Crynodeb

  1. 'Ardal sy’n falch i fod yn cynnig noddfa'wedi ei gyhoeddi 19:46 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Cenedl Noddfa, un o bolisïau mwyaf dadleuol Llywodraeth Cymru gyda £54m yn cael ei wario i helpu ffoaduriaid ers 2019.

    Mae Lindsay Whittle o Blaid Cymru yn dweud fod Caerffili “yn ardal sy’n falch i fod yn cynnig noddfa” – rhywbeth yn amlwg mae Gareth Potter o’r Ceidwadwyr a Llŷr Powell o Reform yn anghytuno gyda.

  2. 'Reform dan y lach'wedi ei gyhoeddi 19:44 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Mae Llŷr Powell o Reform o dan y lach am ei safbwynt ar fewnfudo mewn sgwrs gyda Richard Tunnicliffe, yn dweud mai “mewnfudo anghyfreithlon” yw’r broblem.

    Mae'n bwysig cofio fod rhethreg y Blaid Lafur, yn enwedig o 10 Downing Street, wedi bod yn llym ar fewnfudo ers i Keir Starmer ddod yn Brif Weinidog, ond wedi tynnu’n ôl ers ei araith yn Gynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl fis diwethaf.

  3. Y trydydd cwestiwnwedi ei gyhoeddi 19:42 GMT+1

    Cole Vyas sy'n holi'r trydydd cwestiwn:

    "Ydych chi o’r farn bod mewnfudo yn broblem yng Nghaerffili?"

    Cole Vyas yn gwisgo siwmper wen. Mae ganddo wallt tywyll du.
  4. Beth maen nhw'n ei ddweud am y GIG?wedi ei gyhoeddi 19:40 GMT+1

    Dywedodd Richard Tunnicliffe o'r Blaid Lafur bod buddsoddiad ychwanegol o £600m wedi ei wneud yn y GIG eleni.

    Wrth gael ei holi am arosiadau hir, dywedodd eu bod nhw'n dod i lawr.

    Dywed Steve Aicheler o'r Democratiaid Rhyddfrydol fod 25 mlynedd o fethiant wedi bod yn y GIG, ac y dylid rhannu arfer gorau.

    Dywed Llyr Powell nad oes "ateb cyflym" i'r GIG a bod angen cadw staff. Pa mor ymrwymedig yw Reform i'r gwasanaeth iechyd? "Ni fyddaf yn pleidleisio mewn unrhyw ffordd i breifateiddio'r GIG," meddai.

    Wrth gael ei holi am yr hyn y mae Nigel Farage wedi'i ddweud am y gwasanaeth iechyd, mae'n ateb nad yw'n ymgeisydd yn yr etholiad.

    Dywed Gareth Potter o'r Ceidwadwyr Cymreig ei bod yn "chwerthinllyd" faint mae Llywodraeth Cymru yn ei wario i ffwrdd o wasanaethau rheng flaen.

    Mae Lindsay Whittle o Blaid Cymru yn siarad am brofiad ei chwaer yn yr ysbyty, gan ddweud bod angen cysylltiadau gwell rhwng iechyd a gofal cymdeithasol.

    Gareth Potter o'r Ceidwadwyr Cymreig
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywed Gareth Potter o'r Ceidwadwyr Cymreig ei bod yn "chwerthinllyd" faint mae Llywodraeth Cymru yn ei wario i ffwrdd o wasanaethau rheng flaen.

  5. 'Angen buddsoddiad' yn y gwasanaeth iechyd - Democratiaid Rhyddfrydolwedi ei gyhoeddi 19:38 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Mae Steve Aicheler o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn pwysleisio’r angen i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol fel y cam allweddol i adfer y gwasanaeth iechyd.

    Mae’n debyg y bydd gofal cymdeithasol yn ganolbwynt i'r ymgyrch yn arwain at fis Mai nesaf.

