Crynodeb

  • Sioned Erin Hughes yw Prif Lenor Eisteddfod Ceredigion 2022

  • Joe Healy yn cael ei enwi yn Ddysgwr y Flwyddyn

  • Sywel Nyw a'i albwm, Deuddeg, enillodd Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni

  • Aeth Tlws y Cerddor i Edward Rhys-Harry

  • Cofiwch am Frwydr y Bandiau heno ac am yr holl gystadlu ar lwyfan y Pafiliwn

  1. Hwyl fawr ichi tan yfory!wedi ei gyhoeddi 17:27 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Mae'n ddiwedd diwrnod arall ar Faes y Brifwyl yn Nhregaron - ac am ddiwrnod!

    Bachgen yn bwyta hufen iaFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

    Sioned Erin Hughes yw Prif Lenor Eisteddfod Ceredigion 2022.

    Cafodd Joe Healy ei enwi yn Ddysgwr y Flwyddyn.

    Sywel Nyw a'i albwm, Deuddeg, enillodd Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni ac aeth Tlws y Cerddor i Edward Rhys-Harry.

    Cofiwch am Frwydr y Bandiau heno ac am yr holl gystadlu ar lwyfan y Pafiliwn.

    Gallwch wylio'r cyfan trwy glicio yma a dilyn y canlyniadau yn fan hyn.

    Diolch o galon a hwyl fawr... nawr... Maes B amdani?

  2. Beirniaid Brwydr y Bandiau yn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth...wedi ei gyhoeddi 17:26 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. "Denu cynulleidfaoedd a chymunedau newydd i’r ŵyl"wedi ei gyhoeddi 17:24 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Tŵr Y Dderi, Betws Bledrws, yn goleuo'r noswedi ei gyhoeddi 17:19 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Mae lliwiau coch a gwyrdd wedi goleuo un o adeiladau nodedig yr ardal. Ydych chi wedi ei weld?

    Tŵr Y Dderi, Betws BledrwsFfynhonnell y llun, Cerdin Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Tŵr Y Dderi, Betws Bledrws

  5. Pwy yw'r Cymry?wedi ei gyhoeddi 17:16 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Radio Cymru 2 i ddarlledu am 60 awr yr wythnoswedi ei gyhoeddi 17:11 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    O'r hydref ymlaen y bwriad yw y bydd rhaglenni cerddoriaeth ac adloniant ar gael am 60 awr yn lle 15.

    Read More
  7. Rhai o luniau swyddogol yr Eisteddfod ddydd Mercherwedi ei gyhoeddi 17:10 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Dwy ddynes yn mwynhau hufen iâ ar y MaesFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Mwynhau hufen iâ - pam lai!

    Bachgen yn bownsioFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Bownsio ar hyd y Maes

    Torf ger yr arwydd 'Eisteddfod'Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr haul wedi denu torf

  8. Llongyfarchiadau i'r "awdur aeddfed" 24 oed o Lŷnwedi ei gyhoeddi 17:02 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Sioned Erin Hughes

    24 oed yw Sioned Erin Hughes, Prif Lenor Eisteddfod Ceredigion 2022.

    Fe enillodd dan y ffugenw 'Mesen'.

    Wrth draddodi'r feirniadaeth o'r llwyfan ar ran ei chyd-feirniaid, dywedodd Meg Elis mai "cywair tawel sydd i Mesen, a'i storïau dan y teitl 'Rhyngom', ar y cyfan".

    "Ond mae yma rywun sy'n gwybod i'r dim sut i gyfleu cymeriad mewn ymadrodd, pryd i fod yn gynnil a phryd i ddefnyddio ambell i gymal sy'n gwneud i'r darllenydd aros yn stond a rhyfeddu," meddai.

    "Cryfder Mesen yw'r gallu i daflu goleuni ar y berthynas rhwng pobl â'i gilydd, ac y mae wedi llwyr ddysgu'r wers y talai i lawer o'r ymgeiswyr eraill ei rhoi ar gof a chadw - 'dangos, nid dweud'.

    Sioned Erin Hughes

    Testun y gystadleuaeth eleni oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Dianc'.

    Cyflwynwyd y fedal iddi, a gwobr ariannol o £750, mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn yn Nhregaron ddydd Mercher.

    Dyma'r drydedd gwaith i fenyw o Lŷn ennill un o brif seremonïau'r Eisteddfod yr wythnos hon.

