Crynodeb

  • Rhys Iorwerth yn ennill y Goron o blith 42 o gystadleuwyr

  • Cyflwyno Medal TH Parry-Williams i Geraint Jones

  • Urddo enillwyr Eisteddfod Ceredigion 2022 ac Eisteddfod yr Urdd

  • Dim Theatr y Maes ond perfformiadau theatrig ar draws y Brifwyl

  • Gwerthfawrogi cyfraniad Alan Llwyd a Wil Sam

  1. Diolch am ddilyn - dewch yn ôl atom ni yfory!wedi ei gyhoeddi 18:21 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Dyna ni o'r maes ar lif byw Cymru Fyw am heddiw.

    Cofiwch ddod 'nôl yfory wrth i ni ddilyn holl ddigwyddiadau dydd Mawrth ym Moduan - gan obeithio am ddiwrnod braf arall 😎👋

    Maes yr Eisteddfod ym Moduan
  2. 'Steddfod a hanner i deulu Rhys Iorwerth!wedi ei gyhoeddi 18:19 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Roedd hi'n ddiwrnod a hanner i deulu Rhys Iorwerth, medd ei wraig Siwan.

    Bore 'ma cafodd ei rieni-yng-nghyfaith eu hurddo, sef Marian a Hywel Edwards.

    Roedd y ddau ar y llwyfan pan gafodd Rhys ei goroni a'r teulu'n falch iawn.

  3. 'Nes i fwynhau o ond roedd y pili palas yn dal yn y bol!'wedi ei gyhoeddi 18:15 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Disgrifiad,

    Rhys Iorwerth sy'n siarad â BBC Cymru Fyw ar ôl ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

  4. Oedi yn y maes parcio wrth geisio gadael Boduanwedi ei gyhoeddi 18:12 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Mae adroddiadau o bobl yn wynebu oedi wrth geisio gadael y maes parcio ym Moduan.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter

    Un sydd wedi rhannu neges ar y cyfryngau cymdeithasol yw Cynghorydd Plaid Cymru yng Nglantwymyn, Elwyn Vaughan.

    Dywedodd ei fod wedi bod yn aros am awr "heb symud dim".

  5. Noson o ddawnsio! 🎪wedi ei gyhoeddi 17:56 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Dyma’r tro cyntaf i’r Eisteddfod gael Pafiliwn Mawr a Phafiliwn Bach – yn y Pafiliwn Mawr heno y cystadlaethau dawnsio fydd yn hawlio’r sylw.

    Pafiliwn Mawr
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe fydd y dawnsio'n digwydd yn y Pafiliwn Mawr heno!

    Ar ddiwedd y noson fe fydd Twmpath yn y pafiliwn – mae’r twmpath yn rhan o ddathliadau prosiect Twmpdaith sy’n bartneriaeth rhwng Menter iaith Maldwyn, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Cwlwm Celtaidd a gweithwyr llawrydd o’r byd dawns.

  6. Rhys Iorwerth yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionyddwedi ei gyhoeddi 17:29 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023
    Newydd dorri

    Rhys Iorwerth

    Daeth y bardd o Gaernarfon i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 42 o geisiadau.

    Ar ôl byw a gweithio yng Nghaerdydd, erbyn hyn, mae Rhys yn gyfieithydd ac yn awdur llawrydd yn ôl yn nhref ei fagwraeth yng Nghaernarfon.

    Dan y ffugenw Gregor, fe ddywedodd y beirniaid Jason Walford Davies, Elinor Wyn Reynolds a Marged Haycock, mai ef oedd "crefftwr gorau’r gystadleuaeth".

    Rhys Iorwerth
  7. Mae teilyngdod yn Seremoni'r Coroniwedi ei gyhoeddi 17:27 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023
    Newydd dorri

    Dyma enillydd Y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd

    Coron
  8. Y feirniadaeth yn cael ei thraddodi... a fydd teilyngdod?wedi ei gyhoeddi 17:13 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Jason Walford Davies sydd yn traddodi'r feirniadaeth, ar ran ei gyd-feirniaid, Elinor Wyn Reynolds a Marged Haycock.

