Crynodeb

  • Cyffro mawr ym Moduan ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd

  • Y gronfa leol wedi codi dros hanner miliwn a hynny am y tro cyntaf erioed

  • Cyngor gan y trefnwyr i wisgo'n addas yn sgil y tywydd

  • Yr ardal gyfan yn arddangos ei chroeso

  • Carafanwyr a stondinwyr yn heidio ond rhybudd i beidio gyrru ar y Maes Carafanau

  • Dros yr Aber yn ennill y Talwrn

  • Artist o Gaerdydd yn ennill y Fedal Aur am Grefft a Dylunio

  1. Hwyl fawr am y trowedi ei gyhoeddi 17:36 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Disgrifiad,

    Meinir Gwilym a Gwyneth Glyn o Pedair sy'n edrych ymlaen at gyngerdd y Pafiliwn Mawr heno

    A dyna ni am heddiw gan dîm Cymru Fyw.

    Bu'n ddiwrnod braidd yn wlyb ar y Maes ond roedd yna lot o wenu hefyd.

    Mae'n addo tywydd gwell ar gyfer gweddill yr wythnos.

    Heno noson arbennig yn y Pafiliwn yng nghwmni y grŵp Pedair a Chôr yr Eisteddfod.

    Bore fory yr Oedfa (a fydd i'w chlywed ar Radio Cymru am 1300), diwrnod arall o berfformio a chystadlu a nos yfory y Gymanfa yn y Pafiliwn Mawr a Bwncath ar Lwyfan y Maes.

    Fe fydd tîm llif byw Cymru Fyw nôl yn gynnar fore Llun.

    Diolch am eich cwmni - tan hynny hwyl fawr a joiwch y 'Steddfod!

    eisteddfod
  2. Argraffiadau ein gohebydd ar y maes ar ddiwedd dyddwedi ei gyhoeddi 17:34 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Sut ddiwrnod agoriadol yw hi wedi bod felly?

    "Ar ôl y glaw cychwynnol - a’r cawodydd o dro i dro - mae hi wedi brafio yma ym Moduan, er bod y gwynt yn eitha’ cryf o hyd," medd Iolo Cheung.

    "Mae popeth o fewn cyrraedd ac yn ddigon agos ar y maes ei hun - oni bai am ambell lecyn mwdlyd.

    "Dewch â’ch welis neu sgidiau cadarn felly am y dyddiau nesaf o leia’ - gawn ni weld a fydd y tir wedi sychu fwy erbyn hynny."

    steddfod
  3. Cythraul y cyfeilyddion tybed?wedi ei gyhoeddi 17:34 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Ydynt maen nhw yn hynod o werthfawr ymhob eisteddfod ond yn aml ddim yn cael digon o glod am eu gwaith.

    Ddydd Sul fe fyddan nhw'n brwydro yn erbyn ei gilydd - tri thîm sef Bro Edeyrnion, Bro'r Eisteddfod a Gweddill Cymru.

    Mae'r gystadleuaeth yn cael ei noddi gan Gôr Edeyrnion er cof am Manon Easter Lewis a fu farw ddiwedd Gorffennaf 2021.

    posterFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
  4. Ydi mae wedi bod yn ddiwrnod dawedi ei gyhoeddi 17:33 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Lois Gwenllian sy'n edrych yn ôl ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd gan holi rhai wnaeth fentro i'r maes heddiw.

    'Ni'n joio beth bynnag ac wedi hen arfer," medd Eisteddfodwyr ddydd Sadwrn.

    Disgrifiad,

    Y diwrnod cyntaf ar y maes

  5. Tân yn Llŷn yn ysbrydoliwedi ei gyhoeddi 17:13 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Bydd cerddoriaeth, barddoniaeth a thân yn dod ag Eisteddfod Genedlaethol 2023 yn Llŷn acEifionydd i uchafbwynt dramatig, a’r cyfan yn dechrau ar y dydd Sadwrn cyntaf.

    Mae Tân yn Llŷn yn osodiad cerfluniol sy’n tyfu yn ystod yr Eisteddfod ac yn cyrraedd uchafbwynt ar ddiwedd y Brifwyl.

    Thema Tân yn Llŷn yw heddwch a’r ffaith fod brwydro yn parhau dros heddwch hyd heddiw.

