Crynodeb

  • Cymru 1-1 Y Swistir - pwynt i Gymru

  • Twrci a'r Eidal yw'r ddau dîm arall sydd yng ngrŵp A gyda Chymru, a Twrci yw'r gwrthwynebwyr nesaf nos Fercher

  • Dim ond y ddau uchaf sy'n sicr o'u lle yn y rownd nesaf, ond mae'n bosib mynd ymlaen drwy orffen yn drydydd hefyd

  1. Amser newid system?wedi ei gyhoeddi 15:16 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Mae nhw yn edrych fel tîm - Y Swistir ynde sydd yn gwbod eu rols unigol ac fel tîm yn y system yma - wedi hen arfer. Ni yn edrych fel tîm sydd yn chwarae y system yma am y tro cyntaf.

  2. Rhaid i bawb gymryd cyfrifoldebwedi ei gyhoeddi 15:13 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Kath Morgan
    Un o sylwebwyr Radio Cymru

    Quote Message

    Ar hyn o bryd i fi does dim digon o egni ynghanol y cae, ni yn disgwyl i Dan James neud y cyfan ac yn anffodus dyw e ffili, i fod yn deg. Mae rhaid i bawb gymryd cyfrifoldeb, o'r gôl geidwad i'r pedwar yn y cefn. Mae'r Swistir yn mwynhau mas draw yn fanna, Ni yn edrych dan bwyse.

  3. Cyfle arall!wedi ei gyhoeddi 15:12 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 0-1 Y Swistir

    Mae'n siop siafins ar y funud!

    Cyfle da arall i Embolo, ond yn ffodus y tro hwn, roedd ei ergyd yn wan a heibio'r postyn.

  4. Angen deffro!wedi ei gyhoeddi 15:11 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Malcolm Allen
    Cyn ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Falle neith hynny ddefro ni 'chydig bach - dwi'in trio bod yn positif! Ond ba ma Connor Roberts yn da yn marcio boi cryfa'r Swistir!

  5. Mae'r Swistir ar y blaen!wedi ei gyhoeddi 15:09 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 0-1 Y Swistir

    Gôl i'r Swistir!

    O gic gornel, Breel Embolo gafodd y cyfle.

    Tor calon i Gymru!

    bbc
  6. Cerdyn i Kiefferwedi ei gyhoeddi 15:07 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Y Swistir

    Cerdyn Melyn

    Wrth neidio am y bel uchel Kieffer Moore yn taro'r amddiffynwr gyda'i fraich, ac mae'n gerdyn melyn i ymosodwr Cymru!

  7. Chwaraewyr Cymru heb gyrraedd y parti eto.wedi ei gyhoeddi 15:05 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Mae rhaid i Gareth Bale a Dan James wneud eu gwaith yn well yn yr hanner nesaf yma.... Da ni heb fod yn ddigon da yn yr hanner cyntaf yna. Heb edrych ar ôl y bêl yn ddigon da.... Chwaraewyr mawr ni heb ddod i'r parti eto.

  8. Ail hanner wedi dechrauwedi ei gyhoeddi 15:05 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Y Swistir

  9. Codwch y ffôn yn nes ymlaen....wedi ei gyhoeddi 15:04 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. ..ond ddim gormod chwaith!wedi ei gyhoeddi 15:01 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Mae criw yng Nghlwb Mountain Rangers yn cael 'cup cakes' ffansi......

    cup cakesFfynhonnell y llun, bbc
  11. W faswn i'n medru bwyta rhywbeth ar yr egwyl!wedi ei gyhoeddi 14:58 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    donut
  12. O mae hyn yn digwydd eto yndi?wedi ei gyhoeddi 14:56 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Ffeithiau ffansi!wedi ei gyhoeddi 14:54 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw

    Does dim dwywaith amdani – mae’r Swistir yn ‘dîm twrnament’ da. Maen nhw wedi cyrraedd wyth Cwpan y Byd neu Euros ers y 1990au, a dim ond unwaith maen nhw wedi colli eu gêm agoriadol (yn Euro 2008).

    Mae’r rhediad yna’n cynnwys buddugoliaeth dros Sbaen, a gemau cyfartal yn erbyn Ffrainc, Brasil a Lloegr. Maen nhw hefyd wedi cyrraedd rownd yr 16 olaf yn eu tri thwrnament diwethaf.

  14. Gwen yn ei thop Cymru yn gweithio yn Caffi Porthdinllaen, Morfa Nefynwedi ei gyhoeddi 14:53 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Gwen yn ei thop Cymru yn gweithio yn Caffi Porthdinllaen, Morfa NefynFfynhonnell y llun, bbc
  15. Newidiadau gan y bos?wedi ei gyhoeddi 14:52 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    S'dim rhaid iddo newid. Dwi ddim yn meddwl neith e newid. Bydd e ddim yn fodlon efo y ffordd mae'r tîm wedi chwarae... Da ni ddim yn rhoi digon o bwysau ar y Swistir.

  16. Di-sgor ar yr egwyl yn Bakuwedi ei gyhoeddi 14:49 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Y Swistir

    Hanner Amser

  17. 'Angen mwy o feddiant'wedi ei gyhoeddi 14:49 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Y Swistir

    BBC Radio Cymru

    Mae hanner amser yn teimlo’n bell i ffwrdd. Mae angen mwy o feddiant fel bod canol y cae’n gallu creu rhywbeth…unrhywbeth!

    Beth sydd angen ei wneud yn wahanol? Cysylltwch â ni ar #EwroMarc / Text 67500 / Ffôn 03703 500 500

  18. Cyfle arall!wedi ei gyhoeddi 14:48 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Y Swistir

    Seferovic eto - gwaith da gan Embolo yn y cwrt, ac yntau'n bwydo Seferovic, ond yr ergyd heibio'r postyn yn ffodus i Gymru

  19. Mwy gan y chwaraewyrwedi ei gyhoeddi 14:45 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Mae ganddon ni ormod o chwaraewyr ddim yn neud digon.

  20. Cynnir i'r Swistirwedi ei gyhoeddi 14:43 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Cymru 0-0 Y Swistir

    Serefovic gydag ergyd o 20 llath, a Danny Ward yn falch o weld yr ergyd yn hedfan dros y trawst.