Hogia' Llangwm 'di cyrraedd y maeswedi ei gyhoeddi 15:42 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023
Lowri ac Ynyr o Langwm sy'n gwarchod yr hogiau direidus 'ma heddiw!
Rhys Iorwerth yn ennill y Goron o blith 42 o gystadleuwyr
Cyflwyno Medal TH Parry-Williams i Geraint Jones
Urddo enillwyr Eisteddfod Ceredigion 2022 ac Eisteddfod yr Urdd
Dim Theatr y Maes ond perfformiadau theatrig ar draws y Brifwyl
Gwerthfawrogi cyfraniad Alan Llwyd a Wil Sam
Lowri ac Ynyr o Langwm sy'n gwarchod yr hogiau direidus 'ma heddiw!
Yn y Babell Lên mae ‘na sgwrs dan y teitl ‘Llyfrau Lliwgar Cymru’, sy’n trafod datblygiad llenyddiaeth LHDTC+ yng Nghymru.
Mae Gareth Evans-Jones yn dechrau drwy ofyn i’r panel a oes un darn o lenyddiaeth yn y maes hwnnw sydd wedi creu argraff benodol arnyn nhw.
Dewis Lois Gwenllian yw ‘Tu ôl i’r Awyr’ gan Megan Angharad Hunter, tra bod Dr Nia Jones yn canmol ‘On the Red Hill’ gan Mike Parker.
Mae Dylan Huw yn mynd am ddrama ‘Imrie’ gan Nia Morais, tra bod Llŷr Titus yn sôn am ‘Y Daith Ydi Adra’ gan John Sam Jones.
Heno
Heno
Mae Huw Fash o raglen Heno wedi bod yn brysur yn rhoi ei sêl bendith ar rai o'r gwisgoedd mae wedi ei weld ar faes yr Eisteddfod ym Moduan.
Dyma'r ddwy wnaeth serennu heddiw! 👇
Ym Maes D mae sgwrs yn cael ei chynnal i nodi lansiad Memorandwm Dealltwriaeth rhwng y Mudiad Meithrin a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.
Bydd y Memorandwm yn ffurfioli cydweithio sydd eisoes yn digwydd rhwng y ddau fudiad, gan gynnwys cyfleoedd pellach i drosglwyddo’r Gymraeg, a chefnogi plant, teuluoedd a gofalwyr i ddysgu’r iaith.
Mae prif weithredwyr y ddau fudiad, Gwenllian Lansdown Davies a Dona Lewis, yn cael eu holi fwy am y cynllun gan y gyflwynwraig Mari Grug.
Dyma gip tu ol i'r llen gyda dau o'r cyflwynwyr, Heledd Cynwal a Tudur Owen 👇👀
Dei Tomos oedd ar y llwyfan yn cyflwyno’r wobr sy'n mynd i berson brwd ac ysbrydoledig, sy’n meithrin a hybu’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.
A'r un sy'n derbyn y wobr eleni yw Geraint Jones o Drefor.
Fe gafodd y fedal ei chyflwyno iddo y prynhawn ‘ma yn y Pafiliwn Mawr.
Mae'r fedal yn cael ei rhoi i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad i'w ardal leol, gyda phwyslais ar weithio gyda phobl ifanc.
Mewn datganiad, dywedodd yr Eisteddfod fod cymuned Mr Jones "wedi elwa o'i ymroddiad, ei frwdfrydedd a'i egni ers dros hanner canrif".
"Yn ddi-os, mae ei ddylanwad a'i gefnogaeth ymarferol wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc ei fro."
Mae Tabitha a Ted yn mwynhau crwydro’r maes yng nghwmni Taid (Arwel) a Nain (Marion) o Borthmadog.
Un o ddramodwyr ac awduron amlycaf bro’r Eisteddfod eleni oedd y diweddar Wil Sam.
Wil Sam oedd yr awdur cyntaf yn y Gymraeg i wneud bywoliaeth o'i ysgrifennu.