  9. Sioned Erin Hughes yn ennill y Fedal Ryddiaithwedi ei gyhoeddi 16:51 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022
    Newydd dorri

    torri

    Yr awdur ifanc o Foduan yn Llŷn ddaeth i'r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 17 o ymgeiswyr.

    Sioned Erin Hughes yn ennill y Fedal Ryddiaith

    Yr awdur ifanc o Foduan yn Llŷn ddaeth i'r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 17 o ymgeiswyr.

    Read More
  10. Nifer o Gardis wedi ennill Y Fedal Ryddiaithwedi ei gyhoeddi 16:40 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Mae nifer fawr o Gardis neu'r rhai sydd wedi ymgartrefu yng Ngheredigion wedi ennill Y Fedal Ryddiaith sef:

    • 1946 Dafydd Jenkins, Y Nofel
    • 1951 Islwyn Ffowc Elis, Cyn Oeri’r Gwaed
    • 1974 Dafydd Ifans, Eira Gwyn yn Salmon
    • 1976 Marged Pritchard, Nid Mudan mo’r mor
    • 1977 R Gerallt Jones, Triptych
    • 1979 R Gerallt Jones, Cafflogion
    • 1985 Meg Elis, Cyn daw’r gaeaf
    • 1993 Mihangel Morgan, Dirgel Ddyn
    • 2005 Dylan Iorwerth, Darnau
    • 2008 Mererid Hopwood, O Ran
    • 2014 Lleucu Roberts, Saith Oes Efa
    • 2016 Eurig Salisbury, Cai
    • 2019 Rhiannon Ifans, Ingrid
    • 2021 Lleucu Roberts, Y Stori Orau
    Rhiannon I
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe gafodd Rhiannon Ifans, awdur Ingrid, ei hurddo ddydd Llun

  11. Cyfansoddiadau'r Fedal Ryddiaith wedi'u llunio ar gyfer 2022 nid 2020wedi ei gyhoeddi 16:32 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Seremoni'r Fedal Ryddiaith yw'r brif ddefod ar lwyfan y pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ddydd Mercher, sydd nawr yn dechrau.

    Lleucu Roberts oedd enillydd y Fedal Ryddiaith yn 2021 a hynny ddiwrnod wedi iddi gipio Medal Goffa Daniel Owen.

    Fel ag yn achos Medal Goffa Daniel Owen fe gafodd cyfansoddiadau eleni eu cyflwyno yn benodol ar gyfer cystadleuaeth 2022 - penderfynwyd gwobrwyo cyfansoddiadau 2020 yn 2021 er mwyn cefnogi'r diwydiant llyfrau yn ystod cyfnod anodd.

    Mae'r fedal yn cael ei rhoi eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Dianc'.

    Y beirniaid yw Meg Elis, Dylan Iorwerth ac Eurig Salisbury.

    Mae'r Fedal a gwobr ariannol o £750 yn cael eu rhoi er cof am Robyn a Gwenan Lewis gan y teulu.

    Lleucu Roberts
    Disgrifiad o’r llun,

    Lleucu Roberts oedd enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod AmGen 2021

  12. 'Anodd i Radio Cymru gynnig bach o bopeth at ddant pawb'wedi ei gyhoeddi 16:31 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Wrth siarad yn yr Eisteddfod, dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhuanedd Richards, ei bod yn "anodd i Radio Cymru gynnig bach o bopeth at ddant pawb."

    Roedd yn siarad mewn trafodaeth am ddyfodol darlledu yng Nghymru, wrth gyhoeddi y bydd BBC Radio Cymru 2 yn ehangu ei horiau darlledu o 12 awr yr wythnos i dros 60 awr.

    Ychwanegodd y bydd cael dwy orsaf yn darlledu am fwy o oriau yn y dyfodol yn hwyluso ac yn sicrhau amrywiaeth.

    Rhuanedd Richards

    Dywedodd Dafydd Meredydd, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru bod rhaglenni newyddion fel Dros Frecwast yn "rhaglenni ardderchog ond mae ‘na ddemograffeg o bobl… sydd byth yn mynd i wrando arnyn nhw".

    "Ac felly mae’n bwysig ein bod ni’n cynnig mwy na’r 15 awr presennol iddyn nhw," dywedodd.

    "Os ydyn nhw’n troi i ffwrdd o Radio Cymru 2 ar ôl 9:00, nid dyna’r sianel fydd yno pan maen nhw’n troi nôl at y radio.”

