Crynodeb

  • Cyffro mawr ym Moduan ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd

  • Y gronfa leol wedi codi dros hanner miliwn a hynny am y tro cyntaf erioed

  • Cyngor gan y trefnwyr i wisgo'n addas yn sgil y tywydd

  • Yr ardal gyfan yn arddangos ei chroeso

  • Carafanwyr a stondinwyr yn heidio ond rhybudd i beidio gyrru ar y Maes Carafanau

  • Dros yr Aber yn ennill y Talwrn

  • Artist o Gaerdydd yn ennill y Fedal Aur am Grefft a Dylunio

  1. Seremoni Agoriadol: 'Diolch i'r gwirfoddolwyr'wedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Seremoni Agoriadol
    Disgrifiad o’r llun,

    Ashok Ahir, Llywydd y Llys

    Yn annerch y gynulleidfa yn y Seremoni Agoriadol roedd Ashok Ahir, Llywydd y Llys a Liz Saville Roberts AS, Llywydd yr Ŵyl.

    Wrth estyn croeso i bawb i'r Eisteddfod, fe wnaeth Michael Strain, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith ddiolch i'r holl wirfoddolwyr sydd wedi codi arian er mwyn cynnal yr ŵyl yn ardal Llŷn ac Eifionydd.

    Liz Saville Roberts
    Disgrifiad o’r llun,

    Liz Saville Roberts AS, Llywydd yr Ŵyl

  2. 'Tro cyntaf yn yr Eisteddfod ac wrth fy modd'wedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Mae Vicky Edmonds a ymddangosodd ar Gogglebocs Cymru yn gwirfoddoli yn yr Eisteddfod ac fel dysgwr mae hi’n mwynhau cael ei throchi yn y Gymraeg.

    Dyma’r tro cyntaf iddi ddod i’r Eisteddfod Genedlaethol ac mae hi wrth ei bodd yng nghanol cyffro a bwrlwm yr Eisteddfod.

    “Mae gen i wythnos sbâr, a dwi eisiau gwella fy Nghymraeg.

    “Mae pawb yn siarad Cymraeg yma ac roedd o’n benderfyniad gwych i ddod,” meddai.

    Vicky Edmonds
  3. Dewch i Lŷnwedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    BoduanFfynhonnell y llun, Dot Tyne

    Gruffudd Owen yw awdur y cywydd croeso ac meddai:

    ‘ein gwlad wâr sydd am gael dos

    o fedd-dod Eisteddfodol!

    Dewch i Lŷn, a dewch â’ch lol!’

    Gruff Owen oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2019-21 ac mae’n dod yn wreiddiol o Bwllheli.

    Yn 2009, enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd ac yn 2018 enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol eto ym Mae Caerdydd.

    Rhwng nos Lun a nos Iau yr Eisteddfod fe fydd y ddrama ‘Parti Priodas’ o waith Gruff Owen i’w gweld yng Nghaffi Maes B.

    ArwyddFfynhonnell y llun, Dot Tyne
  4. Joio ym Moduan a'r glaw wedi stopiowedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Ydi mae'n ddiwrnod welis, cotiau lliwgar a sbectol haul i rai.

    Mae Nicola ac Aled Griffiths a’u plant Betsi ac Abon o Benrhyndeudraeth yn joio ac yn ôl yr adroddiadau diweddara' mae hi wedi stopio bwrw glaw!

    nicola, Aled a'r teulu
  5. Mae'n ddiwrnod Ffeinal y Talwrn!wedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    BBC Radio Cymru

    Talwrn

    Pwy fydd pencampwyr Y Talwrn eleni?

    Am 14:45 yn y Babell Lên fe fydd Dros yr Aber yn wynebu Y Ffoaduriaid.

    Fe fydd y rhaglen i'w chlywed ar Radio Cymru nos Sul am19:00.

    Talwrn
  6. Teithio ar fws?wedi ei gyhoeddi 12:46 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Bydd bws gwennol yn rhedeg o Bwllheli i Faes yr Eisteddfod o 08:30 tan 23:00.

    Yn ogystal, bydd modd dal bysiau cyhoeddus rhif 3, 12 ac 8 er mwyn cyrraedd y maes.

    Yn achos bysiau rhif 3 a 12, bydd gofyn i deithwyr newid ym Mhwllheli er mwyn dal un o'r bysiau gwennol.

    Mae'r amserlenni bws i gyd ar gael yn llawn ar wefan Cyngor Gwynedd, dolen allanol.

    Bydd tri gwasanaeth bws ychwanegol un-ffordd yn gadael Maes yr Eisteddfod am 23:00 i fynd i Nefyn, Porthmadog a Chaernarfon.

    Bydd y bysiau hyn yn stopio mewn llochesi bws swyddogol y cyngor yn unig ar hyd y ffordd, ac mae'n rhaid archebu eich lle o flaenllaw.

    Bydd safle tacsi pwrpasol wrth brif fynedfa'r Eisteddfod.

