Crynodeb
Llŷr Gwyn Lewis yw enillydd Cadair Eisteddfod Ceredigion 2022
Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ac eraill wedi cael eu derbyn i'r orsedd, er anrhydedd
Y diweddaraf gan ein gohebwyr ar faes y Brifwyl yn Nhregaron
Y diweddaraf yn fyw
Dysgu sgil newydd...wedi ei gyhoeddi 15:19 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
Ysu am gael gwylio'r ymrysonwedi ei gyhoeddi 15:13 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
15:13 GMT+1 5 Awst 2022Ewch i brofi'ch gwybodaeth gyffredinol!wedi ei gyhoeddi 15:06 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
15:06 GMT+1 5 Awst 2022Mae cwis y Coleg Cymraeg newydd ddechrau...
Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolI osgoi neges twitterNid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolCaniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges twitterTip da yma. Ewch i'r Babell Lên i wylio ffeinal yr Ymryson...wedi ei gyhoeddi 14:58 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
14:58 GMT+1 5 Awst 2022... mae i weld yn orlawn yn y Pafiliwn i wylio'r ornest rhwng y beirdd!
Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolI osgoi neges twitterNid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolCaniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges twitterOs nad yng Ngig y Pafiliwn... oeddech chi ger Llwyfan y Maes?wedi ei gyhoeddi 14:53 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
14:53 GMT+1 5 Awst 2022Roedd ‘na dorf fawr yn gwylio Bwncath neithiwr ar Lwyfan y Maes wrth i’r haul fachlud dros Dregaron, a hynny er bod Gig y Pafiliwn hefyd wedi dechrau erbyn hynny.
Gig ychydig tawelach oedd gan y band y prynhawn yma - ym Mhabell y Coleg Cymraeg.
Gardd Salm 23... lle i fyfyriowedi ei gyhoeddi 14:47 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
14:47 GMT+1 5 Awst 2022Cyfle i orffwys ar y maes ac i feddwl am yr hyn sydd i ddod yn y dyfodol yw gardd Salm 23, a chyfle i ystyried perthynas pobl gyda’r hinsawdd.
Gardd dros dro gan Owen Griffiths yw hon sy’n gofyn i bobl fyfyrio am golledion y gorffennol a’r ofn ein bod yn torri’r cysylltiad â’r amgylchedd. Mae gofyn i bobl oedi a myfyrio yn ardd ac i gerdded y llwybr.
Arlwy cerddorol y prynhawn... cyfle i ymlacio cyn noson fawr!wedi ei gyhoeddi 14:43 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
14:43 GMT+1 5 Awst 2022Yn y Tŷ Gwerin prynhawn yma, mae band Burum yn perfformio caneuon gwerin mewn arddull jazz.
Draw yng Nghaffi Maes B, mae Lewys yn diddanu cynulleidfa sydd wedi dod am hoe o brysurdeb y Maes.
Prosecco a phres!wedi ei gyhoeddi 14:38 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
14:38 GMT+1 5 Awst 2022Digon o fwynhau ar stondin Prifysgol Bangor y prynhawn yma gyda Band Pres Llareggub a phrosecco 🎺🥂
Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolI osgoi neges twitterNid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolCaniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges twitterGeiriau o gyngor Mark Drakeford ym Mhabell Maes Dwedi ei gyhoeddi 14:34 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
14:34 GMT+1 5 Awst 2022Mae pabell Maes D yn orlawn y prynhawn yma, a hynny wrth i bobl wrando ar sgwrs gyda Mark Drakeford.
Mae'r prif weinidog yn dweud fod pobl weithiau yn “cwyno” am safon ei Gymraeg, ond mae’n dweud mai’r peth pwysicaf yw i ddal ati.
“Penderfyniad personol fi yw jyst i bwrw mlaen,” meddai. “Dwi’n siŵr dwi’n lladd yr iaith Gymraeg bob tro dwi’n siarad! Dwi’n siŵr dwi’n neud camgymeriadau, ond os ‘dych chi’n becso am hynny bob tro, dych chi ddim yn mynd i neud e.”
Mae’n dweud ei fod felly’n defnyddio’r iaith bob tro mae’n gallu, a’r sylw hwnnw’n ennyn cymeradwyaeth gan y dorf.
