Pwy ennillodd y Fedal Ryddiaith?wedi ei gyhoeddi 12:06 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023
Y Fedal Ryddiaith oedd prif ddefod dydd Mercher - a Meleri Wyn James o Aberystwyth gafodd ei chyhoeddi fel y Prif Lenor Rhyddiaith mewn cystadleuaeth a ddenodd 16 o ymgeiswyr.
Mae hi'n awdur ac yn olygydd creadigol i wasg y Lolfa, sydd wedi cyhoeddi llyfrau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion.
Hi yw awdur y gyfres boblogaidd Na, Nel! i blant, yn ogystal â’r ddwy sioe Na, Nel! a lwyfannwyd ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion y llynedd ac ym Moduan eleni.
Hallt oedd enw'r gwaith buddugol, a Fi a Ti oedd ffugenw'r enillydd.
Nofel am fam a’i merch 16 oed sydd ag anghenion arbennig yw Hallt, a'r ‘porth’ - testun y gystadleuaeth - yw’r trothwy rhwng byd plentyn a byd oedolyn.
Cafodd y stori ei disgrifio gan y beirniaid fel un "sy’n cydio o’r dechrau gan adeiladu at uchafbwynt dramatig".
"Nofel syml ond haenog am berthynas mam a merch ac am dderbyn pobl fel maen nhw.
"Nofel brydferth, dyner a gorffenedig. Nofel ddyrchafol hefyd.”