Crynodeb

  1. Ai newid yw dymuniad yr etholwyr?wedi ei gyhoeddi 20:34 GMT+1

    Gareth Lewis
    Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae'r sylwadau cloi yn tynnu sylw at fater mawr i Lafur wedi 26 mlynedd mewn grym yn y Senedd. Yn syml, efallai mai newid yw dymuniad etholwyr.

    Mae Richard Tunnicliffe yn addo bod yn "gyfaill beirniadol" i Lywodraeth Cymru os yw'n ennill - efallai'n gyfaddefiad bod y llywodraeth ddim mor boblogaidd.

    Mae'r Ceidwadwyr, Democratiaid Rhyddfrydol, Reform, y Gwyrddion a Phlaid Cymru i gyd yn feirniadol o gyfnod Llafur mewn grym.

    Ond rhybudd ganddyn nhw hefyd bod dewis Reform yn “risg” er bod Llŷr Powell yn awgrymu mai ei blaid ef yw'r unig ddewis.

    Gyda chystadleuaeth agos i’w disgwyl, mae Lindsay Whittle yn dewis y dull lleol iawn, gan hawlio mai ef yw Caerffili - dull sy'n cael ei ddilyn gan Mr Tunnicliffe, er, ychydig yn llai brwdfrydig.

  2. Beth oedd y pynciau llosg?wedi ei gyhoeddi 20:28 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    O ran y pynciau, mewnfudo a buddsoddiad mewn gwasanaethau lleol oedd yn denu'r sylw mwyaf.

    Mae record Llafur yng Nghaerffili yn un sydd wedi cael ei feirniadu gan y gwrthbleidiau, a hyd yn oed ymgeisydd y Blaid Lafur ei hun, Richard Tunnicliffe.

    Felly mi fydd hi’n gamp enfawr os fydd Llafur yn medru perswadio etholaeth sy’n flin gyda phenderfyniadau dros gau canolfannau hamdden a llyfrgelloedd i roi ffydd ynddyn nhw unwaith eto.

    Ar fewnfudo, roedd y gwahaniaethau yn glir, gyda’r Blaid Werdd, y Democratiaid Rhyddfrydol, Llafur a Phlaid Cymru yn gefnogol o bolisi Cenedl Noddfa.

    Ar yr ochr arall roedd Llŷr Powell o Reform yn bendant fod mewnfudo yn bwnc sy’n poeni etholwyr yng Nghaerffili, tra bod Gareth Potter o’r Ceidwadwyr yn gwrthwynebu'r polisi Cenedl Noddfa, ond yn dadlau nad yw mewnfudo yn bwnc llosg yn yr isetholiad yma.

    Felly mae’r ddadl deledu wedi dod i ben, ond mae wythnos ar ôl i’r ymgeiswyr barhau i gyflwyno eu hachos ar y stepen drws.

  3. Argraffiadau Elliw Gwawrwedi ei gyhoeddi 20:23 GMT+1

  4. Y ddadl yn cloi gyda datganiadauwedi ei gyhoeddi 20:20 GMT+1

    Roedd y ddadl yn cloi gyda'r holl ymgeiswyr yn gwneud datganiad.

    Dywedodd Gareth Hughes fod y pleidiau eraill wedi cael eu cyfle. "Y Blaid Werdd ydy'r new kid on the block," meddai.

    Mae Gareth Potter o'r Ceidwadwyr yn dweud ei fod yn "falch o fyw yn y Cymoedd" a bod "Llafur wedi'n methu ni am 26 mlynedd". "Mae'n amser am newid."

    Dywed Steve Aicheler bod pleidlais i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn "gyrru neges ein bod ni wedi cael digon", a bod angen gweithredu o blaid cymunedau.

    Mae Llŷr Powell o Reform yn dweud ei fod eisiau mynd i Fae Caerdydd i gael atebolrwydd gan Lafur ar ei record ar "iechyd, addysg a'r economi".

    Dywedodd Lindsay Whittle fod yr isetholiad yn ddewis rhwng Plaid Cymru a Reform. "Rwy'n gobeithio y gallwch chi ymddiried ynof fi. Rydych chi'n fy 'nabod i," meddai.

