Crynodeb

  • Miloedd yn heidio i Dregaron ar ddechrau wythnos y brifwyl

  • Esyllt Maelor yn ennill y Goron yn Nhregaron

  • Ysgrifennydd Cymru yn dweud ei bod yn "amser cyffrous i'r iaith"

  • Gwyn Nicholas, Llanpumsaint yn derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams

  • Cannoedd o aelodau CFFI yn perfformio yn sioe nos y pafiliwn

  1. Paratoi ar gyfer urddo aelodau newydd i'r Orseddwedi ei gyhoeddi 10:48 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Disgrifiad,

    Paratoi i urddo aelodau newydd i'r Orsedd

    Pwy yw aelodau newydd yr Orsedd eleni? Maen nhw'n paratoi i gael eu hurddo cyn i'r cyntaf o'r prif seremonïau ddechrau ddydd Llun.

    Cynulleidfa seremoni urddo'r Orsedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Y gynulleidfa'n barod ar gyfer seremoni urddo'r Orsedd

    Mae'r gynulleidfa'n barod i fwynhau seremoni'r urddo ac mae'r tywydd yn braf yn Nhregaron!

  2. Cymorth ar gael i bobl ag anableddauwedi ei gyhoeddi 10:47 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Wrth ymateb i rai cwynion am doiledau i bobl ag anableddau dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, ar Dros Frecwast: "Ma 'na doiledau i bobl ag anableddau ymhob un o'r toiledau ac maen nhw ar gyfer cadeiriau olwyn, mae 'na hefyd [gyfleusterau] arbennig ar y maes carafanau.

    "O ran cadeiriau olwyn, mae gynnon ni - ar hyd y maes - dracfyrddau sy'n gwbl addas ond wrth gwrs, mae'n faes eang.

    "Felly mae 'na gymorth. Wrth i chi ddod i mewn i'r brif fynedfa, mae Byw Bywyd yno, mi allwch chi gael sgwter, felly maen nhw yno i'ch cynorthwyo chi, i edrych ar eich anghenion chi, ac i nodi beth fyddai fwyaf addas ar eich cyfer chi.

    "Felly 'da chi, allwch chi ffonio o flaen llaw, neu ewch atyn nhw a mi wnawn nhw eich cynghori chi beth fyddai fwyaf addas."

    Y Maes fore LlunFfynhonnell y llun, Tegwen Morris
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Maes fore Llun

  3. Yr eliffant a'i griw yn denu cryn sylwwedi ei gyhoeddi 10:41 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Twitter

    Roedd Gorymdaith Llusern yn wledd i'r llygad yn hwyr nos Sul - fel y mae nifer wedi tystio ar y cyfryngau cymdeithasol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Mae'r tywydd yn braf a phobl yn dechrau cyrraedd!wedi ei gyhoeddi 10:35 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Disgrifiad,

    Cyffro fore Llun wrth i bobl ddechrau cyrraedd y maes

  5. Edrych yn 'smart' yn y gŵn gwyrdd!wedi ei gyhoeddi 10:33 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Mae nifer yn cael eu hurddo i'r Orsedd bore 'ma - y mwyafrif wedi sefyll arholiad neu'n cael eu derbyn ar sail eu gradd.

    Ac oes, mae yna gyfarwyddiadau yng nghefn y llwyfan.

    Bydd y rhai sy'n cael eu hurddo, er anrhydedd, yn cael eu derbyn i'r Orsedd fore Gwener.

    Goredd
  6. Yr eliffant yn cael lle amlwg yn yr Orymdaith Llusernwedi ei gyhoeddi 10:23 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Llusern

    Un o uchafbwyntiau nos Sul oedd yr Orymdaith Llusern - roedd hi fod i ddigwydd nos Sadwrn ond fe'i gohiriwyd yn sgil y glaw.

    Ac oedd mi oedd yna le amlwg i'r eliffant - hynny'n arwyddocaol, efallai, gan bod yna sôn fod eliffant wedi ei gladdu y tu ôl i'r Talbot yn Nhregaron.

