Crynodeb

  • Bwrlwm ar y maes ym Meifod ar ddiwrnod cyntaf y cystadlu

  • Cymunedau Sir Drefaldwyn wedi codi dros £300,000 tuag at y gost o gynnal y Brifwyl

  • Dyma'r tro cyntaf mewn 36 o flynyddoedd i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Maldwyn

  • Am y tro cyntaf erioed mae dros 100,000 o blant a phobl ifanc wedi cofrestru i gystadlu 

  • Wanesa Kazmierowska o Abertawe yn ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc

  • Saffron Lewis o Sir Benfro yn cipio'r Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg

  1. Hwyl am y tro ...wedi ei gyhoeddi 16:09 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    A dyna ni gan dîm Cymru Fyw o'r maes am heddiw.

    Mae gweddill straeon y dydd ar wefan Cymru Fyw.

    Yfory llif byw arall o'r Maes ym Meifod a hynny ar ddiwrnod Seremoni y Fedal Ddrama.

    Ond cyn cloi dyma i chi gyfle arall i fynd ar daith gyflym o gwmpas y maes bendigedig ar Fferm Mathrafal.

    Disgrifiad,

    Croeso i Eisteddfod yr Urdd 2024

  2. Diod ddiwedd dydd ...wedi ei gyhoeddi 16:00 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Mae wedi bod yn ddiwrnod i'r brenin ym Meifod.

    Mae Megan a Lowri yn mwynhau diod ddiwedd dydd yn yr haul.

    diod
  3. Cyngor ar sut i gadw'n ddiogel ar y maeswedi ei gyhoeddi 15:56 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Gydol y dydd mae Sam a James o wasanaeth Ambiwlans Sant Ioan wedi bod yn rhoi cyngor ar sut i gadw yn ddiogel o amgylch y maes a dyma'r tips:

    1. Byddwch ddewr a helpu bob tro mae rhywun mewn argyfwng;

    2. Peidiwch â ffilmio - ffoniwch 999;

    3. Gwisgwch yn addas ar gyfer y tywydd;

    4. Yfwch ddigonedd o ddŵr;

    5. Os oes argyfwng chwiliwch am babell felen Ambiwlans Sant Ioan sydd ar y maes drwy’r wythnos!

    Sam a James
  4. Gwaith buddugol enillwyr y gwobrau celfwedi ei gyhoeddi 15:49 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Ewch draw i'r babell 'Celf, Dylunio a Thechnoleg' i weld gwaith enillydd y Fedal Gelf - Saffron Lewis.

    Gwaith celf
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwaith Saffron Lewis

    Hefyd yno mae gwaith enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc 2024 Wanesa Kazmierowska.

    Gwaith celf
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwaith celf Wanesa Kazmierowska

  5. Mwy na 'Steddfod - siopa hefyd 🛍️wedi ei gyhoeddi 15:47 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Mae yna lu o stondinau ar y maes.

    Mae Siwan a Llio o Lyn Ceiriog wedi dod am sbec o amgylch y stondinau! Pam ddim? ️

    siopa
    Disgrifiad o’r llun,

    Dyma ddwy sy'n hoff o siopa

  6. Cyhoeddi CogUrdd 2024 a gwobr go arbennig!wedi ei gyhoeddi 15:46 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    CogUrdd 2024 yw Elis James o Goleg Ceredigion (campws Aberteifi).

    Mae’r wobr eleni’n cael ei rhoi gan y cogydd Bryn Williams, sef diwrnod o brofiad gwaith gydag ef ym mwyty Porth Eirias yn ogystal â phryd i bedwar yn y bwyty.

    cogurdd
    Disgrifiad o’r llun,

    CogUrdd 2024 yw Elis James o Goleg Ceredigion (campws Aberteifi)

  7. Gwledd i'r Dysgwyr ar y maes - 'y teimlad wedi newid'wedi ei gyhoeddi 15:39 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Mae sawl cod QR ar draws maes Eisteddfod yr Urdd Maldwyn wedi ymgais gan yr Urdd i ddenu mwy o ddysgwyr Cymraeg.

    Dywedodd Emma sy’n ddysgwraig o’r Barri ei bod yn gweld yr Eisteddfod fel rhywle gwych i ddysgwyr ddod i ddatblygu eu hyder.

    Nododd hefyd y sioc a’r boddhad a gafodd o glywed cymaint o ddysgwyr a siaradwyr di-Gymraeg yn mynychu’r Eisteddfod heddiw.

    “Mae wedi bod yn hyfryd. Dyddiau yma nid wyt ti’n teimlo fel fod pobl yn edrych i lawr arnat ti am fod yn ddysgwr fel oedd y teimlad gen i ers talwm," meddai.

    Mae gweithgareddau wedi eu paratoi trwy gydol yr wythnos ar gyfer dysgwyr Cymraeg ac maent oll i’w gweld ar ap yr Eisteddfod o dan ‘Dysgwyr’.

    dysgwyr
  8. Y crempogau yn hynod boblogaidd yn ôl y sôn 🥞wedi ei gyhoeddi 15:34 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Dannedd melys (a sawrus) ar y maes!

