Crynodeb

  1. Cor Meibion Pontypridd yn diddanu ar y Maeswedi ei gyhoeddi 15:45 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Does ddim rhaid mynd i mewn i'r Pafiliwn i weld perfformiadau gwych.

    Roedd Côr Meibion Pontypridd yn perfformio ger stondin Cymdeithas Corau Meibion Cymru ar y Maes yn gynharach.

    Ac ydyn maen nhw'n morio yr emyn-dôn Rachie!

    Disgrifiad,

    Cor Meibion Pontypridd yn joio canu 'I bob un sydd ffyddlon'

  2. Paratoi am gystadleuaeth y corauwedi ei gyhoeddi 15:36 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae yna ddigon o ddefnydd i'r babell ymarfer heddiw wrth i gystadleuwyr baratoi am gystadlaethau cyntaf y Steddfod.

    Mae'r gystadleuaeth corau newydd gychwyn.

    Nid tasg hawdd fydd hi'r beirniaid - Lyn Davies, Katie Thomas a Stephen Jackson.

    Pabell ymarfer
  3. Betsan Moses: 'Gwylio'r Steddfod wythnos nesaf ar y teledu'wedi ei gyhoeddi 15:32 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod newydd fod yn sgwrsio gyda Shân Cothi a Steffan Rhys Hughes ar Radio Cymru, gan ddiolch i dref Pontypridd am eu croeso.

    “Rydym ni wedi cael croeso anhygoel.

    “Erbyn hyn rydyn ni’n gweithio yma ers pum mlynedd oherwydd Covid. Mae’r pwyllgorau apêl wedi bod yn digwydd mor hir. Bob nos mae rhywbeth wedi bod yn digwydd yma’n Rhondda Cynon Taf. Maen nhw wedi rhoi stamp ar bethau – eu steddfod nhw yw hi.

    “Mae pobl wedi bod yn ailddefnyddio eu Cymraeg a nawr yn dweud ‘fe ddefnyddia’i beth sydd ‘da fi’.

    “Mae’r Eisteddfod yma’n beilot. Am y tro cyntaf rydym ni’n creu Eisteddfod mewn tref, ac mae pobl yn talu i ddod yma. Eto mae’r dref yn gallu parhau i fod yn dref – mae'r dref yn rhan, ond dydyn ni heb feddiannu a chymryd drosodd.

    “Rydyn ni wedi cydweithio ar hyd y daith i sicrhau bod y dref yn deall beth yw’r Gymraeg a beth yw’r potensial. Maen nhw wedi bod yn gweithio at ddefnyddio rywfaint o Gymraeg – y gobaith ydi byddan nhw’n parhau i wneud hyn.”

    Ond er gwaethaf y cyffro ar y diwrnod agoriadol, fe ddywedodd Betsan na fydd yn cael llawer o gyfle i ymlacio yn ystod yr wythnos:

    “Dwi ddim yn gweld y Steddfod! Fe welai y Steddfod yr wythnos ar ôl hynny ar raglenni! Ond mae cael cerdded fan yma a chlywed pobl yn mwynhau yn ddigon. Mae pobl wedi dod am y tro cyntaf a’n dweud ‘Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd diwylliant Cymreig’. Mae hynny yn arbennig.”

    Ychwanegodd Betsan Moses nad oes problemau wedi bod o ran teithio na chyrraedd y Maes hyd yma.

    Betsan Moses
    Disgrifiad o’r llun,

    Betsan Moses yn ymweld â stiwdio Radio Cymru ar y Maes

  4. 'Mor falch o weld yr Eisteddfod yn ein hardal ni'wedi ei gyhoeddi 15:27 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Ruby, Alys, a Teddie o Aberfan yn mwynhau crwydro’r maes, ac maen nhw'n meddwl bod y maes yn “wych”.

    Mae nhw hefyd yn croesawu bod yr Eisteddfod wedi dod i'w hardal nhw.

    Eisteddfod
  5. Tir Iarll yn ennill Y Talwrn 👏wedi ei gyhoeddi 15:20 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mewn cystadleuaeth agos, Tir Iarll oedd yn fuddugol yn Y Talwrn.

