Crynodeb

  • Rhys Iorwerth yn ennill y Goron o blith 42 o gystadleuwyr

  • Cyflwyno Medal TH Parry-Williams i Geraint Jones

  • Urddo enillwyr Eisteddfod Ceredigion 2022 ac Eisteddfod yr Urdd

  • Dim Theatr y Maes ond perfformiadau theatrig ar draws y Brifwyl

  • Gwerthfawrogi cyfraniad Alan Llwyd a Wil Sam

  1. Sut mae'ch gwybodaeth chi am Gwmderi a Glanrafon?wedi ei gyhoeddi 13:38 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Bydd criw Pobol y Cwm yn wynebu criw Rownd a Rownd mewn cwis brynhawn fory ar faes yr Eisteddfod.

    Bydd y ddwy opera sebon yn mynd benben yn stondin S4C am 16:00 - ewch draw i weld pwy fydd yn fuddugol!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Pawen lawen gan Cadi'r ci!wedi ei gyhoeddi 13:23 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Pa well gwmni ar y maes na chi bach? Roedd Menna o Gastell Newydd a Cadi yn mwynhau haul Boduan mewn steil amser cinio.

    Menna yn eistedd gyda'i chi yn ei bag
    Disgrifiad o’r llun,

    Menna a Cadi yn barod i fwynhau'r Brifwyl

  3. Sgwrs am dwristiaeth a chynaliadwyeddwedi ei gyhoeddi 13:15 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Ar stondin Prifysgol Bangor mae sgwrs banel wedi cael ei chynnal yn holi pa mor gynaliadwy all twristiaeth fod yng Nghymru.

    Mae Einir Young o Eco Amgueddfa Pen Llŷn yn dweud mai’r ateb yw nid i adeiladu mwy o westai a llety gwyliau, ond ceisio sicrhau bod ymwelwyr yn dod drwy gydol y flwyddyn.

    sgwrs

    Mae Pen Llŷn “yn llawn” yn yr haf, meddai, gan ychwanegu bod “diffyg addysg i dwristiaeth eu hunain sy’n meddwl bod ni gyd yn dibynnu arnyn nhw”.

    Mae Ceri Cunningham o Antur Stiniog hefyd yn dweud bod angen edrych yn nes ar ble mae’r arian sy’n cael ei gynhyrchu o dwristiaeth yng Nghymru yn mynd mewn gwirionedd - a yw’n aros mewn cymunedau?

    Ychwanegodd Robin Llywelyn, sy’n rhedeg Portmeirion, fod trethi ar ymwelwyr a thai haf yn hwb i dwristiaeth, am fod hynny’n “helpu pobl i fyw yn eu cymunedau” sydd wedyn yn golygu bod nhw’n gallu gweithio o fewn y diwydiant.

  4. Dod i adnabod Lloyd George yn wellwedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Lloyd George

    Heb os, un o wleidyddion enwocaf bro’r Eisteddfod eleni yw David Lloyd George, y Prif Weinidog a fagwyd yn Llanystumdwy.

    Yr wythnos hon yn yr Ardd Gudd mae cyfle i weld drama cwmni Mewn Cymeriad amdano.

    "Dewch gyda ni drwy ddrws 10 Stryd Downing i’r ardd gudd i gyfarfod David Lloyd George," medd y cwmni.

    "Cawn ein tywys drwy ddigwyddiadau mawr ei fywyd a’r dewisiadau a wnaeth ar y daith, gan bwyso a mesur y drwg a’r da."

    Mae David Lloyd George yn un o'r ffigyrau sydd ar restr Cymru Fyw o enwogion Llŷn ac Eifionydd.

  5. Ydych chi'n cofio'ch Eisteddfod gyntaf?wedi ei gyhoeddi 13:02 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    ...wel dyma lun i helpu Gwenno a'i mam Ffion Gwenllian gofio.

    Mae'r ddwy o Ruthun yn mwynhau crwydro'r maes yn yr haul.

    Gwenno a'i mam Ffion Gwenllian
    Disgrifiad o’r llun,

    Braf i gael teithio drwy'r maes heb fwd dan draed!

  6. Newid y 'sgidiau glaw am hufen iâ?wedi ei gyhoeddi 12:55 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Taid (Edmwnd Rees) Mam (Mair) a Magi y ferch yn bwyta hufen iâ. Mae’r teulu wedi dod am y diwrnod yr holl ffordd o Bentrefoelas!

    Taid, mam a merch ar faes yr Eisteddfod
    Disgrifiad o’r llun,

    Tri chenhedlaeth yn barod am ddiwrnod ym Moduan!

  7. Eisteddfod 'gwahanol ond gwyrdd'wedi ei gyhoeddi 12:45 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Fe wnaeth arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, ymateb hefyd i gwestiynau ynglŷn ag yw Parc Ynysangharad yn ddigon mawr i gynnal yr Eisteddfod.