    Gorymdaith LlusernFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  7. Y dorf yn heidio ar ddiwrnod y Coroniwedi ei gyhoeddi 10:14 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Maes
    Maes
  8. Awyr las yn croesawu eisteddfodwyrwedi ei gyhoeddi 10:11 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Maes

    Mae'n brysur wrth y brif fynedfa, medd ein gohebwyr ar y maes a'r tywydd yn ffafriol.

  9. Clywed 'Yma o Hyd' filltiroedd o'r Maes nos Sulwedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Disgrifiad,

    Yma o Hyd i'w chlywed am filltiroedd o'r Maes nos Sul

    Dafydd IwanFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

    Roedd miloedd yn gwrando ar Dafydd Iwan nos Sul yn perfformio ar Lwyfan y Maes - ac roedd y dorf wrth ei bodd wrth iddo ganu y clasuron - yn eu plith Paentio'r Byd yn Wyrdd, I'r Gad ac wrth gwrs Yma o Hyd.

    Dafydd IwanFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  10. Pwy sydd ar frys i ddarllen Lol tybed?wedi ei gyhoeddi 09:52 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Mae cylchgrawn Lol bellach wedi cyrraedd y Maes - tybed pa wynebau cyfarwydd fydd yn rhan o’r dychanu blynyddol eleni?

    Lol
  11. 'Canu bendigedig' yn Nhregaron nos Sulwedi ei gyhoeddi 09:44 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Roedd yna dorf fawr yn bresennol yn y Gymanfa Ganu nos Sul o dan arweiniad Delyth Hopkins Evans.

    Dr Godfrey Williams o Bontcysyllte ger Llangollen oedd cyfansoddwr yr emyn-dôn fuddugol ac fe'i canwyd gan gôr yr Eisteddfod i eiriau John Meurig Edwards, sy'n enedigol o fro'r Brifwyl.

    "Am Gymanfa, ac am Arweinydd. Diolch i Delyth, y côr a phawb! O! Ganu bendigedig heb ddiwedd byth i’r gân," medd Elin Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith ar ddiwedd y canu.

    Elin Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith a Delyth Hopkins Evans, arweinydd y Gymanfa Ganu nos SulFfynhonnell y llun, Elin Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Elin Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith a Delyth Hopkins Evans, arweinydd y Gymanfa Ganu nos Sul

  12. 'Da chi, dilynwch yr arwyddion!'wedi ei gyhoeddi 09:35 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    unfforddFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

    Mae system unffordd mewn grym yn Nhregaron yr wythnos hon er mwyn delio â’r traffig.

    Mae’r traffig yn symud (yn erbyn y cloc) o Ffordd yr Orsaf ar yr A485 i Stryd y Capel ar y B4343 ac yna tuag at Ysgol Henry Richard, ac yn ôl tuag at yr A485.

    Wrth siarad ar Dros Frecwast, fe bwysleisiodd y prif weithredwr, Betsan Moses, pa mor bwysig yw dilyn arwyddion yr Eisteddfod wrth geisio cyrraedd y maes.

    Dywedodd bod ambell broblem traffig wedi bod dair blynedd yn ôl yn Llanrwst wrth i bobl ddilyn gwahanol drywyddau.

    Ond, dywedodd fod pethau wedi bod yn ddigon hwylus eleni.

    "Ddydd Sadwrn a ddydd Sul, dy'n ni heb gael unrhyw broblemau achos ma' nhw [ymwelwyr] wedi dilyn y cyfarwyddiadau.

    "Mae arbenigwyr wedi creu'r system i sicrhau bod 'na daith hwylus, felly da chi, dilynwch yr arwyddion."

    Does yna ddim hawl parcio mewn rhai mannau yn y dre yr wythnos hon.

    parcio Tregaron
  13. Croeso i ddydd Llun Eisteddfod Ceredigion 2022wedi ei gyhoeddi 09:35 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022

    Tregaron

    Croeso i’r newyddion diweddaraf ar ddydd Llun Eisteddfod Genedlaethol 2022.

    Gydol yr wythnos mae gohebwyr Cymru Fyw ar y maes ac mae'n braf cael eich cwmni.

    Tregaron