O Lanbed i Lŷn...wedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

Danville ac Aerwen o Lanbed wedi dod am dro i’r Eisteddfod
Y Prif Ddramodydd yw Cai Llewelyn Evans
Mas ar y Maes yn bump oed
Paratoi ar gyfer Gig y Pafiliwn
Dathlu cyfraniad Penri Jones - awdur Jabas a chyd-sylfaenydd Lol
Danville ac Aerwen o Lanbed wedi dod am dro i’r Eisteddfod
BBC Radio Cymru
Erbyn hyn mae Mas ar y Maes yn rhan annatod o’r Brifwyl - ond pan gafodd y cynllun ei greu bum mlynedd yn ôl, “roedd pobl yn shocked,” medd un o’r cydlynwyr Marc Rees.
Fe gafodd y cynllun, sy’n cynnig cyfleon ar y maes i gynnwys a dathlu pobl LHDTC+, ei lansio yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 'nôl yn 2018.
Wrth siarad ar raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru, fe ddywedodd Marc fod pethau wedi dod ymhell iawn ers hynny.
Roedd perfformiad Cabarela yn rhan o arlwy Mas ar y Maes y llynedd
“Nawr, mae pobl yn edrych amdano fo," dywedodd.
“Ni wedi datblygu – ond mae lot ‘da ni i ‘neud, gallwn ni ‘neud lot yn fwy.”
Mae’n hollbwysig i’r gymuned LHDTC+ gael y Brifwyl fel platfform, meddai.
“Y’n ni ‘di bod ‘ma ers canrifoedd… ond ni ‘di bod yn cuddio. Felly mae’n bwysig i ni gael platfform fel yr Eisteddfod i ni gael dangos bo’ ni yma, a bo’ ni’n gallu creu gwaith arbennig, a bo 'na rywbeth sbesial allwn ni neud i'r diwylliant yma yn yr Eisteddfod.”
Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi prosiect newydd o'r enw 'Camp Cymru', fydd yn ceisio dod ag artisiaid a phobl o'r gymuned LHDTC+ ynghyd "i drafod y celfyddydau cwiar Cymraeg".
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd ac Aelod y blaid yn Senedd Cymru wedi bod yn trafod â'r heddlu ynglŷn â'r digwyddiad ym Mhwllheli.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dyma ddywedodd Liz Saville Roberts 👇
Ac er bod Gerallt Pennant mewn crys neis a thaclus, mae'n debyg mai Maggi Noggi sy'n edrych fwyaf glam heddiw, yn ei ffrog a'i hesgidiau sgleiniog!
Cafodd ei chyhoeddi ddechrau'r wythnos fod yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ym Mhontypridd flwyddyn nesa'.
Mae gan griw Rhondda Cynon Taf lawer o waith o'u blaenau!
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Maes D yw llwyfan fersiwn arbennig o chwedlau'r Mabinogi am 18:30 heno, wedi eu creu gan y gymuned LHDTC+ a'u perfformio gan freninesau drag House of Deviant.
Dyma'r unig grŵp drag yng Nghymru i bobl ag anableddau dysgu, ac maen nhw wedi bod yn brysur yn paratoi ac yn dysgu Cymraeg yn arbennig ar gyfer y sioe.
Bydd hi'n sicr yn noson i'w chofio!
Rhai o berfformwyr House of Deviant
Ydych chi wedi mwynhau gig yma yn ystod yr wythnos, neu'n edrych ymlaen at y nosweithiau nesaf? 🎶🤩
Fe ddylai hi fod yn ofynnol i bobl ddysgu'r Gymraeg os ydyn nhw am weithio yn y sector iechyd a gofal, yn ôl Dysgwr y Flwyddyn 2023.
A hithau'n ddiwrnod gofal ar y maes, fe ddywedodd Alison Cairns wrth raglen Dros Frecwast fod defnyddio'r Gymraeg wrth ei gwaith yn y sector yn bwysig iawn iddi.