    Steve Aicheler o’r Democratiaid Rhyddfrydol
    Disgrifiad o’r llun,

    Steve Aicheler o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud bod angen buddsoddiad mewn gofal cymdeithasol

  6. Y gwasanaeth iechyd yn hollti barnwedi ei gyhoeddi 19:35 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Y gwasanaeth iechyd mae'n debyg fydd y pwnc pwysicaf i etholwyr yn yr isetholiad ac yn yr etholiad fis Mai nesaf.

    O dan y lach, mae Richard Tunnicliffe o’r Blaid Lafur yn pwysleisio fod y llywodraeth ar y trywydd iawn gyda 100,000 o apwyntiadau'r wythnos – sy’n gyfuniad ar draws ysbytai a doctoriaid teulu.

    Ond fel mae un aelod o’r gynulleidfa sydd yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd yn dweud, does neb o’r llywodraeth wedi gofyn i'r gweithwyr am sut i wella’r amodau gwael presennol - rhywbeth mae'r llywodraeth yn dadlau maen nhw'n gwneud drwy ymgynghoriadau.

    Yna mae Gareth Hughes o'r Blaid Werdd yn beirniadu polisi Reform i gael gwared â gweithwyr sydd o bosib yn cyfrannu mewn rhyw ffordd i’r gwasanaeth iechyd. Mae’n ymddangos fod yna lot o feio ar y llwyfan, ond dim llawer o atebion...

  7. Yr ail gwestiwnwedi ei gyhoeddi 19:31 GMT+1

    Daw'r ail gwestiwn gan Jordan Morris. Mae'n gofyn:

    "Rwy’n gweithio fel fferyllydd ysbyty yn y GIG ac yn gweld cleifion o’r sir a’r siroedd cyfagos.

    "Mae rhai yn ei gweld hi yn anodd cael mynediad i wasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd.

    "Sut fyddech chi yn gwella mynediad i feddygon teulu a lleihau rhestrau aros mewn ysbytai?"

    Jordan Morris yn gwisgo crys ddu a chardigan. Mae ei gwallt wedi clymu y'nôl ac mae ganddi sbectol.
  8. Ymgeisydd Llafur wedi’i gyhuddo o ‘ragrith’wedi ei gyhoeddi 19:31 GMT+1

    Cyhuddodd Llŷr Powell o Reform, Plaid Cymru o “gefnogi llywodraeth Lafur tair gwaith”.

    Wrth gael ei herio bod ei blaid hefyd yn edrych ar doriadau ei hun i wasanaethau cyhoeddus dywedodd: “Mae lle chi’n torri yn bwysig nawr, mae’r Senedd yn gwario symiau mawr o arian ar brosiectau sydd ddim yn blaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen".

    Dywedodd Richard Tunnicliffe o Lafur mai llyfrgelloedd yw “calon chymunedau”.

    “Rwy’n angerddol dros hwn, fy mywoliaeth yw creu llyfrau,” meddai.

    Ychwanegodd ei fod eisiau i Lywodraeth y DU helpu. Cafodd ei herio os ydy hyn yn rhagrithiol oherwydd daw’r cynnig i gau llyfrgelloedd gan gyngor Llafur – rhywbeth mae e’n ei wadu.

    Dywedodd Steve Aicheler o’r Democratiaid Rhyddfrydol, ei fod yn rhagrithiol ac yn “torri ymddiriedaeth pobl".

  9. Llyfrgelloedd a chanolfannau hamddenwedi ei gyhoeddi 19:29 GMT+1

    Mae'r ddadl ynghylch gwasanaethau lleol a chynlluniau dadleuol i gau llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden yng Nghaerffili yn un anodd i Lafur, ar ôl i'r cyngor lleol, sy'n cael ei redeg gan Lafur, gynnig cau rhai ohonyn nhw - dim ond i'r ymgeisydd Llafur Richard Tunnicliffe ymgyrchu i'w cadw ar agor.

    Mae ei wrthwynebwyr yn ei gyhuddo o ragrith.