    Hanner pwynt yn unig oedd rhyngddyn nhw a thîm Dros yr Aber.

    Llongyfarchiadau Tir Iarll!

    Enillwyr y tlysau oedd Idris Reynolds (Tlws Coffa Dic Jones - cywydd gorau’r gyfres), Iestyn Tyne (Tlws Cledwyn Roberts - telyneg orau’r gyfres) ac Aled Evans (Tlws Coffa Emyr Oernant - cân ysgafn orau’r gyfres).

    Bydd modd clywed yr ornest nos yfory ar Radio Cymru.

    Tir Iarll
  6. Prosiect ym Mhlas Hendy ger Rhaglan yn ennill Medal Aur Pensaernïaethwedi ei gyhoeddi 15:12 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Claire Priest a Ben Crawley o Studio Brassica sydd wedi ennill Medal Aur Pensaernïaeth yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi iddyn fod yn gweithio ar brosiect ym Mhlas Hendy ger Rhaglan yn Sir Fynwy am ddwy flynedd.

    Dywedodd y ddau gyn-fyfyriwr o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, rhan o Brifysgol Caerdydd, eu bod wrth eu bodd yn ennill y wobr.

    Dyma'r tro cyntaf i'r cwmni, a sefydlwyd yn Llundain yn 2019, gyflwyno gwaith i'r Eisteddfod Genedlaethol.

    Dyfernir y fedal gan yr Eisteddfod Genedlaethol ar y cyd â Chymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru.

    Nod y wobr yw tynnu sylw at bwysigrwydd pensaernïaeth yn niwylliant y genedl ac anhrydeddu penseiri sy'n cyrraedd y safonau dylunio uchaf.

    Roedd y prosiect yn cynnwys adnewyddu ac ymestyn bloc stablau rhestredig Gradd II.

    stablauFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  7. Ac mae yna ddŵr ar y maes hefyd - a galw mawr amdano heddiw!wedi ei gyhoeddi 15:04 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Gyda'r haul yn tywynnu, roedd ciw yn yr orsaf llenwi poteli dŵr.

    Mae stondin Dŵr Cymru yn cynnig dŵr a photeli am ddim i ymwelwyr.

    Stondin Ddwr
  8. Stondinau yn llai ond mae 'na baned?wedi ei gyhoeddi 14:55 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    St Catherine's

    Does gan y stondinau ddim cymaint o le eleni ond mae'r croeso yr un mor gynnes.

    Mae digwyddiadau a phaned Cytûn yn Eglwys Santes Catherine gerllaw'r Maes.

    Eglwys St Catherine's
  9. Gwehyddes yn ennill Y Fedal Aur am Grefft a Dyluniowedi ei gyhoeddi 14:49 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Laura ThomasFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

    Gwehyddes sydd wedi creu gwaith yn dathlu harddwch edafedd yn ei ffurf buraf sydd wedi ennill Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.

    Mae Laura Thomas o Ewenni ger Pen-y-bont-ar Ogwr yn derbyn y fedal mewn seremoni arbennig heddiw.

    Dywedodd Cecile Johnson Soliz, un o ddetholwyr yr Arddangosfa Agored: "Mae tecstilau Laura Thomas yn wrthrychau syfrdanol o hardd.

    Mae'r 'edefyn' ei hun yn rhywbeth mor bwysig iddi hi nes ei bod hi'n fy hudo i ailfeddwl am sut rwy'n gweld y pethau symlaf.

    "Mae'r amrywiaeth o ddeunyddiau, o ffibrau naturiol i synthetig, a'i gwybodaeth amdanyn nhw, yn aruthrol. Mae golau, natur ac amser wedi'u plethu i'w gweithiau, rhai ohonyn nhw'n cymryd misoedd i'w creu. Mae hi'n enillydd haeddiannol o'r Fedal Aur am Grefft a Dylunio."

    Mae gan Laura Thomas radd dosbarth cyntaf o Brifysgol Dinas Birmingham, MA o'r Coleg Celf Brenhinol a dwy gymrodoriaeth ymchwil yn nisgyblaeth gwehyddu.

