Crynodeb

  1. Dewisiadau anodd i'w gwneud yn y Pentref Bwyd 😋wedi ei gyhoeddi 13:34 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae 'na fwrlwm yn y Pentref Bwyd yn ystod amser cinio!

    O fwyd Groegaidd i bysgod a sglodion, mae rhywbeth at ddant pawb ar y Maes.

    Er ambell giw, mae pawb yn hapus fod wythnos yr Eisteddfod wedi cyrraedd.

    Pentre bwyd
  2. Rhuanedd Richards yn olynu ei thad sydd hefyd yn aelod o'r Orseddwedi ei gyhoeddi 13:30 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Un arall a fu’n sgwrsio gyda Tudur Owen bore 'ma ar S4C oedd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru, sydd wedi bod yn rhan o ymdrechion cymunedol yr ardal wrth baratoi a chodi arian ar gyfer yr Eisteddfod.

    “Rwy’n edrych ar y maes hyfryd hwn ar ôl yr holl baratoadau a chodi arian, ac mae hi mor wych bod yma.

    "Mae’n anodd credu bod cymaint o arian wedi ei godi o fewn cyn lleied o amser. Mae’r tair ardal – Rhondda, Cynon a Thaf wedi dod at ei gilydd mewn ffordd anhygoel. Mae pawb wedi mynd ati fel lladd nadroedd i sicrhau fod hon yn wythnos lwyddiannus.

    "Ges i fy magu yn gyntaf yn Aberpennar ac yna yng Nghwmaman, ar adeg pan oedd y bwcedi glo yn cael eu cludo dros doeau’r tai o’r pwll i'r tomeni a’r düwch ar y llethrau.

    "Fel y gwelwch chi heddiw, mae’n ardal mor wyrdd a hardd. Mae fel petai natur wedi ailafael yn yr ardal yma. Mae cymaint o lefydd i ymweld â nhw”

    Yn ogystal â chystadlu gyda Chôr Rhydfelen a chanu gyda Chôr yr Eisteddfod, fe fydd Rhuanedd Richards yn cael ei anrhydeddu gan Orsedd y Beirdd ddydd Gwener.

    “Mae hi’n gymaint o anrhydedd, rwy’n eithaf emosiynol am gael fy nerbyn i'r Orsedd.

    "Fe gafodd Dad ei dderbyn yn 2016 fel Phil Pennar. Bellach mae Alzheimers arno fe, a fydd e ddim yn gallu bod yma. Mae rhywun yn meddwl byddai wedi bod yn wych pe bai yn gallu bod yma gyda fi a gweld y digwyddiad hwn, ond fe fydd yn ddiwrnod i'w gofio.”

    Rhuanedd
  3. Marwolaeth nain yn ysbrydoli Elena Grace - enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifancwedi ei gyhoeddi 13:19 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    ElenaFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Eleni yw'r tro cyntaf i Elena Grace gyflwyno gwaith i'r Eisteddfod Genedlaethol

    Elena Grace o Gaerdydd sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

    Cafodd ei gwaith ei ysbrydoli gan eitemau a adawyd yn ystafelloedd tŷ ei ddiweddar nain.

    Mae'r ysgoloriaeth wedi cael ei sefydlu er mwyn hybu celf a chrefft yng Nghymru.

    Dyfernir yr ysgoloriaeth i'r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn ei g/alluogi i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf a dylunio cydnabyddedig neu fynychu dosbarthiadau meistr.

    Mae'r ysgoloriaeth yn agored i rai dan 25 oed.

    "Mae'r lluniau'n adlewyrchu'r adeg pan symudais i dŷ fy nain wedi iddi farw a sut y bu i'r pethau a adawodd ar ei hôl fagu arwyddocâd." meddai Elena

    "Mae'r paentiadau'n cynnwys isleisiau llwyd tawel a thechnegau brwsio meddal mewn olew, gan gyfeirio at ffotograffau personol a rhai a ddarganfuwyd."

    Rhan o'r gwaith a gyflwynodd Elena Grace ar gyfer yr ysgoloriaethFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhan o'r gwaith a gyflwynodd Elena Grace ar gyfer yr ysgoloriaeth

    Dywedodd un o'r detholwyr, Ffion Rhys, am waith yr arlunydd, "Mae ei phaentiadau'n bortreadau sensitif hardd o olygfeydd domestig tawel, a'i dewis o balet o liwiau llwyd cynnes distaw yn creu llonyddwch synfyfyriol a lle i feddwl.

