Top tips gan y cyn-archdderwydd?wedi ei gyhoeddi 11:21 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
Mae Elin Haf Gruffydd Jones yn cael ei hurddo hefyd. Cyfle am bach o gyngor gan y cyn-archdderwydd, Christine James, bore 'ma?
Llŷr Gwyn Lewis yw enillydd Cadair Eisteddfod Ceredigion 2022
Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ac eraill wedi cael eu derbyn i'r orsedd, er anrhydedd
Y diweddaraf gan ein gohebwyr ar faes y Brifwyl yn Nhregaron
Mae Elin Haf Gruffydd Jones yn cael ei hurddo hefyd. Cyfle am bach o gyngor gan y cyn-archdderwydd, Christine James, bore 'ma?
Trystan Lewis - Trystan Talhaearn - yw'r cyntaf i fynd i gael ei urddo.
Hawliwch eich sedd rithiol yn y Pafiliwn trwy glicio yma.
Mae'r cyfan yn fyw trwy gydol y dydd.
Ar ôl i aelodau newydd gael eu hanrhydeddu, bydd yr Orsedd yn ymgynnull eto ddiwedd y pnawn ar gyfer Seremoni’r Cadeirio.
Fe gafodd hi ei chlodfori am ei cherddi yn y brif seremoni ddydd Llun, ond bydd rhan bwysig arall o waith Bardd y Goron i'w glywed ar y Maes heddiw. Am 11:15 ym mhentref Dysgu Cymraeg Maes D, stori'r dydd ydi Llond Bol gan Esyllt Maelor - a gyhoeddodd gyfrol o straeon ar gyfer dysgwyr eleni. Y storïwr ydi Fiona Collins.
Ac am 13:00 ewch draw i Lwyfan y Maes i glywed perfformiad o ganeuon sioeau gerdd gyda sêr Welsh of the West End.
BBC Radio Cymru
Ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru y bore ‘ma, bu Garry Owen yn siarad gyda Sandra de Pol o Gymdeithas Cymru-Ariannin.
Mae ymgyrch ar droed ar hyn o bryd i godi arian ar gyfer ysgol uwchradd ddwyieithog newydd yn Nhrevelin, Patagonia.
“Y digwyddiad cyntaf fydd taith gerdded ‘O Gymru i’r Wladfa’ fydd yn digwydd yn ystod pythefnos y Pasg y flwyddyn nesaf,” meddai.
“Croeso i unrhyw un a hoffai gyfrannu at hynny a chymryd rhan yn y daith gerdded i gysylltu â’r gymdeithas.”
"Mae'r dyddiau diwetha' wedi bod yn brysur iawn ac mae hi wedi bod lot yn fwy prysur nag arfer," medd perchnogion caffi Coffi a Bara yn Nhregaron.
"Mae cael Eisteddfod yn y dre' wedi bod yn help mawr i'r economi fan hyn yn lleol. Ni wedi gweld lot o bethau'n digwydd, pobl yn dod mewn i fan hyn ac yn gwario arian - mae e'n helpu lot."
Mae disgwyl tua 150,000 o bobl yn ymweld ag ardal bro'r Eisteddfod Genedlaethol ac mae'r Brifwyl yn amcangyfrif y bydd gwerth y digwyddiad yn lleol rhwng £6m ac £8m.
Twristiaeth a'r diwydiant lletygarwch sydd yn elwa fwyaf.
Darllenwch ragor am brofiadau'r busnesau lleol yma.
Dyma Hannah Lowri Roberts o Gaerdydd yn cystadlu yn y Rhuban Glas Offerynnol 19 oed a throsodd
Deffrwch, bobl!
Ydych chi wedi gweld y Maes mor dawel â hyn? Cyn i'r stondinau agor a'r dorf ddechrau cyrraedd, dyma oedd yr olygfa bore 'ma. Mae'n siwr o brysuro!
Mae'n ddiwrnod mawr - diwrnod y Cadeirio.
Bydd y brif seremoni honno'n digwydd yn y Pafiliwn tua 16:30.
Cyn hynny, bydd mwy yn cael eu hurddo i'r Orsedd, gan gynnwys y prif weinidog, Mark Drakeford.
Bydd digonedd o sgyrsiau difyr ar y Maes a pherfformiadau lu.
Dilynwch y cyfan gyda ni!
Bydd y seddi gwag yn llawn ymhen ychydig gyda rhagor yn cael eu hurddo i'r Orsedd
Roedd hi'n dipyn o noson! Alffa, Mellt, Adwaith a Gwilym oedd yn perfformio gyda cherddorion dawnus Cerddorfa'r Welsh Pops.
Gwyliwch y dorf yn symud tuag at flaen y pafiliwn i fwynhau Alffa
Dyma'r olygfa wrth i'n gohebwyr gyrraedd y Maes ben bore 'ma. Y cymylau i gilio nes ymlaen gobeithio!
Dyma'r tro olaf y bydd gohebwyr Cymru Fyw yn troedio'r Maes ac yn dod â'r diweddaraf, felly dilynwch y cyfan yn fyw gyda ni heddiw!