Crynodeb

  • Cymru 1-1 Y Swistir - pwynt i Gymru

  • Twrci a'r Eidal yw'r ddau dîm arall sydd yng ngrŵp A gyda Chymru, a Twrci yw'r gwrthwynebwyr nesaf nos Fercher

  • Dim ond y ddau uchaf sy'n sicr o'u lle yn y rownd nesaf, ond mae'n bosib mynd ymlaen drwy orffen yn drydydd hefyd

  1. Dyma'r 11 go iawn!wedi ei gyhoeddi 12:45 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021
    Newydd dorri

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Dylan ac Iwan yn barod...wedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    BBC Radio Cymru

    Dau o'ch tîm sylwebu ar BBC Radio Cymru y prynhawn yma fydd Dylan Griffiths ac Iwan Roberts, ac maen nhw wedi bod yn edrych ymlaen at hon.... ers pum mlynedd dwi'n meddwl!

    Disgrifiad,

    Dylan Griffiths ac Iwan Roberts yn edrych ymlaen

  3. Ydach chi'n cytuno gyda Owain Fônwedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Mae Owain Fôn Williams wedi dewis yr 11 mae o'n credu ddylai ddechrau'r gêm yn erbyn Y Swistir.

    Ydach chi'n cytuno?

    Rhowch gyfle ar ddewis eich 11 chi drwy glicio yma - bbc.in/3iwoalG, dolen allanol

    Disgrifiad,

    11 Owain Fôn Williams yn erbyn Y Swistir

  4. Yr Eidal yn fygythiol!wedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Fe ddechreuodd Euro 2020 neithiwr wrth gwrs, gyda'r ddau dîm arall yng Ngrŵp A - Yr Eidal a Twrci - yn herio'r gilydd yn Rhufain.

    Yr Eidal enillodd o 3-0, ac roedd nhw'n ardderchog! Roedden nhw cystal wir, fel ei bod yn anodd barnu pa mor ddrwg oedd Twrci.

    Tasg anodd i Robert Page a'i griw wrth geisio asesu'r perfformiad cyn i Gymru wynebu Twrci nos Fercher.

    Eidal
  5. 'Digon ohono ni yma i neud digon o swn!'wedi ei gyhoeddi 12:33 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    Mae'n anodd amcangyfrif faint o gefnogwyr Cymru sydd wedi mentro i Baku.

    Ond mae'r rhai gafodd eu holi wrth lanio yn Azerbaijan ddoe yn grediniol, bod digon ohonyn nhw yno.

    Disgrifiad,

    Mae briciau'r Wal Goch yn prysur cyrraedd Baku.

  6. Prynhawn da i chi gyd!wedi ei gyhoeddi 12:33 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mehefin 2021

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r amser wedi cyrraedd - mae Cymru wedi cyrraedd rowndiau terfynol Euro 2020, ac mae'r ymgyrch ar ddechrau.

    Rhwng nawr a tua 5 o'r gloch, fe gewch chi uchafbwyntiau'r gêm ar ein llif byw, ond hefyd sylwadau, lluniau a'r trydariadau gorau welwn ni.

    'Steddwch... gwnewch baned/diod... a croeswch popeth y bydd taith eleni gystal â phum mlynedd yn ôl!