Crynodeb

  • Cyffro mawr ym Moduan ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd

  • Y gronfa leol wedi codi dros hanner miliwn a hynny am y tro cyntaf erioed

  • Cyngor gan y trefnwyr i wisgo'n addas yn sgil y tywydd

  • Yr ardal gyfan yn arddangos ei chroeso

  • Carafanwyr a stondinwyr yn heidio ond rhybudd i beidio gyrru ar y Maes Carafanau

  • Dros yr Aber yn ennill y Talwrn

  • Artist o Gaerdydd yn ennill y Fedal Aur am Grefft a Dylunio

  1. Cadw'n sych ym mhabell Merched y Wawrwedi ei gyhoeddi 11:19 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Ym Mhabell Merched y Wawr mae Gwen a Margaret o gangen Chwilog yn brysur yn gwneud paneidiau.

    Gwen ydy cogyddes orau Llŷn yn ôl yr aelodau eraill!

    MYW
  2. Betsan Moses: 'Dilynwch y cyfarwyddiadau teithio'wedi ei gyhoeddi 11:14 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Yn y gynhadledd gyntaf i'r wasg a'r cyfryngau dywedodd y Prif Weithredwr Betsan Moses, bod mwy o wirfoddolwyr nag erioed yn y 'Steddfod yma

    Fe wnaeth hi hefyd bwysleisio pwysigrwydd y “bartneriaeth“ rhwng yr Eisteddfod a’r awdurdodau er mwyn “creu lle diogel” i ymwelwyr.

    I'r rhai ohonoch sydd ar eich ffordd fe wnaeth hi bwysleisio yr angen i deithwyr ddilyn y cyfarwyddiadau.

    “Dan ni’n erfyn i bawb ddilyn yr arwyddion, peidiwch mynd ffordd arall am eich bod chi’n meddwl eich bod chi’n gwybod yn well,” meddai.

    cynhadledd
    Disgrifiad o’r llun,

    Y gynhadledd gyntaf i'r wasg a'r cyfryngau

  3. 'Gwisgwch yn gall' a bydd pob dim yn iawnwedi ei gyhoeddi 11:04 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Bydd gohebwyr Cymru Fyw ar y maes gydol yr wythnos yn dod â'r diweddaraf o Foduan.

    Dyma gyngor Iolo Cheung ar fore cyntaf y Brifwyl.

    Disgrifiad,

    Cyngor i 'wisgo'n gall' wedi glaw trwm

  4. Liz Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionnydd, yw Llywydd y Brifwylwedi ei gyhoeddi 10:55 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, yw Llywydd y Brifwyl eleni ac fe fydd yn siarad brynhawn Sadwrn o lwyfan y pafiliwn mawr.

    Wedi byw ym Mhen Llŷn ers 1993, Liz oedd AS benywaidd cyntaf Plaid Cymru pan gafodd ei hethol yn 2015, a hi bellach yw Arweinydd Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan.

    Mae hi hefyd yn un o feirniaid cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni.

    Yn wreiddiol o Lundain, fe wnaeth Ms Roberts ddysgu Cymraeg tra ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan dreulio cyfnod fel darlithydd addysg bellach gyda Choleg Meirion Dwyfor, lle bu'n datblygu addysg Gymraeg.

    Nid dyma'r tro cyntaf i aelod o Blaid Cymru gymryd yr awenau, gyda'r AS Ben Lake yn Llywydd y llynedd.

    Mae Cymry amlwg eraill wedi bod yn llywyddion yr Ŵyl dros y blynyddoedd, gan gynnwys y cyflwynydd a'r DJ, Huw Stephens, yr hanesydd Elin Jones a chyn-reolwr cynorthwyol tîm pêl-droed dynion Cymru, Osian Roberts.

    liz SR
  5. Cymylog ond lliwgarwedi ei gyhoeddi 10:50 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Dyma i chi gipolwg o'r Maes.

    Fe fydd yr Orsedd yn gobeithio ymgynnull o gwmpas cerrig yr Orsedd am y tro cyntaf fore Llun wrth i aelodau newydd gael eu hurddo.

