Crynodeb

  • Miloedd yn heidio i Dregaron ar ddechrau wythnos y brifwyl

  • Esyllt Maelor yn ennill y Goron yn Nhregaron

  • Ysgrifennydd Cymru yn dweud ei bod yn "amser cyffrous i'r iaith"

  • Gwyn Nicholas, Llanpumsaint yn derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams

  • Cannoedd o aelodau CFFI yn perfformio yn sioe nos y pafiliwn

  1. Lot o sôn am bêl-droed ar y Maeswedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Mae ‘na thema pêl-droed amlwg i addurniadau sawl un o’r stondinau ar y maes yr wythnos yma, gan gynnwys gwasg Y Lolfa. Tybed pam?

    Ac ydy, mae'n gohebydd ni wrth ei fodd...

    Iolo Cheung
    Disgrifiad o’r llun,

    Iolo Cheung yn joio ar y Maes

  2. Ysgrifennydd Cymru: 'Amser cyffrous i'r iaith a byddwn wedi hoffi ei siarad'wedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Mae Ysgrifennydd Cymru wedi canmol yr "amrywiaeth" sydd bellach ar faes yr Eisteddfod, wrth gymharu hynny a natur "geidwadol" y Brifwyl yn y gorffennol.

    Ar ymweliad â Thregaron, dywedodd Robert Buckland ei bod hi'n amser "cyffrous" i'r iaith wrth bwysleisio cefnogaeth Llywodraeth y DU i'r amcan o filiwn o siaradwyr.

    Fe siaradodd rywfaint o Gymraeg ar ddechrau ei anerchiad yn y gynhadledd i'r wasg, cyn troi at y Saesneg, gan fynegi "tristwch" yn ddiweddarach nad oedd yn medru'r iaith yn fwy rhugl.

    "I lawer ohonym ni, dydy Eisteddfodau ddim yn unig yn rhan o'n hanes diwylliannol, ond adlewyrchiad o Gymru heddiw," meddai mewn cyfweliad a BBC Cymru.

    "Mae'n ddiddorol nodi'r amrywiaeth sydd yma ar y maes.

    "Dwi'n meddwl ein bod ni wedi adnabod yn hanesyddol fod yr Eisteddfod Genedlaethol, mewn sawl ffordd, yn sefydliad ceidwadol gydag 'c' fach. Ond does dim rhaid iddi fod yn amddiffynnol.

    "Mae'r twf yn yr iaith, a'r targed i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, yn gyfnod gyffrous."

    Er fod yr iaith yn bwnc datganoledig, meddai, pwysleisiodd "ymrwymiad" Llywodraeth y DU i gyrraedd y targed hwnnw sydd wedi ei osod gan Lywodraeth Cymru.

    Dywedodd mai "tipyn bach" o Gymraeg oedd ganddo'n bersonol, a hwnnw'n "Gymraeg tafarn", ond y byddai'n hoffi dysgu mwy ar yr iaith ryw ddydd.

    "Roedd hi'n dristwch mawr yn fy mhlentyndod fod fy mam-gu a thad-cu yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, ond yn y cyfnod yna chafodd hi ddim ei phasio lawr i fy mam," meddai.

    "Mae hynny'n destun edifeirwch a rhwystredigaeth mod i ddim wedi gallu rhannu yn hynny."

    Ysgrifennydd Cymru, Robert Buckland, ar y Maes yn Nhregaron
    Disgrifiad o’r llun,

    Ysgrifennydd Cymru, Robert Buckland, ar y Maes yn Nhregaron

  3. Torri gwallt ar faes Tregaronwedi ei gyhoeddi 12:46 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Siân o Ruthun yn cael torri ei gwallt gan Richard yn stondin Olew.

    Dyma’r tro cynta i’r stondin fod ar y Maes - roedden nhw yma ddoe ac yma heddiw, ac ma pob slot bellach yn llawn!

    Dynes yn cael torri ei gwallt
  4. Cyflwyno Medal Syr TH Parry-Williams i Gwyn Nicholaswedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai'r arweinydd côr, Gwyn Nicholas, yw enillydd Medal Goffa Syr TH Parry-Williams eleni.

    Mae'r fedal yn cael ei rhoi yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.

    Dywed y trefnwyr fod "dylanwad a chefnogaeth ymarferol Gwyn Nicholas wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc yn eu milltir sgwâr dros gyfnod o hanner canrif a mwy".

    Fe wnaeth cyn-reolwr taliadau gyda'r Gwasanaeth Iechyd o Lanpumsaint, Sir Gâr dderbyn y fedal ar lwyfan y Pafiliwn brynhawn Llun.

