Safon cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn uchelwedi ei gyhoeddi 13:26 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2022
Bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei ddewis ar Faes y Brifwyl heddiw.
Cafodd 18 o bobl o Gymru a thu hwnt eu cyfweld ar gyfer y gystadleuaeth, sy'n cael ei threfnu gan yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.
Y pedwar sydd wedi dod i'r brig yw Stephen Bale o Fagwyr, Joe Healy o Gaerdydd, Ben Ó Ceallaigh o Aberystwyth a Sophie Tuckwood o Hwlffordd.
Yn ôl beirniaid y rownd gynderfynol - Cyril Jones, Elwyn Hughes ac Angharad Prys - roedd y safon yn uchel eleni eto, a gallai tua wyth o'r ymgeiswyr fod wedi bod yn deilwng o gyrraedd y rownd derfynol.