    Mae'r ddadl yn symud y tu hwnt i ffiniau Caerffili gyda galwadau gan ymgeisydd y Gwyrddion, Gareth Hughes, am dreth gyfoeth.

    Mae Lyndsay Whittle o Blaid Cymru yn mynnu mwy o arian gan lywodraethau'r DU a Chymru ar gyfer cynghorau.

    Richard Tunnicliffe
    Disgrifiad o’r llun,

    Ymgyrchodd Richard Tunnicliffe i gadw gwasanaethau lleol ar agor er gwaethaf y bwriad gan gyngor dan reolaeth Llafur i'w cau

  10. 'Dadlau rhwng y Ceidwadwyr a Reform'wedi ei gyhoeddi 19:25 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Mae dadlau rhwng y Ceidwadwyr a Reform dros bwy sy’n addo'r mwyaf heb unrhyw gynllun ar sut i gyflawni.

    Mae Gareth Potter (Ceidwadwyr) a Llŷr Powell (Reform) yn dadlau ar wariant cyhoeddus, gyda Mr Powell yn dweud mai gwleidyddion “sydd yn addo be' dydyn nhw ddim yn gallu ei gyflawni” yw'r hyn sy’n “anghywir gyda gwleidyddiaeth”.

  11. 'Ffraeo ond dim atebion'wedi ei gyhoeddi 19:21 GMT+1

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae ymateb y gynulleidfa i'r cyfraniadau cyntaf ar wasanaethau lleol yn ddiddorol - "lot o ffraeo ond does neb wedi ateb y cwestiwn" medd un.

    Mae aelodau o'r gynulleidfa yn gwybod beth yw'r problemau. Be' maen nhw isio yw atebion cadarn o ble ddaw'r arian i'w helpu.

  12. Ffraeo mewnol o fewn Llafur yn 'iawn'wedi ei gyhoeddi 19:20 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Mae Richard Tunnicliffe yn dweud ei fod o’n “iawn” fod plaid mor fawr â Llafur yn “anghytuno” yn fewnol “o bryd i bryd”.

    Mae cyn-arweinydd Cyngor Caerffili a chyn-aelod o’r Blaid Lafur, Sean Morgan, wedi beirniadu’r Blaid Lafur am benderfyniadau mewnol a welodd ei ddirprwy ddim yn cael yr enwebiad i sefyll yng Nghaerffili.

    Roedd Richard Tunnicliffe yn fuddugol gyda chwe phleidlais o’r aelodaeth leol – ond mae’n amlwg eisiau cyfleu plaid sydd ar yr un dudalen er bod yna anghytundeb yn codi o dro i dro.

  13. 'Ymgeiswyr lleol, sy'n weddol ddibrofiad'wedi ei gyhoeddi 19:16 GMT+1

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Yn wahanol i ddadleuon mewn etholiad cenedlaethol, nid arweinwyr pleidiau ydy'r rhain sydd wedi hen arfer dadlau ar y teledu.

    Yn hytrach maen nhw'n ymgeiswyr lleol, sy'n weddol ddibrofiad, yn enwedig mewn fformat fel hyn.

    Ac mae hynny yn eithaf amlwg i'w weld ar ddechrau'r ddadl - maen nhw i gyd i'w weld yn eithaf nerfus.

  14. 'Ysbryd cymunedau yng Nghaerffili yn diflannu'wedi ei gyhoeddi 19:15 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Fel cyn-arweinydd Cyngor Caerffili mae Lindsay Whittle yn deall mwy na'r rhan fwyaf o bobl am yr heriau ariannol sy'n wynebu awdurdodau lleol.

    Mae’n cyfeirio at gau llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden, ac yn dweud fod “ysbryd” cymunedau yng Nghaerffili a ledled Cymru “yn diflannu”.

    Yr ateb yn ôl Lindsay Whittle? “Rheoli cyllidebau’n well” – rhywbeth sy'n haws dweud na gwneud.

