Crynodeb

  • Bwrlwm ar y maes ym Meifod ar ddiwrnod cyntaf y cystadlu

  • Cymunedau Sir Drefaldwyn wedi codi dros £300,000 tuag at y gost o gynnal y Brifwyl

  • Dyma'r tro cyntaf mewn 36 o flynyddoedd i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Maldwyn

  • Am y tro cyntaf erioed mae dros 100,000 o blant a phobl ifanc wedi cofrestru i gystadlu 

  • Wanesa Kazmierowska o Abertawe yn ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc

  • Saffron Lewis o Sir Benfro yn cipio'r Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg

  1. Mistar Urdd - 'Hwyl i'w gael ym mhobman yn dy gwmni'wedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Un cymeriad poblogaidd yn ystod yr wythnos fydd Mistar Urdd.

    Ydi - mae e wedi cyrraedd ac yn gynnar bore 'ma bu Mali a Rhys o Nantgaredig ger Caerfyrddin yn ei gyfarfod.

    Mali a Rhys o Nantgaredig ger Caerfyrddin yn cyfarfod â Mistr Urdd ben bore
    Disgrifiad o’r llun,

    Mali a Rhys o Nantgaredig ger Caerfyrddin yn cyfarfod â Mistar Urdd ben bore

  2. Trefniadau parcio yn 'mynd yn arbennig'wedi ei gyhoeddi 10:01 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Wrth siarad â BBC Cymru Fyw, dywedodd Emyr Wyn, Prif Stiward yr Urdd eleni, fod y "trefniadau parcio yn mynd yn arbennig" ar fore cynta'r Ŵyl.

    Dywedodd fod "dros 170" o wirfoddolwyr ar y Maes ei hun a chriw ar wahân yn gwarchod y maes parcio a'r maes carafanau.

    Mae rhan fwyaf o'r gwirfoddolwyr yn ffermwyr lleol, meddai Emyr, a byddan nhw'n "hel pobl fel defaid" tuag at y Maes.

    Ychwanegodd Emyr fod y gwirfoddolwyr yn "arbenigwyr ar y tywydd ym Mathrafal" ar ôl i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yno yn2003 a 2015.

    "'Da ni'n gwybod lle 'da ni ddim eisiau gweld cymylau du'n dod!" meddai.

    Disgrifiad,

    Emyr Wyn Jones yw Prif Stiward yr Urdd

  3. Anrhydeddu cymwynaswyr y fro - yn eu plith y diweddar Arwyn Tyisawedi ei gyhoeddi 09:57 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Eisteddfod yr Urdd

    Ymhlith llywyddion anrhydeddus y Brifwyl eleni mae Ann Fychan, Heulwen Davies, Emyr a Carys Evans, Delma Thomas, Menna Blake a Hywel Glyn Jones - oll wedi cyfrannu llawer i ddiwylliant eu hardal a gweithgareddau'r Urdd am flynyddoedd lawer.

    Mae'r Brifwyl hefyd yn anrhydeddu y diweddar Arwyn Tyisa, Llanfair Caerenion - a fu farw yn 2013.

    "Cymeriad cwbl arbennig, cwbl Gymreig a chwbl 'Faldwynaidd' - yn adlewyrchiad perffaith o ddiwylliant Maldwyn ar ei orau," medd llefarydd ar ran yr Urdd.

    Mae Arwyn yn un o'r rhai sydd wedi derbyn tlws John a Ceridwen Hughes gan yr Urdd.

    Llywyddion anrhydeddusFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
  4. Y Maes mewn 60 eiliadwedi ei gyhoeddi 09:50 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Ydych chi'n dod i'r Eisteddfod yr wythnos hon?

    Criw Cymru Fyw aeth am dro bore 'ma i weld lle mae popeth ar y maes!

    Disgrifiad,

    Croeso i Eisteddfod yr Urdd 2024

  5. Sut i wylio a gwrando ar y cystadlu?wedi ei gyhoeddi 09:46 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    BBC Radio Cymru

    Gallwch wylio'r holl gystadlu o'r Pafiliwn Coch, Gwyn a Gwyrdd ar S4C Clic ers ben bore - ac ar o S4C 10:30 ymlaen.

    Bydd rhaglen uchafbwyntiau o'r Eisteddfod hefyd ar Radio Cymru rhwng 14:00 a 17:00 yng nghwmni Ifan Jones Evans a Ffion Emyr a nifer o bytiau o'r maes gydol y dydd.

  6. I fod ym Machynlleth yn 2002 ond dim safle digon mawrwedi ei gyhoeddi 09:39 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Machynlleth
    Disgrifiad o’r llun,

    Y croeso ym Machynlleth i'r brifwyl

    Roedd Eisteddfod Maldwyn i fod i gael ei chynnal yn 2022 - blwyddyn canmlwyddiant yr Urdd - a Machynlleth oedd y lleoliad a ddewiswyd yn wreiddiol.