    Dywed Richard Tunnicliffe: "Mae hi un ai yn Llafur Cymru, sy'n sefyll am barch a chyflawni, neu Reform, sy'n anhrefn ac yn ein gwahanu."

  5. Digon o ffraeo, ond prin ar atebionwedi ei gyhoeddi 20:13 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Mi oedd yna digon o ffraeo ar y llwyfan yng Nghaerffili heno... ond i’r gynulleidfa a’r gwylwyr adref, y cwestiwn yw os oedd digon o atebion?

    Roedd y rhan fwyaf o’r hyn gynigwyd yn syniadau rydyn ni wedi’u clywed o’r blaen, neu yn syml: “Mi wnawn ni swydd well na Llafur."

    Ond efallai mai dyna yw’r neges o heno. Mae’r sefyllfa genedlaethol yn un wael ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu’n lleol mewn cymunedau fel Caerffili, Nelson ac Ystrad Mynach.

    Pwy bynnag fydd yn fuddugol yr wythnos nesaf, mi fydd y cyfle i gael effaith go iawn yng Nghaerffili yn brin.

    Ond gyda Llywodraeth Cymru angen denu cefnogaeth i basio ei chyllideb, pe bai plaid heblaw Llafur yn ennill, mi fydd y bêl yn eu cwrt nhw i geisio denu buddsoddiad i’r etholaeth.

  6. Sut mae ennill ymddiriedaeth pleidleiswyr?wedi ei gyhoeddi 20:11 GMT+1

    Mae Richard Tunnicliffe o'r Blaid Lafur yn dweud ei fod yn gwybod bod pobl wedi'u siomi gan wleidyddion, ac nad yw ei yrfa ef wedi bod mewn gwleidyddiaeth. Mae’n cydnabod bod angen ailadeiladu ymddiriedaeth.

    Yn ôl Gareth Hughes, o'r Blaid Werdd, nid oes ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth oherwydd bod gwleidyddion yn gwneud "addewidion dydyn nhw ddim yn gallu cadw”.

    "Mae angen rhoi pethau rhesymol o'u blaen sy'n bosibl eu cyflawni," meddai.

    Mae Llŷr Powell o Reform yn dweud bod ymddiriedaeth ar lefel "drist" yng ngwleidyddiaeth ar hyn o bryd. "Rwy'n ceisio gofyn am awdurdod i wneud yn well ar gyfer yr ardal yma.”

    Dywedodd Gareth Potter o'r Ceidwadwyr bod neb wedi pleidleisio dros bolisi cyfyngiad cyflymder 20mya, felly “mae angen i 20mya ddiflannu".

    Mae Lindsay Whittle o Blaid Cymru yn gwrthod cyhuddiad gan Mr Tunnicliffe ei fod yn wleidydd gyrfa, gan ychwanegu bod ei gydweithiwr Adam Price eisiau deddf newydd i sicrhau bod gwleidyddion sy’n dweud celwydd yn colli eu swydd.

    Mae Steve Aicheler, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn cefnogi'r terfyn 20mya, gan ddweud bod cannoedd o bobl "heb orfod treulio amser yn ymweld â pherthnasau yn yr ysbyty" o'i herwydd.

  7. 'Dadl danllyd'wedi ei gyhoeddi 20:02 GMT+1

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae hi wedi bod yn ddadl danllyd, efo lot o weiddi a ffraeo ac mae 'na rywfaint o rwystredigaeth ymysg y gynulleidfa, gydag un yn cloi gyda'r sylw am y "chwe dyn blin".

  8. Mwy o gydweithio yn y dyfodol?wedi ei gyhoeddi 20:01 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    “Dydi Cymru ddim angen chwe dyn blin ar lwyfan, rydym angen cydweithio aeddfed yn y Senedd,” medd aelod o’r gynulleidfa.

    O fis Mai nesaf – oherwydd y system etholiadol newydd – mae’n debyg y bydd angen mwy o gydweithio nag erioed o’r blaen er mwyn llywodraethu... ond a fydd y gwleidyddion yn gwrando?

