Crynodeb

  • Y Prif Ddramodydd yw Cai Llewelyn Evans

  • Mas ar y Maes yn bump oed

  • Paratoi ar gyfer Gig y Pafiliwn

  • Dathlu cyfraniad Penri Jones - awdur Jabas a chyd-sylfaenydd Lol

  1. 'Ewch amdani chwiorydd,' medd yr Archdderwydd newydd!wedi ei gyhoeddi 16:08 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Mae'r ail fenyw i'w hethol yn Archdderwydd yn gobeithio y bydd ei phenodiad yn annog merched eraill i ymgymryd â'r swydd yn y dyfodol.

    Y Prifardd a'r Prif Lenor Mererid Hopwood fydd Archdderwydd 2024-2027, wrth i gyfnod Myrddin ap Dafydd ddod i ben yr wythnos hon.

    Hi fydd yr ail fenyw i ymgymryd â'r rôl, yn dilyn cyfnod Christine James wrth y llyw rhwng 2013 a 2016.

    Mererid Hopwood ar faes yr Eisteddfod

    "Yn anochel mae rhywun yn ymwybodol bod prinder difrifol o fenywod wedi bod yn y rôl," meddai wrth BBC Cymru Fyw.

    "A falle bod yng nghefn fy meddwl... ryw obaith y bydd hyn yn annog pobl eraill i 'weud, 'ie iawn a'i amdani.'

    "Felly amdani nawr chwiorydd!"

    Darllenwch ei sgwrs lawn gyda'n criw ni ar y maes yma.

  2. Beth am fynd i wylio sioe?wedi ei gyhoeddi 16:02 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Dyma arlwy'r Theatr Genedlaethol ar y maes heddiw...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Menter i brynu hen gartref Trevor ac Eileen Beasley yn "mynd yn dda"wedi ei gyhoeddi 16:00 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Y criw yn trafod y cynllun ar faes yr Eisteddfod

    Ym mhabell Mentrau Iaith roedd digwyddiad yn trafod cynllun Menter Cwm Gwendraeth Elli i brynu hen gartref Trevor ac Eileen Beasley yn Llangennech.

    Dywedodd John Derek Rees o’r Fenter ei bod yn “mynd yn dda".

    "Mae criw mawr o bobl - dros 250 o bobl - wedi rhoi, mae mudiadau yn cyfrannu, mae ysgolion yn dechrau codi arian, mae'r bêl yn dechre' rowlio.

    "Ni dros y £10,000 nawr ac mae gyda ni geisiadau am grantiau mewn ac y'n ni'n obeithiol iawn."

    Delyth Prys

    Roedd merch Trevor ac Eileen Beasley, Delyth Prys, yn y digwyddiad.

    Mae’n croesawu’r ymgyrch i brynu’r tŷ: “Mae’n gynllun eitha' cyffrous achos dw i'n deall bod y tŷ yn mynd a'i ben iddo wedyn mae hynny'n drueni bod e'n wag.

    "Mae angen coffau y frwydr ddigwyddodd bryd hynny a be' sydd wedi digwydd ers hynny a sut mae wedi arwain at adfywiad y Gymraeg mewn gwirionedd."

  4. Aduniad arbennig iawn ym Moduan...wedi ei gyhoeddi 15:48 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Roedd hwyl i gael wrth i Mistar Urdd a'i grëwr ddweud 'hei' ar y maes!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Loc-in ysgrifennu hwyrnos yn 'annog lleisiau i ddod allan'wedi ei gyhoeddi 15:43 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Mae Bardd Cadeiriog Eisteddfod yr Urdd eleni, Tegwen Bruce-Deans, yn aelod o grŵp sydd yn cymryd rhan mewn prosiect arbennig heno, lle mae'n rhaid ymateb i thema yn ysgrifenedig rhwng 19:00 a hanner nos.

    Ei enw yw Loc-in Creu, ac yn ôl Tegwen, y bwriad yw "creu gofod creadigol i 'sgwennwyr gael creu rhywbeth ar y spot, er mwyn annog ein lleisiau i ddod allan yn uchel ac yn ddewr.