    I'ch atgoffa, y gofyn i ymgeiswyr eleni oedd cyflwyno pryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd.

  9. Myrddin ap Dafydd yn agor y seremoniwedi ei gyhoeddi 17:07 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Archdderwydd

    Mae'r cyrn gwlad wedi eu canu.

    Cyrn gwlad
  10. Y Lôn Goed yn ysbrydoliaeth wrth greu’r Goronwedi ei gyhoeddi 16:56 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Mae Seremoni'r Coroni bellach wedi dechrau.

    Y goronFfynhonnell y llun, Ffotonant

    Roedd y Lôn Goed - y llwybr hanesyddol pwysig ger Chwilog sy'n ffinio Llŷn ac Eifionydd, ac a gafodd ei hanfarwoli yn y gerdd Eifionydd gan R. Williams Parry - yn ysbrydoliaeth i Elin Mair Roberts.

    Fe ddefnyddiodd Elin ffiniau'r Lôn Goed fel sail i'r goron o arian.

    Mae penwisg y goron o ddeunydd gwyrdd yn adlewyrchu "cyfoeth tir yr ardal" ac yn rhan ohoni hefyd mae cennin pedr o aur melyn 18ct.

    Mae'r dyluniad hefyd yn adlewyrchu'r "ffiniau rhwng ffermydd a thiroedd, yn ogystal â'r gwrychoedd a'r waliau cerrig a welir yn draddodiadol yn ardaloedd yr Eisteddfod", medd Ms Roberts.

    Mae'r Goron yn cael ei noddi gan Gangen Sir Gaernarfon Undeb Amaethwyr Cymru, a theulu Bryn Bodfel, Rhydyclafdy sy'n rhoi'r wobr ariannol o £750, er cof am Griffith Wynne.

  11. Mae'r Pafiliwn Mawr yn orlawn wrth aros i'r seremoni ddechrauwedi ei gyhoeddi 16:45 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Pafiliwn

    Llwyddo o drwch blewyn i ddod o hyd i sedd i bawb sydd yn ceisio mynd i mewn ar gyfer seremoni’r Coroni y mae'r swyddogion.

    Mae’r pafiliwn yn hollol llawn.

  12. A fydd teilyngdod yn Seremoni’r Coroni?wedi ei gyhoeddi 16:34 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Y goronFfynhonnell y llun, Ffotonant

    Prif Seremoni ddydd Llun yw’r Coroni ac mae ar fin dechrau.

    Roedd gofyn i ymgeiswyr gyflwyno pryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd.

    'Rhyddid' oedd y testun gosod a'r beirniaid eleni yw Jason Walford Davies, Marged Haycock ac Elinor Wyn Reynolds.

    Y cynhyrchydd gemwaith Elin Mair Roberts o'r Ffôr, ger Pwllheli, sydd wedi creu'r goron eleni.

  13. Cwrdd â ffrindiau newydd ar y maeswedi ei gyhoeddi 16:30 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Gwerfyl a Dwynwen o Ddolgellau wedi dod yma ar y tren ac Alun o Landaf yn aros mewn carafan yn Chwilog. Y ddwy wedi cyfarfod Alun drwy rannu bwrdd ar y maes!

    cwrdd
  14. Mared Williams yn canu ar y maeswedi ei gyhoeddi 16:21 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Mae'r artist Mared Williams yn sgwrsio a pherfformio ar y maes prynhawn 'ma.

    Mae seren Branwen:Dadeni yn perfformio ym mhabell Encore am 17:00.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Dim mynediad i rieni!wedi ei gyhoeddi 16:15 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Mae 'na ardal i blant yn unig ar y maes eleni: Treantur.

    Mae hi'n brysur iawn - er nad oes neb heblaw y plant yn gwybod pa ddrygioni sy’n mynd ymlaen tu draw i’r ffens...

