Crynodeb

  • Bwrlwm ar y maes ym Meifod ar ddiwrnod cyntaf y cystadlu

  • Cymunedau Sir Drefaldwyn wedi codi dros £300,000 tuag at y gost o gynnal y Brifwyl

  • Dyma'r tro cyntaf mewn 36 o flynyddoedd i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Maldwyn

  • Am y tro cyntaf erioed mae dros 100,000 o blant a phobl ifanc wedi cofrestru i gystadlu 

  • Wanesa Kazmierowska o Abertawe yn ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc

  • Saffron Lewis o Sir Benfro yn cipio'r Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg

  1. Cystadleuaeth CogUrdd wedi cychwyn🍽wedi ei gyhoeddi 12:13 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Mae Catrin Manning o Aelwyd Llyn y Fan yn un o'r cogyddion ifanc sy'n cystadlu am deitl CogUrdd 2024!

    Pwy ddaw i'r brig?

    Bydd y canlyniad am 15:30 ym mhabell CogUrdd

    Catrin Manning
  2. Pawb yn llenwi eu boliauwedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Mae hi'n amser cinio ac mae'r Pentre Bwyd wedi prysuro!

    Pentre bwyd
  3. Pwy yw enillwyr cyntaf Eisteddfod Meifod? 👏wedi ei gyhoeddi 12:06 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae ambell i ganlyniad wedi dod i lawr ar fore cynta'r cystadlu.

    Llefaru Unigol Bl.5 a 6:

    1af Gwilym Caeron Snelson, Ysgol y Dderwen

    2il Gruff Arthur Owen, Adran Llanuwchllyn

    3ydd Wil Ifan Williams, Ysgol Gynradd Dyffryn Cledlyn

    Dawns Werin Bl.6 ac iau (Ysgolion hyd at 100 o blant rhwng 4-11 oed):

    1af Gwerinwyr Gwerful Goch, Ysgol Betws Gwerful Goch

    2il Ysgol Blaenau, Ysgol Gynradd Blaenau

    3ydd Ysgol Cwm Banwy, Ysgol Cwm Banwy

    Llongyfarchiadau!

  4. Llywydd y Dydd: ‘Angen addysg uwchradd Cymraeg ym Mhowys’wedi ei gyhoeddi 11:59 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Steffan Harri
    Disgrifiad o’r llun,

    Llywydd y Dydd Steffan Harri

    Fe alwodd Llywydd y Dydd am addysg uwchradd Gymraeg ym Mhowys - gan ddweud ei fod yn gobeithio y bydd ei fab yn gallu mynd i ysgol Gymraeg pan yn hŷn.

    Dywedodd yr actor Steffan Harri, fu’n byw yn Llundain am 10 mlynedd ond sydd bellach yn ôl yn rhedeg y fferm deulu ger Maes yr Eisteddfod, nad oes unrhyw ysgol uwchradd Gymraeg ym Mhowys ond bod angen un er mwyn adeiladu ar lwyddiant y cynradd.

    Yn y gynhadledd i’r wasg ar y Maes heddiw galwodd hefyd ar yr awdurdodau i beidio anghofio am wasanaethau i gefn gwlad.

    Ychwanegodd: “Gydag addysg, mae’r ysgolion cynradd wedi gweld cymaint o dwf a dwi’n credu eu bod nhw’n gwneud gwaith anhygoel, a dwi’n credu bod angen addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yma yn y dyfodol i adeiladu ar lwyddiant y cynradd.”

    Dim ond blwydd ydi ei fab Arthur ar hyn o bryd, ond dywedodd Steffan Harri ei fod yn gobeithio y bydd o’n gallu mynd i ysgol uwchradd Gymraeg pan yn hŷn. Ychwanegodd ei fod o’n cofio gweld gwahaniaeth rhwng ei brofiad o fel disgybl yn Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion o’i gymharu gyda disgyblion mewn ysgolion fel Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon a Phlas Mawr yng Nghaerdydd.

    “Dwi’n meddwl bod o’n bwysig iawn bod yr iaith Gymraeg yn rhywbeth byw, nid yn unig yn rhywbeth sy’n digwydd yn y dosbarth, ac mae’n bwysig mynd â phawb ar yr un siwrnai.”

    Ychwanegodd bod angen gwrando ar bawb yn y sir a gwneud unrhyw newidiadau yn raddol er mwyn osgoi effeithio ar addysg disgyblion sy’n sefyll arholiadau.

    Disgrifiad,

    Steffan Harri yw Llywydd y Dydd

  5. Picnic yn y Pentre Bwydwedi ei gyhoeddi 11:54 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Magi Gwen, Madoc, Alaw ac Enfys yn mwynhau seibiant gyda’u picnic yn y Pentre Bwyd cyn mynd i fwynhau yn y ffair 'nes 'mlaen

    Magi Gwen, Madoc, Alaw ac Enfys
    Disgrifiad o’r llun,

    Bwyta cinio cyn mynd i'r ffair!

