Crynodeb

  • Llŷr Gwyn Lewis yw enillydd Cadair Eisteddfod Ceredigion 2022

  • Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ac eraill wedi cael eu derbyn i'r orsedd, er anrhydedd

  • Y diweddaraf gan ein gohebwyr ar faes y Brifwyl yn Nhregaron

  1. ...a dyna ni! Mae wythnos Cymru Fyw yn y 'Steddfod wedi dod i ben.wedi ei gyhoeddi 17:30 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022

    Diolch o galon ichi am ddilyn y cyfan trwy gydol yr wythnos.

    Dwy o ddawns y flodau yn chwifio
    Disgrifiad o’r llun,

    Hwyl fawr!

    Roedd hi'n ddiwrnod gwych arall yn Nhregaron ddydd Gwener.

    Llŷr Gwyn Lewis yw enillydd Cadair yr Eisteddfod.

    Mae Mark Drakeford, Huw Edwards ac eraill wedi cael eu derbyn i'r Orsedd, er anrhydedd.

    Bu sawl sgwrs a pherfformiad a ddenodd dorfeydd mawr.

    Y cyfan yn goron ar wythnos wych.

    Cofiwch am yr holl gystadlu heno ac yfory - gallwch ddilyn yma.

    Llwyfan y Maes

    Llwyfan y Maes amdani felly?

    Diolch o galon Tregaron 2022! 🌞👏

  2. Gwenwch, mae'n ddydd Gwener!wedi ei gyhoeddi 17:29 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022

    Dyma Geraint o Landdeiniolen yn mwynhau peint yn yr haul. Pawb yn dechrau ymlacio wedi wythnos brysur!

    Geraint
  3. 'Emosiwn, cynildeb a hiwmor'wedi ei gyhoeddi 17:19 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022

    llyr

    Llŷr Gwyn Lewis yw enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.

    Ceisiodd 14 o bobl am y wobr eleni - y nifer fwyaf ers dros 30 mlynedd.

    Daeth Llŷr, sy'n wreiddiol o Gaernarfon, yn ail am Gadair y Genedlaethol yn 2017 ac yn drydydd yn 2018.

    Ond daeth i'r brig eleni mewn cystadleuaeth a oedd, yn ôl y beirniaid, yn "ardderchog".

    Llyr

    O ran yr awdl fuddugol, dywedodd Mr Reynolds mai casgliad o gerddi a geir am hanes teulu yn treulio Gŵyl y Banc ar draeth Llangrannog.

    "Ceir yma fôr o emosiynau o ddicter i dynerwch, o sinigiaeth i anwyldeb, ac mae'n hollol barod i chwerthin ar ben ei ymdrechion ei hunan," dywedodd.

    "Ac o dan y cwbl mae yna ymwybyddiaeth o pa mor ddi-rym yw dyn, fel y Caniwt gwreiddiol, i atal y llanw tragwyddol.

    "Yn bersonol rwyf i yn ei roi ar y blaen oherwydd ei ddawn delynegol ac hefyd am iddo yn anad neb fynd i'r afael â'r testun gosodedig.

    "Mae Emyr Lewis hefyd yn ei roi ar y blaen, o drwch blewyn, ac rwy'n dyfynnu 'am ei gynildeb, treiddgarwch ac anwyldeb agos atoch ac am adrodd profiad cymhleth a digri' bod yn rhiant o Gymro ar draeth Llangrannog'.

    "Felly, o ddwy bleidlais i un, mewn cystadleuaeth ardderchog, caderier Cnwt Gwirion."

    Darllenwch y stori'n llawn yma.

  4. Llŷr Gwyn Lewis yw enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol 2022wedi ei gyhoeddi 17:14 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
    Newydd dorri

    Llongyfarchiadau mawr i Llŷr 👏👏

    LLyr
  5. 'Cystadleuaeth ardderchog'wedi ei gyhoeddi 17:01 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022

    Mae Idris Reynolds, ar ran ei gyd-feirniaid, wedi cadarnhau y byddent yn "hapus i wobrwyo" tua pump o ymgeiswyr cystadleuaeth y Gadair.