    Eisteddfod

    "Bydd hi’n Eisteddfod wahanol, ond ni’n benderfynol i sicrhau bod Eisteddfod y flwyddyn nesaf mor wyrdd â phosib.

    "Bydd y system metro yn rhedeg erbyn hynny, a bydd gan Bontypridd 24 o drenau yr awr yn mynd drwy’r dref – 12 o Gaerdydd, pedwar o Ferthyr, pedwar o Aberdâr a phedwar o’r Rhondda.

    "Bydd yr orsaf fws gyfagos wedi’i gysylltu gyda Chaerffili a’r holl ardaloedd cyfagos, felly dwi’n meddwl o bersbectif trafnidiaeth gyhoeddus, y bydd yn un o’r eisteddfodau mwyaf cynhwysol ers sawl blwyddyn.

    "Bydd system parcio a theithio hefyd [o gwmpas cyrion y dref] i’r rheiny sy’n teithio o bellach i ffwrdd.

    "Ein cynllun ni yw i beidio dod â’r traffig i gyd i mewn i Bontypridd."

    eisteddfodFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Arwydd newydd wedi ei ddadarchuddio ym Mharc Ynysangharad heddiw

  8. Rhondda Cynon Taf i gyrraedd targedau codi arian uchelgeisiol y ddwy Eisteddfod ddiwethaf?wedi ei gyhoeddi 12:41 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    "Ers y cyhoeddiad yn Aberdâr a’r lansiad swyddogol yn Nhreorci, mae’r gymuned wedi cyffroi'n barod," dywedodd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf.

    Andrew Morgan
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew Morgan yw arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf

    "Dwi’n gwybod bod y pwyllgorau cymunedol eisoes yn gwneud yn dda wrth godi arian yn lleol.

    "Mae diddordeb ac angerdd gwirioneddol dros weld yr wyl yn dod i Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf, felly does gen i ddim pryderon – dw i’n credu gawn ni Eisteddfod wych."

  9. Datgelu union leoliad Eisteddfod Genedlaethol 2024!wedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023
    Newydd dorri

    Parc Ynysangharad ym Mhontypridd fydd cartref y Brifwyl y flwyddyn nesaf.

    Mae'r bont yma'n cysylltu Parc Ynysangharad gyda chanol y drefFfynhonnell y llun, Cyngor Rhondda Cynon Tâf
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r bont hon yn cysylltu Parc Ynysangharad gyda chanol y dref

    Yn Llŷn ac Eifionydd, daeth y cyhoeddiad ynglŷn ag union leoliad Eisteddfod Rhondda Cynon Taf.

    Yn ôl y trefnwyr, y bwriad yw defnyddio'r parc a rhannau o'r dref ar gyfer yr ŵyl fis Awst y flwyddyn nesaf, gan greu "Eisteddfod drefol, amgen a chyffrous, sy'n cyfuno'r ardal leol gyda'r ŵyl ei hun".

    Dyma fydd y tro cyntaf i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yn yr ardal ers 1956, ac yn Aberdâr oedd hi bryd hynny.

  10. Al Hughes yn crwydro'r maeswedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    BBC Radio Cymru

    Gyda'r Eisteddfod yn ei gynefin mae cyflwynydd Radio Cymru, Al Hughes, wedi bod yn crwydro a sgwrsio gyda rhai o'r bobl ar y stondinau.

    Mae'n darlledu'n fyw o faes yr Eisteddfod rhwng 9:00-11:00 ddydd Llun i ddydd Iau yr wythnos hon.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Gwirioni ar bêl-droed o hyd?wedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Dyw canlyniadau diweddar Cymru ddim wedi bod yn wych ond mae ‘na gryn sylw i bêl-droed ar y maes.

    Caffi Maes B

    Yng Nghaffi Maes B mae’r gantores, Ani Glass, sy’n ffan enfawr yn sgwrsio gyda Tim Williams, sylfaenydd cwmni Spirit of '58.

    Mae Tim sydd â siop yn Y Bala yn un o selogion y Wal Goch a fe sy’n gyfrifol am greu’r hetiau bwced enwog sydd wedi dod yn rhan o wisg answyddogol cefnogwyr Cymru.

  12. Stondin yn y 'Steddfod 'mor bwysig' i gwmnïauwedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Mae Glesni sy'n berchen ar stondin Crefftau’r Brethyn ar y maes yn dweud bod cael stondinau ar y maes yn bwysig er mwyn cael cyswllt wyneb yn wyneb gyda chwsmeriaid.

    Glesni

    “Pan ti’n gwerthu ar-lein 'di pobl ddim yn gweld ansawdd y cynnyrch a gorffeniad y gwaith, dwi’n cael lot yn cysylltu hefo fi ar ôl derbyn pethau drwy’r post yn deud ‘donim yn dallt bo' nhw mor dda.

    “Fel arfer ma’r penwythnos cynta’ yn dawelach, ac roedd hi’n anodd ddoe [ddydd Sadwrn] achos y tywydd gwael.

