Crynodeb

  • Sioned Erin Hughes yw Prif Lenor Eisteddfod Ceredigion 2022

  • Joe Healy yn cael ei enwi yn Ddysgwr y Flwyddyn

  • Sywel Nyw a'i albwm, Deuddeg, enillodd Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni

  • Aeth Tlws y Cerddor i Edward Rhys-Harry

  • Cofiwch am Frwydr y Bandiau heno ac am yr holl gystadlu ar lwyfan y Pafiliwn

  1. Mae'n ddiwrnod aduniad i gyn-fyfyrwyr Bangor hefyd...wedi ei gyhoeddi 15:23 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Perfformiad i ddiddanu cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn eu haduniad brynhawn 'ma

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Taith luniau Tregaronwedi ei gyhoeddi 15:16 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Fe symudodd y ffotograffydd Sam Stevens, 24, gyda'i deulu i bentref bach Llangeitho ger Tregaron yn 13 oed yn 2011.

    Ers hynny mae Sam, sydd wedi astudio delweddau ffasiwn ym Mhrifysgol Salford a ffotograffiaeth ym Mhrifysgol De Cymru, wedi bod â diddordeb mawr yn yr ardal a'i phobl.

    Fel Sam ei hun dros ddegawd yn ôl, bydd llawer yn cael blas ar yr ardal am y tro cyntaf yr wythnos hon, a diolch i'r Eisteddfod eleni mae'r ffotograffydd wedi cael cyfle i ddogfennu'r ardal a'i phobl ar gyfer Cymru Fyw.

    Dyma gipolwg ar daith Sam o gwmpas Tregaron drwy lens ei gamera ffilm.

    Idwal ar y bwsFfynhonnell y llun, Sam Stevens
    Disgrifiad o’r llun,

    Idwal ar fws y 588

    Cymuned Tregaron yn ei hanfod gan y ffotograffydd lleol Sam Stevens.

    Taith luniau Tregaron

    Cymuned Tregaron yn ei hanfod gan y ffotograffydd lleol Sam Stevens.

    Read More
  3. Cyn-gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, yn sgwrsio â Richard Wyn Joneswedi ei gyhoeddi 15:08 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Ym Mhabell Cymdeithasau 1 mae cyn-Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, yn sgwrsio gyda’r Athro Richard Wyn Jones am ei chyfnod yn y swydd.

    Sally Holland a Richard Wyn Jones

    Er bod ganddi berthynas dda â rhai o weinidogion Llywodraeth Cymru beth bynnag, meddai, mae’n dweud bod cyfnod y pandemig wedi golygu eu bod nhw wedyn yn gwrando arni’n amlach.

    “Ro’n nhw’n dibynnu ar swyddfa fi i ddweud beth oedd yn mynd mlaen gyda phlant,” meddai.

    Ychwanegodd bod swyddi’r gwahanol Gomisiynwyr yng Nghymru yn arbennig o bwysig oherwydd bod maint y Senedd yn “rhy fach”, ac felly bod dim amser gan ASau i “graffu ar bopeth” o fewn meysydd polisi heb eu help nhw.

  4. Y gwybodus gaban...wedi ei gyhoeddi 15:02 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Dyma Twm a Manon yng Nghaban Gwybodaeth y 'Steddfod.

    Twm a Manon
  5. Diwrnod aduniad myfyrwyr Aberystwythwedi ei gyhoeddi 14:56 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Mae’n ddiwrnod aduniad myfyrwyr Aberystwyth ac mae ‘na ddegau o gyn-fyfyrwyr wedi cyrraedd i rannu atgofion am y dyddiau da!

    Cyn-fyfyrwyr Aber
  6. Gwilym Bowen Rhys a'i gitâr yn diddanuwedi ei gyhoeddi 14:51 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Amser am seibiant i rai ym mhabell y Coleg Cymraeg gyda Gwilym Bowen Rhys yn swyno'r gynulleidfa

    Gwilym Bowen Rhys
  7. Sywel Nyw gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBCwedi ei gyhoeddi 14:45 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Enillydd Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2022, Sywel Nyw gyda Glyn Rhys-James a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

    Read More
  8. Y corau ieuenctid dan 25 oed ar y llwyfanwedi ei gyhoeddi 14:44 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Côr bechgyn Plasmawr yn codi canu!

    Côr bechgyn Plasmawr
  9. Pwy ddaw i'r brig yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, tybed?wedi ei gyhoeddi 14:34 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi o fewn yr awr. Ond, cyn hynny, fe gafodd ymwelwyr â'r Eisteddfod gyfle i gwrdd â'r pedwar sydd yn y rownd derfynol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Os am sedd yn y pafiliwn, ewch draw yn ddigon buan!wedi ei gyhoeddi 14:28 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Mae 'na res hir yn aros tu allan i gael prynhawn o adloniant a seremonïau ar y Llwyfan.

    Bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi am 15:00 a'r Prif Lenor Rhyddiaith am 16:30

    Disgrifiad,

    Ciw i'r pafiliwn

  11. Cymeriadau Ceredigion mewn ffrâmwedi ei gyhoeddi 14:21 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Mae ‘na waith celf trawiadol hefyd i fyny ar stondin Caru Ceredigion, yn portreadu rhai o gymeriadau adnabyddus yr ardal.

    Lluniau o wynebau cyfarwydd Ceredigion

    Yn eu plith mae T. Llew Jones, Menna Elfyn, Hywel Teifi Edwards, Lleucu Roberts, Caryl Lewis, Dic Jones a Lyn Ebenezer. Mae’r wynebau ar y lluniau wedi’u ffurfio gyda map o fro eu mebyd.

  12. Maes B mewn munud!wedi ei gyhoeddi 14:14 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Dilynwch DJ Elan Evans o gwmpas Maes B i gael gwybod y cyfan cyn i'r gigs ddechrau'n swyddogol heno.

    Disgrifiad,

    Maes B... mewn munud!

  13. Mae'n orlawn yn Platiad!wedi ei gyhoeddi 14:07 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Pob lwc yn dod o hyd i fwrdd i fwyta'ch cinio - mae'n orlawn!

    Platiad yn orlawn
    Platiad
  14. Sywel Nyw yn ennill Albwm Cymraeg y Flwyddynwedi ei gyhoeddi 14:00 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022
    Newydd dorri

    Lewys WynFfynhonnell y llun, Dion Wyn Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Lewys Wyn yw Sywel Nyw, ac mae hefyd yn adnabyddus fel canwr a gitarydd Yr Eira

    Albwm y Flwyddyn yw 'Deuddeg' gan Sywel Nyw.

    Lewys Wyn yw'r artist ac fe wnaeth gydweithio gydag 11 artist gwahanol i greu'r albwm, gan gyhoeddi 12 sengl dros flwyddyn.

    "Do'n i'm isio g'neud albwm ar ei ffurf draddodiadol felly dyma oedd y syniad gora' ddes i fyny hefo! Oherwydd mod i'm yn fand o'n i'n gweld fod gen i'r rhyddid i 'neud be bynnag o'n i isio," dywedodd yn gynharach eleni.

    Sywel Nyw yn ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn

    Roedd wyth wedi cyrraedd y rhestr fer ond albwm Deuddeg gan Sywel Nyw a ddaeth i'r brig.

    Read More
  15. Arwydd Tregaron i'w weld uwch y Maeswedi ei gyhoeddi 13:53 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Mae'n edrych yn ddigon gwyntog ar y Maes heddiw hefyd!

    Arwydd TregaronFfynhonnell y llun, Sara Rees
  16. Clonc yn Y Lle Celfwedi ei gyhoeddi 13:48 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Mae'r Lle Celf yn lleoliad gwych i weld gwaith gan artistiaid Cymru - ac i gael sgwrs wrth gwrs!

    Pobl yn cael sgwrs yn Y Lle Celf
  17. Edward Rhys-Harry yw enillydd Tlws y Cerddorwedi ei gyhoeddi 13:43 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022
    Newydd dorri

    Llongyfarchiadau mawr i Edward Rhys-Harry, enillydd Tlws y Cerddor eleni. Y dasg oedd creu opera fer o un gân gorws a dwy gân i unawdwyr ynghyd ag amlinelliad cryno o’r opera gyfan.

    Dywedodd y beirniaid fod "diniweidrwydd a symlrwydd i’r cyfansoddi" a'u bod yn gytûn mai Edward Rhys-Harry oedd yn haeddu'r wobr.

    Darllenwch ragor o sylwadau'r beirniaid yma.

    Edward Rhys-Harry
  18. Pitsa a prosecco plîs!wedi ei gyhoeddi 13:38 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Maggi Noggi yn cyfleu ymateb sawl un ohonom i weld stondin pitsa a prosecco ar y Maes...

    Maggi Noggi
  19. Euros bach yn joio ei 'Steddfod gyntafwedi ei gyhoeddi 13:34 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Euros
    Disgrifiad o’r llun,

    Euros o Ysbyty Cynfyn, Ponterwyd, yn ei 'Steddfod gyntaf

  20. Iechyd da!wedi ei gyhoeddi 13:31 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Byth yn rhy gynnar am brosecco bach ar y Maes...

    Dwy fenyw yn yfed prosecco