Am dros 50 mlynedd bu'n cyhoeddi dramâu a straeon byrion am gymeriadau ei fro - Eifionydd.
Y prynhawn ‘ma yn y Babell Lên fe fydd Gruffudd Eifion Owen yn cofio am ei yrfa ac am ei ddylanwad a Chwmni Theatr y Gegin gyda’i frawd Elis Gwyn.
Nos Lun yn Neuadd Dwyfor fe fydd cyfle i weld cynhyrchiad Theatr Bara Caws o ‘Dinas’ – comedi glasurol Emyr Humphreys a Wil Sam.
Mae tipyn o dorf wedi casglu ar gyfer sioe Cyw ar ôl cinio - a digon o ganu a dawnsio i gadw pawb yn hapus.
Cafwyd sgwrs ym mhabell Cymdeithasau 1 yn gynharach y bore ‘ma am dlodi yn Arfon, wedi ei arwain gan yr AS lleol Hywel Williams.
Un o’r pwyntiau gafodd eu codi yn y sgwrs oedd bod gan Arfon - etholaeth sy’n cynnwys Bangor a Chaernarfon - gyfradd uwch na chyfartaledd y DU o ran swyddi sydd yn talu’n dda.
Ond mae ‘na dal gyfraddau tlodi uwch ymhlith y bobl sy’n byw yn yr etholaeth ei hun, gan fod llawer o’r bobl sydd yn y swyddi da hynny yn byw y tu allan i’w ffiniau.
Fe ddaeth y newyddion mawr y prynhawn 'ma mai Pontypridd fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol 2024.
Dyma'r foment y dadorchuddiwyd arwydd y Brifwyl ym mharc Ynysangharad yn y dref.
A hithau wedi sychu mae'r hetiau bwced yn dechrau ymddangos!
Mae Megan a Nansi, efeilliaid o Fethesda, yn hapus yn eu hetiau Mistar Urdd ac yn barod i wylio Sioe Cyw ar lwyfan y maes.
Sesiwn ar bwnc llosg ym mro'r Brifwyl ym mhabell Prifysgol Bangor y prynhawn 'ma.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ar ddydd Llun yr Eisteddfod Genedlaethol mae aelodau newydd yn cael eu croesawu i Orsedd y Beirdd.
Ond pe fyddech chi'n cael eich anrhydeddu, beth fyddai eich enw barddol? Fe aeth Lois i holi o amgylch y Maes...
Does yna ddim Theatr y Maes yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd eleni.
Yn lle hynny mae perfformiadau theatrig yn cael eu cynnal ar draws y maes yn hytrach nag mewn un adeilad.
Roedd Theatr Genedlaethol Cymru wedi bod yn cynnig cefnogaeth dechnegol ar gyfer Theatr y Maes ond mae'r bartneriaeth wedi dod i ben.
"Mae'r Eisteddfod eisoes wedi arbrofi gyda lleoli perfformiadau ar draws y maes dros y blynyddoedd diwethaf, gyda datblygiad amlwg y rhaglen Theatr Stryd, a'r defnydd o bafiliynau fel Caffi Maes B a'r Babell Lên,” medd llefarydd.
"Mae'r rhaglen eleni'n gyfle i ddatblygu hyn ymhellach, ac rydyn ni a'r rheini sy'n rhan o'r trafodaethau'n croesawu'r cyfle yma i roi pwyslais ar yr arlwy yn hytrach na'r adeilad yn 2023."
Dyma Ffion, Meiriona, Mared a Sara o Flaenau Ffestiniog yn mwynhau bwyta pitsa blasus ar y maes! 🍕
Mewn ymdrech i wella'r profiad o fynd o fan i fan ar faes yr Eisteddfod eleni mae'r ŵyl wedi penodi Oliver Griffith-Salter fel swyddog hygyrchedd.
Dewch i adnabod Oliver a chlywed am ei waith
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dyma Joseff a Lydia gyda’u dwy ferch fach, Leila a Mali, o Flaenau Ffestiniog yn mwynhau ar y maes.