    Crempogau yn ymddangos fel y ffefryn yn y pentref bwyd heddiw!

    bwyd
  9. Y plant sy'n teithio 7,000 o filltiroedd i gystadlu yn Eisteddfod yr Urddwedi ei gyhoeddi 15:31 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Bydd rhai o blant Patagonia yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn tra ar ymweliad â Chymru.

    Read More
  10. 'Steddfod olaf Arwyn 'Herald'wedi ei gyhoeddi 15:26 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Arwyn Herald

    Ar ôl dros bedwar degawd o dynnu lluniau yn Eisteddfod yr Urdd mae Arwyn ‘Herald’ Roberts yn rhoi’r gorau iddi eleni.

    Mae’n wyneb cyfarwydd i nifer fawr o eisteddfodwyr ers gweithio yn ei Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gyntaf yn 1982.

    Heblaw am gyfnod Covid, pan oedd yr ŵyl yn ddigidol, mae wedi gwneud pob un ers ’82 - gan gynnwys yn ystod blwyddyn Clwy’r Traed a’r Genau yn 2001 pan gafodd ei darlledu o ddwy ganolfan.

    Meddai: “Mae wedi bod yn fraint ac anrhydedd i weithio yn eisteddfodau’r Urdd a be’ sydd wedi rhoi pleser i mi fwy na dim byd ydi gweld plant i blant pobl o'n i’n tynnu eu lluniau nhw rŵan yn cystadlu.

    “A be’ sy’n dda am y ‘Steddfod ydi ei bod hi wedi newid yn raddol efo’r amser i newid efo’r oes.”

  11. Ymdrech arwrol i godi arian ar draws Trefaldwynwedi ei gyhoeddi 15:17 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Mae cymunedau Sir Drefaldwyn wedi codi dros £300,000 tuag at y gost o gynnal Eisteddfod yr Urdd ym Meifod eleni.

    £345,000 oedd y targed ac mae'n ymddangos bydd y cyfanswm terfynol yn agos ato, gyda rhai digwyddiadau codi arian eto i'w cynnal.

    Yn ôl Bedwyr Fychan, cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol, cafwyd gwaith "arwrol" i godi arian mewn cymunedau gwledig yn ystod cyfnod heriol o gostau byw uchel.

    croeso
    Disgrifiad o’r llun,

    Mwynder a chroeso Maldwyn yn amlwg ar draws y sir

  12. Gwyddonwyr y dyfodolwedi ei gyhoeddi 15:12 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Nid dim ond cystadlu sydd yn digwydd yn yr Eisteddfod!

    Ym mhabell Gwyddonle Prifysgol Abertawe mae Cerys a Lauren yn cynnal sesiwn ‘Dysgu Defnyddio Diffibriliwr’ gan gymell y plant drwy bob cam o achub bywyd gyda'r teclyn.

    Nododd bod modd darganfod y diffibrilliwr "mewn adeiladau cyhoeddus, fel arfer mewn bocs melyn a gwyrdd".

    Ac "os ffoniwch chi 999 fedran nhw ddweud y côd wrthych ".

    Pabell Gwyddonle
  13. Nerfau gefn llwyfanwedi ei gyhoeddi 15:05 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Gwylio'r unawd Bl 2 ac iau ar y teledu gefn llwyfan

    Gwylio plentyn ar y teledu yn cystadlu ar y llwyfan
  14. Ysgoloriaeth artist ifanc: 'Y gwaith yn sefyll allan'wedi ei gyhoeddi 15:05 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Beirniad y gystadleuaeth oedd Jo Munton a Kate Morgan-Claire.

    Yn eu beirniadaeth, dywedodd y ddwy: “Roedd maes y cynigion yn eang, a’r safonau’n uchel, mae’n amlwg bod gan bawb gariad at eu maes creadigol a’r hyn sy’n eu hysbrydoli.

    "Mae gan Wanesa ffocws mawr ar ei gwaith a sut yr hoffai ei ddatblygu.

    "Mynegodd ei syniadau mor eglur fel ei bod yn hawdd gweld bod ganddi lawer o botensial fel artist. Roedd ei gallu i ddeffro’r emosiynau ac adrodd stori trwy ei delwedd o’r glöwr a’r caneri yn gwneud i’r gwaith hwn sefyll allan.”

  15. Wanesa Kazmierowska wedi cael ei dylanwadu gan Amgueddfa Blaenafonwedi ei gyhoeddi 15:01 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Fe ddaeth Wanesa Kazmierowska, enillydd yr ysgoloriaeth i artist ifanc, i Gymru o Wlad Pwyl pan yn 5 oed.