  6. Cwm Rhyd-y-Rhosyn yma o hyd!wedi ei gyhoeddi 11:46 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    "Mae'n destun rhyfeddod i mi, ac Edward, eich bod chi'n dal i wrando," meddai Dafydd Iwan wrth iddyn nhw ddathlu a chanu Cwm Rhyd-y-Rhosyn ar stondin y Mudiad Meithrin.

    Edward a Dafydd Iwan
    Disgrifiad o’r llun,

    Dathlu ar stondin y Mudiad Meithrin

  7. Agor pabell 'Paid â Bod Ofn'wedi ei gyhoeddi 11:40 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Eden yn agor pabell PABO yn ardal Nant Garedig y Maes.

    Dywedodd Non: “Yn yr ysgol o’n i wastad yn teimlo mor wahanol i bawb arall ond pan o’n i ar faes Eisteddfod yr Urdd o’n i’n teimlo’n sbesial, yn bwysig am y tro cyntaf.

    "Mae’n lyfli o beth gallu dod ag elfen o sut o’n i’n teimlo i fan hyn [PABO] i wneud o’n brofiad hyd yn oed well!”

    Bydd gweithgareddau ar y llwyfan drwy’r wythnos gan gynnwys sesiwn Makaton gyda Ceri Bostock, coreograffi gydag Elan Isaac a sgyrsiau gydag Iwan Steffan ac Alun Saunders.

    Mari Grug ac Eden
    Disgrifiad o’r llun,

    Eden yn sgwrsio gyda Mari Grug

  8. Yr Urdd yn ‘drysor cenedlaethol’ - Jeremy Miles ASwedi ei gyhoeddi 11:29 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    J Miles ASFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae gan Jeremy Miles AS atgofion melys o ddod i eisteddfodau'r Urdd

    Mae gwledydd ar draws y byd yn eiddigeddus o’r hyn sydd gan yr Urdd i’w gynnig.

    Dyna ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg ar Faes Eisteddfod yr Urdd heddiw.

    Ac ychwanegodd Jeremy Miles ei fod yn falch bod nawdd y llywodraeth wedi gallu helpu teuluoedd ar incwm isel fynd i’r Eisteddfod am ddim eleni, fel llynedd.

    Dywedodd Mr Miles yng nghynhadledd y wasg: “Mae’r Urdd yn drysor i’r genedl ac yn destun eiddigedd mewn gwledydd eraill ar draws y byd a dwi’n ddiolchgar ein bod ni’n gweithio gyda’r Urdd eto'r flwyddyn yma i fod yn fwy hygyrch a helpu pobl a theuluoedd sydd ar incwm is i fedru dod yma. Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb.

    “Mae gen i atgofion melys iawn o ddod i’r Urdd pan o’n i yn yr ysgol a dwi’n gwybod o brofiad y gwaith mae’r Urdd yn ei wneud yn codi hyder ac yn rhoi’r cyfleoedd i fwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg - ac nid yn unig gyda’r Eisteddfod ond drwy fynd i’r canolfannau a’r gwersylloedd a chwaraeon.

    "Nawr mae fy nith yn cystadlu'r flwyddyn yma, ac mae’n grêt gweld y cyffro ynddi hi - yr un fath a pan o’n iyr un oed â hi.”

    Ychwanegodd ei fod o’n falch bod y Gymraeg a’r economi yn dod o dan gyfrifoldeb yr un ysgrifennydd yn Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf - gan fod economi gref mor bwysig i ddyfodol yr iaith.

    Jeremy Miles AS yn siarad yng nghynadledd y wasg
    Disgrifiad o’r llun,

    Jeremy Miles AS yn siarad yng nghynadledd y wasg

  9. Gobeithio bydd y tywydd yn parawedi ei gyhoeddi 11:19 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Awyr las uwchben bore 'ma a'r torfeydd yn heidio i fwynhau mwynder Maldwyn.

    Meifod
  10. Pentref Llanbrynmair yn goch, gwyn a gwyrddwedi ei gyhoeddi 11:11 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    croeso Llanbrynmair

    Mae ysgolion ac ardaloedd y sir wedi bod yn brysur yn paratoi at yr wythnos fawr - dyma'r croeso yn Llanbrynmair.

    ysgol Llanbrynmair
  11. Cefnogi ei chwaer fawrwedi ei gyhoeddi 11:07 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Mae Awen o'r Fenni wedi dod i gefnogi ei chwaer fawr yn yr Eisteddfod

    Awen
  12. Llywydd y dydd yng nghwmni Mr Urddwedi ei gyhoeddi 11:00 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    "Barod amdani dyden, Mistar Urdd?"

    Llywydd y Dydd, Steffan Harri, yn edrych ymlaen at yr wythnos gyda neb llai na Mr Urdd ei hun

    Steffan Harri a Mr Urdd
    Disgrifiad o’r llun,

    Llywydd y Dydd, Steffan Harri, yng nghwmni Mr Urdd

  13. Wedi lawrlwytho'r ap eto?wedi ei gyhoeddi 10:55 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae'r ap yn dweud be' sy'n digwydd lle a phwy sy'n cystadlu.

    Y cyfarwyddiadau yma!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Pa seremoni? Pa ddiwrnod?wedi ei gyhoeddi 10:49 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Mae newidiadau i'r prif seremonïau eleni gyda phob un yn cael eu cynnal ar lwyfan y Pafiliwn Gwyn o dan arweiniad Iestyn Tyne.

    Os bydd teilyngdod, bydd y gwaith buddugol yn cael eu cyhoeddi ar ffurf pamffledi - mewn cydweithrediad â Chyhoeddiadau'r Stamp - fydd ar gael yn syth wedi'r defodau dyddiol - Y Fedal Ddrama, y Gadair a'r Goron.

    Bydd yr Awenau yn dychwelyd i fod yn rhan o'r prif seremonïau unwaith eto eleni.

    Ond pa seremoni sydd ar ba ddiwrnod?

    Dydd Llun: Ysgoloriaeth Artist Ifanc a'r Fedal Gelf (14:30)

    Dydd Mawrth: Y Fedal Ddrama (14:30)

    Dydd Mercher: Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones (14:30)

    Dydd Iau: Y Gadair (14:30)

    Dydd Gwener: Y Goron (14:30)

    Dydd Sadwrn: Y Fedal Gyfansoddi (14:30)

    AwenauFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Awenau yn ôl eto eleni!

  15. Ymarfer bach cyn mynd ar y llwyfan 'na!wedi ei gyhoeddi 10:45 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Ysgol y Garnedd, Bangor yn y babell ymarfer cyn mentro ar y llwyfan i gystadlu yn y ddawns werin.

    Dawnswyr
    Disgrifiad o’r llun,

    Y dawnswyr yma wedi teithio o ardal Bangor i gystadlu

  16. Barod ar gyfer pob tywydd😎wedi ei gyhoeddi 10:36 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Ani, Elen a Caio

    Mae Ani, Elen a Caio o Fangor wedi gwisgo'n barod ar gyfer pob tywydd!

    Sgidie
    Disgrifiad o’r llun,

    Sgidie defnyddiol iawn

  17. Oes angen gwisgo esgidiau glaw?wedi ei gyhoeddi 10:29 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Emlyn
    Disgrifiad o’r llun,

    Emlyn o Gastell-nedd yn ei sgidiau glaw

    Er bod awyr las ar faes yr Eisteddfod ar fore cynta'r cystadlu, mae hi 'chydig yn wlyb dan draed, felly gwisgwch eich sgidiau glaw fel Emlyn o Gastell-nedd.

    Y sgidie!
    Disgrifiad o’r llun,

    Y sgidie!

  18. Fydd Beryl Vaughan ddim yn cnoi ei hewinedd!wedi ei gyhoeddi 10:28 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Mae Beryl Vaughan yn wyneb eisteddfodol cyfarwydd - yn aml fel beirniad neu gadeirydd pwyllgor gwaith.

    Mae hi wedi peintio (neu rhywun arall!) ei hewinedd yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod.

    Beryl Vaughan yn arddangos ei hewinedd eisteddfodol
    Disgrifiad o’r llun,

    Beryl Vaughan yn arddangos ei hewinedd eisteddfodol

  19. Cystadleuaeth band pres Bl. 6 ac iau yn boblogaiddwedi ei gyhoeddi 10:19 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Roedd nifer wedi ymgasglu yn ‘Yr Adlen’ wrth i fand ‘Tonnau Coch’ o Ysgol Pen Barras, Rhuthun agor cystadleuaeth band Bl.6 ac iau gyda’u cân wefreiddiol ‘Caru Cymru’.

    Ysgol Pen Barras
  20. Cadwyn yn dathlu 50 mlyneddwedi ei gyhoeddi 10:12 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai 2024

    Ffred a Meinir Ffransis ar stondin Cadwyn - sy’n dathlu 50 mlynedd eleni.

    Dywedodd Ffred: “Mae llai o bwysau arnom ni nawr. ’Sdim rhaid codi ben bore a chario popeth i’r Maes.

    "Mae’r genhedlaeth nesaf yn gwneud hynny ac yn gosod pethau allan yn llawer mwy proffesiynol nag oedden ni.

    "Felly rydyn ni’n gallu mwynhau!”

    Ffred Ffransis