    Ond wedi saib o ddwy flynedd oherwydd pandemig Covid mae'n cael ei chynnal eleni, ac am nad oedd modd cael hyd i safle digon mawr yn ardal Machynlleth, penderfynwyd cynnal y brifwyl ym Meifod - ar yr un safle lle cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2003 a 2015.

    Mae yna groeso mawr i Eisteddfod Maldwyn ym Machynlleth - yn lle y bwriadwyd ei chynnal yn wreiddiol.

    brodyr Wigley
    Disgrifiad o’r llun,

    Y brodyr Wigley a'u chwaer Annes o ardal Machynlleth yn edrych ymlaen

  7. Steffan Harri yw llywydd y dyddwedi ei gyhoeddi 09:32 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Steffan Harri o Ddolanog yw llywydd y dydd.

    Fe ddaeth Steffan Harri i amlygrwydd drwy sioeau cerdd Cwmni Theatr Maldwyn.

    Mae e wedi perfformio mewn nifer o sioeau cerdd ac wedi chwarae rhan flaenllaw yn sioeau Shrek the Musical, a Les Miserables.

    Roedd e hefyd yn rhan o gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama Y Tylwyth a bu'n un o gymeriadau Rownd a Rownd ar S4C.

    steffan harri
  8. Cofio Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddiwethaf ym Maldwyn?wedi ei gyhoeddi 09:26 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Y tro diwethaf i Brifwyl Eisteddfod yr Urdd gael ei chynnal ym Maldwyn oedd yn Y Drenewydd yn 1988.

    Ydych chi'n cofio pwy enillodd y gadair? Wel Tudur Dylan Jones ac mae e wedi ennill dwy gadair a choron genedlaethol ers hynny!

    Wiliam Gwyn enillodd y Fedal Ddrama - mae e wedi bod yn rhan o dîm ysgrifennu a chynhyrchu Pobol y Cwm fwy neu lai ers hynny.

    cadairFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Tybed pwy fydd yn ennill y gadair eleni?

  9. Tro cyntaf i'r Eisteddfod fod ym Maldwyn ers 1988!wedi ei gyhoeddi 09:18 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Mae 'na groeso lliwgar ym Meifod ar fore cynta'r cystadlu.

    Dyma'r tro cyntaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Maldwyn ers 1988!

    Urdd 2024
  10. Dwy o Gaerfyrddin wedi codi ben borewedi ei gyhoeddi 09:16 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Mae Greta a Martha o Gaerfyrddin yn barod am ddiwrnod llawn cyffro a chystadlu ar y maes.

    Greta a Martha
  11. Mae'n prysuro ar y maeswedi ei gyhoeddi 09:09 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Ers ben bore mae pobl wedi bod yn heidio i'r maes wrth i'r cystadlu ddechrau yn y pafiliynau am 08:30.

    Y ddawns werin i Bl 6 ac iau yw y gystadleuaeth gyntaf yn y Pafiliwn Gwyn, mae'r Ensemble Offerynnol Bl 6 ac iau yn cystadlu yn y Pafiliwn Gwyrdd a'r Llefaru Unigol i flynyddoedd 5 a 6 yn y Pafiliwn Coch.

    eistddfodwyr
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr eisteddfodwyr ben bore

  12. Sut dwi'n cyrraedd y maes?wedi ei gyhoeddi 09:00 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal ar gaeau Fferm Mathrafal ym Meifod - SY22 6HT

    I gyrraedd y meysydd parcio dilynwch yr arwyddion swyddogol.

    "Mae'n allweddol," medd y trefnwyr, "bod gyrwyr yn dilyn yr arwyddion melyn pwrpasol".

    O'r Trallwng cymerwch yr A458 i'r gorllewin o Trallwng (arwydd ar gyfer Dolgellau). Trowch i'r dde ar y B4389 a dilynwch yr arwyddion.

    O Groesoswallt dilynwch yr A483 i'r de allan o Groesoswallt (arwydd ar gyfer y Trallwng). Trowch i'r dde i'r A495 (arwydd ar gyfer Llansantffraid-ym-Mechain). Parhewch ar y ffordd hon drwy Meifod nes i chi gyrraedd arwyddion i'r meysydd parcio.

    maes parcio
    Disgrifiad o’r llun,

    Y maes parcio ben bore

  13. Croeso i ddiwrnod llawn cyntaf Eisteddfod yr Urddwedi ei gyhoeddi 08:55 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Ydy, mae'n ddiwrnod llawn cyntaf Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 ac mae plant a phobl ifanc ar draws Cymru wedi heidio i'r maes ym Meifod.

    Mae'r cystadlu wedi dechrau ers ben bore yn y pafiliwn coch, gwyn a gwyrdd.

    Mae gohebwyr Cymru Fyw ar y maes - arhoswch gyda ni i gael y newyddion diweddaraf a lluniau rhai o'r cystadleuwyr a chefnogwyr.

    croeso i faldwyn