    "Mae hi'n darlunio corneli ystafelloedd, cyrtiau tennis gwag, sinciau ymolchi, byrddau a chadeiriau yn yr ardd, mẁg, a llyfr agored ar fwrdd, fel petai rhywun newydd ymadael.

    Graddiodd Elena gyda gradd BA dosbarth cyntaf mewn Celfyddyd Gain o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, rhan o Brifysgol Metropolitan y ddinas, ddwy flynedd yn ôl.

    "Rwy’n gobeithio dilyn cwrs gradd meistr yn Llundain y flwyddyn nesaf ac fe fydd yr ysgoloriaeth yn mynd tuag at y ffioedd hynny,” meddai.

    Eleni yw'r tro cyntaf i Elena gyflwyno gwaith i'r Eisteddfod Genedlaethol ac ychwanegodd fod hynny wedi bod yn uchelgais iddi ers blynyddoedd.

    Yn ogystal â'r ysgoloriaeth o £1,500 bydd Elena yn cael cynnig gofod i arddangos ei gwaith yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam y flwyddyn nesaf.

  4. Mae eisteddfota yn waith sychedig!wedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae amser cinio yn golygu amser peint i rai!

    Roedd Poppy, Eliza a Libby o Aberdâr a Merthyr Tudful yn mwynhau treulio amser ar y maes brynhawn Sadwrn.

    Peint ar y maes
  5. Cerrig yr orsedd wedi eu gosodwedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Cerrig orsedd

    Mae cerrig yr orsedd yn barod ar gyfer y seremonïau ar Barc Ynysangharad.

    Yn fan hyn bydd yr Archdderwydd yn croesawu aelodau newydd i'r Orsedd ddydd Llun a ddydd Gwener.

    Mae yna Archddrerwydd newydd eleni - mae Mererid Hopwood yn olynu Myrddin ap Dafydd.

    Dywed ei bod yn edrych ymlaen ac yn falch bod nifer fawr o Orseddogion newydd yn cael eu hurddo.

    M&M! Mae'r Archddrwydd Mererid yn olynu'r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd
    Disgrifiad o’r llun,

    M&M! Mae'r Archddrwydd Mererid yn olynu'r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd

  6. Canu Cwm Rhondda... yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf!wedi ei gyhoeddi 12:59 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Ble well i ganu Cwm Rhondda nag yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf?

    Fe wnaeth Shân Cothi, Steffan Hughes a Ffion Emyr gychwyn yr Eisteddfod gyda chân ddydd Sadwrn.

    Bydd y tri yn cyflwyno rhaglenni Radio Cymru o'r maes gydol yr wythnos.

  7. 'Dewch oll, bydd paned i chi'wedi ei gyhoeddi 12:55 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Rhan o'r cywydd croeso yn cael ei arddangos ym Mhontypridd
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhan o'r cywydd croeso yn cael ei arddangos ym Mhontypridd

    Aneirin Karadog yw awdur y cywydd croeso eleni ac ef hefyd yw un o feirniaid cystadleuaeth y gadair ddiwedd yr wythnnos.

    Ac oes mae yna groeso cynnes iawn yn Rhondda Cynon Taf!

    CywyddFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  8. Ydy Platiad ar y Maes? Sut mae cael tocyn i nofio? Yr atebion yma 🤔wedi ei gyhoeddi 12:47 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Beth yw'r ffordd orau o deithio i'r maes?

    A fydd sŵn Maes B yn broblem?

    Sut mae cael tocyn i nofio?

    Yr atebion gan Brif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses.

  9. Menna Thomas: 'Gobeithion am waddol yr Eisteddfod'wedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Ar raglen S4C bu Menna Thomas, un o Lywyddion Anrhydeddus Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, yn siarad â Tudur Owen ac wrth drafod effaith yr Eisteddfod ar yr ardal fe ddywedodd:

    “Rwy’n gobeithio bydd y gwaddol yn datblygu ac ehangu wrth i'r blynyddoedd fynd yn eu blaen. Mae côr yr Eisteddfod yn gôr mawr ac mae nifer o siaradwyr newydd a Chymry di-Gymraeg.

