Crynodeb

  • Rhys Iorwerth yn ennill y Goron o blith 42 o gystadleuwyr

  • Cyflwyno Medal TH Parry-Williams i Geraint Jones

  • Urddo enillwyr Eisteddfod Ceredigion 2022 ac Eisteddfod yr Urdd

  • Dim Theatr y Maes ond perfformiadau theatrig ar draws y Brifwyl

  • Gwerthfawrogi cyfraniad Alan Llwyd a Wil Sam

  1. Am fod yn un o wyddonwyr y dyfodol?wedi ei gyhoeddi 11:08 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Bore ‘ma, mae cyfle i wyddonwyr ifanc fagu sgiliau tîm yn yr Her Hanner Awr yn y pentref gwyddoniaeth.

    Yn y gystadleuaeth i blant ysgol gynradd bydd angen canfod cod i agor blwch cyn i’r amser ddod i ben.

    Y dasg i’r criw hŷn yw adeiladu teclyn i ddringo peipen lefn a hynny yn erbyn y cloc.

  2. Urddo aelodau newydd yr Orseddwedi ei gyhoeddi 11:05 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Mae’r rheiny sy’n cael eu hurddo i’r Orsedd heddiw yn dod ymlaen i gael eu cyfarch fesul un.

    orseddFfynhonnell y llun, bbc

    Yn eu plith mae sawl un o enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod yn Nhregaron y llynedd: Edward Rhys-Harry (Tlws y Cerddor), Joe Healy (Dysgwr y Flwyddyn), Llŷr Gwyn Lewis (Y Gadair), Esyllt Maelor (Y Goron) a Gruffydd Sion Owain (Y Fedal Ddrama).

    Hefyd yn cael eu derbyn i’r Orsedd mae rhai o brif enillwyr Eisteddfod yr Urdd 2022, gan gynnwys Osian Davies (Y Fedal Ddrama), Twm Ebbsworth (Y Goron), a Ciarán Eynon (Y Gadair).

  3. I ble'r aiff Garry heddiw?wedi ei gyhoeddi 11:02 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    BBC Radio Cymru

    Un o'n gohebwyr ar y maes yw Garry Owen, Gohebydd Arbennig BBC Radio Cymru.

    Garry Owen

    Bu'n brysur yn holi ar y maes ben bore a gallwch wrando'n ôl ar y sgyrsiau ar Dros Frecwast ar BBC Sounds.

    Bydd Garry'n brysur yn ystod y dydd yn crwydro'r maes ac fe ddown â'r diweddaraf i chi!

  4. Gwenwch - mae Cymru Fyw ar y maes!wedi ei gyhoeddi 10:54 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Roedd criw BBC Cymru Fyw allan yn eu 'sgidiau glaw er mwyn dod â'r gorau o benwythnos cynta'r Brifwyl i chi.

    Edrychwch 'nôl ar rai o luniau ddydd Sadwrn a ddydd Sul yma.

    Cofiwch wenu os y'ch chi'n gweld un o'n camerâu mas 'na heddiw - a dilynwch ni ar Instagram er mwyn gweld y pigion diweddaraf.

    Teulu ar faes Eisteddfod Llyn ac Eifionydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Eisteddfod y cŵn!

    Plant ar y maes
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Hari a Sara o Ynys Môn wrth eu boddau gydag ychydig o fwd...

  5. Cofio aelodau'r Orsedd fu farwwedi ei gyhoeddi 10:47 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Mae Cofiadur yr Orsedd, Christine James, wedi rhannu teyrnged i aelodau’r Orsedd fu farw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

    Cafodd cân goffa ei pherfformio iddynt gan Dewi Pws.

    orseddFfynhonnell y llun, bbc
  6. Yr Archdderwydd yn trafod argyfwng tai pobl leolwedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Mae araith yr Archdderwydd wedi mynd ar drywydd gwleidyddol, wrth iddo feirniadu’r sefyllfa dai sy’n golygu nad yw'n fforddiadwy i lawer o bobl brynu tŷ ym mro eu mebyd.

    “Mae gweithwyr allweddol, gan gynnwys doctoriaid ac athrawon, yn methu â fforddio i fyw yn yr ardal yma,” meddai.

    Myrddin ap Dafydd

    Aeth ymlaen i ddisgrifio’r Deyrnas Unedig fel “gwladwriaeth flêr” sydd wedi gadael i anghydraddoldeb cyfoeth dyfu’n fwy.

    Fe wnaeth annog pobl i gefnogi mentrau a phrosiectau cymunedol sy’n ceisio sicrhau dyfodol llewyrchus yng ngwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys nifer yn ardal Llŷn ac Eifionydd sy’n weithgar yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

  7. Pobl yr ardal 'heb siarad am fawr ddim arall'!wedi ei gyhoeddi 10:28 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Fe ddechreuodd yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd ei anerchiad wrth ddweud nad yw ardal Llŷn ac Eifionydd “wedi siarad am fawr ddim arall” ers misoedd wrth edrych ymlaen at yr Eisteddfod.