  9. Tunnicliffe yn ceisio ymbellhau ei hun o'r Blaid Lafur?wedi ei gyhoeddi 20:00 GMT+1

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Wrth i aelod o'r gynulleidfa ymosod ar rai o bolisïau’r blaid Lafur, roedd o'n swnio i mi bod Richard Tunnicliffe yr ymgeisydd Llafur, yn ceisio ymbellhau ei hun o rai o'r penderfyniadau dadleuol hynny, yn dweud ei fod o'n newydd i wleidyddiaeth.

  10. 'Dim ffydd gan bobl mewn gwleidyddiaeth'wedi ei gyhoeddi 19:59 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Mae Gareth Hughes o’r Gwyrddion yn dweud ei fod yn deall pam fod “ddim ffydd gan bobl mewn gwleidyddiaeth” – a Llŷr Powell o Reform yn dweud ei fod yn cytuno a bod hynny’n “drist”.

    Lle bynnag fyddwch chi’n mynd yn y wlad, mae'r un neges o ddifaterwch gwleidyddol yn amlwg.

    Mae'n edrych fel bod yr ymgeiswyr ar y llwyfan yng Nghaerffili yn deall hynny, a ddim eisiau addo’r byd.

    Ond a fydd hynny’n ddigon i ysbrydoli pobl i bleidleisio wythnos nesaf?

    Gareth Hughes o'r Gwyrddion yn ystod y ddadl
    Disgrifiad o’r llun,

    Gareth Hughes o'r Gwyrddion yn ystod y ddadl

  11. Y pedwerydd cwestiwnwedi ei gyhoeddi 19:57 GMT+1

    Daw'r pedwerydd cwestiwn gan Seren Martin. Mae'n dweud:

    "Mae Llafur wedi cynrychioli Caerffili yn y Senedd ers 26 mlynedd, ac mae eich llywodraeth wedi torri addewid ar ôl addewid, gyda rhestrau aros y GIG yn dal i gynyddu, tlodi plant yn ddisymud, ac amcangyfrif bod yna £32m wedi ei wario ar barthau 20mya.

    "Sut allwn ni ymddiried yn eich addewidion o hyn ymlaen, a sut fydd ymgeiswyr y pleidiau eraill yn adfer ffydd y cyhoedd yn y system wleidyddol?"

    Mae gan Seren Martin wallt golau hir.
  12. Beth wnaeth Nathan Gill?wedi ei gyhoeddi 19:57 GMT+1

    Bu Nathan Gill yn Aelod o Senedd Ewrop dros UKIP, ac yna Phlaid Brexit, rhwng 2014 a 2020. Roedd hefyd yn aelod o Senedd Cymru yn 2016-17.

    Bu'n arweinydd Reform UK yng Nghymru am gyfnod yn 2021.

    Mae Gill wedi cyfaddef i wyth cyhuddiad o lwgrwobrwyo (bribery), oedd yn ymwneud â gwneud datganiadau o blaid Rwsia yn Senedd Ewrop.

    Arweiniodd hyn at gwestiynau ynglŷn ag oedd unrhyw aelod arall o’r blaid yn ymwybodol o’r hyn roedd yn ei wneud.

    Gweithiodd Llyr Powell - ymgeisydd Reform yn isetholiad Caerffili - i Gill tan fis Rhagfyr 2017. Mae’n dweud ei fod yn gwybod dim am unrhyw gamymddwyn ganddo.

    Fe ddigwyddodd y troseddau rhwng 2018 a 2019.

    Er bod rhai o fewn Reform wedi ceisio portreadu Gill fel ffigwr ymylol, dywedodd yr arweinydd Nigel Farage ei fod wedi ei 'nabod “am gyfnod hir”, ac wedi ceisio atal Gill rhag teithio i Wcráin.

    Ychwanegodd Mr Farage ei fod wedi “syfrdanu”, pan ddaeth y cyhuddiadau i’r amlwg.

    Nathan Gill yn cerdded tu allan i Lys yr Old Bailey yn LlundainFfynhonnell y llun, PA Media
  13. Ymgeiswyr yn gwrthdaro ynghylch mewnfudowedi ei gyhoeddi 19:56 GMT+1

    A yw mewnfudo yn broblem yng Nghaerffili? Mae Llŷr Powell yn ateb gydag un gair? "Ydy."

