Crynodeb

  • Miloedd yn heidio i Dregaron ar ddechrau wythnos y brifwyl

  • Esyllt Maelor yn ennill y Goron yn Nhregaron

  • Ysgrifennydd Cymru yn dweud ei bod yn "amser cyffrous i'r iaith"

  • Gwyn Nicholas, Llanpumsaint yn derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams

  • Cannoedd o aelodau CFFI yn perfformio yn sioe nos y pafiliwn

  1. Hwyl fawr am heddiwwedi ei gyhoeddi 18:04 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    A dyna ni gan dîm llif byw Cymru Fyw am heddiw.

    Bu'n ddiwrnod hynod o lwyddiannus ar y Maes ac ydi mae Tregaron yn Dre'r Goron.

    Llongyfarchiadau calonnog i Esyllt Maelor.

    Heno Clybiau Ffermwyr Ceredigion fydd yn hawlio sylw'r pafiliwn.

    Bydd gweddill straeon y dydd ar wefan Cymru Fyw a'r llif byw yn ôl bore fory.

    A dyma luniau heddiw o'r Maes.

    EisteddfodFfynhonnell y llun, Iolo Penri
  2. Esyllt Maelor yn ymateb wedi ei llwyddiant ysgubolwedi ei gyhoeddi 17:59 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Disgrifiad,

    Esyllt Maelor: 'Does gen i ddim geiriau'

  3. Dawns egnïol yn y Pentref Dramawedi ei gyhoeddi 17:52 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Un o berfformiadau egnïol y criw yn y Pentref Drama ar y Maes y prynhawn 'ma.

    pentre drama
  4. Clybiau CFFI Ceredigion yn perfformio henowedi ei gyhoeddi 17:39 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Mae'r Brifwyl eleni mewn ardal wledig - ardal sydd wedi'i hamgylchynu â Chlybiau Ffermwyr Ifainc a heno nhw fydd yn diddanu'r gynulleidfa yn y pafiliwn.

    Mae Maes G yn wedd newydd ac annisgwyl ar hen chwedl Maes Gwyddno a'r cantref coll.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Dau arall yn deilwng hefyd ond Samiwel wedi gadael y beirniaid yn "ddieiriau"wedi ei gyhoeddi 17:30 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Y beirniaid eleni oedd Cyril Jones, Glenys Mair Roberts a Gerwyn Wiliams - i gyd yn gyn-enillwyr y Goron.

    Dechreuodd Cyril Jones ei feirniadaeth o lwyfan y Pafiliwn gan atgoffa'r gynulleidfa fod yr ymgeiswyr wedi anfon eu cerddi i mewn ar gychwyn y pandemig ym mis Ebrill 2020.

    "Mae Samiwel yn chwilio am ystyr i'w hynt ddaearol yng nghanol manion ein byw beunyddiol yma yng Nghymru a'i gororau," meddai.

    "Dyma fel yr ymatebodd y tri ohonom - ar wahân - ar ôl darllen cerddi Samiwel. 'Rwy'n ddieiriau,' meddai Gerwyn - dim yn aml mae Gerwyn yn cael ei daro'n fud!

    "'Aiff gwreiddioldeb ei ddelweddau â'n gwynt weithiau,' oedd geiriau Glenys. Ac fe 'wedes innau: 'cyn i fi gyrraedd diwedd y gerdd gynta' roeddwn i wedi codi ar fy nhraed ac yn darllen yr ail gerdd yn uchel.'

    "'Mae'n fardd sy'n mynd â ni ar siwrnai greadigol ac emosiynol ac yn feistr ar drin iaith yn fyw' - a dyna Gerwyn yn crynhoi'r cyfan yn dwt. 'Mae e'n gwybod sut mae procio'r deall a'r teimlad,' meddai Glenys.

    "Byddai'r tri ohonom wedi bod wrth ein bodd yn coroni Kairos a Dyn Bach Gwyrdd. Ry'n ni'n gobeithio y bydd y ddau yn cyhoeddi eu cerddi yn fuan.

    "Ond yn gwbl annibynnol ar ein gilydd, cyn i ni drafod, roedd y tri ohonom yn gytûn taw eiddo Samiwel yw coron Ceredigion yma yn Nhregaron."

    Y Goron
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr Archdderwydd yn coroni Esyllt Maelor

  6. Dylanwad ei diweddar fab ar y cerddiwedi ei gyhoeddi 17:24 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Yn enedigol o Harlech, Meirionnydd, cafodd ei magu a'i haddysgu yn Abersoch, Llŷn.

    Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Botwnnog, cyn mynd i'r Brifysgol ym Mangor a graddio yn y Gymraeg.