    Gareth Hughes o’r Gwyrddion yn ymateb drwy alw am dreth cyfoeth – grym sydd ddim wedi’i ddatganoli i’r Senedd.

  15. 'Buddsoddiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus'wedi ei gyhoeddi 19:14 GMT+1

    Dywedodd Lyndsay Whittle o Blaid Cymru bod llyfrgelloedd cyhoeddus yn "hanfodol" - dywedodd fod ei ferch ei hun wedi dysgu nofio ym mhwll nofio Bedwas.

    Roedd erydiad y gwasanaethau hynny yn golygu bod ysbryd ac enaid cymunedau yn pylu'n "araf", meddai.

    Gan dargedu Llafur, dywedodd: "Mae angen mwy o fuddsoddiad arnom... Gallwch chi reoli cyllidebau yn llawer gwell."

    Mae Gareth Hughes o'r Gwyrddion yn ymyrryd, gan alw am drethi ar y cyfoethog, gan ddweud nad ydyn nhw mor uchel yn y DU â gwledydd Ewropeaidd eraill.

    Lindsay Whittle
  16. Materion lleol 'hollbwysig'wedi ei gyhoeddi 19:10 GMT+1

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae'r cwestiwn cyntaf ar wasanaethau cyhoeddus, yn benodol pryderon am doriadau all arwain at gau'r pwll nofio a'r llyfrgell leol yma ym Medwas.

    Er gwaethaf y diddordeb cenedlaethol yn yr isetholiad yma, mae materion lleol dal yn hollbwysig i lawer o etholwyr wrth bleidleisio.

  17. 'Mwy nag un plaid annibyniaeth'wedi ei gyhoeddi 19:09 GMT+1

    Mae ymgeisydd plaid Gwlad - Anthony Cook, wedi dweud bod angen i Gymru gael “mwy nag un blaid annibyniaeth".

    "Mae angen hyn ar wleidyddiaeth yng Nghymru," dywedodd wrth raglen BBC Wales Today, gan nad yw’n cymryd rhan yn y ddadl heno.

    Dywedodd, “mae cymaint o bleidiau annibyniaeth” mewn llefydd fel Catalonia a Gwlad y Basg.

    “Ac os ydyn ni’n cryfhau pleidiau sy'n canolbwyntio ar Gymru yn y Senedd, fe fydd hynny yn atal pleidiau cenedlaetholgar Saesnig fel Reform rhag dod yma.”

  18. Pethau'n siŵr o boethi ym Medwaswedi ei gyhoeddi 19:05 GMT+1

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae hi wedi prysuro yma yn y stafell sbin ym Medwas, ble mae cefnogwyr y pleidiau yn ymgynnull yn barod i wylio'r ddadl, pobl yn dadla' eu bod nhw'n hyderus y bydd eu hymgeisydd yn serennu heno, ond mae 'na rywfaint o nerfusrwydd hefyd.

    Un neu ddau yn cwyno ei bod hi'n oer yma, ond mae pethau yn siŵr o boethi yn y ddadl.

  19. Y cwestiwn cyntafwedi ei gyhoeddi 19:02 GMT+1

    Daw'r cwestiwn cyntaf gan Ryan Bevan. Mae'n gofyn:

    "Fel tad i fabi pum mis oed, dwi’n poeni am ein gwasanaethau cyhoeddus lleol.

    "Mae colli ein llyfrgelloedd yn ogystal â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn bryder.

    "Beth fyddech chi yn ei wneud er mwyn cefnogi a gwella gwasanaethau cyhoeddus yn yr etholaeth?"

    Ryan Bevan yn gwisgo crys las a siaced gwrdd. Mae ganddo wallt brown.
  20. Y ddadl ar fin dechrauwedi ei gyhoeddi 19:00 GMT+1

    Mae'r ddadl ar fin dechrau ym Medwas. Mae modd gwylio'r cyfan ar iPlayer yma.