Mae'n hollbwysig gallu siarad mamiaith rhywun â nhw yn y sector gofal, medd Alison
"'Dw i mor falch mod i'n medru cerdded mewn i dŷ pobl a siarad eu hiaith, eu mamiaith gyda nhw.
"Ti'n gweld pan mae pobl yn siarad Saesneg efo nhw, mae'n anodd iddyn nhw... ac maen nhw'n dechrau poeni.
"Pan ti'n siarad Cymraeg, maen nhw'n agor mwy atoch chi, ac mi wyt ti'n cael mwy o sgwrs efo nhw."
Erin Gwyn Rossington, enillydd Ysgoloriaeth W Towyn Roberts ddydd Llun, oedd yn diddanu o Lwyfan y Maes dros amser cinio.
Mae digon o artistiaid ar y gweill weddill y dydd, gyda Sŵnami yn cloi am 21:00.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Er ei bod hi wedi troi rywfaint yn fwy cymylog ym Moduan, peidiwch â digalonni - mae'n debyg y gallwn ni edrych ymlaen at brynhawn poeth...
Megan o griw Tywydd S4C sydd â'r rhagolygon ☀️
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cofiwch fod 'na ddigwyddiadau y tu hwnt i'r maes yr wythnos hon - Morgan Elwy fu'n diddanu ar draeth Porthdinllaen neithiwr...
Os ydy golygfeydd Aberdaron yn denu ymwelwyr, siawns bod y rheiny'n fwy annwyl fyth i'r bobl sydd wedi'u magu yng nghanol gogoniannau Pen Llŷn.
Ond wrth i'r Eisteddfod fynd rhagddi ym Moduan, mae'r alwad am dai i bobl ifanc yn eu cymunedau'n un o'r prif bynciau trafod ar y maes.
Troi'i golygon am y brifysgol fydd Nel Llŷn nesaf, ond mae'n gobeithio dychwelyd i'w bro i fyw ryw ddydd.
Nel Llŷn ac Alaw Haf Lewis - dwy sy'n gobeithio gallu byw ym mro eu mebyd yn y dyfodol
"Mae dipyn o ffrindiau isio mynd, gweld be sy tu hwnt i Ben Llŷn, ond mae pawb isio dod yn ôl," meddai.
"Mae prisiau tai mor anodd... mae hijustyn anodd, chi'n gweldvisitorsyn dod yma, maen nhw'n prynu tai, tai ddylai fod yn fforddiadwy i bobl ifanc."
BBC Radio Cymru
Yn ogystal â dilyn ein llif byw ar BBC Cymru Fyw, cofiwch fod modd gwrando ar y diweddaraf ar BBC Radio Cymru
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
Mae un person wedi ei gludo i'r ysbyty a thri o bobl yn y ddalfa mewn cysylltiad â digwyddiad ym Mhwllheli y bore 'ma - sydd ryw bedair milltir o'r maes.
Yn ôl Heddlu'r Gogledd, mae swyddogion yn dal i fod yn bresennol yn yr ardal.
Mae unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad yn cael eu hannog i gysylltu â'r llu.
Darllenwch yma.
Mae sesiwn Stand Yp Gŵyl Cymru yn digwydd yng Nghaffi Maes B ar hyn o bryd.
Esyllt Sears sy’n arwain yr arlwy comedi, gyda Daniel Griffith, Beth Jones a Josh Pennar hefyd yn camu i’r meicroffon.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi rhannu map o ardal y Steddfod sy'n dyddio i 1790:
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
A dyma fap o enwau'r caeau ble mae'r ŵyl yn cael ei chynnal eleni:
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ond dydy'r un o'r rhain am helpu os ydych chi'n ceisio dod o hyd i'r Tŷ Gwerin neu'r bar...
... felly dyma le sy'n sicr o brysuro cyn hir!
Tyrfa wedi ymgasglu i wylio'r cystadlu ar sgrin fawr ar y maes. Meibion Mellteyrn sydd i'w gweld, yn y gystadleuaeth Parti Llefaru.