Crynodeb

  • Bwrlwm ar y maes ym Meifod ar ddiwrnod cyntaf y cystadlu

  • Cymunedau Sir Drefaldwyn wedi codi dros £300,000 tuag at y gost o gynnal y Brifwyl

  • Dyma'r tro cyntaf mewn 36 o flynyddoedd i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Maldwyn

  • Am y tro cyntaf erioed mae dros 100,000 o blant a phobl ifanc wedi cofrestru i gystadlu 

  • Wanesa Kazmierowska o Abertawe yn ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc

  • Saffron Lewis o Sir Benfro yn cipio'r Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg

  1. Dawnswyr lleol yn mwynhau cystadluwedi ei gyhoeddi 14:22 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Doedd dim rhaid i ddisgyblion Ysgol Llanfyllin deithio'n bell i gystadlu yn y gystadleuaeth dawnsio gwerin - ac ydyn maen nhw wrth eu bodd yn cael croesawu yr Eisteddfod i'w hardal.

    Llanfyllin
    Disgrifiad o’r llun,

    Dawnswyr Llanfyllin yn joio!

  2. Mari Grug yn trafod ei phodlediad am ganser ar y maeswedi ei gyhoeddi 14:14 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Ar y maes y prynhawn 'ma bu Emma, Rachel a Non yn sgwrsio gyda Mari Grug am ei phodlediad newydd 1 mewn 2.

    Nododd Mari Grug iddi feddwl am enw’r podlediad yn dilyn y ffaith fod ystadegau yn dynodi fod “un o bob dau ohonom ni yn debygol o gael canser".

    Yn dilyn ei deiagnosis o ganser y fron fe greodd hi bodlediad oedd yn trafod ei phrofiadau hi ac eraill oedd wedi bod drwy brofiadau tebyg gyda chanser.

    Dywedodd mai ei gobaith gyda’r podlediad oedd "bod yn ffrind i rywun" gan obeithio y bydd "eraill yn cael rhywbeth mas o’r bennod 50 munud".

    Mwy am y podlediad yma.

    Mari Grug
    Disgrifiad o’r llun,

    Mari Grug yn trafod ei phodlediad newydd ar ei phrofiad o ganser

  3. 'Gewn ni weld sut eith hi' yn codi'r towedi ei gyhoeddi 14:04 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Geiriau nifer o gystadleuwyr yr wythnos hon mae'n siŵr fydd 'Gewn ni weld sut eith hi' a dyna oedd enw y sioe a berfformiwyd gan blant ysgolion uwchradd y sir nos Sul.

    Sioe gerdd jukebox o ganeuon Rhydian Meilir oedd y sioe yn dilyn hynt a helynt Ysgol Dolhwîd wrth iddyn nhw baratoi i gystadlu yng nghystadleuaeth Cân y Cymry.

    Yn ôl y rhai oedd yno roedd hi'n sioe wefreiddiol a oedd yn "codi'r to".

    sioe uwchradd
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhai o'r disgyblion uwchradd a oedd yn rhan o'r sioe 'Gewn ni weld sut eith hi'

  4. Y ffair yn denu - wrth gwrs!wedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Mae'r maes yn un môr o liw - a'r ffair yn cyfrannu llawer at y bwrlwm!

    ffair
  5. Canmoliaeth i'r llefarwyrwedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae canlyniadau'r dydd i weld ar ap Eisteddfod yr Urdd.

    Un oedd yn wên o glust glust yn gynharach oedd Arthur Siôn Evans o Dregaron - fe oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth i adroddwyr blynyddoedd 3 a 4. Mae e'n cael ei ddysgu gan ei rieni.

    Yn ail yr oedd Annes Euros o Chwilog ac yn drydydd Leusa Jên Williams o Ysgol Twm o'r Nant.

    Roedd 19 wedi cystadlu.

  6. Beth am y tywydd 'na?wedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Tywydd

    Mae'n braf heddiw ond ydi'r tywydd braf i barhau? O faes Eisteddfod yr Urdd ym Meifod, dyma Alex gyda'r rhagolygon.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Cannoedd o blant y sir yn rhan o 'Ein Maldwyn Ni'wedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Bro Ddyfi
    Disgrifiad o’r llun,

    Cylch Bro Ddyfi yn perfformio Mab Darogan

    Heddiw yw'r diwrnod llawn cyntaf o gystadlu ond ddydd Sul roedd y maes y un bwrlwm wrth i blant cynradd a phlant uwchradd y sir berfformio.

    'Ein Maldwyn ni' oedd sioe y disgyblion cynradd lle bu 400 o blant Rhanbarth Maldwyn yn cyflwyno a dathlu rhai o hoff sioeau Theatr Maldwyn.