    Esyllt Maelor oedd y fenyw gyntaf i ennill cadair Eisteddfod yr Urdd 'nôl yn 1977 yn Y Barri.

    Mae dylanwad ei rhieni - Brenda a Gareth - a'i hathrawon wedi bod yn bwysig iddi.

    Mae ganddi hi a'i gŵr Gareth dri o blant - Dafydd, Rhys a Marged - ond bu farw eu mab hynaf, Dafydd Tudur, mewn gwrthdrawiad ffordd yn 2015 ac yntau ond yn 27 oed.

    Dywedodd yr Eisteddfod fod "ôl dylanwad Dafydd ei mab ar y cerddi" buddugol ac mai "ef yn y bôn fu yno'n gefn iddi ac ef a'i gyrrodd i sgwennu".

    Esyllt Maelor
    Disgrifiad o’r llun,

    Esyllt Maelor - enillydd Coron Ceredigion

  7. Esyllt Maelor yn cipio'r Goronwedi ei gyhoeddi 17:18 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Esyllt Maelor yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni.

    Daeth y bardd o Forfa Nefyn i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 24 o geisiadau.

    Wrth gyfeirio at safon y gystadleuaeth, dywedodd y beirniaid mai "digon cyffredin oedd ei hansawdd at ei gilydd" ond fod y dosbarth teilyngdod wedi eu "plesio yn arw".

    Roedd y beirniaid yn unfrydol mai Esyllt Maelor oedd yn fuddugol.

    "Bydd, fe fydd Tregaron yn troi'n 'dre'r goron'," meddai Cyril Jones, un o'r beirniaid, wrth draddodi'r feirniadaeth.

  8. Dyma enillydd Coron Eisteddfod 2022 ...wedi ei gyhoeddi 17:14 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    enillydd
  9. Tregaron yn Dre'r Goron?wedi ei gyhoeddi 16:59 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Fe fydd coroni, medd Cyril Jones, y beirniad.

    Mae 24 wedi ceisio - ansawdd nifer yn "gyffredin" - dim cynildeb, gormod o rethregu hirwyntog ond mae'r rhai sy'n deilwng wedi "plesio'n fawr", meddir.

    Mae hanner dwsin wedi cyrraedd y dosbarth cyntaf er nad yr un rhai sydd yn nosbarth cyntaf y tri beirniad.

  10. Cerddi'r Goron eleni wedi eu cyflwyno yn 2020wedi ei gyhoeddi 16:55 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Mae cystadleuaeth y Goron eleni yn gofyn am ddilyniaint o gerddi ar y testun 'Gwres' ac mae'r cerddi wedi'u llunio ers cryn amser.

    Fe'u cyflwynwyd ar gyfer Eisteddfod 2020 - sef dyddiad gwreiddiol Eisteddfod Ceredigion.

    Dim ond cyfansoddiadau munud olaf fyddai'n cyfeirio at Covid!

  11. Croeso i'r cynrychiolwyr Celtaiddwedi ei gyhoeddi 16:52 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Fel ag sy'n draddodiadol ar ddechrau seremoni'r coroni roedd yna groeso ddydd Llun i gynrychiolwyr Celtaidd o Gernyw Llydaw, Yr Alban, Iwerddon a'r Wladfa.

    Ymhlith y ffanfferwyr roedd Dewi Corn.

    Mae'r dawnswyr eleni yn dalach nag arfer ac yn gwisgo dillad gwahanol - fe gawsont eu dewis ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2020 ac fe fydd y ddawns eleni yn wahanol.

    Disgrifiad,

    Dewi Griffiths yn dathlu 20 mlynedd o ganu'r corn gwlad

  12. Enillwyr coronau Eisteddfodau Ceredigionwedi ei gyhoeddi 16:38 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Enillwyd coron Aberteifi yn 1976 gan Alan Llwyd.

    John Roderick Rees enillodd goron 1984 yn Llanbed

    ac yn 1992 yn Aberystwyth - Cyril Jones oedd yn fuddugol a fe fydd yn traddodi'r feirniadaeth y prynhawn 'ma.

    Alan LlwydFfynhonnell y llun, Barddas
    Disgrifiad o’r llun,

    Alan Llwyd oedd bardd coronog Aberteifi yn 1976

  13. A fydd teilyngdod heddiw? Doedd 'na ddim yng Ngheredigion yn 1952!wedi ei gyhoeddi 16:27 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Y goron yn ddathliad o ddiwylliant Ceredigionwedi ei gyhoeddi 16:18 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    coron Tregaron

    Eleni mae'r goron wedi ei chynhyrchu a'i chynllunio gan yr artist, Richard Molineux ac mae'n ddathliad o ddiwylliant Ceredigion a Chymru mewn cyfres o 12 o ffasedau gwydr lliw.

