Crynodeb

  • Y Prif Ddramodydd yw Cai Llewelyn Evans

  • Mas ar y Maes yn bump oed

  • Paratoi ar gyfer Gig y Pafiliwn

  • Dathlu cyfraniad Penri Jones - awdur Jabas a chyd-sylfaenydd Lol

  1. A dyna ni am ddiwrnod arall!wedi ei gyhoeddi 18:25 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Diolch am eich cwmni unwaith eto wrth ddilyn y diweddaraf o'r Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan.

    Y maes

    Bu'n ddiwrnod prysur arall rhwng yr holl gystadlu, gigs a'r brif seremoni wrth gwrs.

    Mae 'na ddigon i ddod, cofiwch, a gallwch ddilyn y cyfan gyda ni unwaith eto 'fory.

    Mwynhewch eich noson ac ymunwch â ni ddydd Gwener!

  2. Sgwrs â'r prif ddramodydd, Cai Llewelyn Evans 👏wedi ei gyhoeddi 18:23 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Disgrifiad,

    Cai Llewelyn Evans yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod 2023

  3. Menywod ym myd pêl-droed - effaith bositif yng Nghymru?wedi ei gyhoeddi 18:12 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Dyma oedd un o'r pynciau trafod gan griw 'Llais y Maes' Prifysgol Caerdydd ym Moduan heddiw ⚽👇

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Fyddwch chi'n mynd i Gig y Pafiliwn heno?wedi ei gyhoeddi 17:56 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Bydd hi'n noson a hanner yn y Pafiliwn Mawr!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Dod i adnabod Prif Ddramodydd 2023wedi ei gyhoeddi 17:48 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Cafodd Cai Llewelyn Evans ei fagu ym mhentref Pontarddulais.

    Ar hyn o bryd, mae'n byw yn Nhreganna gyda’i bartner, Noriko.

    O ran ei waith bob dydd, mae’n aelod o Wasanaeth Cyfieithu a Chofnodi y Senedd, gan weithio’n bennaf fel cyfieithydd ar y pryd.

    Cyn hynny, bu’n byw am oddeutu degawd yn ninas Tokyo, lle bu’n olygydd ac yn newyddiadurwr gyda phapur newydd y Japan Times, cyn symud i weithio ym maes gwasanaethau ariannol gyda chwmni Standard & Poor’s.

    Cai

    Y cam o symud yn ôl i Gymru oedd y sbardun i Cai roi cynnig ar ysgrifennu creadigol.

    Cafodd ei brofiad cyntaf ar y radio ac yn dilyn hynny, ysgrifennodd ddwy ffilm fer.

    Yn ystod yr un cyfnod, cafodd Cai ei ddewis i fod yn aelod o Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru.

    Daeth y rhaglen hynod werthfawr a difyr hon i ben gyda darlleniadau byw o’r ddrama a ysgrifennwyd ganddo fel rhan o’r cynllun, sef Bwyd Ci, yn Theatr y Sherman a Chanolfan y Mileniwm. Ar hyn o bryd, mae’n cydweithio â Chwmni Theatr Bara Caws ar brosiect comedi.

  6. Llongyfarchiadau mawr i Cai Llewelyn Evanswedi ei gyhoeddi 17:37 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023
    Newydd dorri

    Cai Llewelyn Evans, sy'n wreiddiol o Bontarddulais ger Abertawe, sy’n cipio Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni.

    Derbyniodd ei wobr ar lwyfan y Pafiliwn Mawr heddiw.

    Gwobrwyir y ddrama sy’n dangos yr addewid mwyaf ac sydd â photensial i’w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol.

    Dywedodd y beirniaid fod y ddrama'n un "ddireidus, llawn pathos sydd fwyaf parod am y llwyfan".

  7. Mae teilyngdod!wedi ei gyhoeddi 17:36 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023
    Newydd dorri

    Mae enillydd yn seremoni'r Fedal Ddrama eleni, dan ffugenw 'Wasabi' 🤩

    Enillydd
  8. Diffyg perfformiad drama fuddugol yn destun 'siom'wedi ei gyhoeddi 17:32 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Yn gynharach heddiw fe glywon gan enillydd y llynedd, Gruffydd Siôn Ywain, wnaeth ddatgan ei siom nad yw ei ddrama fuddugol "Nyth" dal wedi ei chyflwyno yn ei chyfanrwydd.

    Gruffydd Sion Ywain

    Hon oedd ei ddrama gyntaf, ac mae'n dweud ei fod wedi gobeithio y byddai cyfle i'w datblygu a'i gweld ar lwyfan.