    "Maen nhw wedi gorfod gweithio’n galed iawn i ddysgu’r holl eiriau a’r ynganiad cywir, ond maen nhw wrth eu bodd. Ry’n ni gyd yn un criw yn gweithio tuag at yr un nod.”

    Fe fydd hon yn wythnos brysur i Menna, yn ogystal â’i chyfraniad fel un o Lywyddion Anrhydeddus y Brifwyl mae yn rhan o sawl côr a chystadleuaeth.

    Maes D
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae nifer o siaradwyr newydd a Chymry di-Gymraeg yng nghôr yr Eisteddfod eleni

  10. Perfformiad o'r cywydd croeso yn agor y Babell Lênwedi ei gyhoeddi 12:33 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Y babell len

    Un babell sy'n sicr o fod yn boblogaidd yn ystod yr wythnos yw'r Babell Lên.

    Y bore 'ma fe fu disgyblion o'r ysgolion lleol yn agor y babell yn swyddogol gyda pherfformiad o'r Cywydd Croeso gan Aneirin Karadog.

    Y prynhawn 'ma am 13:30 rownd derfynol 'Y Talwrn' Radio Cymru.

    Pwy fydd y pencampwyr tybed? Dros yr Aber neu Tir Iarll?

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Maes D yn hynod o boblogaidd fore Sadwrnwedi ei gyhoeddi 12:19 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Maes D

    Mae yna bwyslais arbennig eleni ar weithgareddau Maes D - sef maes sydd wedi'i anelu'n benodol i'r rhai sy'n dysgu Cymraeg.

    Y bore 'ma bu Helen Prosser, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, yn rhoi sgwrs am hanes Eisteddfodau Cenedlaethol yr ardal ym Maes D.

    Y prynhawn 'ma bydd Helen yn holi Cennard Davies, llywydd y Brifwyl eleni ond hefyd mae'n un sydd wedi dysgu Cymraeg i oedolion ar hyd ei oes - yn bennaf yn ardal Rhondda Cynon Taf.

    Maes
    Disgrifiad o’r llun,

    Maes D fore Sadwrn

  12. Fideo: Dyma i chi gipolwg o'r Maes fore Sadwrn ...wedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae Parc Ynysangharad yn llenwi wrth i fwy o ymwelwyr gyrraedd Maes yr Eisteddfod ym Mhontypridd.

    Mae disgwyl i 150,000 o bobl ymweld â Rhondda Cynon Taf yn ystod yr wythnos.

  13. Penwythnos mawr y bandiau preswedi ei gyhoeddi 11:53 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae'r cystadlu wedi dechrau a gallwch wylio'r cyfan yn ddi-dor ar ffrwd Sedd yn y Pafiliwn ar S4C Clic, dolen allanol.

    Wrth i'r bandiau pres ymgynnull ar gyfer penwythnos mawr o gystadlu, mae'r Maes yn prysuro.

    Bandiau pres ar faes yr Eisteddfod
    Bandiau pres ar faes yr Eisteddfod
  14. Helen Prosser: 'Anodd credu ein bod wedi llwyddo i godi cymaint o arian'wedi ei gyhoeddi 11:48 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Wrth groesawu pawb i Faes yr Eisteddfod ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd ar fore cyntaf y Brifwyl, cyhoeddodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Helen Prosser fod Cronfa Leol Eisteddfod Rhondda Cynon Taf wedi cyrraedd bron i £332,000.

    Gyda chefnogaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac eraill, mae’r cyfanswm wedi pasio £450,000.

    Meddai Helen Prosser, “Pleser o’r mwyaf yw cael cyhoeddi cyfanswm mor anhygoel y bore ‘ma. Mae’n anodd credu ein bod ni wedi llwyddo i godi cymaint o arian mewn cwta ddeunaw mis. Mae’n anodd gwybod lle mae dechrau diolch i bawb am eu gwaith caled, eu hegni a’u brwdfrydedd.

    “Mae gwirfoddolwyr o bob cornel o Rhondda, Cynon a Thaf wedi trefnu gweithgareddau yn enw’r Eisteddfod, ac rydyn ni’n arbennig o ddiolchgar i ffrindiau mewn rhannau eraill o Gymru, gan gynnwys Caernarfon a Chaerdydd am drefnu a chreu digwyddiadau i’n helpu ni i gyrraedd y nod.