    Mae'n gwadu ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol gan ddweud bod mewnfudo wedi cynyddu ers hynny, ond pan ofynnwyd iddo a oes ganddo ei ffigyrau ei hun, nid oes ganddo unrhyw rai.

    "Mae angen i ni fynd yn ôl at reoli mudo," meddai.

    Dywed Richard Tunnicliffe fod mewnfudo yn cael ei ddefnyddio fel "arf".

    Dywed ei fod yn bwnc difrifol ond mae'n cyhuddo Reform o fod eisiau "rhannu" pobl.

    "Mae mudo cyfreithiol rheoledig wedi elwa'r wlad. Rydym yn cydnabod y pryderon gwirioneddol sydd allan yna."

    Dywed Mr Whittle y byddai Plaid Cymru yn "falch" o gefnogi polisi cenedl noddfa Llywodraeth Cymru, ac yn dweud bod pobl o Wcráin yn byw mewn "ofn" o gael eu hanfon yn ôl. Mae'n cyfeirio at y cyfaddefiad o lwgrwobrwyo gan Nathan Gill, arweinydd blaenorol Reform UK yng Nghymru.

    Mewn ymateb, dywedodd Llyr Powell iddo glywed am y llwgrwobrwyo gan y wasg. Dywedodd bod Gill wedi ymddwyn fel "bradwr" a dylai wynebu y gyfraith.

    Dywed Mr Aicheler nad yw mewnfudo yn broblem yng Nghaerffili ond mae'r canfyddiad yn broblem. Mae gwestai lloches yn achosi rhaniadau, meddai.

    Dywed Gareth Hughes fod Reform yn "troi pobl sy'n dod i'r wlad hon yn ffoi rhag rhyfel i fod yn elynion".

  14. Beth yw'r ffigyrau mewnfudo yng Nghymru?wedi ei gyhoeddi 19:51 GMT+1

    Mae llawer o'r ddadl ynglŷn â mewnfudo yn canolbwyntio ar y data ar gyfer y DU gyfan, felly mae'n werth i ni edrych ar yr hyn ry'n ni'n ei wybod am y sefyllfa yng Nghymru.

    Mae cyfrifiad y DU yn darparu cipolwg o'r boblogaeth gan ei fod yn anelu i gyfrif pob aelwyd.

    Fe ymatebodd 97% i'r cyfrifiad diwethaf yn 2021.

    Yn y degawd rhwng cyfrifiad 2011 a'r un yn 2021 roedd yna fwy o farwolaethau na genedigaethau yng Nghymru, sy'n golygu, heb unrhyw fewnfudo, byddai poblogaeth Cymru wedi crebachu.

    Mewn gwirionedd, fe gynyddodd o tua 55,000 o bobl i ychydig dros 3.1 miliwn o bobl.

    Mae cyfrifiad 2021 yn amcangyfrif bod y gyfradd fewnfudo yng Nghymru yn llawer is nag yn Lloegr.

    Yng Nghymru, ychydig o dan 7% o'r boblogaeth gafodd eu geni y tu allan i'r DU, sy'n cyfateb i tua un ym mhob 14 o bobl.

    Ardal awdurdod lleol Caerffili - sy'n wahanol i ffiniau etholaeth y Senedd, ond nid oes ffigurau ar gael ar gyfer hynny - oedd â'r gyfradd fewnfudo isaf o 22 ardal cyngor Cymru, sef 2.9%. - i fyny o 2.4% yng nghyfrifiad 2011.

    Pobl sydd wedi eu geni yn rhannau eraill o'r DU sy'n bennaf yn mewnfudo i Gymru yn ôl cyfrifiad 2021.

    Ganwyd ychydig dros un rhan o bump o boblogaeth Cymru (21%) yn Lloegr.

  15. Llŷr Powell dan bwysau am bolisi mewnfudo Reformwedi ei gyhoeddi 19:51 GMT+1

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae Llŷr Powell o Reform yn dod dan y lach gan aelod o'r gynulleidfa am eu polisi mewnfudo, yn dadlau mai dim ond cyfran fechan (2.9%) o’r etholaeth gafodd eu geni y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

  16. Ymgeisydd Reform yn 'realydd'wedi ei gyhoeddi 19:47 GMT+1

    Mae Reform yn ceisio dangos ei hun fel plaid sy’n addo newid cyn yr etholiad Senedd nesaf, wedi 26 mlynedd o rym Llafur, sydd wedi ar adegau cael cefnogaeth Plaid neur Democratiaid Rhyddfrydol.

