Crynodeb

  • Eisteddfod Ceredigion yn agor ei drysau yn swyddogol wedi iddi gael ei gohirio ddwywaith yn sgil Covid

  • Ceredigion gyfan yn croesawu'r brifwyl

  • Problemau y cyflenwad dŵr yn cael eu datrys

  • Y pafiliwn bron yn llawn ar gyfer 'Lloergan'

  • Diwrnod y bandiau pres a'r cystadleuwyr ifanc

  • Cofio Sylwen Lloyd Davies, Mair Penri ac Aled Lloyd Davies

  1. Cofio enw'r bar newydd?wedi ei gyhoeddi 09:56 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Os ydach chi wedi anghofio’ch potel ddŵr, dydych chi ddim chwaith yn gallu torri’ch syched yn Bar Williams Parry (yr hen Far Gwyrdd). Wel, ddim nes 11:00 beth bynnag!

    Bar Williams Parry yw enw'r bar newydd - a Gruffudd Antur a enillodd y gystadleuaeth i'w enwi.

    Bar Williams Parry
  2. Dim ciwiau bore 'ma ond gwisgwch yn addaswedi ei gyhoeddi 09:51 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Braidd dim ciwiau, o ran traffig ac wrth y fynedfa, wrth i bobl gyrraedd y maes am 9:00 heddiw.

    Mae’r glaw mân wedi stopio am y tro, a’r tywydd yn glos iawn, ond dewch â chot a sgidiau addas efo chi beth bynnag.

    croeso
  3. Problem dŵr yn parhau ar hyn o brydwedi ei gyhoeddi 09:46 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Fore Sadwrn mae'r broblem dŵr yfed yn parhau ar y maes ac mae arbenigwyr yn parhau i gynnal profion.

    Mae'r Eisteddfod wedi darparu poteli i bawb.

    "Ry'n yn falch iawn o hynny ac yn gwerthfawrogi," medd Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr.

    Merched y Wawr
    Disgrifiad o’r llun,

    Tegwen Morris (chwith), Llinos Jones a Glenda Jones yn paratoi'r te yn Merched y Wawr

  4. Eisteddfod 2020 yn 2022!wedi ei gyhoeddi 09:38 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Cafodd Eisteddfod Ceredigion ei chyhoeddi yn 2019 yn Aberteifi – ond pwy fyddai wedi meddwl ar y pryd na fyddai’n cael ei chynnal tan 2022?

    Cafodd ei gohirio’n wreiddiol ddiwedd Mawrth 2020 yn sgil y pandemig a’i gohirio am yr eildro yn niwedd Ionawr 2021.

    Ond wedi hir aros mae hi yma ac mae’r croeso’n gynnes i wersyllwyr, carafanwyr, adroddwyr, dawnswyr, cantorion – PAWB.

    Eisteddfod
  5. Croeso i Dregaronwedi ei gyhoeddi 09:38 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Tregaron

    Croeso i’r newyddion diweddaraf ar ddiwrnod llawn cyntaf Eisteddfod Genedlaethol 2022.

    Gydol yr wythnos bydd gohebwyr Cymru Fyw ar y maes.

    Ydi wedi hir ddisgwyl mae’r Eisteddfod yma o’r diwedd ac mae yna groeso mawr iddi ar draws y sir.

    Tregaron
    Tregaron