Crynodeb

  • Eisteddfod Ceredigion yn agor ei drysau yn swyddogol wedi iddi gael ei gohirio ddwywaith yn sgil Covid

  • Ceredigion gyfan yn croesawu'r brifwyl

  • Problemau y cyflenwad dŵr yn cael eu datrys

  • Y pafiliwn bron yn llawn ar gyfer 'Lloergan'

  • Diwrnod y bandiau pres a'r cystadleuwyr ifanc

  • Cofio Sylwen Lloyd Davies, Mair Penri ac Aled Lloyd Davies

  1. Y Cardis yn codi mwy o arian na'r gofynwedi ei gyhoeddi 14:15 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Mae'r pwyllgorau lleol eleni wedi codi rhyw £470,000 ac "wedi codi mwy na'r hyn yr oedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn gofyn ac wedi codi mwy na'r ail darged a osodwyd," medd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Elin Jones.

    "Mae pob cymuned o Aberteifi, hyd at ffiniau Machynlleth, wedi cwrdd â'u targed ac felly wedi chwalu y darlun stereotype o'r Cardi," meddai.

    Pwyllgor Gwaith
    Disgrifiad o’r llun,

    Un o gyfarfodydd cyntaf y pwyllgor gwaith

  2. Y Babell Lên yn boblogaidd hefyd ...wedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Mae'r Talwrn ar fin dechrau a'r ciw yn tyfu ...

    Pob hwyl i dimau Dros yr Aber a Chrannog.

    Disgrifiad,

    Y ciw i'r Babell Lên i weld y Talwrn

  3. Sioe Cyw yn boblogaidd yn barodwedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Un atyniad poblogaidd yn sicr mewn unrhyw Eisteddfod yw Sioe Cyw - ac mae'r torfeydd yn heidio yn barod.

    Sioe Cyw
    Disgrifiad o’r llun,

    Sioe Cyw ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Ceredigion

  4. Mwynhau y peint cynta o Far Williams Parrywedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Merin yn mwynhau llond llaw o beints cynta Bar Williams Parry amser cinio!

    Merin
  5. Tre gig yw Tregaron?wedi ei gyhoeddi 13:51 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Yr unig ddwy stondin fwyd oedd ar gau amser cinio… oedd y ddau le bwyd figan. Tref gig yw Tregaron yn amlwg!

    maes
  6. Croeso cadeiriol yn Llanddewi Brefiwedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Mae Huw Davies a'i dad, Mervyn, o Landdewi Brefi wedi llunio cadair allan o focs a deunyddiau y maent wedi dod o hyd iddyn nhw ar sgip cwmni adeiladu o Dregaron.

    "Mae dad bellach yn ei saithdegau ac ry'n wedi mwynhau yn fawr. Mae dad yn grefftwr da," meddai.

    Cadair LlanddewiFfynhonnell y llun, Huw Davies
  7. Dau gywydd croeso ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigionwedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Anwen PierceFfynhonnell y llun, Barddas
    Disgrifiad o’r llun,

    Anwen Pierce oedd awdur y cywydd croeso cyntaf

    Anwen Pierce oedd awdur y cywydd croeso cyntaf i'r Brifwyl (hynny ar gyfer 2020) - a dywed ei bod yn falch eithriadol o'r fraint gan nad oes llawer o ferched wedi ysgrifennu cywyddau croeso i'r Eisteddfod yn y gorffennol.

    Gwenallt Llwyd Ifan yw awdur yr ail gywydd croeso sef prifardd Eisteddfod AmGen 2021.

    cywydd croeso
  8. Gwlânfomio yn Llangeitho a’r ardalwedi ei gyhoeddi 13:29 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Mae ardaloedd ar draws y sir wedi bod yn brysur iawn yn paratoi at ymweliad y Brifwyl.

    Yn Llangeitho mae nhw wedi bod yn gwlânfomio – gan gyfarfod yn rheolaidd i wau a chrosio.

    Mae’r pentref bellach yn llawn lliw wedi i aelodau o’r gymuned fod yn gwau ac yn gwnïo troedfeddi o byntin, cannoedd o flodau a dail, ynghyd â sanau lliwgar o wlân ar gyfer arwyddion ffordd lleol.

