'Cyfraniad y diweddar Aled Roberts yn aruthrol'wedi ei gyhoeddi 15:26 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2022
BBC Radio Cymru
Roedd dylanwad y diweddar Gomisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, ym maes addysg Gymraeg yn aruthrol yn ôl y dirprwy gomisiynydd, Gwenith Price, ar y Post Prynhawn.
Mae na sesiwn i gofio Aled Roberts a’i waith ar y maes y prynhawn 'ma.
“Taswn i’n gorfod dewis – un o’r prif bethau y caiff o ei gofio amdano ydi y ffordd gafodd o ei gomisiynu gan y llywodraeth yn 2017 i adolygu cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg ac wedi hynny cyfrannu at ddiwygio’r system," meddai.
"Ac erbyn heddiw mae ganddo ni gyfundrefn hollol newydd. Mae o hyd yn oed dwi’n credu wedi cyfrannu’n sylweddol at y ffaith bod y llywodraeth yn mynd I gyflwyno bil addysg yn y senedd yma.
"Felly yn sicr mae ei ddylanwad o ers 2017 wedi bod yn aruthrol o sylweddol ym maes addysg.
"A’r hyn 'di o heb ei gyflawni mewn ffordd oherwydd ei fod yn symud at y gwaith yma nesa oedd y chweched dosbarth ac addysg cyfrwng Cymraeg yn y chweched dosbarth.”