    Edrychwn ymlaen felly at weld pwy fydd yn sefyll.

    Cliciwch yma i wylio'r cyfan.

  6. Nifer o Gardis wedi eu Cadeirio yn y gorffennol...wedi ei gyhoeddi 16:56 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022

    A fydd 'na deilyngdod heddiw? Os felly, ai Cardi fydd yn sefyll?

    Mae sawl un o Geredigion neu sydd wedi ymgartrefu yno wedi ennill y Gadair dros y blynyddoedd. Dyma flas...

    2021 – Eisteddfod AmGen – Gwenallt Llwyd Ifan, Tal-y-bont

    2015 – Maldwyn a’r Gororau – Hywel Griffiths, Aberystwyth

    2014 – Sir Gâr – Ceri Wyn Jones, Aberteifi

    2012 – Bro Morgannwg – Dylan Iorwerth, Llanwnnen

    2004 – Casnewydd a’r cylch – Huw Meirion Edwards, Llandre

    1999 – Ynys Môn – Gwenallt Llwyd Ifan, Tal-y-bont

    1997 – Meirion a’r Cyffiniau – Ceri Wyn Jones, Aberteifi

    1994 – Nedd a’r cyffiniau – Emyr Lewis

    1992 – Ceredigion (Aberystwyth) – Idris Reynolds, Brynhoffnant

    1989 – Dyffryn Conwy – Idris Reynolds, Brynhoffnant

    1980 – Dyffryn Lliw – Donald Evans, Talgarreg

    1977 – Wrecsam a’r cylch – Donald Evans, Talgarreg

    1966 – Aberafan a’r cylch – Dic Jones, Blaenannerch

    1959 – Caernarfon a Dosbarth Gwyrfai – T Llew Jones, Coed-y-bryn

    1958 – Glyn Ebwy a’r cylch – T Llew Jones, Coed-y-bryn

    1955 – Pwllheli a’r cylch – G Ceri Jones, Rhydlewis

  7. Mae'r Pafiliwn yn llawnwedi ei gyhoeddi 16:52 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022

    Llwyfan - Cadeirio
    Disgrifiad o’r llun,

    Byddwn yn clywed beirniadaeth cystadleuaeth y Gadair ymhen ychydig

  8. 'Patrymau llif yr Afon Teifi' wedi ysbrydoli dyluniad y Gadair eleniwedi ei gyhoeddi 16:44 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022

    Yn gyn-athro gwaith coed yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth, dywedodd Rees Thomas: "Cefais fy ysbrydoli gan batrymau llif yr Afon Teifi wrth iddi ymdroelli o fryniau Elenydd drwy'r sir ac i'r môr ger Aberteifi.

    "Yn ogystal â chreu Cadair sy'n cymryd ei lle ar lwyfan ein Prifwyl, ro'n i hefyd yn awyddus i greu dodrefnyn sy'n addas ar gyfer y cartref."

    Y Gadair

    Os y bydd teilyngdod, bydd y Gadair eleni yn cael ei rhoi am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar y teitl Traeth.

    Mae wedi ei chynllunio gan Rees Thomas o Bow Street.

  9. Gwyliwch seremoni'r Cadeiriowedi ei gyhoeddi 16:33 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022

    Mae'r Cadeirio ar fin dechrau. A fydd teilyngdod?

    Cliciwch yma i wylio'r cyfan.

    Sedd yn y pafiliwn
  10. Paratoi ar gyfer y prif seremoni - Y Cadeiriowedi ei gyhoeddi 16:31 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022

    Osgordd
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd y Cadeirio'n dechrau ymhen rhai munudau

  11. Aduniad Ysgol Uwchradd Tregaronwedi ei gyhoeddi 16:21 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022

    Mae wedi bod yn wythnos o aduno ar y Maes. Ym Mhabell Cymdeithasau 1, fe wnaeth cyn-ddisgyblion, staff a chyfeillion Ysgol Uwchradd Tregaron gwrdd ddydd Gwener. Y siaradwr gwadd oedd y cyn-ddisgybl Lyn Ebenezer.

