Digon i'w wneud ym mro’r Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 15:36 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023
Mae Bro’r Eisteddfod eleni yn ymestyn o Ynys Enlli yn y gorllewin at odrau’r Wyddfa ym Meddgelert yn y dwyrain, o Abergwyngregyn yn y gogledd i Benrhyndeudraeth yn y de.
Mae’r eisteddfod ei hun yn cael ei chynnal ar gaeau Plas Bodfel ym Moduan.
Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Michael Strain, mae ‘na hen ddigon i’w wneud yn yr ardal os nag ydych am fynd i eisteddfota bob dydd – mae modd crwydro strydoedd Porthmadog neu Bwllheli, mynd i draethau Porthor, Porth Ceiriad a Phorth Iago neu gerdded i gopa Garn Fadryn, Moel y Gest ac ymlwybro yng Nghwm Pennant a’r Lôn Goed.
“Dewch i grwydro’r maes, i grwydro’r fro ac i gyfarfod ei phobol: mwynhewch yr hen a phrofwch y newydd, “ meddai.