain Rangers yn Rhosgadfan, ac fe wnaethon nhw fwynhau'r anthem!

    Disgrifiad,

    mountain rangers

  17. Dechrau dawedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Hwyrach angen bach mwy o uchder ar y croesiad gan Dan James ond symudiad da gan Gymru.

  18. Cyfle cynnar!wedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Y Swistir

    Cymru'n cipio'r bel yng nghanol cae a Dan James yn llwyddo i groesi, ond y golwr yn ei dal hi.

    Yna munud yn ddiweddarach, Connor Roberts yn torri'r glir ar y dde a chroesi, ond y Swistir yn clirio.

  19. Dyma ni!!wedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Y Swistir

    Dechrau'r gêm

  20. Iwan yn nerfuswedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Mae'r stumog yn mynd Dyl, mae'r nerfau yn dangos a fi yn siwr bod nerfau y chwaraewyr a'r tensiwn a'r holl beth sydd yn dod gyda gêm mor fawr a hon. Ond mae'r wobr yn un anferth.