    Hon yw Eisteddfod olaf yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd - fe fydd yn cael ei holi ar raglen Bore Sul, Radio Cymru bore fory am 8.

    cymylog
  6. Gobeithio na fydd angen cychod!wedi ei gyhoeddi 10:44 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Gyda'r arolygon tywydd yn awgrymu y bydd y glaw yn stopio ar ôl cinio ry'n ni'n gobeithio na fydd angen cychod ar y maes!

    rnli
  7. ‘Beth am annog un person newydd?’wedi ei gyhoeddi 10:40 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Dywed Llywydd Llys yr Eisteddfod fod ganddo un apêl ar ddechrau’r Brifwyl.

    “Dwi am i chi sicrhau eich bod chi’n annog o leiaf un person, sy’n newydd i brofiad ein Heisteddfod Genedlaethol, i ddod atom ni i’r Maes am y tro cyntaf.”

    Bydd Seremoni Agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd am 12.50 pan fydd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Michael Strain ac Ashok Ahir, Llywydd y Llys, yn croesawu pobl yn swyddogol i’r Brifwyl.

    croeso
  8. Sut mae cyrraedd y maes?wedi ei gyhoeddi 10:33 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Os yn bosib, mae pobl yn cael eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y maes, er mwyn lleihau tagfeydd yn yr ardal ac er budd yr amgylchedd.

    Mae gofyn hefyd i bobl drefnu eu cludiant adref o flaen llaw er mwyn cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel.

    Os ydych chi'n gyrru i'r maes eleni bydd angen i chi ddilyn yr arwyddion 'Eisteddfod' melyn.

    Os yn teithio o gyfeiriad y de ar yr A497 (cyfeiriad Porthmadog) bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar y B4354 ar gylchfan Afon wen, gan deithio drwy Chwilog i'r Ffôr.

    Bydd angen parhau ar hyd y B4354 tan y gyffordd gyda'r A497 lle mae angen troi i'r chwith, ac yna dilynwch y ffordd tan i chi gyrraedd y maes parcio.

    Os yn teithio o gyfeiriad y dwyrain ar yr A499 (cyfeiriad Caernarfon) bydd angen dilyn yr A499 i bentref Y Ffôr, cyn troi'r dde ger y goleuadau dros dro yng nghanol y pentref.

    Bydd angen parhau ar hyd y B4354 tan y gyffordd gyda'r A497, ac yna dilynwch y ffordd tan i chi gyrraedd y maes parcio.

    Os yn teithio o Benrhyn Llŷn, dilynwch y cyfarwyddiadau a'r arwyddion lleol wrth i chi eu cyrraedd.

    Bydd rhai ffyrdd lleol wedi'u cau dros gyfnod yr ŵyl.

    teithioFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
  9. 'Mae'n faes anhygoel ac yn sychu'n gyflym'wedi ei gyhoeddi 10:25 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Oherwydd costau byw uwch, dywed y Prif Weithredwr, Betsan Moses, fod rhai newidiadau wedi eu cyflwyno eleni ond bod y maes yn "teimlo'r un peth ag arfer".

    Mae'n faes "anhygoel", meddai.

    "Ar waetha'r glaw mae'n faes sy'n sychu'n gyflym iawn. Mae'n faes agored a'r tir o fewn ychydig oriau yn gallu sychu.

    "Felly, pan gawn ni law, fe fydd y maes yn sychu yn gloi."

    Ddydd Gwener roedd Betsan Moses a Gwenllian Carr, Cyfarwyddwr Strategol y Brifwyl, yn hapus wrth i Brifwyl Llŷn ac Eifionydd gyrraedd ei phenllanw.

    Betsan a GwenllianFfynhonnell y llun, Tegwen Morris
    Disgrifiad o’r llun,

    Betsan Moses a Gwenllian Carr ar y Maes ddydd Gwener

  10. Paratoadau munud olaf wedi dod 'at ei gilydd'wedi ei gyhoeddi 10:16 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Nia Gwyndaf a'r criwFfynhonnell y llun, Tegwen Morris

    Mae'r gwaith mawr ar gyfer yr Eisteddfod wedi digwydd ers tro ac yn ystod y dyddiau diwethaf mae stiwardiaid a stondinwyr wedi bod wrthi yn brysur yn gwneud y paratoadau munud olaf.

    "Mae'r cyfan wedi dod at ei gilydd yn dda," medd y Prif Weithredwr Betsan Moses.

    Dyma rai a oedd yn prysur baratoi brynhawn Gwener cyn yr wythnos fawr.