    Dywed bod ei gwaith wedi cael ei ddylanwadu gan ymweliad ag Amgueddfa Blaenafon ac ar gyfer y gwaith mae hi wedi bod yn holi nifer o lowyr am eu profiadau.

    Cyflwynir Ysgoloriaeth Artist Ifanc, gwerth £2,000 drwy garedigrwydd y diweddar Dr Dewi Davies a’i deulu am y gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng 18–25 oed.

    Mae Wanesa yn 19 oed ac yn astudio ar gyfer Diploma Sylfaen Celf a Dylunio yng Ngholeg Gŵyr yn Abertawe.

    Yn wreiddiol o Wlad Pwyl, mae hi wedi byw yn Abertawe ers dros 14 mlynedd. Mae ganddi le wedi’i gadarnhau yn UAL (University of the Arts London) y flwyddyn nesaf i astudio Darlunio a Chyfryngau Gweledol ac mae’n gobeithio cymhwyso fel artist/darlunydd graffeg yn y dyfodol.

    Meddai Wanesa: “Rwy’n mwynhau arbrofi gyda chyfryngau ac arddulliau artistig amrywiol i ehangu fy sgiliau, yn benodol gwneud printiau, celf ddigidol a phaentio gouache.”

    Mae ei chelf wedi cael ei arddangos mewn tair oriel yn Abertawe, gan gynnwys Oriel Gelf Glynn Vivian.

    Derbyniodd fwrsariaeth gan Weithdy Argraffu Abertawe a chymerodd ran mewn prosiect i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu Llyfrgell Glowyr De Cymru.

    Roedd ei phrint, "The Descent/Descent," yn un o'r 20 print a ddewiswyd, ac mae'n cael ei arddangos ar hyn o bryd yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin.

  16. Saffron Lewis: 'Arbrofi yn cadw fy angerdd yn fyw'wedi ei gyhoeddi 14:55 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Mae Saffron Lewis, enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn fyfyriwr celf a dylunio yng Ngholeg Sir Benfro ac ar fin mynd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio Celfyddyd Gain ym mis Medi.

    Dywedodd: “Dechreuodd fy nghariad at y celfyddydau yn ifanc iawn ac ar hyd y blynyddoedd mae hyn wedi tyfu. Mae arbrofi gydag amryw o wahanol gyfryngau a phrosesau artistig yn cadw fy angerdd yn fyw.

    “Mae testun fy ngwaith yn bennaf yn organig ac yn gynaliadwy. Rwy'n hoffi amsugno awyrgylch fy amgylchoedd i greu marciau egnïol o fewn fy ngwaith celf.

    "Mae fy ymarfer yn cynnwys amrywiaeth o gyfryngau a rwy’n hoffi creu darnau diddorol ac unigryw sydd heb eu gweld o’r blaen; lle gall y sawl sy’n edrych ar y darn greu eu stori eu hunain.”

  17. Saffron Lewis yn ennill y Fedal Gelfwedi ei gyhoeddi 14:48 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024
    Newydd dorri

    Enillydd Medal Gelf 2024 yw Saffron Lewis o Sir Benfro.

    Ac enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc eleni yw Wanesa Kazmierowska o Abertawe.

    Saffron LewisFfynhonnell y llun, Yr Urdd
    Disgrifiad o’r llun,

    Saffron Lewis, Enillydd Medal Gelf Eisteddfod yr Urdd 2024

    Wanesa KazmierowskaFfynhonnell y llun, Yr Urdd
    Disgrifiad o’r llun,

    Wanesa Kazmierowska, Enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc, Eisteddfod yr Urdd 2024

  18. Prif seremoni'r dydd - y Fedal Gelf ac Ysgoloriaeth Artist ifancwedi ei gyhoeddi 14:37 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Eisteddfod yr Urdd

    Prif seremoni'r dydd yw cyflwyno'r Fedal Gelf sy'n cael ei rhoi eleni er cof am Elain Heledd a fu'n ysbrydoli disgyblion Llanegryn a Llanbrynmair.

    Yn ystod yr un seremoni fe fydd enw enillydd Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc yn cael ei gyhoeddi. Mae'r tlws yn rhodd gan gwmni Arwerthwyr Celfyddyd Gain Rogers Jones.

  19. Ffion Emyr yn chwilio am straeon ....wedi ei gyhoeddi 14:27 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    BBC Radio Cymru

    Ar hyn o bryd mae Ifan Jones Evans a Ffion Emyr yn cyflwyno uchafbwyntiau o faes Eisteddfod yr Urdd - ac ydy mae Ffion o gwmpas y maes yn chwilio am straeon difyr!

    Y rhaglen yn fyw ar Radio Cymru ac yna ar BBC Sounds.

    Ffion Emyr
  20. Y perfformiad wedi plesio...wedi ei gyhoeddi 14:23 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Mared, o Ysgol Melin Gruffydd, Caerdydd, gefn llwyfan yn syth ar ôl cystadlu ar yr Unawd Bl 2 ac iau.

    Mared