    Mae'n canolbwyntio ar ddigwyddiadau dadleuol yn un o ganolfannau'r Awyrlu Brenhinol yn 1936 a Phererindod Heddwch y Merched ddegawd ynghynt.

    Fe gafodd cynhyrchwyr, beirdd a chantorion eu hysbrydoli yn rhannol gan ddigwyddiadau Medi 1936 pan wnaeth Saunders Lewis, David John (DJ) Williams a Lewis Valentine eu ffordd i ysgol fomio’r Awyrlu a oedd newydd ei chomisiynu ym Mhenyberth ger Pwllheli.

    Mae’r digwyddiad yn dechrau gyda gorymdaith ddydd Sadwrn.

    Thema Tân yn Llŷn yw heddwch a’r ffaith fod brwydro yn parhau dros heddwch hyd heddiwFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Thema Tân yn Llŷn yw heddwch a’r ffaith fod brwydro yn parhau dros heddwch hyd heddiw

  6. Dros yr Aber yn ennill y Talwrn - etowedi ei gyhoeddi 17:08 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    BBC Radio Cymru

    Dros yr Aber yw enillwyr Ffeinal y Talwrn ar faes yr Eisteddfod, a hynny am y drydedd flynedd yn olynol.

    Y sgôr oedd Dros yr Aber 75.5, y Ffoaduriaid 75.

    Canlyniadau eraill y Talwrn:

    Tlws Coffa Dic Jones, am y gerdd orau ar un o’r mesurau caeth: Llŷr Gwyn Lewis.

    Tlws Coffa Emyr Oernant, am gân ysgafn orau’r gyfres: Iwan Rhys.

    Tlws Coffa Cledwyn Roberts, am y delyneg orau'r gyfres: Llio Maddocks.

    Bydd rownd derfynol y Talwrn i’w chlywed ar BBC Radio Cymru ar nos Sul, 6 Awst, dolen allanol.

    talwrn
    Disgrifiad o’r llun,

    Dros yr Aber- y tîm buddugol

    talwrn
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Ffoaduriaid

  7. Ateb y Galw: Betsan Moseswedi ei gyhoeddi 17:06 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    BBC Cymru Fyw

    Ar ddiwrnod cynta'r Eisteddfod dyma gyfle i ddod i 'nabod y Prif Weithredwr ychydig bach yn well. Roedd Betsan Moses yn Ateb y Galw i BBC Cymru Fyw yr wythnos hon.

    AYG
  8. 'Gobeithio bydd pobl yn dod i Bwllheli' ac ardaloedd cyfagoswedi ei gyhoeddi 17:01 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Pwllheli
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Pwllheli ac ardaloedd cyfagos yn gobeithio am wythnos brysur

    Dywed Prif Weithredwr y Brifwyl, Betsan Moses, fod yr Eisteddfod yn "fwy na dim ond y maes ei hun".

    "Dwi'n credu'r hyn sy'n bwysig i'w gofio yw nad wythnos yn unig yw'r Eisteddfod," meddai.

    "Ry'n ni'n gweithio mewn ardal am ddwy flynedd felly mae 'na weithgareddau ar hyd yr ardal am ddwy flynedd sy'n codi arian ond sy'n rhoi nôl i'r gymuned.

    "Ry'n ni hefyd yn defnyddio busnesau lleol o ran gwireddu'r maes a phob dim ac mae 'na weithwyr lleol yn gweithio gyda ni.

    "Dwi'n wir yn gobeithio bydd pobl yn dod i Bwllheli," meddai Linda Thomas, sy'n rhedeg siop Felin Fwyd yn y dref.

    "Dwi'n gobeithio bydden nhw'n dod i weld be sydd gennym ni i gynnig.

    "Mae pobl wedi mynd i gymaint o drafferth i addurno'r lle felly mae'n werth gweld a dwi'n gobeithio bod nhw yn dod i gefnogi'r siopau yma."

    Linda Thomas
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Linda Thomas yn gobeithio gweld digon o eisteddfodwyr yng nghanol Pwllheli yn ystod y dyddiau nesaf

  9. Llŷr Evans o Amlwch yn ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 16:48 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Artist o Ynys Môn sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llŷn ac Eifionydd 2023.