    Mewn ymateb fe ddywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol mai "potensial yn hytrach na sicrwydd i'w datblygu ymhellach" sy'n cael ei wobrwyo, ac mai "dewis y cwmnïau proffesiynol yw penderfynu a fyddai'r gwaith yn gweddu eu rhaglenni gwaith".

  9. Beth yw'r wobr i'r buddugol?wedi ei gyhoeddi 17:29 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Mae'r buddugol yn ennill y fedal (er cof am Urien ac Eiryth Wiliam) a £750 o Gronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli.

    Gwobrwyir drama sydd â photensial i'w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol.

    Os bydd teilyngdod cyflwynir rhan o'r gwaith gyda chefnogaeth Cronfa Goffa J O Roberts.

  10. Y brif seremoni - Y Fedal Ddrama - ar fin dechrauwedi ei gyhoeddi 17:24 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Seremoni y Fedal Ddrama fydd prif seremoni'r dydd yn y Pafiliwn Mawr.

    Y Fedal Ddrama

    Y dasg oedd cyfansoddi drama lwyfan ac nid oedd unrhyw gyfyngiad o ran hyd.

    Y beirniaid eleni oedd Steffan Donnelly, Elgan Rhys a Seiriol Davies.

  11. Y brif seremoni'n rhedeg yn hwyrwedi ei gyhoeddi 17:22 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Mae rhywfaint o oedi ar lwyfan y Pafiliwn Mawr yn golygu fod y brif seremoni - Y Fedal Ddrama - yn rhedeg yn hwyr.

    Cadwch lygad yma ac fe ddown â'r diweddaraf i chi.

    Gallwch wylio yma hefyd.

  12. Perfformiad arall o 'Parti Priodas' yn profi'n boblogaiddwedi ei gyhoeddi 17:20 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Mae Caffi Maes B yn llawn unwaith eto ar gyfer perfformiad arall o ‘Parti Priodas’, sydd wedi bod yn boblogaidd drwy’r wythnos.

    Mae’r ddrama gomedi wedi ei hysgrifennu gan Gruffudd Owen, gyda Mared Llywelyn a Mark Henry-Davies yn ei pherfformio.

    Mae Parti Priodas wedi bod yn boblogaidd drwy'r wythnos
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Parti Priodas wedi bod yn boblogaidd drwy'r wythnos

  13. Ai dyma sydd yn ffasiynol yn ardal Llŷn ac Eifionydd?!wedi ei gyhoeddi 17:11 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Rhai o hogia'r fro sydd yn cymryd rhan yn seremonïau'r Orsedd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Rheol iaith Maes B: Beth yw barn y bobl ifanc? 🎪wedi ei gyhoeddi 16:59 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Mae rheol iaith yr Eisteddfod wedi bod yn bwnc trafod yn ddiweddar.

    Mae'r Eisteddfod wedi gwahodd awgrymiadau cyffredinol gan bobl yr wythnos hon am beth hoffen nhw weld yn yr ŵyl, ond wedi dweud na fydd trafodaeth ar y rheol iaith yn digwydd yr wythnos hon.

    Mae Gwenllian Anthony o fand Adwaith yn un o'r rheiny sydd wedi dweud bod angen edrych ar bethau eto, er mwyn ceisio gwneud i'r Brifwyl deimlo mor "groesawgar" â phosib.

    Ond mae eraill wedi dweud y dylai'r rheol iaith gael ei chadw ar gyfer pob rhan o'r Eisteddfod.

    Felly beth oedd cynulleidfa Maes B eu hunain yn ei feddwl ar y maes ym Moduan?

    Disgrifiad,

    Rheol iaith yr Eisteddfod

  15. O'r archif: Buddugwyr yn Eisteddfod 1975wedi ei gyhoeddi 16:43 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Ydych chi'n 'nabod rhywun yn y llun yma o Eisteddfod Bro Dwyfor?

    Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniatáu cynnwys Instagram?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram
  16. Mae canlyniadau cynta'r dydd wedi cael eu cyhoeddiwedi ei gyhoeddi 16:39 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Llongyfarchiadau Eryrod Meirion am ddod yn gyntaf yng nghystadleuaeth y Parti Alaw Werin!

    Holl ganlyniadau Dydd Iau 10 Awst

    Eryrod Meirion
    Disgrifiad o’r llun,

    Eryrod Meirion

  17. Ffansi hufen iâ?wedi ei gyhoeddi 16:23 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi fod yn amyneddgar...

    Ciw i'r stondin hufen iâ
  18. Stondin hynaf y brifwyl?wedi ei gyhoeddi 16:20 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Mae cwmni Cadwyn wedi bod yn ymweld â’r Eisteddfod yn ddi-dor ers 1974 (49 o flynyddoedd)! Rhaid bod hynny'n record?!

    Cadwyn