    Tegwen Bruce-Deans
    Disgrifiad o’r llun,

    Tegwen Bruce-Deans, yn barod amdani!

    "Ella' fydd o'n gerdd, yn fonolog, yn speech neu'n rant! Dio'm ots, cael clywed llais amrwd y 'sgwennwr sy'n bwysig."

    Bydd y criw, sydd erioed wedi cyd-ysgrifennu o'r blaen, wedyn yn cael cyfle i berfformio eu darnau o flaen yr arwydd EISTEDDFOD ar y maes brynhawn Gwener am 13:00, 15:00 a 16:00 o'r gloch.

  6. Ar 'Ben y Byd' yng Nghaffi Maes B 😎wedi ei gyhoeddi 15:39 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Torf Maes B fu'n cael eu blas o Bwncath y prynhawn 'ma, cyn iddyn nhw gloi arlwy'r ardal ieuenctid nos Sadwrn 🎶👇

  7. Ydy mae hi'n braf 'ma unwaith eto!wedi ei gyhoeddi 15:36 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    ... a'r maes yn llawn dop b'nawn Iau.

    Maes yn orlawn
  8. 500 mlynedd o gynganeddu (a dwi'n dal yn methu gwneud🤦)wedi ei gyhoeddi 15:34 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Wyddoch chi fod rheolau cynganeddu mewn lle ers 1523?

    Dewch draw i'r Babell Lên am 16:30 i ddysgu mwy am Eisteddfod Caerwys, lle y cafodd rheolau'r gynghanedd eu rhoi mewn lle yn swyddogol.

    *Ni fydd yn sgwrs yma yn sicrhau eich bod yn medru cynganeddu*

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. 'Angen i'r Gymraeg fod yn gliriach a haws i'w defnyddio'wedi ei gyhoeddi 15:28 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Osian Jones o Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (a'r Prifardd!) ar y maes yn trafod llyfr newydd sy’n rhoi canllawiau i wella’r ddarpariaeth Gymraeg gan wasanaethau cyhoeddus.

    Osian

    Fe wnaeth arolwg yn Eisteddfod y llynedd ddangos bod nifer o Gymry Cymraeg yn dewis gwasanaethau Saesneg yn enwedig ar-lein.

    Mae’n dangos, meddai, bod angen i’r Gymraeg fod yn gliriach ac yn haws i’w defnyddio.

  10. Caffi Maes B...wncath? 🎶wedi ei gyhoeddi 15:20 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Mae Bwncath wrthi'n perfformio set yng Nghaffi Maes B

    Nos Sul ar Lwyfan y Maes, fe dorrodd y band record yn ôl yr Eisteddfod, wrth ddenu torf o 11,000!

    Bwncath
    Bwncath
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'n orlawn ger Caffi Maes B!

  11. Cyfle i gwrdd â hen ffrindiau ysgol...wedi ei gyhoeddi 15:08 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    ...a does neb wedi newid dim! 😎

    Heledd, Glesni, Rowena, Leisa, Nest ac Elin
    Disgrifiad o’r llun,

    Heledd, Glesni, Rowena, Leisa, Nest ac Elin

  12. Gwyliwch y cyfan o'r Pafiliwn Mawr 👀📺wedi ei gyhoeddi 15:04 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Cofiwch y gallwch wylio'r holl gystadlu ar ein ffrwd byw - Sedd yn y Pafiliwn Mawr - yma.

  13. Hanes lleol yn denu torf...wedi ei gyhoeddi 14:53 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Roedd hi'n llawn dop yn y Babell Lên y prynhawn 'ma ar gyfer ychydig o hanes 'Tan yn Llŷn'.

    Sgwrs am yr ysbrydoliaeth a ddaeth i lenyddiaeth Llŷn yn dilyn llosgi’r Ysgol Fomio ym 1936.

    Y Babell Len yn llawn
  14. Cyw yn dod â byd o liw i faes cymylog!wedi ei gyhoeddi 14:47 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Cyw a'i ffrindiau - yr unig fygythiad i'r record a osododd Bwncath drwy ddenu 11,000 i Lwyfan y Maes?

