Crynodeb

  1. Y gronfa leol wedi cyrraedd ei tharged ariannol a mwywedi ei gyhoeddi 10:24 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst
    Newydd dorri

    Yn y gynhadledd gyntaf i'r wasg dywed Helen Prosser, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, bod y gronfa leol wedi cyrraedd ei tharged ariannol a mwy ac wedi codi £332,000 ond wedi cyfraniadau gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ac unigolion mae'r cyfanswm yn £450,000.

    "Mae cyfeillion ar draws Cymru wedi cyfrannu," meddai, "ond mae trwch yr arian wedi dod o weithgarwch yn ein cymunedau."

    cynhadledd y wasg
    Disgrifiad o’r llun,

    Helen Prosser (ar y chwith) yn y gynhadledd i'r wasg fore Sadwrn

  2. Gwirfoddolwyr Heddlu De Cymru ar y Maeswedi ei gyhoeddi 10:15 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Gwirfoddolwyr Heddlu De Cymru

    Wrth i'r dorf ddechrau cyrraedd Parc Ynysangharad, mae'r criw yma o wirfoddolwyr Heddlu De Cymru ar y Maes yn barod i helpu.

    Ym mis Gorffennaf fe gyhoeddodd Heddlu De Cymru y bydd swyddogion heddlu arbenigol, gan gynnwys "llawer" mewn dillad plaen, yn yr Eisteddfod er mwyn "atal, canfod ac amharu ar droseddu".

  3. Llai o le ond paned yn Merched y Wawr ☕wedi ei gyhoeddi 10:05 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae'r rhan fwyaf o unedau stondinwyr yn llai eleni ond mae'r croeso yr un mor gynnes - ac oes mae 'na baned yn Merched y Wawr!

    "Dewch mewn," medd Tegwen Morris, y Cyfarwyddwr Cenedlaethol.

    Tegwen Morris
  4. Cystadleuwyr o bell ac agos yn dechrau cyrraeddwedi ei gyhoeddi 09:53 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae'n ddiwrnod cystadlaethau y bandiau pres - ac mae Hanna Brotheridge o Gaernarfon yn barod i gystadlu gyda Band Porthaethwy - y gystadleuaeth toc cyn 13:00.

    Fe fyddan nhw yn cystadlu am Gwpan Ivor Jarvis a £500.

    Hanna o Gaernarfon
  5. Y lluniau cyntaf o'r Maes fore Sadwrn ...wedi ei gyhoeddi 09:46 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Eisteddfod

    Ydi mae'r stondinau ar agor ac eisteddfodwyr yn dechrau cyrraedd y Maes ar Barc Ynysangharad.

    Eisteddfod
  6. Rhedeg ben bore!wedi ei gyhoeddi 09:41 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Pa ffordd well i ddechrau'r Eisteddfod na rhedeg 5k ben bore?

    Mae dros 100 o redwyr wedi bod yn rhedeg y park run eisteddfodol ers 09:00 a 15 wedi gwirfoddoli i gadw rhedwyr yn saff yn Grangetown, Rhiwbeina, Pontypridd ac Ynys-y-bwl!

    Dafydd Trystan - rhedwr profiadol o Benderyn sy'n arwain.

    Dafydd TrystanFfynhonnell y llun, Dafydd Trystan
    Disgrifiad o’r llun,

    Dafydd Trystan (yma mewn digwyddiad arall) oedd yn arwain y rhediad 5k fore Sadwrn

  7. Y BBC wedi dechrau darlledu o'r Eisteddfod ganrif yn ôl!wedi ei gyhoeddi 09:27 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Cofiwch am raglenni Radio Cymru gydol y dydd o'r Maes.

    Un ffaith ddiddorol gan yr Athro Jamie Medhurst o Brifysgol Aberystwyth yw bod y BBC wedi dechrau darlledu o'r Brifwyl union ganrif yn ôl!

    Enillydd y goron yn 1924 oedd Prosser Rhys am ei bryddest ddadleuol 'Atgof' ac fe fydd cryn sylw iddi ar y maes eleni.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    Disgrifiad,

    Dr Gareth Evans Jones yn trafod bywyd a gwaith y bardd E.Prosser Rhys

  8. Dod ar drên?wedi ei gyhoeddi 09:18 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Erbyn hyn mae gwasanaeth Metro De Cymru yn weithredol yn yr ardal.

    O fewn ardal Metro De Cymru bydd trenau ychwanegol yn ystod wythnos yr Eisteddfod a fydd yn rhedeg o Gaerdydd i Bontypridd tan ddiwedd y digwyddiad olaf bob nos.

    Mae gorsaf drenau Pontypridd wedi’i lleoli bum munud ar droed o’r Maes, a 25 munud ar droed o Faes B.

    Mae trenau'n rhedeg yn uniongyrchol o Gaerdydd Canolog i Ferthyr Tudful, Aberdâr a Threherbert, a phob un yn galw ym Mhontypridd.

    Os ydych yn bwriadu teithio o Ben-y-bont ar Ogwr, Ynys y Barri, Penarth neu Rymni, bydd angen i chi newid yng ngorsafoedd Caerdydd Heol y Frenhines neu Gaerdydd Canolog.

    Pontypridd
  9. Cyfarchiad cynnar trefnwyr yr Eisteddfod! 🎶wedi ei gyhoeddi 09:15 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    X (Twitter gynt)
    X

    Ie yn wir pob lwc i'r holl gystadleuwyr - 184 cystadleuaeth!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Y sir gyfan yn croesawu'r Eisteddfod 😊wedi ei gyhoeddi 09:07 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    croeso

    Mae ardaloedd ar draws sir Rhondda Cynon Taf wedi bod yn rhan o groesawu'r Eisteddfod ac wedi codi dros £300,000 mewn cyfnod byr, medd Llywydd y Brifwyl Cennard Davies.

    Ar draws y sir mae nifer wedi bod yn arddangos eu croeso cynnes.

    croeso
    croeso
  11. Ar eich ffordd - sut mae cyrraedd?wedi ei gyhoeddi 09:01 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Mae eisteddfodwyr yn cael eu hannog i gyrraedd y Maes ar drafnidiaeth gyhoeddus neu i barcio, os yn gyrru, yn y meysydd parcio a theithio penodol.

    Mae Pontypridd yn dref brysur ar y gorau, medd y trefnwyr, a gall traffig fod yn broblem ar ddiwrnod arferol.

    map
  12. Mae'n ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod - croeso!wedi ei gyhoeddi 08:55 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst

    Croeso

    Wedi misoedd lawer o baratoi mae'n ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.

    Eisoes mae eisteddfodwyr ar y Maes - ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd.

    Hefyd ar y Maes mae gohebwyr Cymru Fyw - croeso i'n llif byw!

    Eisterddfod