    Mari HefinFfynhonnell y llun, Tegwen Morris
  11. Gwyn Eiddior yn barod amdaniwedi ei gyhoeddi 10:13 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Brodor o Eifionydd, Gwyn Eiddior, sydd wedi bod yn gwneud lot o'r gwaith o baratoi'r maes ac mae'n barod am yr wythnos sydd o'i flaen.

    gwyn
  12. Dŵr mewn mannau ond modd ei osgoiwedi ei gyhoeddi 10:08 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Dwr

    Mae 'na ddŵr mewn mannau - ond mae modd ei osgoi ac mae yna ddigon o bethau i godi calon ar y Maes.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Cofiwch am Ap yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 09:59 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi trydar i atgoffa bod ap yr Eisteddfod ar gael i'w lawrlwytho, gyda gwybodaeth am 'holl ddigwyddiadau a chystadlaethau i drefnu eich wythnos'.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Y toiledau yn lân a thacluswedi ei gyhoeddi 09:55 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Efallai nad yw'r llwybr at y toiledau yn wych ond mae'r toliedau yn lân a thaclus, medd un o ohebwyr Cymru Fyw.

    Mae 'na ddigon ohonyn nhw hefyd, mae'n debyg! Dim angen poeni eto!

    toiledau
  15. Traciau solet - cerdded o gwmpas yn rhwyddwedi ei gyhoeddi 09:46 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Mae traciau solet wedi cael eu gosod ar hyd prif lwybrau’r maes, sy’n gwneud cerdded o gwmpas yn ddigon rhwydd, medd Iolo Cheung ein gohebydd ar y Maes.

    Ond oddi ar y llwybrau hynny, mae’r maes yn hynod o wlyb ac yn golygu bod rhaid cerdded drwy’r dŵr i gyrraedd rhai o’r pebyll a safleoedd ar yr ymylon.

    Ond mae’r gwynt a’r glaw wedi gostegu rywfaint - croesi bysedd y bydd hynny’n para!

    traciau
  16. Ciwio am docynnauwedi ei gyhoeddi 09:38 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Mae yna giw am docynnau wrth i'r Brifwyl agor yn swyddogol fore Sadwrn.

    Y cyngor yw gwisgwch yn addas fel yr eisteddfodwyr yma!!!

    ciw
  17. Y maes 'yn sych mewn cwpl o oriau' - dewich i'r Maeswedi ei gyhoeddi 09:29 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Elen Elis ydy Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Mae 'na bach o law ond dwi wedi checio'r tywydd ac mae'r haul yn dod allan yn y p'nawn," meddai ar Dros Frecwast.

    "Felly gwisgwch yn gall, dyrwch eich wellies ymlaen a dowch i'r Maes!

    "'Da ni wedi cael bach o law yn y pythefnos diwetha.. ond [mae'r maes] yn sychu o fewn cwpwl o oriau, mae'n sychu'n arbennig o dda yma sy'n rywbeth calonogol."

    tywydd
  18. Glaw yn Maes y Carafanauwedi ei gyhoeddi 09:24 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Llun'r o Maes carafanau cae C y bore 'ma. Does dim traffig mawr i'w weld ond mae hi'n wlyb iawn dan droed.

    carafan
  19. Glaw ar y maes bore 'mawedi ei gyhoeddi 09:14 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Mae hi’n wlyb iawn ar faes yr Eisteddfod bore 'ma, yn enwedig ger y brif fynedfa, yn dilyn glaw trwm dros nos.

    Mae’r llwybr sy’n cludo pobl i’r maes carafanau hefyd yn mynd heibio’r fynedfa, felly er bod traciau i lawr ar eu cyfer mae’n ddigon mwdlyd yn barod.

    Cofiwch eich welintons neu sgidiau cadarn felly os ydych chi’n dod i’r Brifwyl heddiw - fe fyddan nhw’n angenrheidiol!

    tywydd
  20. Croeso i Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionyddwedi ei gyhoeddi 09:13 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Mae’n ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

    Roedd yr eisteddfod i fod i’w chynnal yn wreiddiol yn 2021 ond yn sgil Covid fe gafodd Eisteddfodau Ceredigion a Llŷn ac Eifionydd eu gohirio.

    Eisoes mae digon o gyffro ar y maes er gwaetha'r glaw dros nos.

    Mae gohebwyr Cymru Fyw ym Moduan gydol yr wythnos ac mae'n braf cael eich cwmni.

    Eisteddfod