    Fe wnaeth Penri Roberts a Linda Gittins greu detholiadau o Mela, 5 Diwrnod o Ryddid, Crib Siswrn a Rasel a Mab Darogan.

    Myllin
    Disgrifiad o’r llun,

    Cylch Myllin yn perfformio Crib, Siswrn a Rasel

  8. Newidiadau i wneud y Maes yn gynhwysolwedi ei gyhoeddi 13:22 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Mae Eisteddfod yr Urdd eleni yn fwy hygyrch i gystadleuwyr ac ymwelwyr, yn ôl cyfarwyddwr Celfyddydau'r Urdd.

    Yn ôl Llio Maddocks mae’r mudiad wedi ymgynghori gydag arbenigwyr ac aelodau er mwyn gwneud newidiadau sy’n sicrhau bod y maes a gweithgareddau yn gynhwysol.

    Mae’r rhain yn cynnwys penodi swyddog hygyrchedd i’r eisteddfod, gwasanaeth arwyddo ar alw yn y pafiliynau a darparu adnoddau ar gyfer ymwelwyr dall a byddar.

    Meddai Llio Maddocks: “Mae Eisteddfod yr Urdd yn un o uchafbwyntiau diwylliannol ein calendr Cymreig, ac mae gwyliau celfyddydol yn haeddu cael eu mwynhau gan bawb.

    “Yn ogystal â datblygu ac addasu maes yr Eisteddfod, rydym hefyd am sicrhau cyfleoedd i artistiaid anabl a niwroamrywiol i berfformio ac arwain yn ein darpariaeth gelfyddydol. Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio gyda’n partneriaid er mwyn sicrhau fod cynnig celfyddydol yr Urdd yn esblygu a thyfu.”

    Disgrifiad,

    Llio Maddocks: Cyfarwyddwr Celfyddydau'r Urdd

  9. Amser am glonc yn yr haulwedi ei gyhoeddi 13:19 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Poppy, Delcy, Sarah, Ann a Ceri yn rhoi'r byd yn ei le yn y ‘Steddfod!

    clonc
  10. 'Dewch yn llu, gyd-Gymry gwâr'wedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    steddfod

    Arwyn Groe yw awdur y cywydd croeso ac ydy mae'r croeso yn fawr ym mwynder Maldwyn.

    Y cywydd croesoFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
  11. Mynediad am ddim i deuluoedd incwm iswedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Mae’r Urdd wedi diolch i Lywodraeth Cymru am £150,000 i helpu teuluoedd incwm is fynd i’r Eisteddfod am ddim eleni.

    Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd Siân Lewis yng nghynhadledd y wasg bod dros 9,000 o unigolion wedi derbyn tocyn am ddim llynedd. Bydd niferoedd eleni yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd yr wythnos.

    Meddai: “Ar ran yr Urdd hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth ariannol sy’n ein galluogi i gynnig mynediad am ddim i deuluoedd incwm is i Eisteddfod yr Urdd Maldwyn.

    “Mae’r argyfwng costau byw yn rhoi straen mawr ar deuluoedd, ac rydym eisiau sicrhau nad yw sefyllfa ariannol teulu yn golygu bod rhaid i blentyn golli allan ar brofiadau drwy’r Urdd.”

    Prif Weithredwr yr Urdd Siân Lewis
    Disgrifiad o’r llun,

    Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis, yn siarad yng nghynhadledd y wasg

  12. Torri record - dros 100,000 wedi cofrestru i gystadluwedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Eleni mae'r Eisteddfod wedi torri record - am y tro cyntaf erioed mae dros 100,000 o blant a phobl ifanc wedi cofrestru i gystadlu yn y cystadlaethau llwyfan o rownd yr eisteddfodau cylch ac yn y cystadlaethau celf, crefft a dylunio.

    Dywedodd Llio Maddocks, cyfarwyddwr y celfyddydau, mai un rheswm yw bod yr Urdd wedi addasu cystadlaethau a chyflwyno rhai newydd.

    "Dwi'n meddwl ein bod ni'n ymateb yn gyson i beth mae ein cystadleuwyr isio, da ni'n ŵyl sy'n gwrando ar y bobl ifanc. Da ni'n mynd ati wedyn i deilwra y rhestr testunau yn ôl beth maen nhw isio a beth sydd ganddyn nhw ddiddordeb ynddo.

    "Mae 'da ni gystadleuaeth newydd eleni sef PobUrdd, lle mae plant a phobl ifanc yn pobi cacennau ac mae hwnna wedi profi'n boblogaidd iawn, felly da ni wastad am wneud yn siwr ein bod ni'n cynnig y profiadau gorau i'n cystadleuwyr ni."