    Sefydlodd ei stiwdio ym Mro Morgannwg yn 2004 ac mae wedi gweithio ar ystod hynod amrywiol o brosiectau yn cwmpasu celf gyhoeddus, dylunio tecstilau masnachol, curadu, preswyliadau artistiaid a chreu gwaith i’w arddangos.

    Gwaith LauraFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae gwaith Laura Thomas i'w weld ar Faes y Brifwyl

  10. Ymwelwyr llawn egni ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 14:48 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae yna rywbeth i bawb ar faes y Brifwyl.

    Dyma Mabli, Hedd ac Aneurin yn mwynhau eu hunain yn y Pentref Plant ar y Maes.

    Plant yn mwynhau
  11. Mr Urdd yn barod am wythnos o hwylwedi ei gyhoeddi 14:44 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae Mr Urdd wedi cyrraedd Pontypridd!

    Mae e i weld wedi dadflino ers Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn ym mis Mai.

    Ac ydi, mae'n edrych ymlaen i gwrdd ag ymwelwyr ar y maes!

    Mr Urdd
  12. Diwrnod braf heddiw - ond mor braf ag yn 1956?wedi ei gyhoeddi 14:40 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Roedd hi'n dywydd braf iawn yn ystod ymweliad diwethaf yr Eisteddfod Genedlaethol â'r ardal hon - yn 1956.

    Mae hi hefyd yn ddiwrnod braf iawn heddiw - ond efallai y bydd cawodydd cyn diwedd yr wythnos.

    Un o seremonïau awyr agored yr Orsedd yn Aberdâr yn 1956Ffynhonnell y llun, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
    Disgrifiad o’r llun,

    Un o seremonïau awyr agored yr Orsedd yn Aberdâr yn 1956

  13. Llywydd y Brifwyl: 'Pobl ddim yn gwerthfawrogi talpiau Saesneg ar raglenni Cymraeg'wedi ei gyhoeddi 14:29 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Wrth groesawu Cennard Davies, Llywydd Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn y seremoni agoriadol, fe gyfeiriodd Ashok Ahir ato fel "dyn ei filltir sgwâr, sydd wedi cyfrannu i Gymru gyfan".

    Yn ei araith fe wnaeth yr ymgyrchydd, sydd wedi gweithio ym maes dysgu Cymraeg ers degawdau, rannu ei farn am gyfrifoldeb darlledwyr wrth hyrwyddo'r Gymraeg.

    “Mae gan ein darlledwyr yn y ddwy iaith le breintiedig wrth hyrwyddo’r Gymraeg am fod ganddynt fynediad i bob aelwyd yn y wlad.

    “Bu ennill S4C yn fuddugoliaeth a gostiodd yn ddrud i lawer. Ond mae’n rhoi cyfle i ni gyflwyno holl gyfoeth ein hetifeddiaeth i Gymru a thu hwnt a meithrin talentau amrywiol ein pobl.

    “Mae’r Sianel ar ei gorau pan fydd yn gweld y byd o’n cwmpas trwy’n llygaid ni, yn hytrach na sbectol fenthyg y bobl drws nesaf, ac yn dehongli ein byd ni o'n safbwynt ni.

    “Ac yn sicr yn fy mhrofiad i, dyw pobl sydd wrthi'n dysgu'r iaith o ddifri ddim yn gwerthfawrogi talpiau o ddeialog Saesneg yng nghanol dramâu ar raglenni Cymraeg.

    “Mae gan ein darlledwyr Saesneg hefyd ran bwysig i'w chwarae trwy gyflwyno ein gwlad a’n pobl i'r byd fel y mae yn hytrach na thrwy darluniau ystrydebol a welwn ni mor aml.”

    Dywedodd hefyd ei fod yn hynod o falch o ymrwymiad teuluoedd di-Gymraeg i addysg Gymraeg yn yr ardal.

    Disgrifiad,

    Cennard Davies, Llywydd y Brifwyl, yn siarad yn y seremoni agoriadol

  14. Modd prynu tocyn i Lido Ponty os yn mynd i'r Maeswedi ei gyhoeddi 14:23 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae'r rhai sydd â thocynnau i'r Eisteddfod yn cael cyfle i brynu tocynnau i Lido Ponty ar yr un diwrnod â'u hymweliad â'r Maes.

