Crynodeb

  • Mae Eisteddfod yr Urdd 2023 wedi dechrau

  • Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin yw cartref yr ŵyl eleni

  • Mae'r plant a'r bobl ifanc wedi dechrau ar y cystadlu

  • Gwydion Rhys yw enillydd y Fedal Gyfansoddi eleni

  • Roedd y maes yn fwy llawn na'r arfer ddydd Sul gyda sioe Chwilio'r Chwedl

  1. Gwilym Morgan: 'Anhygoel' i ennill Medal y Dysgwyrwedi ei gyhoeddi 17:19 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2023

    Gwilym Morgan, o Gaerdydd, oedd enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023.

    Read More
  2. Lluniau: Dydd Mawrth Eisteddfod yr Urdd 2023wedi ei gyhoeddi 16:14 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2023

    Lluniau o ail ddiwrnod y cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr, Llanymddyfri.

    Read More
  3. Urdd: Cyhoeddi enillwyr cystadlaethau dysgu Cymraegwedi ei gyhoeddi 14:44 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2023

    Dau o bobl ifanc yn derbyn prif wobrau dysgu Cymraeg Eisteddfod yr Urdd 2023.

    Read More
  4. Wyn Jones am weld mwy yn aros yng nghefn gwladwedi ei gyhoeddi 12:39 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2023

    Y chwaraewr rygbi yn dweud y "byddai'n neis" gweld mwy o bobl ifanc yn aros yng nghefn gwlad Cymru.

    Read More
  5. Canmol a chwyno am docynnau Eisteddfod yr Urddwedi ei gyhoeddi 17:56 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023

    Mae miloedd wedi manteisio ar gynnig o docynnau am ddim i deuluoedd incwm isel - ond i eraill, mae'r £20 o fynediad yn ddrud.

    Read More
  6. Diolch am ymuno â ni 👋wedi ei gyhoeddi 16:02 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023

    Dyma ddiwedd ein llif byw o ddiwrnod cyntaf o gystadlu Eisteddfod yr Urdd 2023.

    Diolch am ddilyn y diweddaraf a mwynhewch weddill yr wythnos yn yr heulwen, gobeithio. ☀️

    Hwyl am y tro!

    Ffair
    Disgrifiad o’r llun,

    I'r ffair nawr, unrhyw un?

  7. Ciw ar gyfer y pafiliwn Gwyrddwedi ei gyhoeddi 15:55 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023

    Dyma oedd yr olygfa tu allan i'r Pafiliwn Gwyrdd y prynhawn 'ma, wrth i deuluoedd a ffrindiau geisio cael lle i gefnogi.

    Bydd y cystadlu yn dal i barhau am beth amser.

    Ciw Pafiliwn Gwyrdd
  8. Cyfansoddi cerddoriaeth fel 'creu eich celf eich hun'wedi ei gyhoeddi 15:48 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023

    Prif Gyfansoddwr yr Eisteddfod, Gwydion Rhys, fu'n sôn am y profiad o ennill y fedal ar ôl y seremoni.

    "I clywed cerddorion go iawn yn chwarae'ch cerddoriaeth, does 'na ddim byd cweit yn 'run fath â hwnna."

    Disgrifiad,

    Gwydion Rhys yn cipio'r Fedal Gyfansoddi

  9. Sawl elfen newydd i'r seremonïau... gan gynnwys iaith arwyddowedi ei gyhoeddi 15:41 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023

    Mae ‘na elfen newydd arall i brif seremonïau’r dydd yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

    Ar y llwyfan, yn ogystal â’r arweinydd Heledd Cynwal a’r awenau, fe welwch chi ddynes arall.

    Seremoni'r Fedal Gyfansoddi
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd 'na sawl elfen newydd i'r seremoni

    Ei henw hi yw Cathryn McShane, a hi sy’n arwyddo beth sy’n digwydd yn ystod y seremoni, y tro cyntaf i hynny ddigwydd.

    Os yw ei hwyneb yn edrych yn gyfarwydd i chi, mae hynny oherwydd mai hi oedd un o’r arwyddwyr cyson yn ystod cynadleddau i’r wasg y prif weinidog, Mark Drakeford, yn ystod y pandemig.