    Llwyfan y maes
  15. Dewch am gip gefn llwyfan...wedi ei gyhoeddi 14:44 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Ciw cor merched
    Disgrifiad o’r llun,

    Digon yn ciwio i wylio'r Côr Merched yn y Pafiliwn Bach

    Criw cefn llwyfan
    Disgrifiad o’r llun,

    ...a Chôr Merched Tegalaw yn gwneud eu paratoadau olaf gefn llwyfan

  16. Cariad at iaith...wedi ei gyhoeddi 14:37 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Dyma Gromette a Julie, aelodau parti’r dysgwyr o Aberystwyth.

    Daw Gromette o Norwy yn wreiddiol ond symudodd i Gymru ar ôl cyfarfod â’i diweddar gymar yn 1972 gyda dau o hogiau bach. Wrth ei throchi yn y Gymraeg yn ne Cymru daeth i glywed a siarad yr iaith yn rhugl.

    Yn yr un modd mae Julie, Cymraes, wedi dysgu’r iaith ond drwy ei chlywed ar ôl cyfarfod â’i gŵr y daeth hi i siarad yr iaith.

    “Dim ond drwy siarad Cymraeg dwi 'di dysgu - 'nes i ddysgu Cymraeg ar ôl mynd gyda fe," meddai Julie.

    "Ma' fe’n walking dictionary i fi!"

    Dwy ddynes ym Maes D
  17. Cofio Penri Jones – awdur Jabas a chyd-sylfaenydd Lolwedi ei gyhoeddi 14:29 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Yn 2021 bu farw yr athro a'r awdur Penri Jones yn 78 oed ar ôl salwch byr.

    Mae'n fwyaf adnabyddus am ysgrifennu'r gyfrol Jabas a ddaeth wedyn yn gyfres deledu boblogaidd.

    Ef hefyd oedd cyd-sylfaenydd y cylchgrawn Cymraeg dychanol Lol yn 1965.

    Penri JonesFfynhonnell y llun, Plaid Cymru Gwynedd

    Yn y Babell Lên y prynhawn ‘ma fe fydd Aled Hughes yn dathlu ei gyfraniad unigryw.

    Yn bresennol hefyd fe fydd rhai o gast gwreiddiol y gyfres Jabas.

  18. Swyno'r gynulleidfa ar y maes!wedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Disgyblion Ysgol Hafod Lon oedd yn canu ar stondin Undeb Cymru a’r Byd y prynhawn 'ma, gyda degau o bobl yn mwynhau'r perfformiad.

    Plant ysgol yn canu ar y maes
  19. Llongyfarchiadau i'r buddugol ym Mrwydr y Bandiau! 🥳️wedi ei gyhoeddi 14:19 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Moss Carpet ddaeth i'r brig - ac fe fydd modd mynd i'w gwylio ym Maes B nos Sadwrn.

    "Ar ben fy hun yn fy ystafell wely, doeddwn i byth yn meddwl bysa pobl yn gwrando a mwynhau," medd y prosiect o Gaernarfon.

    Yn beirniadu’r gystadleuaeth eleni oedd Glyn Rhys-James (Mellt), Marged Siôn (Artist ac aelod o SelfEsteem), Marged Gwenllian (Y Cledrau + Ciwb), a Siôn Land (Alffa).

    Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniatáu cynnwys Instagram?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram
  20. Cynnig hoe o'r partïo ym Maes B...wedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich+1 10 Awst 2023

    Draw ar Faes B, mae criw o wirfoddolwyr lles yn barod i roi help llaw i'r gwersyllwyr ifanc.

    Mae deunydd cymorth cyntaf, diogelwch a hylendid personol ar gael am ddim gan y criw yn yr ardal ieuenctid.

    "Ma' fe mwy ar gyfer y bobl ifanc pan fyddan nhw angen bach o gymorth... unrhyw beth allwn ni helpu efo!"

    Gwirfoddolwyr Maes B