Lloergan – sioe gyntaf y brifwyl yn boblogaiddwedi ei gyhoeddi 12:07 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

Lloergan oedd sioe agoriadol y Brifwyl ac fe wnaeth cannoedd dyrru i Dregaron i’w gweld nos Wener.
Fflur Dafydd oedd awdur y sioe a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Griff Lynch a Lewys Wyn.
Y stori? Mae Lleuwen, seren y sioe, yn eicon ym myd seryddiaeth ac yn gweithio i fyny yn y gofod tra bod ei gŵr, Gwyn, yn magu eu plant ar y ddaear yn Ystrad Fflur lle cafodd ei eni a’i fagu.
Aiff Lleuwen ar daith i ddarganfod sut i ddod o hyd i gydbwysedd rhwng dau fywyd gan frwydro i ddarganfod y man canol rhwng cariad ac ymrwymiad, dyletswydd ac uchelgais, y genedl a’r gofod.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.