Crynodeb

  1. Pwy yw'r ymgeiswyr ar gyfer yr isetholiad?wedi ei gyhoeddi 17:48 GMT+1 15 Hydref

    Y rhestr llawn o ymgeiswyr yw:

    • Democratiaid Rhyddfrydol: Steve Aicheler
    • Gwlad: Anthony Cook
    • Y Blaid Werdd: Gareth Hughes
    • Ceidwadwyr: Gareth Potter
    • Reform UK: Llyr Powell
    • UKIP: Roger Quilliam
    • Llafur: Richard Tunnicliffe
    • Plaid Cymru: Lindsay Whittle

    Mae canllaw i'r holl ymgeiswyr ar gael yma.

    Ymgeiswyr
  2. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 17:45 GMT+1 15 Hydref

    Noswaith dda, a chroeso i'n llif byw o ddadl deledu isetholiad Caerffili i Senedd Cymru.

    Mae wyth ymgeisydd yn ceisio cael eu hethol fel yr aelod o'r Senedd i'r ardal ar gyfer y chwe mis nesaf, ac mae chwech ohonyn nhw'n cymryd rhan yn y ddadl heno.

    Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu o Sefydliad a Neuadd y Gweithwyr Bedwas rhwng 19:00 a 20:00.

    Mae modd gwylio'n fyw ar yr iPlayer yma. Arhoswch gyda ni am yr holl drafod a dadansoddi.

    Bedwas