    Wedi'i sefydlu i hybu celf a chrefft yng Nghymru dyfarnwyd yr ysgoloriaeth i Llŷr Evans o Foelfre ger Amlwch fel yr ymgeisydd mwyaf addawol.

    Wrth ddisgrifio ei waith sy'n cael ei arddangos yn Y Lle Celf ar Faes yr Eisteddfod, dywedodd Llŷr: "Mae'r casgliad hwn yn gyfuniad o elfennau o fyd celf a ffilm i greu byd dychmygol, ond hefyd byd sydd wedi'i wreiddio mewn realiti."

    Erbyn hyn yn byw yn Llundain dechreuodd diddordeb Llŷr mewn ffotograffiaeth yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, ar ôl anogaeth gan ei athrawes Mandy Roberts.

    Dywedodd Llŷr mai hi “yw’r rheswm dwi’n tynnu lluniau heddiw”.

    llyrFfynhonnell y llun, Llyr Evans
  10. Canlyniadau Dydd Sadwrn 5 Awstwedi ei gyhoeddi 16:41 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    BBC Cymru Fyw

    Cofiwch bod gan Cymru Fyw dudalennau dyddiol yn olrhain hanes enillwyr y dydd.

    Dyma ganlyniadau Dydd Sadwrn 5 Awst a chlipiau o'r cystadlaethau.

    cor
  11. John Rowley'n ennill y Fedal Aur am Gelfyddyd Gainwedi ei gyhoeddi 16:35 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Dyfarnwyd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain i ffotograffydd ac artist gweledol o Gaerdydd yn Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd 2023.

    Yn ôl y detholwyr, Elfyn Lewis, Owein Prendergast a Junko Mori, roedd gwaith John Rowley yn "gyffrous a chwareus".

    Roedd yr artist wedi cyflwyno tri llun ohono'i hun yn gwisgo 'masgiau' yr oedd wedi'u creu yn ei gartref o ddeunyddiau bob dydd ac yna wedi tynnu lluniau ohonyn nhw a phostio'r delweddau ar gyfryngau cymdeithasol.

    llunFfynhonnell y llun, John Rowley
    llunFfynhonnell y llun, John Rowley
  12. Artist o Gaerdydd yn ennill y Fedal Aur am Grefft a Dyluniowedi ei gyhoeddi 16:29 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Artist o Gaerdydd sydd wedi ennill y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.

    Yn ôl y detholwyr, Elfyn Lewis, Owein Prendergast a Junko Mori, roedd gwaith Dan Griffiths "wedi dal y llygad".

    Dywedodd yr artist, o Bont-y-clun ac sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd, am ei waith: "Mae Chwech yn daith, yn adlewyrchiad haniaethol o'r amgylchedd adeiledig ac mae'n archwilio'r rhyng-gysylltiadau rhwng gwrthrychau, gofod a'r ddinas."

    dan griffiths
  13. Carafanwyr a stondinwyr wedi heidiowedi ei gyhoeddi 16:25 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    O fewn ychydig ddyddiau i’r ceisiadau am aros yn y Maes Carafanau agor roedd mil o safleoedd wedi’u gwerthu.

    Yn sgil y poblogrwydd mae ffermwr lleol wedi llwyddo i gael caniatâd cynllunio i leoli 350 o garafanau ar ei dir, medd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Michael Strain.

    “Nid pentre carafans ‘di hynny – ond dinas!,” meddai.

    Ychwanegodd fod pob stondin wedi’i harchebu a bod rhestr wedi bod o stondinwyr yn disgwyl yn eiddgar a fydd rhywun yn canslo.

    Michael Strain, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023
    Disgrifiad o’r llun,

    Michael Strain, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023

  14. Ww - cawod arall ond mae 'na gysgodwedi ei gyhoeddi 16:18 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Roedd hi'n ymddangos bod hi'n brafio ar faes yr Eisteddfod ond mae yna gawod arall o law newydd daro’n galed.

    Yn ffodus, mae digonedd o le i gysgodi ym mhabell y cymdeithasau Cristnogol - Cytûn - a phaned o de.

    Cytun
  15. Awyr las a chynulleidfa yn hel i Lwyfan y Maeswedi ei gyhoeddi 16:13 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Mae'n awyr las - a chyfle felly i'r eisteddfodwyr ymlacio o flaen Llwyfan y Maes.

