Crynodeb

  • Sioned Erin Hughes yw Prif Lenor Eisteddfod Ceredigion 2022

  • Joe Healy yn cael ei enwi yn Ddysgwr y Flwyddyn

  • Sywel Nyw a'i albwm, Deuddeg, enillodd Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni

  • Aeth Tlws y Cerddor i Edward Rhys-Harry

  • Cofiwch am Frwydr y Bandiau heno ac am yr holl gystadlu ar lwyfan y Pafiliwn

  1. Digon o arlwy ar y llwyfanwedi ei gyhoeddi 11:15 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    O'r cerdd dant i'r stepio, mae 'na ddigon o arlwy amrywiol ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Mercher.

    Cofiwch, gallwch wylio'r cyfan yma

    Carys Griffiths-Jones a Dafydd Jones - Deuawd Cerdd Dant 21 oed a throsodd
    Disgrifiad o’r llun,

    Carys Griffiths-Jones a Dafydd Jones yn y Deuawd Cerdd Dant 21 oed a throsodd

    Cadi Fflur Evans
    Disgrifiad o’r llun,

    Cadi Fflur Evans - Dawns Stepio Unigol i Ferched 18 oed a throsodd

  2. Kathod ar y delynwedi ei gyhoeddi 11:08 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Fe allem ddweud wrthoch chi pam fod 'na gathod yn chwarae'r delyn ar y Maes - neu mi allem adael i chi ddyfalu!

    (Ffilmio fideo cerddoriaeth i Kathod maen nhw, os 'dach chi isio'r ateb)

    Kathod ar y maesFfynhonnell y llun, Manon Wyn Jones
  3. Mae'n prysuro...wedi ei gyhoeddi 11:03 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Ar ôl y glaw ddydd Mawrth, mae hi i weld yn fwy prysur ar y Maes heddiw.

    Prysuro ger y brif fynedfa
  4. Cyfle olaf i ddal sioe 'Gwlad yr Asyn'wedi ei gyhoeddi 10:55 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Ydych chi wedi gweld sioe Theatr Genedlaethol Cymru yr wythnos hon? Heddiw yw'ch cyfle olaf chi.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Digon o sŵn i ddeffro'r dorf ben bore!wedi ei gyhoeddi 10:48 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Pabell y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg dan ei sang gyda Sioe Gerddorol i blant - Ceffyl y Sêr - gan Philomusica, Aberystwyth

    Disgrifiad,

    Sioe Gerddorol i blant

  6. Gwobrau lu i gerddorionwedi ei gyhoeddi 10:42 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Bydd 'na le amlwg i gerddorion Cymru ar y Maes ddydd Mercher gyda chyhoeddi enillwyr Tlws y Cerddor, Albwm y Flwyddyn a Brwydr y Bandiau.

    Llwyfan y MaesFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Torf Llwyfan y Maes yn mwynhau'r arlwy nos Lun

  7. Ceir yn cyrraedd y Maes yn y mwdwedi ei gyhoeddi 10:36 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Disgrifiad,

    Ychydig yn fwdlyd fore Mercher

  8. Fuoch chi yn canu gyda Cabarela neithiwr?wedi ei gyhoeddi 10:30 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Roedd y pafiliwn dan ei sang nos Fawrth wrth i Cabarela ddiddanu yno am y tro cyntaf. Roedd y sioe yn rhan o arlwy 'Mas ar y Maes' sy'n dathlu'r gymuned lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thraws fel rhan o'r Eisteddfod.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Awyr las!wedi ei gyhoeddi 10:25 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Ond mae'n brafio! Dyma oedd yr olygfa wrth i ohebwyr Cymru Fyw gyrraedd y Maes y bore 'ma. Rhywfaint o fwd dan draed, ond mae'n gwella.

    Awyr las a'r Maes
    Disgrifiad o’r llun,

    Awyr las drwy'r cymylau uwch y Maes fore Mercher

  10. 'Sgidiau addas?wedi ei gyhoeddi 10:21 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Er i'r glaw gilio, mae 'na dipyn o fwd yn dal i fod ar rannau o'r Maes. Felly cofiwch 'sgidiau addas pan yn dewis eich gwisg 'Steddfod bore 'ma!

    'Sgidiau mwdlyd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'n fwdlyd ar rannau o'r Maes!

  11. Y cystadlu wedi dechrau...wedi ei gyhoeddi 10:17 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Mae'r cystadlu wedi dechrau draw yn y Pafiliwn ar fore Mercher yr Eisteddfod. Dawns Stepio Unigol i Ferched 18 oed a throsodd yw’r gystadleuaeth gyntaf. Gwyliwch y cyfan yn fyw ar ein ffrwd.

    Sedd yn y pafiliwn
    Disgrifiad o’r llun,

    Sedd yn y pafiliwn

  12. Tri pheth i wneud ar y Maes ddydd Mercherwedi ei gyhoeddi 10:14 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    1. Mae’n bosib cerdded o gwmpas y Lle Celf unrhyw bryd, ond i wneud yn siwr nad ydych yn colli cornel, ewch draw am 1100 a 1400 heddiw i gael taith tywys o gwmpas y gwaith.

    Y Lle Celf
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Lle Celf

    2. Mae pypedau yn hen ffefryn gan blant, ond sut maen nhw’n gweithio o ran eu mecanwaith? Ewch draw i’r Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg am 14:45 lle bydd Owen Davies o Gwmni Cortyn yn edrych ar y broses o gynllunio a gwneud pyped.

    3. Am 1730 yn y Tŷ Gwerin fe fydd digon o hwyl i’w gael (i oedolion...) wrth i unigolion gystadlu mewn cerdd dant, canu baled a dweud stori wrth geisio ennill Tlws Stomp Tŷ Gwerin.

  13. 'Toiledau'n edrych yn lân iawn'wedi ei gyhoeddi 10:07 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    BBC Radio Cymru

    Yn dilyn cwynion am gyflwr y toiledau ar y Maes dros y diwrnodau diwethaf, fe wnaeth y prif weithredwr, Betsan Moses, bwysleisio eu bod yn edrych yn "lân iawn" fore Mercher.

    Betsan Moses
    Disgrifiad o’r llun,

    Prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses

    Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd: "Ma' na ddarpariaeth ychwanegol ar gyfer y toiledau, maen nhw'n cael eu glanhau'n barhaus, dw i newydd fod yn gwirio un ac ma' nhw'n edrych yn lân iawn."

  14. Diwrnod brafiach wedi'r mwd?wedi ei gyhoeddi 09:58 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Mwd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mwd dydd Mawrth

    Ar ôl y mwd a'r glaw ddydd Mawrth, mae 'na obeithio am dywydd brafiach ar y Maes heddiw.

    lori'n sownd yn y mwd
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe aeth lori'n sownd yn mwd ar y Maes ddydd Mawrth

  15. Croeso i ddydd Mercher Eisteddfod Ceredigion 2022!wedi ei gyhoeddi 09:57 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022

    Bore da a chroeso i lif byw Cymru Fyw ar ddydd Mercher yr Eisteddfod.

    Mae’n gohebwyr ni ar y maes felly dilynwch y diweddaraf yma gydol y dydd.

    Arwydd 'Tregaron' yr Eisteddfod