    Gwyn Nicholas
  5. Sgwrsio difyr yn y Pebyll Cymdeithasauwedi ei gyhoeddi 12:27 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Dei Tomos fu’n holi Daniel Huws a Gruffudd Antur yn sgwrs gyntaf y bore, a hynny am y 'Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes' gafodd ei gyhoeddi’n ddiweddar.

    Dei Tomos, Daniel Huws a Gruffudd Antur
    Disgrifiad o’r llun,

    Dei Tomos yn holi Daniel Huws a Gruffudd Antur yn un o'r pebyll Cymdeithasau

    Mae’r gyfrol yn cwmpasu 1,000 o flynyddoedd o hanes llawysgrifau Cymru, a hynny wedi bod yn waith llafur Dr Huws am dros 30 mlynedd ers ei ymddeoliad. Bu Gruffudd Antur yn ei helpu yn ystod blynyddoedd olaf y gwaith, “ac oni bai am hynny… fyddai’r gwaith erioed wedi gweld golau dydd,” meddai Dr Huws.

  6. Nifer o gystadleuwyr a pherfformwyr lleolwedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Mae Eisteddfod Ceredigion wedi denu nifer fawr o gystadleuwyr a pherfformwyr lleol - yn eu plith Merched Soar a oedd yn diddanu ar y Maes amser cinio.

    Ymhlith cystadleuwyr y dawnsio disgo, hip hop neu stryd roedd disgyblion Ysgol Bro Pedr yn Llanbed.

    Cor Soar
    ysgol bro Pedr
  7. Archdderwydd o'r Maen Llog: 'Angen i bobl gael yr hawl i gerdded yn rhydd'wedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Yn ei araith o’r Maen Llog, fe gyfeiriodd yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd, at yr angen i sicrhau hawliau pobl i gerdded yn rhydd beth bynnag eu hil a'u cefndir.

    Galwodd am yr hawl i bobl gael triniaeth iechyd ac i alaru yn eu hiaith eu hunain ac fe ddyfynnodd un o feibion amlyca' Tregaron, yr heddychwr Henry Richard, gan alw am sicrhau heddwch yn Ewrop, ac ymwrthod, meddai, ag imperialaeth Rwsia ac America.

    myrddin ap Dafydd
  8. Y cystadlu a'r canlyniadauwedi ei gyhoeddi 12:02 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Ar lwyfan y Pafiliwn, Aelwyd yr Ynys o Fôn oedd yn agor cystadleuaeth y Parti Cerdd Dant o dan 25 - pedwaredd cystadleuaeth y dydd heddiw.

    Cadwch lygad ar ein tudalen ganlyniadau am holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau o'r enillwyr.

    Côr Aelwyd yr YnysFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Nia Wyn Evans yn arwain Aelwyd yr Ynys

  9. Ben Lake, Llywydd y Brifwyl, yn croesawu'r Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 11:51 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Ben Lake, yr AS lleol, yw Llywydd y Brifwyl eleni ac yn sŵn y ffanffer ar y Maes dywedodd ei fod e'n hynod o falch bod y Brifwyl yn ymweld â Cheredigion a'i fod yn edrych ymlaen.

    Disgrifiad,

    Ben Lake: 'Braf cael dod nôl a chwrdd a ffrindiau'

  10. Cân yn deyrnged i frodyr Ail Symudiadwedi ei gyhoeddi 11:44 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Bu farw Wyn a Richard Jones o'r grŵp Ail Symudiad o fewn mis i'w gilydd yn 2021 ond roedd y gân a gyfansoddon nhw ar gyfer cyhoeddi Eisteddfod Ceredigion dair blynedd yn ôl yn atseinio ar y Maes ar ddechrau'r seremoni urddo fore Llun.

    "Cân roc gynta'r Maen Llog," meddai'r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd wrth dalu teyrnged i'r brodyr o Aberteifi.

    Disgrifiad,

    Teyrnged i'r brodyr Wyn a Richard o Ail Symudiad yn rhan o seremoni'r Orsedd

  11. 'Mas ar y Maes' yn ehangu eleniwedi ei gyhoeddi 11:35 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Cafodd ‘Mas ar y Maes’ ei gyflwyno fel rhan o arlwy’r Eisteddfod yng Nghaerdydd yn 2018, fel dathliad o’r gymuned LDHT+.

    Bydd y digwyddiadau hyd yn oed yn fwy niferus eleni, meddai Iestyn Wyn (canol), gan gynnwys dwy noson yn y Pafiliwn - Cabarela ar nos Fawrth, a’r Parti Pinc nos Iau.