  10. Lluniau: Dydd Llun Eisteddfod yr Urdd 2023wedi ei gyhoeddi 15:35 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023

    Lluniau o ddiwrnod cynta'r cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr, Llanymddyfri.

    Read More
  11. Wedi pacio popeth?wedi ei gyhoeddi 15:31 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023

    Twitter

    Beth sydd ei angen ar gyfer wythnos o eiteddfota? Dyma ambell gyngor?!

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  12. O ble mae pawb wedi teithio i'r maes?wedi ei gyhoeddi 15:24 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023

    Ar stondin Comisiynydd Plant Cymru mae map sticeri yn dangos ble mae ymwelwyr i’r maes heddiw yn byw.

    Mae ‘na dipyn o amrywiaeth - gan gynnwys ambell un sydd wedi gwneud y daith hir o bellafion Ynys Môn!

    Map o Gymru
  13. I ba gyfeiriad ewch chi?wedi ei gyhoeddi 15:19 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023

    Arwyddion Eisteddfod

    Mae 'na ddigon i wneud ar y maes a'r arwyddion yn eich cyfeirio at wahanol ardaloedd.

  14. 'Gobeithio y bydd pobl yn dychwelyd i'r ardal'wedi ei gyhoeddi 15:11 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023

    Mae Eisteddfod yr Urdd yn denu tua 90,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ac eleni gan fod y maes o fewn pellter cerdded i’r dref, mae cynghorydd sir a thref Llanymddyfri yn gobeithio y bydd pobl yn dychwelyd i’r ardal.

    Handel Davies, cynghorydd y Sir a thref Llanymddyfri
    Disgrifiad o’r llun,

    Handel Davies, cynghorydd y Sir a thref Llanymddyfri

    “Ni yn gobeitho bo pethe fel yr Eisteddfod, bod gymaint o bobl newydd yn dod i’r ardal, dros gan mil os yw’r tywydd yn ffein, lot o nhw ddim wedi gweld Llanymddyfri erioed.

    "Y bwriad yw bo nhw’n lico fe, a bo nhw moyn dod nôl yn y dyfodol eto ac eto fel bod y busnesau lleol yn gweld y benefit.”

  15. Môr o liwwedi ei gyhoeddi 15:04 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023

    Mr Urdd bunting

    O ba bynnag gyfeiriad fyddwch chi’n teithio mae Sir Gaerfyrddin yn fôr o liw.

    Mae aelodau gweithgar o’r gymuned wedi annog llawer i ymuno yn yr hwyl.

  16. Gwydion Rhys yn cipio Medal Gyfansoddi'r Urddwedi ei gyhoeddi 14:51 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023

    Y cerddor ifanc o Ddyffryn Ogwen ydy Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023.

    Read More
  17. Trên i'r maeswedi ei gyhoeddi 14:48 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023

    Mae modd teithio ar drên i’r Eisteddfod eleni ar lein Calon Cymru sy’n rhedeg drwy Lanymddyfri.

    Gorsaf dren Llanymddyfri
    Disgrifiad o’r llun,

    Gorsaf drên Llanymddyfri

    Er hynny, does dim teithiau trên ychwanegol wedi’u hamserlennu ar gyfer yr Eisteddfod, ac mae gwaith peirianyddol wedi'i drefnu o fore Mawrth i fore Gwener.

  18. Mae eisteddfota’n waith blinedig!wedi ei gyhoeddi 14:44 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023

    Dyma Carwyn Jones o Aberystwyth yn cymryd munud o hoe i dorheulo yn yr haul.☀️

    Carwyn yn torheulo
  19. Cwestiynau cyflym i Alex Joneswedi ei gyhoeddi 14:30 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023

    Cwestiynau cyflym gyda'r cyflwynydd Alex Jones ar faes Eisteddfod yr Urdd 2023.

    Read More
  20. Gwydion Rhys yw enillydd y Fedal Gyfansoddi eleni 🎶👏wedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023
    Newydd dorri

    Ei ffugenw oedd 'Tannau Perfedd' - llongyfarchiadau mawr iawn!

    GwydionFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru