Crynodeb

  1. Hwyl am y tro ...wedi ei gyhoeddi 17:24 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae wedi bod yn ddiwrnod hynod o braf ar y Maes ar Barc Ynysangharad ym Mhontypridd a heno fe fydd gweithgareddau'r nos yn parhau.

    Bore fory am 09:00 yr oedfa a fydd yn gyfle i ddathlu cyfraniad rhai o gymeriadau Rhondda, Cynon a Thaf y gorffennol. Fe fydd yr oedfa i'w chlywed ar Radio Cymru am 13:00.

    Cofiwch hefyd am raglen Bore Sul am 08:00 a Bwrw Golwg am 12:30 pan fydd John Roberts yn trafod bywyd ysbrydol a chrefydd bro'r Eisteddfod gyda Katie Hadley a Charlotte Rushden ym Mhontypridd, Sian Thomas a Gwyn Morgan yng Nghwm Cynon, Cennard Davies yn Nhreorci a Geraint Rees yn Efailisaf.

    Hwyl am y tro - fe fydd tîm llif byw Cymru Fyw yn ôl ddydd Llun ond holl straeon yr Eisteddfod a Chymru ar ein gwefan ac ap Cymru Fyw.

    Hwyl am y tro.

    Eisteddfod
  2. 'Annog pobl i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus'wedi ei gyhoeddi 17:21 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    A hithau'n eisteddfod drefol eleni, mae ymwelwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

    Dywedodd Dylan Nicholas o Trafnidiaeth Cymru eu bod nhw'n cydweithio gyda'r Eisteddfod er mwyn hybu "Eisteddfod wyrddach, fwy cynaliadwy eleni".

    Mae trenau cyson yn rhedeg gydol yr wythnos rhwng Caerdydd a Phontypridd, gyda threnau hwyrach yn golygu y gall eisteddfodwyr fwynhau gwylio'r prif berfformwyr bob nos.

    Mae'n bosb hefyd i gael bwyd ar y trên.

  3. Gwledd i'r llygad 🎨wedi ei gyhoeddi 17:17 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Yn ogystal â pherfformiadau gallwch fwynhau gwaith artistiaid talentog yn y Lle Celf.

    Roedd rhai ymwelwyr ar daith sain yno yn gynharach heddiw.

    Lle celf
  4. Edrych ymlaen yn fawr at Nia Ben Aur - 50 mlynedd ers y gwreiddiolwedi ei gyhoeddi 17:10 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Nia Ben Aur
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd opera roc gynta'r Gymraeg, Nia Ben Aur, ei pherfformio gyntaf yn Eisteddfod Caerfyrddin yn 1974

    Bydd fersiwn newydd sbon o'r opera roc Nia Ben Aur i'w gweld ar lwyfan y Pafiliwn heno a nos Lun.

    Mae'r perfformiad yn nodi union 50 mlynedd ers y perfformiad cyntaf yn Eisteddfod Caerfyrddin 1974.

    Nia Ben Aur oedd yr opera roc gyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg.

    Yn ôl un o arweinwyr y Côr yr Eisteddfod, Osian Rowlands, mae'n "bwysig iawn i ni yn lleol bod pobl leol yn cael y cyfleoedd yma gyda'r Eisteddfod yn dod i'r sir am y tro cynta' ers blynyddoedd maith, maith".

    ymarfer
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd 300 o bobl yn yr ymarfer cyntaf ar gyfer sioe Nia Ben Aur Eisteddfod Rhondda Cynon Taf

  5. Wythnos llawn cerddoriaeth ym Mhontypriddwedi ei gyhoeddi 17:08 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae ymwelwyr wedi bod yn cyrraedd drwy'r prynhawn er mwyn sicrhau'r man gorau i wylio'r artistiaid.

    Bydd rhai o fawrion y byd cerddoriaeth Cymraeg yn perfformio ar Lwyfan y Maes yn ystod yr wythnos.

    Dafydd Iwan fydd yn perfformio heno a bydd Eden yn cloi'r Eisteddfod ar 10 Awst.

    Llwyfan y maes
  6. Wythnos fawr Maes-Bwedi ei gyhoeddi 17:06 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Fleur de Lys fydd yn cloi nos Sadwrn nesaf yn Maes-B gyda 3 Hwr Doeth, Gwilym, Los Blancos, Buddug a Hyll hefyd yn perfformio.

    Ond mae un band neu artist yn weddill i'w cadarnhau, sef enillydd cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2024. Mae pedwar wedi cyrraedd y rhestr fer, ac ar Lwyfan y Maes brynhawn Mercher cawn ddarganfod pwy ddaw i'r brig.

    Gallwch wylio fideos o berfformiadau gan y pedwar bydd yn cystadlu fan yma.

    Poster Maes-BFfynhonnell y llun, Eisteddfod
    Disgrifiad o’r llun,

    Arlwy Maes-B 2024

  7. Cyfle i gael llonyddwedi ei gyhoeddi 17:04 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae'r Llecyn Llonydd yn gyfle i gymryd saib oddi wrth fwrlwm y maes mewn man tawel.

    Yn yr Hwb Hygyrchedd, bydd y swyddog hygyrchedd, Oliver Griffith-Salter ar gael i gynnig cyngor i ymwelwyr.

    Gerllaw mae yna le i addoli.

    Pabell Llecyn Llonydd
  8. Nerfau tu ôl llwyfan?wedi ei gyhoeddi 16:56 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae cefn llwyfan yn prysuro wrth i gystadleuaeth y corau barhau.

    Er bod y cystadlu ar ben i sawl côr, fe fyddai rhai yn dadlau mai disgwyl am y canlyniadau yw'r peth mwyaf nerfus.

    Pob lwc bawb!

    Tu-ol llwyfan
  9. Clwb y Bont: 'Falch o fod yn rhan o ŵyl fwya' Cymru'wedi ei gyhoeddi 16:54 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae clwb Cymraeg Pontypridd, Clwb y Bont, sydd yr ochr draw i Afon Taf o Barc Ynysangharad, wedi trefnu wythnos lawn o ddigwyddiadau

    "Mae'r clwb yn 40 mlwydd oed ac wedi bod yn gysylltiedig efo diwylliant yr iaith Gymraeg a phob math o bethau - nid yn unig pethau Cymraeg ond pethau Cymreig ym Mhontypridd dros y degawdau," meddai'r swyddog datblygu, Aled Wyn Phillips.

    "Dyma gyfle nawr i ddangos beth mae'r clwb yn gallu ei gynnig.

    "Yr her ni wedi'i osod i ni'n hunain yw bod yn uchelgeisiol, bod yn rhan o ŵyl fwya' Cymru - dod dros y bont a dathlu gyda ni a bod yn rhan o bopeth."

    Clwb y Bont
  10. Côr Cwm Rhondda wedi bod yn brysurwedi ei gyhoeddi 16:42 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    croesoFfynhonnell y llun, Kelly Hanney

    Mae un o'r corau lleol - Côr Cwm Rhondda - wedi bod yn brysur iawn yn ymarfer ar gyfer yr Eisteddfod ond mae nhw hefyd wedi bod yn brysur iawn yn addurno!

    "Mae croesawu pobl atom yn bwysig iawn," medd Kelly Hanney.

    croesoFfynhonnell y llun, Kelley Hanney
    croesoFfynhonnell y llun, Kelly Hanney
  11. Shw mae byt? Bopa? Tilawedi ei gyhoeddi 16:36 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Arwydd

    Mae yna dafodiaith unigryw yn perthyn i'r ardal - fe wnaeth Dr Ceinwen Thomas ysgrifennu nifer o gyfrolau ar dafodiaith Nantgarw ac mae ei gwaith yn cael ei ddyfynnu yn gyson yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.

    Sion Tomos Owen
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae gan y cyflwynydd a'r awdur Siôn Tomos Owen ambell gyngor

    Ar raglen Aled Hughes yr wythnos hon bu'r cyflwynydd a'r awdur Siôn Tomos Owen yn rhoi gwers fer am dafodiaith yr ardal.

    Dyma ganllaw cyflym i’r geiriau a’r dafodiaith arbennig ym mro'r brifwyl eleni.

    tafodiaith

    Gobeithio y byddwch chi a'ch bytis yn cael wythnos dda ac na fydd y tila yn broblem ar y ffordd adref!

  12. Dadorchuddio murlun cysylltiedig â Hen Wlad fy Nhadauwedi ei gyhoeddi 16:27 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    murlun

    Gan bod Maes Eisteddfod Genedlaethol eleni ym Mhontypridd nid yw'n rhyfedd bod lle blaenllaw i 'Hen Wlad fy Nhadau' a'i chyfansoddwyr.

    Bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn cyflwyno sioe theatr newydd Gwlad! Gwlad! yn yr Eisteddfod.

    Mae’r anthem hefyd wedi ysbrydoli gwaith gweledol.

    Mae’r artist graffiti Tee 2 Sugars, sydd eisoes wedi gwneud enw iddo’i hun gyda’i furlun cofeb rhyfel yn Abertyleri, wedi’i gomisiynu i greu murlun newydd ar wal hen gartref Evan a James James ym Mhontypridd.

    Disgyblion o Ysgol Evan James sydd wedi ysbrydoli'r murlun newydd ac mae cod QR yn galluogi ymwelwyr i wrando ar sain atmosfferig wrth edrych arno, sy'n cynnwys lleisiau a cherddoriaeth sydd wedi’u hysbrydoli gan yr anthem.

    Fe gafodd ei ddadorchuddio heddiw ar Stryd Y Felin ym Mhontypridd.

    Llawysgrif o'r anthem o 1856
    Disgrifiad o’r llun,

    Llawysgrif o'r anthem o 1856

    Yn cloi rhaglen y pafiliwn ar nos Sadwrn ola’r Eisteddfod mae perfformiad cyntaf o sioe gerddorol Gwlad Gwlad! sef gwaith cerddorol newydd gan Eilir Owen Griffiths.

    Mae’r darn yn gyfeiliant i gerddi newydd gan feirdd lleol - Aneirin Karadog, Delwyn Siôn, Christine James a Mari George - oll wedi eu hysbrydoli gan yr anthem genedlaethol.

  13. Pwy sydd wedi ennill? Ewch i'n tudalen ganlyniadau...wedi ei gyhoeddi 16:20 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae uchafbwyntiau cystadlaethau cyntaf y dydd o'r Pafiliwn ar ein tudalen ganlyniadau.

    Dyma flas o berfformiad Band Pres Bwrdeistref Casnewydd ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth Bandiau pres Dosbarth 2 a 3.

    Disgrifiad,

    Bandiau pres Dosbarth 2 | 3

  14. 14 côr newydd i gamu ar lwyfan yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 16:19 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Eleni mae cystadleuaeth newydd wedi ei sefydlu i "ddenu corau newydd a lleol" i'r Eisteddfod Genedlaethol.

    Mae disgwyl i 14 o gorau gystadlu yn y gystadleuaeth benodol hon gyda thros 70 o gorau yn cystadlu yn y brifwyl.

    Dywedodd Steffan Prys, Rheolwr Cystadlu yr Eisteddfod Genedlaethol, fod yr ymateb "wedi bod yn uwch na’r disgwyl, ac rydyn ni a’r pwyllgor lleol wrth ein boddau!"

    Gyda'r Eisteddfod yn annog corau newydd, mae un côr wedi dod ynghyd gydag ond chwarter yr aelodau yn medru siarad Cymraeg.

    Dott Connell yw sylfaenydd ac arweinydd y côr hwnnw - Lleisiau'r Fro. Dywedodd eu bod "wedi cael lot o hwyl yn paratoi ar gyfer yr Eisteddfod."

    Aeth ymlaen i ddweud fod "lot o ddiddordeb yn yr ardal i ddysgu Cymraeg" ond dywedodd "y broblem yw ymarfer a defnyddio’r Gymraeg, mae’n anodd achos ma' pobl yn meddwl nad ydych chi'n siarad Cymraeg".

    Dott Connell
  15. Dim bws gwennol o'r maes carafanau ond mae'n agoswedi ei gyhoeddi 16:12 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae teithio o ben pellaf y safle carafanau i'r brif fynedfa yn llai na hanner milltir o bellter, gyda'r daith yn cymryd llai na 20 munud.

    Dywd y trefnwyr bod y llwybr yn ddiogel a phwrpasol i feicwyr a cherddwyr a bod yna balmant a golau stryd.

    Mae nifer o stiwardiaid ar hyd y llwybr.

    Nid oes gwasanaeth bws gwennol o'r safle i'r Maes eleni.

    Maes carafanauFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  16. Busnesau Pontypridd yn gobeithio elwawedi ei gyhoeddi 16:07 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Pontypridd

    Mae disgwyl i economi leol Rhondda Cynon Taf elwa o £16 miliwn yn sgil yr Eisteddfod.

    Gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf wedi rhoi £275,000 tuag at yr ŵyl, mae disgwyl i bob £1 sydd wedi ei wario gan y cyngor gynhyrchu £60 i'r economi leol.

    Mae rhai perchnogion busnes yn pryderu faint o eisteddfodwyr fydd yn gwario eu harian yn nhref Pontypridd.

    Dywed Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, bod stondinau bwyd ar y maes ond mae'n annog eisteddfodwyr i gefnogi busnesau lleol hefyd.

    siop
  17. Gyrru i'r Brifwyl? Mae dau faes parcio ...wedi ei gyhoeddi 16:03 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae'r Eisteddfod yn annog ymwelwyr i rannu lifft er mwyn lleihau nifer y ceir.

    Does dim meysydd parcio ceir arferol yn nhref Pontypridd yn ystod yr wythnos, felly mae angen defnyddio’r meysydd parcio a theithio yn hytrach na gyrru i mewn i’r dref.

    Bydd bysiau parcio a theithio rheolaidd rhwng y meysydd parcio a’r Maes.

    Bydd y rhain yn rhedeg drwy gydol y dydd o ddechrau’r bore tan ddiwedd y gweithgareddau ar y Maes, ac maen nhw am ddim gyda thocyn Maes.

    Mae'r Eisteddfod yn annog ymwelwyr i archebu lle parcio a theithio ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod digon o fysiau ar gael i gludo pawb i’r Maes drwy gydol yr wythnos.

    Mae modd archebu lle parcio a theithio yma, dolen allanol.

    map parcio

    Dylai teithwyr o’r gogledd, a’r rhai sy’n teithio o gyfeiriad Merthyr Tudful barcio ym maes parcio’r gogledd yn Abercynon (cod post CF45 4UQ).

    Bydd bysiau gwennol yn rhedeg rhwng y maes parcio a’r Maes yn rheolaidd gyda’r daith yn cymryd tua 20 munud, yn dibynnu ar draffig.

    Lleolir y maes parcio ar gyfer ymwelwyr o Gaerdydd a’r de yn Y Ddraenen-wen (cod post CF37 5AL).

    Fel uchod, bydd bysiau gwennol yn rhedeg rhwng y maes parcio a’r Maes yn rheolaidd, gyda’r daith yn cymryd tua 20 munud, yn dibynnu ar draffig.

    Y cyngor yw i bobl ddilyn yr arwyddion pwrpasol oddi ar yr A470 i gyrraedd y ddau faes parcio.

  18. Tywydd hufen iâ 🍦wedi ei gyhoeddi 16:02 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Dyw Steddfod ddim yn Steddfod heb gael hufen iâ!

    Roedd yna nifer yn y ciw hwn, yn gynharach, yn edrych ymlaen at drio blasau gwahanol.

    Stondin
  19. Cystadlu yn y Genedlaethol am y tro cyntafwedi ei gyhoeddi 15:56 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Bydd Mari ac Awen o Ysgol Garth Olwg yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf fory a hynny fel rhan o gôr cymunedol yr ysgol.

    Bydd y côr yn cystadlu yng nghystadleuaeth corau newydd - sy'n newydd i'r Eisteddfod eleni.

    Dywedodd Mari: "Fi'n joio bod yn rhan o gymuned yr ysgol" a'i fod yn "deimlad rili neis pan ni'n clywed y côr yn canu gyda'i gilydd, ni'n joio hwnna".

    Aeth ymlaen i ddweud fod "lot o bobl yn y côr sy'n canu am y tro cyntaf. Mae’n neis i weld pobl sydd byth wedi canu mewn côr o'r blaen, yn enwedig rheiny sydd ddim yn siarad Cymraeg".

    Yn wahanol i Mari, dyw Awen erioed wedi bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

    Dywedodd fod y ffaith bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i'w hardal yn "gyffrous, mae'n neis a dyw e ddim yn mynd i ddigwydd am ages nawr".

    Mari ac Awen
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Mari (ar y dde) ac Awen (ar y chwith) yn aelodau o gôr cymunedol Ysgol Garth Olwg

  20. Arweinydd Cymru a'r Byd: 'Fy ngwreiddiau yn Aberdâr mor bwysig'wedi ei gyhoeddi 15:49 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Susan Dennis- Gabriel yn canu yn Llanfyllin yn 1979Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Susan Dennis- Gabriel yn canu yn Llanfyllin yn 1979

    Dywed Susan Dennis-Gabriel ei "bod ar ben y byd" wedi iddi gael ei dewis yn Arweinydd Cymru a'r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

    Mae Mrs Dennis-Gabriel yn byw yn Vienna ers blynyddoedd lawer. Wedi treulio cyfnodau ym Mhrifysgol Caerdydd a Choleg Cerddoriaeth Brenhinol Llundain enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Vienna ac "mae'r gweddill yn hanes," meddai wedi iddi gwympo mewn cariad â'i hathro, y diweddar Wolfgang Gabriel.

    Nos Sul fe fydd hi'n annerch cynulleidfa y Gymanfa Ganu.

    "Mae gen i ddigon i'w ddweud am fy magwraeth hyfryd yn Aberdâr ond efallai bydd y dagrau yn llifo wrth i fi glywed rhai o'r emynau eto - a diolch byth bod 'Unwaith eto yng Nghymru annwyl' yn cael ei chanu ar ôl i fi siarad," meddai.

    Philip (brawd) a Susan yn gwerthu fflagiau'r Urdd yn Eisteddfod Aberdâr 1956Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Philip (brawd) a Susan yn gwerthu fflagiau'r Urdd yn Eisteddfod Aberdâr 1956