    Llangeitho
  9. Dathlu 20 mlynedd o ganu'r corn gwladwedi ei gyhoeddi 13:20 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Disgrifiad,

    Dywed Dewi Griffiths ei fod wrth ei fodd er bod yna "bwysau i sicrhau fod pob dim yn mynd yn iawn"

  10. A fydd galw am yr hetiau 'na wrth i'r tywydd wella?wedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Maes

    Er gwaetha’r tywydd llwm mae ‘na dipyn o’r hetiau bwced i’w gweld o gwmpas y maes yn barod.

    Unwaith bydd y tywydd yn brafio, tybed pa mor hir fydd hi tan fod y rhain i gyd wedi’u gwerthu!

  11. Cloi cystadleuaeth gyntaf y dyddwedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Fel ag sy'n draddodiadol mae lle amlwg i fandiau pres ar ddydd Sadwrn cyntaf y Brifwyl - ac yn cloi'r gystadleuaeth gyntaf mae Band Arian Cross Keys a Band Arian RAF Sain Tathan.

    Band arian Cross Keys
    Disgrifiad o’r llun,

    Band Arian Cross Keys

    Band Arian Sain Tathan
    Disgrifiad o’r llun,

    Band Arian RAF Sain Tathan

  12. Cyfle i lenorion ifanc gael dweud eu dweud!wedi ei gyhoeddi 12:59 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Amser cinio roedd yna gyfle i lenorion ifanc gael dweud eu dweud yng nghwmni Eurig Salisbury.

    Mae'r llenorion wedi ennill tlysau llenyddol mewn eisteddfodau bach yn ddiweddar.

    llenorion ifanc
  13. Mae'n prysuro ar y Maes!wedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    maes
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Maes amser cinio

    Mae'n prysuro ar y Maes wedi bore cymharol dawel - ac mae'r tywydd yn gwella!

    Maes
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Maes fore Sadwrn

  14. 'Rhaid helpu dad-cu yn does?,' medd Erin o ardal Caerfyrddinwedi ei gyhoeddi 12:48 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Mae 'na rywun wedi cyrraedd y Maes yn llwythog iawn.

    Mae Erin, 3, o Fryn Iwan ger Caerfyrddin yn helpu dad-cu i gludo'r llwyth.

    Erin
  15. Amser cinio ar y maeswedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Ina a'i brawd bach Euros o Lanidloes yn mwynhau amser cinio ar y maes.

    bbcFfynhonnell y llun, bbc
  16. Diwrnod mawr i dimau Dros yr Aber a Chrannogwedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    BBC Radio Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Cofio cyn-lywyddion Merched y Wawrwedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Merched y Wawr

    Fe fydd dydd Sadwrn yn ddiwrnod i gofio cymeriadau blaenllaw sydd wedi'u colli yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

    Bydd Merched y Wawr yn cofio am gyfraniad dau lywydd a fu’n weithgar iawn gyda’r mudiad sef Mair Penri a Sylwen Lloyd Davies.

    Roedd y ddwy yn aelodau o gangen Y Parc lle sefydlwyd Merched y Wawr yn 1967.

    “Braf iawn fydd gweld cyd-aelodau yn cymryd rhan yn y cyflwyniad yn Theatr y Maes ac aelodau o deuluoedd y ddwy ynghyd â Geunor Roberts yr Is-lywydd Cenedlaethol a oedd yn ffrind i'r ddwy,” medd y Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Tegwen Morris.

    “Edrychwn ymlaen i ddathlu eu cyfraniad anhygoel i'r Gymraeg, eu cymuned ac i Gymru.”

    Mair Penri
    Disgrifiad o’r llun,

    Bu Mair Penri farw yng Ngorffennaf 2019

  18. Croeso lliwgar iawn a dyfeisgarwedi ei gyhoeddi 12:28 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    AberaeronFfynhonnell y llun, Elin Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Y croeso yn Aberaeron

    Tregaron yw lleoliad y Brifwyl ond mae ardaloedd ar draws y sir wedi uno i estyn croeso twymgalon i Geredigion.

    Tregaron
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r arddangosfa yma ger Maes y Brifwyl

    Trefenter
  19. Mae 'na bob dim ar y maes...wedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Dydi hi ddim cweit yn dywydd twba twym ar hyn o bryd!

    twba twym
  20. Joio ar y maeswedi ei gyhoeddi 12:14 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Mae'r eliffantod yn bla ar y maes ac mae Benji, 2, o Gaerdydd wrth ei fodd.

    Mm tybed oes yna un wedi'i gladdu y tu ôl i'r Talbot yn Nhregaron?

    plentyn ar reid eliffant
    Disgrifiad o’r llun,

    Benji, 2, o Gaerdydd yn mwynhau chwarae ar y Maes