    Dim ond cwmnïau tacsi sydd wedi cofrestru gyda threfnwyr yr Eisteddfod o flaen llaw fydd â hawl i fod ar y safle.

    Roedd yna adroddiadau fore Sadwrn ar y cyfryngau cymdeithasol bod angen arian parod i dalu am fws gwennol.

    croeso
  7. Corau ar lwyfan y Pafiliwnwedi ei gyhoeddi 12:39 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Cystadleuaeth Gorawl Eisteddfodau Cymru

    Côr BuAnn, sy'n lleol i ardal yr Eisteddfod, yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Gorawl Eisteddfodau Cymru.

    Gwyliwch y cystadlu ar iPlayer neu S4C Clic, dolen allanol.

    Sedd yn y Pafiliwn
    Sedd yn y Pafiliwn
    Sedd yn y Pafiliwn
  8. Mwy am y llywyddion anrhydedduswedi ei gyhoeddi 12:29 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Mae Gwilym H Griffith ynadroddwr a chynhyrchydd drama o Lwyndyrys ac yn cael ei adnabod fel Gwilym Plas. Hyfforddodd, gyda Jean ei wraig, sawl cenhedlaeth o lefarwyr. Yn 2005 enillodd Fedal Goffa Syr TH Parry-Williams.

    Bu Ken Hughes yn bennaeth ar Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog am dros ugain mlynedd. Fe arweiniodd y tîm lleol yng Ngŵyl Gerdd Dant 2016, mae wedi cyfarwyddo sioe blant i’r Urdd ynghyd â chefnogi Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd. Cafodd Cymru gyfan gyfle i ddod i’w adnabod yn y rhaglen ddogfen Ken Hughes yn 'Cadw ni Fynd’ a oedd yn seiliedig ar ei ddyddiadur fideo yn ystod y cyfnod clo.

    Sefydlodd Carys Jones Aelwyd Chwilog ar y cyd â Pat Jones. Cerdd Dant yw maes Carys, ac mae wedi arwain sawl parti – yn eu plith Parti y Lôn Goed, a Chwiban, ac mae wedi rhoi gwersi canu i nifer o blant. Derbyniodd Dlws Coffa John a Ceridwen Hughes yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Y Bala yn 2014 am ei chyfraniad i’w hardal.

    Esyllt Maelor oedd enillydd y goron yn Nhregaron y llynedd. Bu’n ddisgybl yn Ysgol Abersoch, Sarn Bach a Botwnnog ac yn ddiweddarach bu’n athrawes Gymraeg ym Motwnnog gan annog nifer iawn o ddisgyblion i fynd ati i ysgrifennu. Mae’n credu fod yna “sgwennwr ymhob plentyn” ac mae’n ymfalchïo yn llwyddiannau ei chyn-ddisgyblion sydd wedi dal ati i ysgrifennu a chyfrannu i’w cymunedau.

    Mae Rhian Parry yn un o leisiau amlycaf y byd llefaru yng Nghymru. Mae’n hyfforddi unigolion a phartïon llefaru, ac fe sefydlodd gôr llefaru Genod Llŷn, sy’n cystadlu’n rheolaidd ers bron i ugain mlynedd. Mae’n feirniad cenedlaethol, yn arweinydd llwyfan yn y Pafiliwn, ac yn gyn-enillydd Gwobr Llwyd o’r Bryn a Gwobr Goffa'r Fonesig Ruth Herbert Lewis ar lwyfan y Brifwyl.

    Ken Hughes
    Disgrifiad o’r llun,

    Bu Ken Hughes yn bennaeth ar Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog am dros ugain mlynedd

  9. Enwau caeau'r Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 12:24 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Facebook

    Ar Facebook mae Guto Dafydd wedi nodi, dolen allanol enwau caeau Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, fel roedden nhw yn 1841, ar sail Mapiau’r Degwm, (Y Llyfrgell Genedlaethol).

    Mae Maes B yn ymyl cae Gors!

    caeauFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol
  10. Does dim rhaid digalonni - mae digon o gyffro a lliw ar y Maes!wedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Eisiau ychydig o liw ar ddydd Sadwrn go lwydaidd?

    Mae’r fuwch yma’n sicr wedi mynd i hwyl yr ŵyl!

    buwch
  11. Paned i g'nesu wedi ymarfer y Gymanfawedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Mae Marian Hanson o Felinheli ac Eurwen Williams o Gaernarfon wedi bod yn ymarfer canu yn nghôr y Gymanfa bore 'ma ac am fynd am dro o amgylch y maes nes mlaen ar ôl cael paned i g’nesu.

    Mae'r Gymanfa yn y Pafiliwn Mawr nos fory a'r arweinydd fydd Pat Jones o Chwilog.

    paned
  12. Cydnabod cyfraniad unigolion allweddolwedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Yn y seremoni agoriadol toc cyn 13:00 bydd sylw i lywyddion anrhydeddus yr Eisteddfod eleni – sef Gwilym H Griffith, Ken Hughes, Carys Jones, Esyllt Maelor a Rhian Parry.

    Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod ei bod yn “bwysig cydnabod cyfraniad unigolion allweddol i ddiwylliant bro’r Eisteddfod. 

    “Dyma bobl sy’n gweithio’n ddiflino drwy’r amser, os yw Eisteddfod ar y gorwel ai peidio.  Heb y bobl yma, byddai’r ardal yn dipyn tlotach ei diwylliant.”

    Esyllt Maelor
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Prifardd Esyllt Maelor yn un o'r llywyddion anrhydeddus eleni

  13. Sedd yn y Pafiliwnwedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Gwyliwch y cystadlu'n fyw.

    Mae'r cystadlu wedi dechrau yn y Pafiliwn!

    Gwyliwch y cyfan yn ddi-dor ar iPlayer neu S4C Clic, dolen allanol.

    Sedd yn y Pafiliwn
  14. Rhybudd i'r rhai ar y Maes Carafanau i beidio gyrru ar y caewedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Mae yna adroddiadau bod rhai ar y maes carafanau wedi bod yn gyrru eu ceir at y bloc cawodydd gan wneud mwy o lanast i'r cae na mae'r tywydd wedi'i wneud.

    Dyma ymateb y prif Weithredwr, Betsan Moses, i'r honiadau hynny,

  15. Methu mynd? Beth am wrando ar arlwy Radio Cymru o'r Brifwyl am 12wedi ei gyhoeddi 11:51 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    BBC Radio Cymru

    Mae’n ddrwg gennym, rydym yn cael trafferth dangos y cynnwys hwn.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
  16. Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith: 'Diolch am waith caled a brwdfrydedd'wedi ei gyhoeddi 11:48 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Mae cadeirydd y pwyllgor gwaith, Michael Strain yn rhoi clod i’r holl bobl sydd wedi gweithio’n galed i sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer yr Eisteddfod eleni.

    Mae’n dweud hefyd bod y “brwdfrydedd” ymhlith pobl oedd yn cyrraedd y bore ‘ma yn amlwg, er gwaethaf y tywydd anffafriol.

    StrainFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith eleni yw'r cyfreithiwr lleol Michael Strain

  17. A fydd mynediad am ddim flwyddyn nesaf yn Rhondda Cynon Taf?wedi ei gyhoeddi 11:44 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o gefnogaeth ariannol i’r Eisteddfod, gan gynnwys ystyried mynediad am ddim unwaith eto i’r ŵyl yn Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf, fel a gafwyd yng Nghaerdydd yn 2018.

    Mewn ymateb dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses bod trafodaeth “barhaus” yn digwydd gyda’r llywodraeth am gostau.

    Pwysleisiodd hefyd mai’r flaenoriaeth oedd ceisio sicrhau cynlluniau fel mynediad am ddim i deuluoedd incwm isel, fel sy’n digwydd eleni, yn hytrach na Phrifwyl arall yn y de am ddim.

    “O ran tegwch, pam nad yw Gwynedd yn cael Eisteddfod am ddim, pam nad yw Wrecsam yn cael Eisteddfod am ddim?” meddai.

    steddfod
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae trafodaeth barhaus am gostau'r Brifwyl, medd y Prif Weithredwr Betsan Moses

  18. Stondinau'n agor ac yn gysgodwedi ei gyhoeddi 11:31 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Mae’r rhan fwyaf o stondinau’r maes wedi agor bellach.

    A gyda’r gwynt a'r glaw yn mynd a dod, maen nhw’n hynod ddefnyddiol ar gyfer cynnig lloches i’r Eisteddfodwyr sydd eisoes wedi cyrraedd y maes.

    stondinau
  19. Dim Treantur heddiw oherwydd y tywyddwedi ei gyhoeddi 11:30 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Bydd digon o weithgareddau i'r plant yn yr Eisteddfod gydol yr wythnos ond fydd yna ddim Treantur heddiw yn sgil y glaw.

    Na hidiwch - fe fydd ar agor fory ac mae'n addo tywydd gwell!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Cyngor Gwynedd yn falch o groesawu'r Brifwylwedi ei gyhoeddi 11:26 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2023

    Cyngor Gwynedd

    Mae arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn wedi croesawu’r Eisteddfod i’r sir “hardd” hon.

    “Mae’r Eisteddfod yn creu bwrlwm cymunedol… ac maen nhw’n falch o’i chael hi yma,” meddai.

    “Mae’n codi gwên arna i weld y baneri ar hyd y daith [i Foduan].”

    Mae’n ychwanegu y dylai cystadleuaeth fod i ddewis yr arwydd gorau, gan ganmol un y tu allan i Lanystumdwy sy’n dweud ‘can croeso i’r henfro hon’.

    Dyfrig Siencyn
    Disgrifiad o’r llun,

    'Mae croeso brwd i'r Eisteddfod,' medd Dyfrig Siencyn (ail o'r chwith)