    Arwydd 'Croeso' ym Motwnnog
    Disgrifiad o’r llun,

    Un o'r nifer o arwyddion 'Croeso' ar hyd yr ardal ym Motwnnog

    Fe wnaeth ganmol holl waith pobl leol wrth addurno'r ardal gyda’u harwyddion yn croesawu’r Brifwyl.

    “Doedd na ddim potiau paent coch ar gael yn siopau Pwllheli am bythefnos!” meddai.

  8. Mae cannoedd yn gwylio'r seremoniwedi ei gyhoeddi 10:19 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Orsedd
    Orsedd
  9. Anrhydeddu cyn-enillwyrwedi ei gyhoeddi 10:13 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Yn ystod y seremoni fe fydd y Cofiadur Christine James yn coffáu rhai o'r Gorseddogion sydd wedi marw yn ystod y flwyddyn ac yn derbyn aelodau newydd.

    Gwisgoedd yn barodFfynhonnell y llun, Ela Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Y gwisgoedd yn barod ar gyfer aelodau'r Orsedd ddydd Llun

    Ymhlith y rhai a fydd yn cael eu derbyn heddiw mae Prif Enillwyr Eisteddfod Ceredigion 2022 a Phrif Enillwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2022.

    Mae eraill yn cael eu derbyn ar sail gradd gymwys a llwyddiant yn arholiad yr Orsedd.

    Bydd y mwyafrif y rhai sydd wedi’u hanrhydeddu yn cael eu derbyn i’r Orsedd ddydd Gwener.

  10. Seremoni'r Orsedd wedi dechrauwedi ei gyhoeddi 10:10 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Mae seremoni'r Orsedd, sy'n croesawu aelodau hen a newydd, wedi dechrau ar y maes ym Moduan.

    myrddin
    orseddFfynhonnell y llun, bbc
    orsedd
  11. Croeso i Orseddogion newydd!wedi ei gyhoeddi 09:59 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Gorseddogion newydd

    Rhai o Orseddogion ardal Aberystwyth fore Llun - ac yn eu plith mae rhai aelodau newydd.

  12. Yr Orsedd: Pwy fydd yn cael eu hanrhydeddu eleni?wedi ei gyhoeddi 09:54 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Mae unigolion newydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd bob blwyddyn - hynny am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau.

    Tybed pwy sy'n cael eu hurddo o'ch hardal chi?

    Beth yn union yw Gorsedd y Beirdd? Gallwch ddarllen mwy yma.

    Aled, Laura a Geraint
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Aled Hughes, Yr Athro Laura McAllister a Geraint Lloyd ymhlith y rhai sy'n cael eu hurddo yr wythnos hon

  13. Gwaith tîm gwisgoedd yr Orsedd yn 'amhrisiadwy'wedi ei gyhoeddi 09:50 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    BBC Cymru Fyw

    Mae gwaith y tîm sy'n paratoi gwisgoedd yr Orsedd yn "amhrisiadwy" yn ôl Arolygydd y Gwisgoedd, Ela Jones.

    Heb yn wybod i nifer, mae'r paratoadau i tua 450 o wisgoedd yn digwydd drwy gydol y flwyddyn i sicrhau fod pob un sy'n rhan o brif seremonïau'r Eisteddfod yn edrych ar eu gorau.

    Fe fydd tri o'r gwirfoddolwyr sy'n helpu Ela gyda'r gwaith ymhlith y rhai sy'n cael eu hurddo i'r Orsedd eleni.

    Fyddai'r holl waith "ddim yn bosib", dywedodd neu Ela Cerrigellgwm - ei henw gorseddol - heb gefnogaeth Marian a Hywel Edwards, a'i gŵr, Hywel.

    Gallwch ddarllen y stori'n llawn yma.

    Dynes yn smwddio gwisg yr Orsedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Ela Jones (chwith) yn smwddio gwisgoedd yr Orsedd cyn seremoni’r Cadeirio yn 2014

  14. Traffig yn dawel wrth deithio i'r maeswedi ei gyhoeddi 09:43 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Doedd dim problemau traffig wrth gyrraedd y maes am tua 09:30 bore ‘ma, gyda cherbydau’n cael eu cyfeirio i’r meysydd parcio’n weddol ddi-ffwdan.

    Maes fore Llun

    Prin oedd y ciwiau i gasglu tocynnau ger y fynedfa chwaith - ac mae’r haul hefyd yn tywynnu ym Moduan ar hyn o bryd.

  15. Anrhydeddu’r Prifardd Alan Llwydwedi ei gyhoeddi 09:36 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Un o awduron a beirdd mwyaf toreithiog Cymru yw’r Prifardd Alan Llwyd.

    Cafodd ei eni ym Meirionnydd ond treuliodd y mwyafrif o’i blentyndod ar fferm yng Nghilan, Pen Llŷn gan fynychu Ysgol Botwnnog.

    Heddiw am 11:00 yn y Babell Lên fe fydd y Prifardd Twm Morys yn cyflwyno gwerthfawrogiad o’i gyfraniad gan gynnwys perfformiadau o’i waith.

    Enillodd y Gadair a'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhuthun 1973, ac eto yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1976 - yr ail fardd i wneud hynny yn hanes yr Eisteddfod.