    Ymhlith y sgyrsiau eraill fyddan nhw’n eu cynnal ar y maes yr wythnos hon fydd trafodaeth ar gynrychiolaeth LDHT+ o fewn llenyddiaeth yng Nghymru, gan gynnwys llyfrau plant.

    mas ar y maes
  12. Cofio brodyr Ail Symudiadwedi ei gyhoeddi 11:28 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Mae'r Orsedd wedi cyrraedd y Cylch i urddo’r aelodau newydd.

    Dechreuodd y seremoni gyda theyrnged i’r brodyr Richard a Wyn o Ail Symudiad wrth i’r gân a gyfansoddon nhw ar gyfer cyhoeddi'r Eisteddfod gael ei chwarae dros yr uchelseinyddion wrth Gylch yr Orsedd.

    Disgrifiad,

    Yr Orsedd yn cyrraedd y Cylch

  13. Hwyl ymhlith y derwyddon newyddwedi ei gyhoeddi 11:24 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Mae enillwyr prif wobrau'r Brifwyl yn cael eu hurddo'n dderwyddon a dyma nhw'n mwynhau yng nghwmni Huw Stephens yng nghefn y llwyfan.

    pafiliwn
  14. Ysgrifennydd Cymru, Robert Buckland, i gael trafodaethau gyda phenaethiaid S4Cwedi ei gyhoeddi 11:16 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Robert Buckland
    Disgrifiad o’r llun,

    Robert Buckland yng nghynhadledd y wasg yn dweud y bydd yn cynnal trafodaethau gyda phenaethiaid S4C ddydd Llun

    Ymhlith y rheiny yng nghynhadledd i’r wasg yr Eisteddfod fore Llun, roedd Ysgrifennydd Cymru, Robert Buckland.

    Mae Mr Buckland bellach yn AS Ceidwadol dros South Swindon, ond mae’n wreiddiol o Lanelli.

    Cynhadledd y Wasg
    Disgrifiad o’r llun,

    Cynhadledd y Wasg

    Fe ddechreuodd ei gyfarchiad yn y Gymraeg, cyn troi i'r Saesneg i ganmol yr amrywiaeth y mae wedi ei weld yn arlwy y Maes hyd yma.

    Dywedodd y bydd yn cynnal trafodaethau gyda phenaethiaid S4C yn ddiweddarach yn y dydd.

    “Hoffwn i bwysleisio fy nghefnogaeth i fel Ysgrifennydd Cymru i’r targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

  15. Yr Orsedd yn 'llygad haul, wyneb goleuni'wedi ei gyhoeddi 11:10 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Mae'n ddiwrnod y Coroni a derbyn aelodau newydd i'r Orsedd ac am fore heulog iddynt orymdeithio o gwmpas y Maes.

    gorsedd
  16. Noson i'w chofio i un o ffans ifanc Dafydd Iwanwedi ei gyhoeddi 11:06 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Roedd Gruff o Lanrug wedi mwynhau cyngerdd Dafydd Iwan ar Lwyfan y Maes neithiwr a'r orymdaith lusernau i ddilyn - ac wedi cael siwmper i gyd-fynd â’i hoff gân hefyd.

    Disgrifiad,

    Gruff o Lanrug wedi mwynhau gig Dafydd Iwan nos Sul

  17. Genod Caernarfon yn mwynhauwedi ei gyhoeddi 11:03 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Grŵp dawnsio disgo/hip-hop/stryd - mae Genod Anti Karen o Gaernarfon yn mwynhau ar y Maes cyn i'r cystadlu ddechrau.

    genodFfynhonnell y llun, bbc
  18. Cofiwch am arlwy Radio Cymru o'r Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 11:01 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    BBC Radio Cymru

    Trystan Ellis-Morris a Shân Cothi sy'n dod â'r diweddaraf o'r Eisteddfod i wrandawyr Radio Cymru yr wythnos yma.

    Mae'r rhaglen yn dechrau nawr am 11.

    Fe fydd Hywel Gwynfryn yn ymuno â nhw ar brydiau ac hefyd yn cyflwyno rhaglen o uchafbwyntiau'r Eisteddfod gyda Rhiannon Lewis ddydd Sul nesaf.

    Mae Ffion Emyr yn crwydro'r Maes drwy'r wythnos yn cyfarfod â chymeriadau'r brifwyl.

    Gallwch wrando unrhyw bryd ar ap BBC Sounds.

    Trystan a Shan
  19. Cystadleuydd cyntaf y dyddwedi ei gyhoeddi 10:55 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Cerys Angharad yw cystadleuydd cyntaf y dydd yn y Rhuban Glas Offerynnol o dan 16.

    cystadlu
    Disgrifiad o’r llun,

    Cerys Angharad yw cystadleuydd cyntaf y dydd