    Treantur, ardal i blant ar faes yr Eisteddfod
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr unig reol yn Nhreantur ydy i gael hwyl

  16. Perfformiad o ddrama 'Yr Hogyn Pren' yn denu niferwedi ei gyhoeddi 16:08 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Deirgwaith y dydd, mae ‘na berfformiad o ddrama fer ‘Yr Hogyn Pren’ gan Theatr Genedlaethol Cymru’n cael ei chynnal ar y maes.

    Mae’r sioe byped wedi ei selio ar y gerdd gan I.D. Hooson, ac yn digwydd mewn sawl lleoliad yn ystod yr wythnos.

    Roedd ‘na ddigon yn gwylio yn y Pentref Plant y prynhawn yma.

    Perfformiad Yr Hogyn Pren
    Disgrifiad o’r llun,

    Perfformiad Yr Hogyn Pren

  17. Ymgyrchu 'hollbwysig' gan ferched dros yr iaithwedi ei gyhoeddi 16:05 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Ym mhabell Cymdeithas yr Iaith heddiw, fe wnaeth rhai ymgyrchwyr drafod eu profiadau fel merched o fewn y Gymdeithas.

    Yn eu plith oedd Angharad Tomos ac Enfys Llwyd, sydd wedi treulio amser yn y carchar dros yr iaith.

    Panelwyr Merched Peryglus ym mhabell Cymdeithas yr IaithFfynhonnell y llun, CYMDEITHAS YR IAITH
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd y sgwrs yn rhagflaenu lansiad cyfrol ‘Merched Peryglus’ yn hwyrach eleni.

    Fe ddywedodd un o'r panelwyr ei bod hi'n "anodd y dyddiau hyn i aelodau'r Gymdeithas ddychmygu bod amser pan nad oedd cydraddoldeb rhwng merched a dynion wrth ymgyrchu, a bod merched yn tueddu i ddiflannu unwaith roedden nhw wedi cael plant".

    "Dyw lleisiau merched ddim wastad wedi eu clywed tu fewn na tu fas i'r mudiad," ychwanegodd Siân Howys.

    "Mae cyfoeth profiadau merched ym mrwydr yr iaith yn eang ac yn llawn angerdd."

  18. Mae'n dal yn braf ym Moduan!wedi ei gyhoeddi 15:58 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Maes Boduan

  19. 'Cwympo'n ôl mewn cariad efo'r iaith' ym Mhontypriddwedi ei gyhoeddi 15:54 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Mae prif weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn gobeithio i ddyfodiad y Brifwyl i'r sir achosi i bobl leol "gwympo'n ôl mewn cariad gyda'r iaith".

    Osian Rowlands ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Prif Weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, Osian Rowlands

    Fe ddywedodd Osian Rowlands wrth raglen Post Prynhawn ei fod yn gobeithio i bobl leol ddefnyddio'r Gymraeg sydd ganddyn nhw a bod yn falch ohoni:

    "Bo' ni ddim yn clywed y frawddeg, 'my Welsh isn't good enough'".

    "Gobeithio y bydd y Gymraeg yn fwy gweladwy nid yn unig ym Mhontypridd, ond hefyd mewn trefi fel Tonypandy, lan yn Nhreorci, yn Aberpennar, yn Aberdar.

    "Dw i'n gobeithio'n fawr bydd pobl pob ardal o'r sir yn teimlo perchnogaeth a bod yr Eisteddfod wedi cael effaith bositif arnyn nhw."

    Fe gyhoeddwyd y bore 'ma mai Pontypridd fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol 2024.

  20. Ciwio ar gyfer y Coroniwedi ei gyhoeddi 15:50 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Gyda 40 munud i fynd nes seremoni’r Coroni mae ‘na giw eiddgar o bobl yn aros i fynd i mewn i’r Pafiliwn Mawr. A fydd lle iddyn nhw i gyd?

    pafiliwn