Mae wedi troi'n dwrnamaint cystadleuol tu allan i Gaffi Maes B...wedi ei gyhoeddi 13:27 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022

Llŷr Gwyn Lewis yw enillydd Cadair Eisteddfod Ceredigion 2022
Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ac eraill wedi cael eu derbyn i'r orsedd, er anrhydedd
Y diweddaraf gan ein gohebwyr ar faes y Brifwyl yn Nhregaron
Yn ôl ein gohebwyr, dyma'r amser cinio prysuraf ar y Maes yr wythnos hon.
Mae'r ciwio'n parhau...
Mae Côr Lleisiau Tywi ar fin canu ym mhrawf y gystadleuaeth Côr Cerdd Dant gyda 90 o aelodau.
Dywedodd y darlledwr Huw Edwards fod cael ei urddo yn "brofiad emosiynol a braidd yn annisgwyl".
"Ro’n i’n teimlo’r fraint," meddai.
"O’n i’n teimlo’r balchder bod Mam yma i weld y peth, o’n i’n teimlo ychydig yn drist bod Dad ddim yma i weld y peth, yn enwedig gan bod ni yma yng Ngheredigion, ar ein milltir sgwâr fel teulu mewn sawl ffordd.
“Dwi yn teimlo ei bod hi’n fraint ac anrhydedd ac o’n i’n ddiolchgar iawn am y cyfle.
“O ran degawdau o waith fel newyddiadurwr a darlledwr, a rhywun sydd wastad wedi ymddiddori yn y pethe, dwi’n falch iawn bod pobl wedi cydnabod hynny.
"Os yw e’n gyfraniad mae pobl wedi gwerthfawrogi wedyn ‘wy’n falch am hynny.”
Urddo i'r Orsedd yn brofiad 'emosiynol' i Huw Edwards
Mae llais Eadyth a bîts Mr Phormula wedi bod yn swyno’r gynulledifa yn y babell Encore.
Mae Eadyth yn ffocysu ar electro/soul, tra bod Mr Phormula - Ed Holden - yn bît bocsio.
Un arall a gafodd ei dderbyn i'r Orsedd heddiw oedd Wynne Melville Jones, sy'n gyfarwydd fel arloeswr PR, fel Tad Mistar Urdd ac artist.
“O’dd e fel breuddwyd a dweud y gwir. Dwi’n fachgen o Dregaron, nes i erioed feddwl bydde’r Eisteddfod yn dod i Dregaron," meddai.
"O’n i’n arfer dod lawr i’r caeau hyn i gasglu gwartheg i fynd i odro pan o’n i’n yr ysgol, a 'drychwch arni nawr.
“Dwi’n teimlo mod i wedi cynrychioli pobl Tregaron, pobl yr Urdd, a’r hyn sydd ‘di digwydd yn Golwg dros y blynyddoedd, a’r holl ddiddordebau eraill sydd gyda fi – jyst cynrychiolydd ydw i.”
Mae'r Urdd yn agos at ei galon ac mae'n Llywydd Anrhydeddus y mudiad, ac felly, be well fel enw gorseddol na "Mistar Urdd"!
“Doedd gyda fi ddim dewis mewn gwirionedd! Am un peth oedd e’n ffordd o gael Mr Urdd i mewn i’r Orsedd, ac roedd e’n gyffyrddiad bach ysgafnach falle.”
'Dim dewis' i aelod newydd yr Orsedd - Mr Urdd
Llongyfarchiadau i Ciron Gruffydd!
Bore 'ma yn Theatr y Maes cyhoeddwyd mai ef ydy ennillydd Gwobr Goffa Gethin Thomas eleni, sy'n cael ei rhoi am sgwennu sgript gomedi.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Aled Rees yn ddyn prysur ar faes yr Eisteddfod yr wythnos hon.
Yn ogystal â gwerthu llyfrau ar stondin Siop y Pethe, mae hefyd wedi bod yn helpu ei wraig Angeles ar stondin fwyd.
Bar Williams Parry... Hogi Hogi Hogi... Anrhegaron - digon o gyfleoedd i fod yn greadigol gydag enwau stondinau.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Llongyfarchiadau mawr i Mared o Borth, Aberystwyth! 👏🎶
Mae Siwan Iorwerth wedi bod yn brysur drwy’r wythnos yn croesawu pobl i babell Prifysgol Caerdydd.
“Er mwyn annog pobl i ddod i’r Brifysgol, rydan ni wedi bod yn cynnal sesiynau bywyd myfyrwyr, prosiectau gwyddonol fel gweld sut mae’r Gymraeg yn edrych trwy sgan MRI a meddygon yn mesur pwysau gwaed”.
Mae amrywiaeth o sgyrsiau'n cael eu cynnal ar stondinau'r holl brifysgolion yr wythnos hon er mwyn atynnu myfyrwyr newydd.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ceri Lloyd yn arwain sesiwn ioga
Cyfle i Eisteddfodwyr ymlacio yn y Tŷ Gwerin bore ‘ma mewn sesiwn ioga gyda Ceri Lloyd.
Mae’r sesiynau wedi bod yn rhedeg bob bore ac wedi denu nifer i ymlacio.
Mae degau'n cael eu derbyn i'r Orsedd wrth i seremoni'r urddo barhau.
Yn cael ei urddo mae ‘Huw Elli’ - ond fe fyddwch chi’n ei adnabod yn well fel y newyddiadurwr Huw Edwards
‘Gof Annon’ yw enw Gorsedd Rhiannon Evans, y gemweithydd o Dregaron - un o’r hoelion wyth lleol sy’n cael eu hanrhydeddu.
Mae Cledwyn Ashford yn adnabyddus am ei waith yn y byd pêl-droed, ond mae’n cae ei urddo heddiw am ei waith fel “aelod allweddol o’r tîm sy’n rhedeg maes yr Eisteddfod”. Ei enw Gorsedd yw ‘Rhydonnen o’r Llan’.
Mae’r cyfansoddwr Delwyn Sion hefyd ymhlith y rheiny sy’n cael ei urddo - ei enw Gorsedd yw ‘Alaw Dâr’.
'Mark Pengwern' oedd dewis y prif weinidog, Mark Drakeford.
Ac o bosib... yr enw mwyaf unigryw? Roedd cymeradwyaeth fawr i’r artist Wyn Mel wrth iddo gael ei urddo dan enw’r cymeriad mwyaf adnabyddus a greodd - ‘Mr Urdd’!
Dyma barti'r Greal ar y llwyfan yn y gystadleuaeth Parti Cerdd Dant hyd at 20 mewn nifer.
Parti'r Greal
Dysgu cordiau yn y sesiwn Iwcadwli ym maes D bore 'ma - un ffordd o ddeffro!