    Criw Ysgol Tregaron
  12. Chwerthin lond y Tŷ Gwerin!wedi ei gyhoeddi 16:16 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022

    Tŷ Gwerin

    Roedd 'na ddigon o hwyl yn y Tŷ Gwerin wrth i Bois y Gilfach a Dewi Pws berfformio deunydd ysgafn Jacob Davies.

    Tŷ Gwerin
  13. Gemma Collins: 'Eisteddfod, Eisteddfod'wedi ei gyhoeddi 16:08 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022

    Os y gwrandewch chi'n astud ar y clip fideo, gallwch chi glywed Gemma Collins yn ymarfer ei Chymraeg!

    Disgrifiad,

    Gemma Collins ar y Maes

  14. Dyma hi! Y GC! Mae hi wedi cyrraedd y Maes!wedi ei gyhoeddi 16:02 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022

    Wel, roedd y sibrydion yn wir.

    Mae Gemma Collins, sydd fwyaf adnabyddus fel un o sêr y gyfres realiti The Only Way is Essex ar faes yr Eisteddfod yn Nhregaron.

    Gemma COllins a Miriam Isaac
    Disgrifiad o’r llun,

    Gemma Collins a Miriam Isaac

    Ond mae'n debyg fod yr Ymryson a'r Cadeirio'n fwy o atyniad i'r holl Eisteddfodwr sy'n dal i giwio tu ôl iddi!

    Gemma Collins
  15. Ciw y pafiliwn yn dal i dyfu!wedi ei gyhoeddi 15:56 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022

    Mae'r lle dan ei sang wrth i Ymryson y Beirdd barhau a'r Cadeirio i ddigwydd cyn hir hefyd.

    Ond mae'n edrych fel petai'r drysau yn y cefn - yn wir - wedi eu cau!

    Ciw Pafiliwn
  16. ... a dyma sy'n digwydd draw ar Lwyfan y Llannerchwedi ei gyhoeddi 15:50 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022

    Mae fersiwn Gymraeg o gyfrol sy’n trafod effaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ers 2015 gan Jane Davidson yn cael ei lansio.

    Mae’r dorf yn mwynhau clywed am yr adrannau newydd wrth eistedd ar y byrnau gwair.

    Llwyfan y Llannerch
  17. Beth sy'n digwydd yn y Lle Celf?wedi ei gyhoeddi 15:46 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022

    Dosbarth Meistr Creadigol gyda'r artist Gareth Owen yn y Lle Celf heddiw

    Lle Celf
  18. Ysbrydoliaeth tîm Cymru i'w weld ar hyd y Maeswedi ei gyhoeddi 15:40 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022

    Criw Stwnsh yn denu pêl-droedwyr ifanc.

    Stwnsh
  19. Ieithoedd amrywiol y Maeswedi ei gyhoeddi 15:33 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022

    Bu Lleucu Non yn brysur yn y cwt cyfieithu - ac wedi cael pobl o Scandinafia, Llydaw, Ffrainc, Lloegr ac America yn galw draw.

    Lleucu Non
  20. Mark Drakeford yn denu torf fawr arallwedi ei gyhoeddi 15:25 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022

    Mark Drakeford, Beth Winter a Richard Wyn Jones

    Am yr eildro mewn awr, mae Mark Drakeford wedi denu torf fawr i ddigwyddiad ar y Maes. Cymaint felly, fel bod dim lle ym Mhabell Cymdeithasau 1 ar gyfer pawb, ac felly mae dwsinau’n gorfod gwrando o’r tu allan.

    Torf yn gwrando ar Mark Drakeford

    Y cwestiwn tro yma yw pam fod y Blaid Lafur yng Nghymru wedi bod mor llwyddiannus yn etholiadol dros y blynyddoedd, gydag A.S Cwm Cynon, Beth Winter a’r Athro Richard Wyn Jones ar y panel.