    Alan LlwydFfynhonnell y llun, Marian Ifans
  16. Gosod y llwyfan ar gyfer yr Orseddwedi ei gyhoeddi 09:24 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Ben bore ac mae'r paratoadau olaf ar waith cyn y bydd yr Orsedd yn cwrdd am y tro cyntaf yr wythnos hon.

    Fe fydd nifer yn cael eu derbyn am y tro cyntaf.

    Seddi ar faes yr Eisteddfod cyn seremoni'r Orsedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Digonedd o seddi wedi'u gosod ar y maes fore Llun

    Fe fydd y seremoni'n cychwyn ar y maes am 10:00 - fyddwch chi yno?

  17. Gwella mannau gwlyb a mwdlydwedi ei gyhoeddi 09:18 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Yn dilyn glaw dros y penwythnos mae ymdrechion wedi bod i gael gwared â'r dŵr a'r mwd o'r maes, gyda pheiriant rolio yn cael ei ddefnyddio a phrennau bach yn cael eu gosod ar fannau gwlyb a mwdlyd.

    rollerFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae gwaith pwysig gan y peiriant hwn i wneud ben bore!

    llwchFfynhonnell y llun, bbc
  18. Swyddog hygyrchedd i wella profiad pobl ag anableddau ar y maeswedi ei gyhoeddi 09:14 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    BBC Radio Cymru

    Oliver Griffith-Salter yw swyddog hygyrchedd cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol - swydd newydd sy'n anelu at sicrhau bod pobl ag anableddau'n cael y profiad gorau bosib wrth ymweld â'r Brifwyl.

    Mae'n rhan o ymateb trefnwyr i gwynion yn y gorffennol ynghylch y ddarpariaeth ar y maes o ran cyfleusterau ar gyfer unigolion ag anableddau.

    Oliver Griffith-Saltrer
    Disgrifiad o’r llun,

    Oliver Griffith-Salter yw swyddog hygyrchedd yr Eisteddfod

    Mae Oliver, sy'n defnyddio cadair olwyn ei hun, yn gweithio o swyddfa yn yr Hwb Hygyrchedd - pabell wen tu allan i'r brif fynedfa sydd hefyd yn cynnwys y cwmni Byw Bywyd a'r Llecyn Llonydd.

    "Alle' pawb ddod mewn a gofyn cwestiwn - os fi ddim efo'r ateb yn syth fydda' i'n gallu siarad â'r timau sy'n gweithio i'r Eisteddfod," dywedodd ar raglen Dros Frecwast.

    Mae gwelliannau i'r maes, meddai, yn cynnwys tŷ bach dibyniaeth uchel sy'n fwy o ran maint, ac yn cynnwys teclyn codi, platfform ar gyfer newid a chanllawiau cydio (grab rails).

    "Mae ramps i fynd ar bob llwyfan a ma' pobl i'ch helpu tu ôl i'r llwyfan i ga'l pawb ar ac off y llwyfan," meddai.

    Gyda rhannau o'r maes yn fwdlyd wedi tywydd gwael ddechrau'r penwythnos, dywedodd eu bod "yn 'neud newidiade' mor gyflym â phosib" unwaith y daw problem i'r amlwg, gan gynnwys gosod matiau i wneud hi'n haws i bobl gyrraedd gwahanol fannau.

  19. Esgidiau gwyn? Mae'r maes yn sychu!wedi ei gyhoeddi 09:07 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Er gwaethaf ambell fan mwdlyd ar y maes, mae prif weithredwr yr Eisteddfod yn hyderus am dywydd braf.

    Betsan Moses

    Dywedodd Betsan Moses fod y maes yn un "anhyghoel" sy'n sychu'n gyflym.

    Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd hefyd y cawn ni wybod heddiw ble'n union y bydd Eisteddfod Rhondda Cynon Tâf 2024 yn cael ei chynnal.

    Fe gewch chi'r diweddaraf yma ar y llif byw.

  20. Sut mae cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle?wedi ei gyhoeddi 08:57 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    BBC Radio Cymru

    Dyna fydd un o gwestiynau'r dydd ar y maes heddiw.

    Efa Gruffydd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, fu'n trafod ar raglen Dros Frecwast.

    Efa Gruffydd Jones

    "Does dim pawb ym mhob gweithle yn siarad Cymraeg, felly sut allwn ni gael pawb i barchu ac i weld bod modd defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith, mewn sefyllfa gymysg?" dywedodd.

    "Mae'n faes penodol lle dw i'n credu y gallwn ni gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.

    "Ry'n ni'n gwybod ein bod ni'n dysgu'r Gymraeg i lu o bobl ifanc yn ein hysgolion ni ac wrth gwrs mae 'na gymunedau o gwmpas Cymru lle mae 'na bobl yn siarad Cymraeg yn eu bywydau bob dydd.

    "Ond ble y'ch chi'n gallu defnyddio'r Gymraeg ar ôl i chi adael yr ysgol? Sut allwch chi ddefnyddio'r iaith yn eich bywyd bob dydd?"

    Bydd trafodaeth mewn sesiwn ym Mhabell y Cymdeithasau am 11:00.