    Llio
    Disgrifiad o’r llun,

    Llio Maddocks yw cyfarwyddwr celfyddydau Urdd Gobaith Cymru

  13. Rhaid cael lliwio yn y 'Steddfod!wedi ei gyhoeddi 12:47 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Dyw 'Steddfod ddim yn 'steddfod os nad oes cyfle i hel nwyddau am ddim, ffair a lliwio!

    Mae Gwilym a Brychan yn mwynhau lliwio ym mhabell Cwiar Na Nog.

    Gwilym a Brychan
  14. Pwy sydd eisiau paned?wedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Jane Morgan, Llinos, Tegwen, Megan a Janet
    Disgrifiad o’r llun,

    Jane Morgan, Llinos, Tegwen, Megan a Janet wrthi'n brysur yn gwneud te ar stondin Merched y Wawr

    Jane Morgan, Llinos, Tegwen, Megan a Janet sy’n brysur yn gwirfoddoli yn stondin Merched y Wawr heddiw!

    Dywedodd Jane Morgan sy’n swyddog datblygu Merched y Wawr ei bod hi’n "mynd yn grêt gyda’r merched yn gwneud te a choffi".

    Dywedodd hefyd fod stondin gwerthu sgarffiau a gemwaith yn y babell gyda’r "llywydd ‘leni yn codi arian tuag at Ambiwlans Awyr Cymru".

    Mae Tegwen, Cyfarwyddwr Merched y Wawr hefyd yn canmol Llinos am iddi fod yn brysur yn creu telynau lliwiau’r Urdd sydd i’w gweld dros yr ardal - dros 30 ohonyn nhw.

    Criw cynhyrchiol iawn!

    telynFfynhonnell y llun, Merched y Wawr
  15. Gwylio'r cystadlu yn yr haul☀️wedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Mwynhau’r cystadlu ond eisiau gwneud y mwyaf o’r tywydd braf?

    Mae sawl sgrîn o amgylch y maes yn dangos yr holl gystadlu o fewn y pafiliwn Coch, Gwyn a Gwyrdd!

    Pobl tu allan i'r pafiliwn gwyrdd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r haul yn gwenu ym Meifod

  16. Y Cardis sydd orau am wneud gwaith cartref!wedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Ddechrau Mawrth fe wnaeth degau o blant a phobl ifanc ar draws Cymru gyflwyno eu gwaith ar gyfer y cystadlaethau gwaith cartref.

    Ceredigion syn fuddugol - maen nhw wedi cipio 83 o bwyntiau!

    gwaith cartrefFfynhonnell y llun, Nest Gwilym
  17. 'Mae'r haul wedi dod'wedi ei gyhoeddi 12:27 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Ydy - mae'r haul wedi dod ond Geraint Lovgreen yn mwynhau heddiw yn hytrach na chanu!

    Ger Lovgreen
    Disgrifiad o’r llun,

    Teleri ac Eleri a Geraint Lovgreen yn mwynhau ar y Maes

  18. Un ymarfer olaf...wedi ei gyhoeddi 12:24 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Ishi o Ysgol Bro Aled yn bachu ar y cyfle i ymarfer ar un o'r pianos yn y lle croeso cyn mynd i gystadlu ar yr unawd piano

    Plentyn yn chwarae'r piano
  19. Ardal Maldwyn yn croesawu Eisteddfodwyrwedi ei gyhoeddi 12:19 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Mae Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith wedi croesawu eisteddfodwyr i'r ardal - y tro cyntaf i’r ŵyl ymweld â Maldwyn ers 1988.

    Meddai Bedwyr Fychan: “Mae hi’n 36 mlynedd ers y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ddod i Faldwyn a dwi mor falch o weld Eisteddfod Maldwyn 2024 yn cyrraedd o’r diwedd.

    "Mae’r bwrlwm a’r brwdfrydedd wedi bod yn magu momentwm dros y misoedd diwethaf ar draws y sir a'r ymdrech i gasglu arian wedi bod yn arbennig.

    "Mae’n wych fod mwy o blant a phobl ifanc Maldwyn wedi cystadlu yn yr Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth nag erioed o’r blaen, a mwy o gystadleuwyr eleni nag yn unrhyw ranbarth arall yng Nghymru at hynny.”

    Bedwyr Fychan, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith
    Disgrifiad o’r llun,

    Bedwyr Fychan, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, yn siarad yn y gynhadledd i'r wasg ar Faes yr Eisteddfod

  20. Trafferthion gwylio'r cystadlu ar Clic?wedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Ydych chi wedi bod yn cael trafferth bore 'ma wrth wylio'r cystadlu yn fyw o'r Pafiliwn Coch, Gwyn a Gwyrdd?

    Mae Urdd wedi dweud wrth Cymru Fyw eu bod nhw "ac S4C yn ymwybodol o'r broblem ac yn gweithio i adfer y sefyllfa".