    “Ond ro’dd na lot o ddiddordeb ac o'dd hi’n braf cael sgwrsio hefo pobl, ac iddyn nhw gael gweld be' ti’n 'neud a bo' nhw’n cael gweld y stwff yn bywyd go iawn yn lle ar-lein.”

  13. 'Unwaith 'dech chi yma, 'dech chi'm isio gadael!'wedi ei gyhoeddi 12:06 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Dafydd Morgan Lewis

    Yn mwynhau ar y maes ddydd Sul roedd Dafydd Morgan Lewis.

    Dywedodd fod ganddo bryderon am y mwd gan ei fod yn defnyddio ffyn baglau a sgwter symudedd.

    Ond dywedodd ei bod yn "fantais fod y cae yn fach".

    “Ma' rhywun yn poeni am ddod 'ma ond unwaith 'den ni yma ma' hi’n dda a 'dech i'm isio gadael!”

  14. Plant lleol yn mwyhau ar y maeswedi ei gyhoeddi 11:56 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Rhai o blant Pen Llŷn yn mwynhau ar fore Llun; Bobi, Ania, Elan a Hari o’r Ffôr yn gwisgo fyny yn y ‘Pentref Plant’.

    bbcFfynhonnell y llun, bbc
  15. Tŷ Gwerin yn profi'n hynod boblogaiddwedi ei gyhoeddi 11:49 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Mae Sioned Edwards yn sôn bod y Tŷ Gwerin wedi bod yn llawn ar gyfer nifer o berfformiadau’n barod yr wythnos hon.

    ty gwerin

    Mewn ymateb i gwestiwn yn y gynhadledd i’r wasg a oes ystyriaeth felly i ehangu’r gofod hwnnw, mae’n dweud bod sgwrs “barhaus” yn digwydd a bod angen “balans”.

    “Mae awyrgylch hyfryd yn y tipi… sy’n glud ac yn gynnes,” meddai.

    “Mae angen cadw’r balans rhwng awyrgylch sydd mor neis, a sicrhau bod lle i bawb.”

  16. Pen y daith i griw Twmpdaith!wedi ei gyhoeddi 11:37 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Mae criw Twmpdaith wedi bod yn teithio o gwmpas Cymru dros yr wythnosau diwethaf yn galw Twmpath.

    Yn ôl Rhian Davies, sydd wedi bod yn ariwan y daith, y bwriad yw “chwistrellu 'chydig o fywyd mewn i ddawnsio traddodiadol Cymreig”.

    Bydd uchafbwynt taith y criw yn dod heno wrth iddyn nhw berfformio ar y prif lwyfan heno.

    Criw twmpdaithFfynhonnell y llun, Twmpdaith
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r cerddorion ifanc wedi bod yn teithio o amgylch neuaddau pentref a rhai o brif wyliau'r haf

  17. Digon i wneud i gadw'n brysur ar y maes!wedi ei gyhoeddi 11:30 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Elen a Dylan Bowen gyda’u hefeilliaid Luned a Marged o Gaerfyrddin

    Elen Dylan
  18. Sefydlu cymdeithas lefaru i ddiogelu'r dyfodol?wedi ei gyhoeddi 11:25 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Wrth nodi 60 mlynedd ers dechrau un o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol i lefarwyr, mae yna alw am sefydlu cymdeithas i lefarwyr.

    Mewn sesiwn ar y maes, galwodd Cefin Roberts am sefydlu cymdeithas i roi hwb i ddyfodol y grefft.

    Dywedodd hefyd fod angen "cadw golwg ar y sefyllfa" wrth rybuddio bod testunau i lefarwyr "yn crebachu".

    Beth y'ch chi'n meddwl? Darllenwch adroddiad ein gohebydd arbennig Garry Owen yma.

    Merch mewn siaced gwyn ar lwyfan yr Eisteddfod
    Disgrifiad o’r llun,

    Awel Grug Lewis oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Llefaru Unigol dan 12 oed yr Eisteddfod eleni

  19. Dilynwch yr arwyddion melyn...wedi ei gyhoeddi 11:23 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Mae'r arwyddion 'Eisteddfod' melyn 'nôl ar y ffyrdd wrth i bobl heidio tuag at Foduan.

    Ond sut yn union mae cyrraedd y maes? Dyma'r holl fanylion i chi sy'n teithio draw heddiw.

    Map efo manylion teithio tuag at faes Eisteddfod 2023Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Cofiwch fod pobl yn cael eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle'n bosib

  20. 11,000 yn gwylio Bwncathwedi ei gyhoeddi 11:16 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023

    Bwncath

    Mae cyfarwyddwr artistig yr Eisteddfod, Sioned Edwards, yn dweud eu bod yn amcangyfrif bod dros 11,000 o bobl wedi bod ar y maes i wylio Bwncath ar y maes neithiwr 🤩🎪🎶