  13. Gigs tu hwnt i'r Maes ac ar hyd y drefwedi ei gyhoeddi 16:23 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Cofiwch fod 'na ddigwyddiadau tu hwnt i'r Maes hefyd... bydd Adwaith a sawl band arall mewn gig yn y clwb rygbi lleol heno

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. "Dim dewis" gan Gymru ond dilyn yr Alban os ddaw'n wlad annibynnol, yn ôl Dafydd Elis-Thomaswedi ei gyhoeddi 16:15 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    BBC Radio Cymru

    Does gan Gymru "ddim dewis" ond dilyn yr Alban os ddaw'n annibynnol.

    Dyna oedd sylwadau yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ar raglen Dros Ginio ddydd Mercher.

    Gwrandewch yma

    Disgrifiad,

    Mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn gyn Lywydd y Cynullliad

  15. Cân werin gan grŵp Pedair yn mhabell Encorewedi ei gyhoeddi 16:07 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Telynau, offerynnau taro a thalent Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym, Gwenan Gibbard a Sian James o grŵp Pedair yn diddanu ym mhabell Encore.

    Sgwrs fach gyda Lisa Gwilym hefyd.

    Disgrifiad,

    Pedair yn perfformio ym mhabell Encore

  16. Seren Cymru, Rubin Colwill, ar y Maeswedi ei gyhoeddi 16:00 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Mae hun-luniau gydag enwogion yn fwyfwy cyffredin ar y Maes y dyddiau yma. Ond mae ambell i Eisteddfodwr wedi cael hun-lun efo wyneb ychydig yn fwy annisgwyl heddiw!

    Dyma Ffion a seren bêl-droed ifanc Caerdydd a Chymru, Rubin Colwill!

    Ffion Eluned Owen a Rubin Colwill
  17. Iechyd da Maggi!wedi ei gyhoeddi 15:55 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Mae Maggi Noggi'n bob man heddiw - ac mae'n amryddawn. Tynnu peint (a'i yfed!) yw'r sgil ddiweddaraf.

    Maggi Noggi
  18. Joe Healy yn emosiynol wrth dderbyn ei wobrwedi ei gyhoeddi 15:46 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Joe Healy

    Roedd 18 o bobl wedi ymgeisio i fod yn Ddysgwr y Flwyddyn eleni, gyda phedwar yn cyrraedd y rhestr fer.

    Y tri arall yn y rownd derfynol oedd Stephen Bale o Fagwyr, Ben Ó Ceallaigh o Aberystwyth a Sophie Tuckwood o Hwlffordd.

    Ond Joe Healy ddaeth i'r brig, ac roedd yn emosiynol wrth gael ei anrhydeddu mewn seremoni ym Mhafiliwn y Maes yn Nhregaron ddydd Mercher.

    Dywedodd y bydd yr iaith Gymraeg yn "rhan o fy mywyd am weddill fy mywyd."

  19. Joe Healy yn cael ei enwi yn Ddysgwr y Flwyddynwedi ei gyhoeddi 15:36 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022
    Newydd dorri

    Joe Healy
    Disgrifiad o’r llun,

    "Bydd yr iaith Gymraeg yn rhan o fy mywyd am weddill fy mywyd," meddai Joe Healy

    Roedd 18 o bobl wedi ymgeisio eleni, gyda phedwar yn cyrraedd y rhestr fer.

    Joe Healy yn cael ei enwi yn Ddysgwr y Flwyddyn

    Roedd 18 o bobl wedi ymgeisio eleni, gyda phedwar yn cyrraedd y rhestr fer.

    Read More
  20. 'Argyfwng democratiaeth' yn ôl cyn-Archesgob Caergaint, Rowan Williamswedi ei gyhoeddi 15:30 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Mae’r trafodaethau gwleidyddol yn parhau ym Mhabell Cymdeithasau 1, gyda sgwrs â rhai o aelodau’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

    Cafodd y Comisiwn ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni i ystyried pa ffurf sydd ei angen ar ddemocratiaeth Cymru yn y dyfodol.

    Panel

    Dywedodd cyn-Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams: “Mae ‘na crisis democratiaeth byd eang ar hyn o bryd, ac mae’n bwysig felly bod gan y comisiwn rywbeth i ddweud am hyn,” meddai.

    Ychwanegodd Dr Williams ein bod hi’n “hollol hanfodol” eu bod nhw’n ystyried annibyniaeth i Gymru fel un o sawl pwnc fydd yn rhan o waith y Comisiwn.

    Ychwanegodd Anwen Elias o Brifysgol Aberystwyth fod gwaith y comisiwn, sy’n parhau i ddigwydd, yn “foment bwysig iawn ym mhresennol a dyfodol Cymru.”