Cŵn y Maes! 🐶wedi ei gyhoeddi 14:30 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
14:30 GMT+1 5 Awst 2022'Gobeithio y bydd hi'n prysuro'wedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
14:24 GMT+1 5 Awst 2022Dyw hi ddim wedi bod yn wythnos mor brysur â'r disgwyl i bawb. Tra bod rhai busnesau yn Nhregaron wedi gwneud elw, mae eraill yn gobeithio am fwy o brysurdeb y penwythnos hwn.
Yn Neuadd Tregaron mae yna arddangosfa gan grefftwyr lleol.
Dywedodd Aled Jenkins, un o'r rhai sydd yn arddangos ei nwyddau llechi, ei bod wedi bod yn "eitha' tawel".
"Fi 'di bod mas yn rhoi pamffledi i bobl heddi i drio denu nhw mewn, ac mae pobl 'di bod yn gofyn pa mor bell yw'r dre' o faes parcio'r 'Steddfod, ac efallai gallen nhw 'di bod yn fwy clir ynglŷn â hynna achos dyw hi ddim yn bell o gwbl.
"Y peth arall yw mae cymaint o bethau ar faes yr Eisteddfod, efallai fod pobl yn teimlo bod dim angen iddyn nhw fynd mas."
Bois Cwmann yn morio canuwedi ei gyhoeddi 14:19 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
14:19 GMT+1 5 Awst 2022Dyma gôr Cwmann a'r Cylch yn diddanu Eisteddfodwyr wrth iddyn nhw grwydro'r stondinau
Cofiwch y gallwch chi wrando ar holl adloniant y Maes ar BBC Radio Cymruwedi ei gyhoeddi 14:14 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
14:14 GMT+1 5 Awst 2022BBC Radio Cymru
Bach o bach o Steddfod!wedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
14:10 GMT+1 5 Awst 2022Wyneb cyfarwydd arall ar y maes heddiw ydy enillydd Cân i Gymru, Morgan Elwy.
Fe fydd yn perfformio fel rhan o Mared Williams a'r Band ar Lwyfan y Maes nes ymlaen.
Mae Bach o Hwne yn siŵr o fod yn ein pennau am weddill y dydd rŵan!
Enwau lleol yn ysbrydoli bwydlenni'r Maeswedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
14:02 GMT+1 5 Awst 2022Welsh of the West End wedi denu torf anhygoelwedi ei gyhoeddi 13:58 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
13:58 GMT+1 5 Awst 2022Cafodd y grŵp ei sefydlu yn ystod y cyfnod clo ac yn fwy diweddar, fe wnaethon nhw serennu ar Britain's Got Talent.
Ond does dim i guro perfformio ar Lwyfan y Maes! Dyma'r dorf!
Mae'r pebyll yn dal i sefyll!wedi ei gyhoeddi 13:50 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
13:50 GMT+1 5 Awst 2022Mae mwy o bobl ifanc wedi cyrraedd Maes B ar gyfer gigs y penwythnos.
'Mark Pengwern' yn falch o'r fraintwedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
13:45 GMT+1 5 Awst 2022Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolI osgoi neges twitterNid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolCaniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges twitter'Sgwn i ble fydd hwn fis Tachwedd?wedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
13:40 GMT+1 5 Awst 2022A ddylai'r 'Steddfod fod yn nes at drefi bob blwyddyn?wedi ei gyhoeddi 13:34 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2022
13:34 GMT+1 5 Awst 2022BBC Radio Cymru
Ar Dros Frecwast bore 'ma, gofynnwyd i drefnydd a chyfarwyddwr artistig yr Eisteddfod a fyddai'r brifwyl yn ystyried symud digwyddiadau yn agosach i ganol trefi yn y dyfodol.
Dywedodd Elen Elis bod Tregaron "dan ei sang neithiwr, y lle yn llawn pobl yn mwyhau eu hunain.
"Rhaid cofio mai gŵyl ydyn ni, felly 'da ni isio darparu ystod o brofiadau anhygoel i'r cynulleidfaoedd ni.
"Wrth gwrs mi fyddan ni'n edrych yn ôl ar 'leni a gweld ac yn asesu - mae pawb yn sgwennu darn o adborth."