    Mae yna dri phwll nofio –prif bwll, pwll gweithgareddau a phwll sblash.

    Pris tocyn yw £3 (ynghyd â ffi archebu o 25c) ar gyfer oedolion. Mae tocynnau i blant 16 oed ac iau am ddim (ond mae'r ffi archebu yn dal i fod yn berthnasol).

    Mae modd archebu tocyn yma, dolen allanol.

    Lido
  15. 'Mae’r dref wedi cofleidio’r Eisteddfod. Dewch i ni eisteddfodwyr gofleidio’r dref'wedi ei gyhoeddi 14:15 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Yn seremoni agoriadol yr Eisteddfod fe wnaeth Helen Prosser, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, gychwyn ei hanerchiad drwy ddiolch i Gyngor Rhondda Cynon Taf, i bobl yr ardal ac i'r holl wirfoddolwyr sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith paratoi.

    “Mae cyfle mawr gyda ni wythnos yma i roi llwyfan yng nghanol Pontypridd i'r iaith Gymraeg. Mae’n wythnos wych i'n dysgwyr a’n siaradwyr newydd. Os nad ydych yn siarad Cymraeg ond yn gwybod ychydig o Gymraeg fel ‘bore da, croeso a diolch’ – defnyddiwch hi.

    "Mae’n gyfle hefyd i'n heconomi. Mae’r dref wedi cofleidio’r Eisteddfod. Dewch i ni eisteddfodwyr gofleidio’r dref."

    Murlun Ponty
    Disgrifiad o’r llun,

    Un o'r murluniau sydd i'w gweld ym Mhontypridd

    Fe gyhoeddodd hefyd fod y gronfa leol wedi codi £332,000. Gan gynnwys cyfraniad y Cyngor mae’r ardal felly wedi codi £450,000 mewn blwyddyn er mwyn cynnal yr Eisteddfod.

    Fe aeth ymlaen i groesawu a diolch i Lywyddion Anrhydeddus yr Eisteddfod: Eirlys Britton, Geraint Davies, Martyn Geraint, Susan Jenkins, Wil Morus Jones a Menna Thomas.

    Llywyddion Anrhydeddus y Brifwyl eleniFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Llywyddion Anrhydeddus y Brifwyl eleni

  16. Cofio Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr 1956wedi ei gyhoeddi 14:04 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Meinwen Llywelyn a’r actores Gaynor Morgan Rees, oedd yn 16 oed yn 1956, ar faes yr EisteddfodFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Meinwen Llywelyn a’r actores Gaynor Morgan Rees, oedd yn 16 oed yn 1956, ar faes yr Eisteddfod

    Wrth i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â'r ardal am y tro cyntaf ers degawdau mae rhai wedi bod yn hel atgofion am Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr.

    Cafodd yr actores Gaynor Morgan Rees ei geni a'i magu ychydig filltiroedd i'r de o'r maes ym mhentref Abercwmboi.

    "Dw i'n cofio ei bod hi'n dywydd sych a braf achos mae gen i luniau o Meinwen Llywelyn a fi yn tynnu lluniau i'r wasg ar y pryd a mae'r tywydd bob amser yn sych," meddai.

    "Odd yr Eisteddfod yn wahanol iawn wrth gwrs i heddiw - nosweithiau llawen a dawnsio gwerin nid gigs a phethe' fel 'na, ac wrth gwrs o'dd Sian Phillips yno am y tro cynta' yn y 'Steddfod - Gymerwch chi Sigarét a Siwan (gan Saunders Lewis) wnaeth hi."

    Mae'n cofio hefyd y cymdeithasu yn yr hwyr ynghanol Aberdâr.

    "Canu emynau bryd hynny ynte - cerflun Caradog ynghanol y dref, dyna lle oedden ni i gyd yn ymgasglu, a llawer iawn o gerdded 'nôl i'r pentrefi yn hytrach na mynd mewn tacsis - o'dd dim siwd beth â thacsis - cerdded o'dd pawb yn 'neud bryd hynny!"