    “Diolch i’n holl wirfoddolwyr, i drigolion lleol ac i bawb sydd wedi bod mor gefnogol drwy gydol y cyfnod. A dim ond un peth sydd ar ôl i ni’i wneud nawr, sef annog pawb i ddod draw atom i’r parc hyfryd yma yn ystod yr wythnos a mwynhau.

    “Rydyn ni wedi bod yn aros am yr Eisteddfod yma yn y sir ers 1956 – ac rydw i mor falch i gael dweud Croeso i Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf!”

    Disgrifiad,

    Helen Prosser: 'Croeso i Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf'

  15. 15,000 o docynnau am ddim i deuloedd lleol i gael gweld y wledd 'ar garreg y drws'wedi ei gyhoeddi 11:33 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    "Mae'r Eisteddfod wedi darparu 15,000 o docynnau am ddim i deuluoedd lleol," meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr y Brifwyl yn y gynhadledd i'r wasg fore Sadwrn.

    Wrth gael ei holi am golli mynediad i Barc Ynysnagharad dywedodd: "Ry'n yn ymwybodol iawn bod rhai yn rhwystredig ein bod ni wedi defnyddio’r parc. Wrth gwrs ry'n ni wedi bod yn cydweithio gyda’r Cyngor ac mi oedd modd defnyddio’r parc tan y funud olaf".

    Ychwanegodd "ei bod yn bwysig ein bod ni’n rhoi cyfle i bobl leol brofi’r Eisteddfod ac fe wnaethon ni gydweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Cyngor i sicrhau bod yna docynnau ar gyfer teuluoedd difreintiedig fel bod nhw’n gallu dod i'r Eisteddfod i gael gweld y wledd sydd ar garreg y drws."

    bandstand
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe gafodd Parc Ynysangharad ei drosglwyddo i'r Eisteddfod ddydd Mercher diwethaf

  16. Plant yr ysgolion lleol wedi bod yn hynod o brysurwedi ei gyhoeddi 11:25 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae pobl o bob oedran wedi bod yn arddangos eu doniau er mwyn croesawu'r Eisteddfod.

    Dyma ddetholiad o waith plant y fro sy'n cael ei arddangos ym Mhontypridd.

    gwaith plant
  17. Llywydd yr Ŵyl: 'Crwydrwch holl ardal y Brifwyl'wedi ei gyhoeddi 11:17 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Cennard Davies

    Ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf dywed Llywydd yr Ŵyl, Cennard Davies, ei fod yn gobeithio'n fawr y bydd eisteddfodwyr yn crwydro'r ardal gyfan.

    "Gobeithio'n wir y bydd eisteddfodwyr yn mentro i Dreorci ac ardaloedd eraill. Mae gen i erthygl yn y rhifyn cyfredol o Barn yn awgrymu llefydd i bobl ymweld â nhw," meddai.

    Yn ei erthygl ymhlith y llefydd y mae Cennard Davies yn annog eisteddfodwyr i ymweld â nhw mae Parc Treftadaeth y Rhondda yn Nhrehafod, Y Porth, catref y bardd a'r dramodydd Kitchener Davies yn Nhrealaw, Tonypandy, Llwyn-y-pia, Ton Pentre, Treorci, Treherbert, Blaenrhondda, Pen-rhys, Tylorstown, Ferndale a'r Maerdy.

    Y croeso yn NhonypandyFfynhonnell y llun, Kelly Hanney
    Disgrifiad o’r llun,

    Y croeso yn Nhonypandy

  18. 'Peilot fel yr Eisteddfod hon yn golygu y gall hi fynd i bob rhan o Gymru'wedi ei gyhoeddi 11:07 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Y Prif Weithredwr, Betsan Moses, ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Prif Weithredwr, Betsan Moses, ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod

    Yn y gynhadledd i'r wasg dywedodd y Prif Weithredwr, Betsan Moses, bod cynnal yr Eisteddfod mewn tref "wedi bod yn heriol" ar adegau ond bod "hwn yn beilot sy'n golygu bod modd i'r 'Steddfod fynd i bob rhan o Gymru".