    Llwyfan y Maes
  16. Oriel luniau o'r maes: Dydd Sadwrnwedi ei gyhoeddi 16:07 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    BBC Cymru Fyw

    Roedd hi'n dywydd garw ben bore ar ddiwrnod agoriadol yr Eisteddfod, ond fe ddaeth yr haul i'r golwg yn y prynhawn... Dyma rywfaint o'r golygfeydd ar ddiwrnod cynta'r ŵyl.

    orielFfynhonnell y llun, bbc
  17. Gwilym Plas: 'Angen cadw pobl yng nghefn gwlad'wedi ei gyhoeddi 16:01 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    "Mae'n bwysicach nag erioed cadw pobl yng nghefn gwlad," medd Gwilym Griffith, un o lywyddion anrhydeddus Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

    Wrth siarad â Cymru Fyw dywed Gwilym Plas, fel y mae'n fwyaf adnabyddus, ei fod ef wedi bod yn hynod o ffodus i dreulio ei holl fywyd ym mhentref Llwyndyrys yn Llŷn.

    "Mae'n ofid calon i mi bellach fod yna dynfa i lefydd fel Caerdydd ac yn fwy na dim fod rhai pobl ifanc methu prynu tŷ yn eu bro genedigol," meddai.

    "Dwi mor ffodus fy mod i wedi cael cyfle i aros yn y fro ar hyd fy oes, gan elwa o'i chyfoeth a chael y cyfle gyda fy ngwraig Jean i gyfrannu rywfaint hefyd."

    Daw ei sylwadau wrth i sesiwn gael ei chynnal yn yr Eisteddfod ddydd Sadwrn ar Gwmni Drama Llwyndyrys - cwmni hynod o lwyddiannus sydd wedi perfformio bron yn ddi-dor ers dros 60 mlynedd.

    Cwmni Drama LlwyndyrysFfynhonnell y llun, Richard Parry Hughes
    Disgrifiad o’r llun,

    Ddydd Sadwrn bydd sesiwn yn cael ei chynnal ar Gwmni Drama Llwyndyrys

  18. Sedd yn y pafiliwn - ond pa un?wedi ei gyhoeddi 15:52 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Eleni am y tro cyntaf mae'r cystadlu yn digwydd mewn dau bafiliwn - y Pafiliwn Mawr a'r Pafiliwn Bach.

    Mae Ann Jones, sy'n byw ynghanol Pwllheli ac yn 84 mlwydd oed wedi mynychu pob Eisteddfod Genedlaethol ers diwedd y 1970au yn ddi-dor.

    Nid yn unig mae Ann wedi bod ym mhob Eisteddfod ers dros 40 mlynedd, mae hi'n enwog hefyd am eistedd yn rhes flaen y pafiliwn o fore gwyn tan nos, bob diwrnod o'r cystadlu.

    Eleni mae hi wrth ei bodd - wrth i'r Brifwyl gyrraedd ardal ei mebyd.

    Ann Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Ann Jones o Bwllheli wedi bod yn mynychu'r Eisteddfod yn ddi-dor ers dros 40 o flynyddoedd

  19. Ai Eisteddfod Pwll-haul fydd hi erbyn diwedd yr wythnos?wedi ei gyhoeddi 15:47 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Y tro diwethaf i’r Eisteddfod gael ei chynnal ym Mhwllheli roedd hi’n cael ei hadnabod gan rai fel Eisteddfod Pwll-haul gan bod hi mor gynnes yno.

    Mae rhybudd melyn yn parhau mewn grym am wyntoedd cryfion ar gyfer heddiw wrth i Storm Antoni gyrraedd Cymru ond mae'n argoeli yn well ar gyfer diwedd yr wythnos.

    Fe allai ardaloedd mwyaf arfordirol Cymru weld hyrddiadau o 60-65 milltir yr awr hyd at 20:00 heno.

    Eisteddfod 1955Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Doedd dim angen cot yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955

  20. 'Extras' Cwmderi wedi dod i'r Maeswedi ei gyhoeddi 15:41 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Cofio rhain?

    Roedd Bet a Dawn yn arfer bod yn ‘extras’ yn y gyfres sebon Pobol y Cwm!

    Mae'r ddwy wedi dod i'r Maes heddiw - mewn dillad addas a smotiog!

    extreas