    Doedd neb yn deilwng o'r goron yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr a Mathonwy Hughes a enillodd y gadair am awdl ysgafn ar y testun 'Gwraig'.

    Eisteddfod Aberdar 1956Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol
  17. 'Cynllun tocynnau am ddim wedi chwalu rhwystrau'wedi ei gyhoeddi 13:58 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Eisteddfod

    Bydd tua 15,000 o unigolion a theuluoedd Rhondda Cynon Taf yn cael cyfle i fwynhau bwrlwm yr Eisteddfod yr wythnos hon - diolch i gynllun tocynnau mynediad am ddim a thalebau bwyd i bobl leol ar incwm is.

    Darparodd Llywodraeth Cymru £350,000 i’r Eisteddfod er mwyn galluogi unigolion a theuluoedd o gartrefi incwm is i brofi'r ŵyl eleni a chael blas ar y Gymraeg a’i diwylliant.

    Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, Eluned Morgan: "Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae'r Eisteddfod yn lle gwych i siarad, clywed a defnyddio ein hiaith.

    "Mae sawl un wedi bod yn dod am ddegawdau, eraill yma am y tro cyntaf, ac mae hynny oll yn rhan o beth sy’n gwneud yr Eisteddfod mor arbennig."

    Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sydd wedi gweinyddu'r dyraniad tocynnau i deuluoedd cymwys.

    Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Andrew Morgan: “Roedd hi'n bwysig iawn i ni wneud yn siŵr bod cymaint o'n trigolion â phosib yn cael cyfle i ymweld â'r Eisteddfod tra mae yma yn Rhondda Cynon Taf.

    “Mae'r Eisteddfod i bawb, a diolch i'r arian hael gan Lywodraeth Cymru, rydyn ni wedi gallu rhoi cyfle i bobl nad fyddent efallai wedi cael cyfle i ymweld."

    Eisteddfod

    Dywedodd Craig Spanswick, Pennaeth Ysgol Cwm Rhondda: “Heb os, mae’r cynllun tocynnau am ddim wedi bod yn gymorth chwalu rhwystrau a galluogi mynediad i deuluoedd lleol i’n gŵyl genedlaethol.

    “Nid yn unig mae’r cynllun o gymorth i deuluoedd ar incwm is ond mae hefyd wedi galluogi agor drysau i deuluoedd sydd, o bosib, heb fynychu Eisteddfod Genedlaethol o’r blaen.

    "Mae e mor bwysig i ni, yn ein Heisteddfod Genedlaethol ni yma yn Rhondda Cynon Taf, ein bod ni gallu estyn croeso i gynifer o’n trigolion lleol ag sy’n bosib er mwyn iddynt brofi ein diwylliant unigryw a phrofi’r iaith Gymraeg yn iaith fyw sy’n rhan annatod o’n cymunedau yma’n y cymoedd.”

  18. Tom Jones wedi cyrraedd y Brifwyl 😏wedi ei gyhoeddi 13:50 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Tybed a fydd y canwr enwog yma, o Drefforest yn wreiddiol, yn cystadlu am y Rhuban Glas eleni?

    Mae Glain a Myfi wrth eu bodd!

    Glain a Myfi
  19. A fuasech chi yn gallu ysgrifennu englyn mewn awr?wedi ei gyhoeddi 13:44 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Tim Mererid Hopwood

    Mae tîm Tir Iarll a Dros yr Aber yn barod i fynd amdani yn Y Talwrn.

    Mae nhw wrthi’n ysgrifennu englyn ar y pryd ar ôl derbyn y testun awr yn unig cyn y ffeinal.

    A fydd tîm yr Archdderwydd newydd, Mererid Hopwood yn fuddugol tybed?

    Dros yr Aber
  20. Barn eisteddfodwyr am y Maes - pawb yn hapus tybed?wedi ei gyhoeddi 13:38 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae cryn drafod wedi bod ar faes Eisteddfod Rhondda Cynon Taf a hithau eleni yn eisteddfod drefol.

    Beth yw barn yr eisteddfodwyr tybed ar y diwrnod cyntaf?

    Disgrifiad,

    Beth mae pobl yn ei feddwl o'r maes?