    "Rwy'n teimlo fel tasen ni wedi bod yn gweithio ar hwn ers degawd" a bod y "gwaith wedi digwydd cyn i fi ddechrau yn y swydd", ychwanegodd Betsan Moses.

    "Heb waith Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Helen Prosser, ac arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl.

    "Fe wneith hwn weithio, ry'n ni wedi cyrraedd y pwynt, wedi gallu gweithio drwy'r heriau ac agor yn hyderus heddiw," ychwanegodd.

    Y Maes lliwgar fore Sadwrn
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Maes lliwgar fore Sadwrn

  19. Angharad Pearce Jones yn ennill y Fedal Aur am Gelfyddyd Gainwedi ei gyhoeddi 10:50 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Gwaith y gof a'r artist metel Angharad Pearce Jones sydd wedi ennill y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.

    Dywedodd Angharad, sy'n byw gyda'i theulu ym Mrynaman, ei bod wrth ei bodd yn ennill y wobr ym Mhontypridd.

    "Rwyf wedi ymwneud â'r Eisteddfod Genedlaethol ers chwarter canrif. Dwi wedi arddangos yn y Lle Celf sawl gwaith, wedi bod yn ddetholwr a chadeirydd ac wedi cael y fraint o greu'r Goron ond erioed wedi ennill.

    "Ac mae dod i'r brig yn Rhondda Cynon Taf yn fwy arbennig gan fod Mam yn dod o Bontypridd ac ar ôl Parc Ynysangharad cefais fy enwi.

    Bûm yn dod i'r dref i weld Nain a Taid ac yn ymweld â'r parc," meddai.

    Mae'r gwaith yn ymateb i ganfyddiad Angharad fod rhaniadau mewn cymdeithas wedi cynyddu yn dilyn refferendwm Brexit yn 2016.

    Rhan o waith buddugol Angharad Pearce Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhan o waith buddugol Angharad Pearce Jones

    Dywedodd Ffion Rhys, un o'r tri detholwr ar gyfer y gystadleuaeth eleni, am waith Angharad: "Ar yr wyneb mae'n ymddangos yn syml ac yn hawdd cael mynediad iddo - mae'n eich hudo i mewn gyda chrefft, medrusrwydd, 'setiau' sydd wedi'u creu i chi gael ymgolli a chwarae eich rhan ynddynt, a chymysgedd annisgwyl o ddeunyddiau.

    "Fy mhrofiad i o'i gwaith yw bod pobl bob amser yn sefyll o'i flaen ac yn siarad - a hynny am y pynciau cymhleth y mae hi'n eu cyflwyno, fel gwleidyddiaeth, diwylliant poblogaidd, mamolaeth, ffeministiaeth, chwant, systemau grym a hunaniaeth y Cymry."

    Yn wreiddiol o’r Bala graddiodd Angharad gyda gradd BA (Anrh) mewn Dylunio a Chrefft ym Mhrifysgol Brighton yn 1991 a chwblhau MA mewn Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Caerdydd.

  20. Huw Edwards: A ddylai'r Orsedd gyfarfod ynghynt?wedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst
    Newydd dorri

    Cafodd Huw Edwards ei dderbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Tregaron yn 2022.
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd Huw Edwards ei dderbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Tregaron yn 2022

    Yn y gynhadledd i'r wasg fore Sadwrn roedd yna gwestiwn a ddylai'r Orsedd fod yn cyfarfod cyn ddydd Mawrth i drafod os dylid diarddel Huw Edwards.

    Ddydd Mercher fe wnaeth cyn-gyflwynydd newyddion y BBC bledio'n euog i dri chyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant.

    Yn y gynhadledd fe bwysleisiodd Gwenllian Carr, Cyfarwyddwr Strategol yr Eisteddfod Genedlaethol, y bydd cyfarfod blynyddol yr Orsedd yn cael ei gynnal ddydd Mawrth.

    Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, bod y "broses wedi cychwyn ac wrth gwrs byddai fe ddim yn briodol felly fy mod i'n gwneud sylw - mae’n rhaid i'r broses fynd rhagddi yn deg ac yn dryloyw".

    Cafodd Huw Edwards ei dderbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Tregaron yn 2022.

    Fe wnaeth Edwards ymddangos yn Llys Ynadon Westminster fore Mercher
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe wnaeth Edwards ymddangos yn Llys Ynadon Westminster fore Mercher