    Dyma dacteg sy'n cael ei ddefnyddio gan Llŷr Powell heno.

    "Fe fydd pob ymgeisydd yma yn addo’r byd i chi," dywedodd wrth y gynulleidfa. "Rwy’n realydd."

    Aeth ymlaen i esbonio bod y gwleidyddion eraill ar lwyfan yn dweud pethau dydyn nhw ddim yn gallu cyflawni.

    Nid yw’r pump ymgeisydd arall sy’n cymryd rhan yn y ddadl yn herio Mr Powell, er y feirniadaeth o ddiffyg polisïau Cymreig Reform.

    Llŷr Powell yn dal beiro ac yn sefyll tu ol i fwrdd. Mae'n gwisgo siwt lawn, crys glas a thei gwyrdd.
  17. Beth yw'r polisi Cenedl Noddfa?wedi ei gyhoeddi 19:46 GMT+1

    Ers 2019 mae Llywodraeth Cymru wedi disgrifio Cymru fel ‘Cenedl Noddfa’ i bobl sy'n ffoi rhag erledigaeth a rhyfel.

    Llywodraeth y DU, yn hytrach na gwleidyddion yng Nghaerdydd sy’n rheoli mewnfudo a pholisïau lloches – felly nid oes gan wleidyddion yn y Senedd unrhyw reolaeth dros bwy sy’n cael eu lleoli yng Nghymru, nac yn lle.

    Er hynny, yn rhan o'r polisi Cenedl Noddfa, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario arian ar helpu pobl i ail-leoli ac integreiddio – tua £54m dros y chwe blynedd ddiwethaf.

    Dyma gyfran fach iawn o’r £27bn mae’r Llywodraeth Cymru yn gwario bob blwyddyn.

    Mae Reform eisiau cael gwared ar y polisi ac o’r farn ei fod yn wastraff arian, ac yn rhoi triniaeth ffafriol i geiswyr lloches. Ond cafodd £45m o'r arian ei gwario i gefnogi pobl o Wcráin yng Nghymru - sydd ddim yn geiswyr lloches.

    Mae’r Torïaid hefyd o’r farn dylid cael gwared ar y polisi oherwydd nid yw mewnfudo na lloches wedi’i ddatganoli, medden nhw.

    Mae Plaid Cymru a'r Democratiaid rhyddfrydol yn cefnogi gwario arian ar fod yn Genedl Noddfa.

  18. 'Ardal sy’n falch i fod yn cynnig noddfa'wedi ei gyhoeddi 19:46 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Cenedl Noddfa, un o bolisïau mwyaf dadleuol Llywodraeth Cymru gyda £54m yn cael ei wario i helpu ffoaduriaid ers 2019.

    Mae Lindsay Whittle o Blaid Cymru yn dweud fod Caerffili “yn ardal sy’n falch i fod yn cynnig noddfa” – rhywbeth yn amlwg mae Gareth Potter o’r Ceidwadwyr a Llŷr Powell o Reform yn anghytuno gyda.

  19. 'Reform dan y lach'wedi ei gyhoeddi 19:44 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Mae Llŷr Powell o Reform o dan y lach am ei safbwynt ar fewnfudo mewn sgwrs gyda Richard Tunnicliffe, yn dweud mai “mewnfudo anghyfreithlon” yw’r broblem.

    Mae'n bwysig cofio fod rhethreg y Blaid Lafur, yn enwedig o 10 Downing Street, wedi bod yn llym ar fewnfudo ers i Keir Starmer ddod yn Brif Weinidog, ond wedi tynnu’n ôl ers ei araith yn Gynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl fis diwethaf.

  20. Y trydydd cwestiwnwedi ei gyhoeddi 19:42 GMT+1

    Cole Vyas sy'n holi'r trydydd cwestiwn:

    "Ydych chi o’r farn bod mewnfudo yn broblem yng Nghaerffili?"

    Cole Vyas yn gwisgo siwmper wen. Mae ganddo wallt tywyll du.