    Mae'r elfennau diwylliannol yn cynnwys Castell Aberteifi, Cors Caron, y barcud coch, Afon Teifi, Abaty Ystrad Fflur a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

    Bridfa Ryngwladol Cobiau Cymreig Derwen sy'n rhoi'r goron ac Ifor a Myfanwy Lloyd o'r fridfa sy'n rhoi'r wobr ariannol o £750.

  15. Diwrnod prysur i Ela Mablenwedi ei gyhoeddi 16:12 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Mae heddiw yn ddiwrnod prysur iawn i Ela Mablen o Gwrtnewydd - yn gynharach hi a enillodd yr unawd i ferched rhwng 12 ac 16.

    Ela Mablen
  16. Sylw i'r grŵp Alffa wedi arwain at iselder i un aelodwedi ei gyhoeddi 16:05 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Panel y sgwrs

    Fe wnaeth y gantores Non Parry arwain trafodaeth am iechyd meddwl a pherfformio yng Nghaffi Maes B ar ran Meddwl.org, gyda Sion Eifion o Alffa, Mari Gwenllian o Sorela, a Marc Skone o Mega yn cymryd rhan.

    Fe wnaeth Sion Eifion siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am ei brofiad o iselder a gorbryder yn dilyn y sylw rhyngwladol gafodd Alffa ychydig wythnosau wedi iddo gael ei ben-blwydd yn 18.

    “Mae pobl yn sbïo arnon ni ar lwyfan a meddwl falle bo’ ni’n tough guys - 'dan ni erioed 'di bod fel ’na,” meddai.

    “O’ddan ni’n teimlo ar y pryd ein bod ni angen rhoi facade 'ma, 'neud y cyfweliadau ‘ma i gyd, a pheidio gallu siarad am y pethau 'ma.”

    Fe wnaeth Non gofio’n ôl i rai o’r sylwadau a wnaed i Eden ar ddechrau eu gyrfa.

    “Pan 'naeth Eden gychwyn 25 blynedd yn ôl, 'naeth lot o bobl tu ôl i’r ochr gynhyrchu crybwyll y dylen ni golli pwysau: 'Os chi isie gwisgo crop tops, ferched, ma’ isie i chi golli pwysau.'

    “Mae o wedi para efo ni, hyd at heddiw, 'dan ni’n dal i feddwl fel 'na,” meddai.

    Disgrifiad,

    Eden: 'Naeth pobl ddweud bod angen i ni golli pwysau'

  17. Aelod newydd o'r Orsedd wrth ei fodd!wedi ei gyhoeddi 15:57 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Roedd Dyfan Lewis, prifardd y Goron yn Eisteddfod 2021, yn edrych yn hapus iawn wedi iddo gael ei urddo i'r wisg wen fore Llun.

    Dyfan Lewis yn codi bawd ar y cameraFfynhonnell y llun, Yr Eisteddfod Genedlaethol
  18. Mwynhau ar y Maeswedi ei gyhoeddi 15:51 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Y gyflwynwraig a'r llenor Anni Llŷn yn cael cyfle i fwynhau ar y Maes gyda'i gŵr, Tudur Phillips a'u plant cyn iddi fod yn sgwrsio gydag Osian Wyn Owen am ei gyfrol newydd o farddoniaeth ar Lwyfan y Llannerch b'nawn Llun.

    Anni Llŷn a'i gŵr Tudur Phillips a'u dwy ferch fach ar y MaesFfynhonnell y llun, Yr Eisteddfod Genedlaethol
  19. Cyfle i'r cyn-fyfyrwyr weld Neuadd Pantycelynwedi ei gyhoeddi 15:44 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Mae Ceredigion gyfan wedi bod yn paratoi ar gyfer y Brifwyl ac yn sicrhau atyniadau i ymwelwyr.

    Yn Aberystwyth ddydd Sul roedd 'na gyfle i gyn-fyfyrwyr weld Neuadd Pantycelyn ar ei newydd wedd.

    Ond doedden nhw'n ddyddiau da?!

    Pantycelyn
    Disgrifiad o’r llun,

    Cofio'r lolfa fawr ym Mhantycelyn?

    Pantycelyn
  20. Seremoni'r orsedd yn yr haulwedi ei gyhoeddi 15:34 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Dyma fwy o luniau o seremoni'r orsedd heddiw, gydag ambell un yn cael ei anrhydeddu ar ôl cyfnod hir o aros.

    Lluniau: Iolo Penri ac Aled Llywelyn

    Yr orseddFfynhonnell y llun, Iolo Penri/ Aled Llywelyn
    yr orseddFfynhonnell y llun, Iolo Penri/ Aled Llywelyn
    yr orseddFfynhonnell y llun, Iolo Penri/ Aled Llywelyn