Crynodeb

  1. Reform yn erbyn pleidiau’r chwith?wedi ei gyhoeddi 18:57 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Gyda chefnogaeth i’r Ceidwadwyr Cymreig yn gostwng, gyda phleidleiswyr yn ymddangos yn symud i Reform, mae yna syniad fod yr isetholiad yma yn frwydr rhwng Reform ar dde y sbectrwm gwleidyddol, a phleidiau fel y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru ar y chwith.

    Mi fydd ymgeisydd Reform, Llŷr Powell – sydd wedi gweithio i’r blaid fel pennaeth cyfathrebu cyn sefyll yng Nghaerffili – yn hyderus bod digon o gefnogaeth yno i gipio’r sedd.

    Ond y feirniadaeth gan eu gwrthwynebwyr yw bod Reform yn blaid protest sydd ddim yn cynnig polisïau gwirioneddol i fynd i’r afael â phroblemau yng Nghymru.

    Bydd heno yn gyfle i Llŷr Powell gyflwyno mwy o'i weledigaeth i Gaerffili ac i Gymru, er mwyn rhoi o syniad o be' fyddai Llywodraeth Cymru o dan Reform yn ei gynnig.

  2. Jacob Rees-Mogg yn awgrymu y gallai Ceidwadwyr bleidleisio dros Reformwedi ei gyhoeddi 18:53 GMT+1

    Jacob Rees-MoggFfynhonnell y llun, Reuters

    Ar YouTube, mae'r cyn-aelod cabinet Ceidwadol, Jacob Rees-Mogg yn dod yn agos at annog Ceidwadwyr yng Nghaerffili i bleidleisio dros Reform.

    Mae'n dweud fod yr arolygon barn wedi ei argyhoeddi mai brwydr rhwng Plaid Cymru a Reform fydd yr isetholiad, ac nad ydy Llafur a'r Ceidwadwyr yn gallu ennill.

    Dywedodd y byddai ei "tribal element" yn ei gwneud hi'n anodd iddo bleidleisio yn erbyn ymgeisydd Ceidwadol.

    Ond mae'n dweud bod hawl gan Geidwadwyr Caerffili "i feddwl am" bleidleisio'n dactegol oherwydd ei bod hi "wir o ddiddordeb cenedlaethol bod Plaid [Cymru] yn colli".

  3. Sut fydd y ddadl yn gweithio?wedi ei gyhoeddi 18:49 GMT+1

    Bydd y ddadl yn cael ei darlledu'n fyw ar BBC One Wales, sianel BBC News, iPlayer a Radio Wales.

    Yn ystod y rhaglen, sy'n cael ei chyflwyno gan Nick Servini, bydd aelodau o'r gynulleidfa yn cael gofyn cwestiynau.

    Mae'r gynulleidfa o 74 o bobl wedi ei dewis yn ofalus er mwyn sicrhau trawstoriad o safbwyntiau.

    Ar ddiwedd y ddadl bydd yr ymgeiswyr yn cael gwneud datganiadau terfynol.

    Bedwas
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r ddadl yn cael ei chynnal yn Sefydliad a Neuadd y Gweithwyr ym Medwas

  4. Traddodiad Llafur o ennill yn y Cymoedd yn dod i ben?wedi ei gyhoeddi 18:45 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Gan fod arolygon barn yng Nghymru yn gyson wedi dangos Llafur tu ôl i Blaid Cymru a Reform UK, mi fydd nifer o’r blaid - nid yn unig yng Nghymru - yn cadw llygad barcud ar yr hyn fydd yn digwydd ar ddiwrnod yr isetholiad ddydd Iau nesaf.

    Dyma etholaeth sy’n ymestyn o dref Bargoed yn y gogledd, lawr drwy ganol Ystrad Mynach a Nelson i’r gorllewin, a thrwyddo i dref Caerffili yn y de a phentref Machen yn y de-ddwyrain.

    Mae etifeddiaeth glo i’w gweld ym mhobman yn yr etholaeth, sydd wedi dewis gwleidydd Llafur i’w chynrychioli ym mhob etholiad yn oes datganoli, ac ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ar gyfer San Steffan.

    Heddiw yn San Steffan bu AS Plaid Cymru Liz Saville-Roberts yn gofyn i’r Prif Weinidog Keir Starmer pam nad yw wedi, neu’n bwriadu, “dangos ei wyneb” yng Nghaerffili fel rhan o’r ymgyrch... efallai er mwyn pwysleisio gwendid Llafur ar hyn o bryd.

    Atebodd Keir Starmer drwy feirniadu grŵp Plaid Cymru am bleidleisio yn erbyn y gyllideb ddiweddaraf, a oedd wedi gweld cynnydd mewn gwariant – ar y cyfan – yng Nghymru.

    Be' bynnag sydd yn digwydd, mi fydd canlyniad Llafur yng Nghaerffili un ai yn codi gobaith i’w aelodau yn arwain at fis Mai nesaf, neu’n ei ddymchwel.

  5. Ble mae'r merched?wedi ei gyhoeddi 18:42 GMT+1

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Er bod rhai o'r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru yn cymryd camau penodol i sicrhau bod mwy o fenywod yn sefyll mewn etholiadau, mae'n drawiadol mai chwe dyn sydd ar y llwyfan heno, a chwe dyn gwyn hefyd.

    Mi oedd yna ymgais gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno cwota rhywedd, fyddai’n gorfodi pleidiau gael o leiaf 50% o’u hymgeiswyr yn ferched.

    Ond bu rhaid gollwng y cynlluniau oherwydd amheuon os oedd gan y Senedd y pŵer i gyflwyno'r gyfraith newydd.

  6. Pwy fydd yn cadeirio'r ddadl?wedi ei gyhoeddi 18:38 GMT+1

    Yn cadeirio’r ddadl heno fydd prif gyflwynydd Wales Today – Nick Servini.

    "Fy rôl fydd sicrhau bod y drafodaeth yn llifo, gwneud yn siŵr bod gan bob plaid amser teg i ymateb i’r cwestiynau, wrth ganiatáu dadl rydd hefyd," meddai.

    "Coeliwch chi fi, dyw hi ddim yn hawdd pan mae pwysau ar yr unigolion i berfformio.

    "Mae'r pleidiau hefyd yn gwybod y bydd canlyniad da yng Nghaerffili yn rhoi hwb cynnar iddyn nhw wrth i ni nesáu at etholiad y Senedd yng ngwanwyn 2026."

    Nick Servini yn sefyll o flaen arwydd mawr 'Dy lais, dy bleidlais'. Mae'n gwisgo siwt las a thei.
  7. Pam fod isetholiad Caerffili mor arwyddocaol?wedi ei gyhoeddi 18:34 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Dim ond pum gwaith mae isetholiad wedi digwydd yn hanes datganoli. Ond yn dilyn marwolaeth sydyn Hefin David, mae Caerffili am gynnig llwyfan i’r pleidiau osod eu hamcanion, a hynny saith mis i ffwrdd o etholiad y Senedd ym mis Mai.

    Heno, mi fydd y ddadl yn rhoi cyfle i drigolion Caerffili gael clywed gan, a holi’r ymgeiswyr sydd yn y ras.

    O dan sylw... wel, mae digon yn digwydd yn lleol gyda llythrennedd, a mynediad i lyfrgelloedd wedi bod yn destun llosg.

    Ond fel unrhyw isetholiad mae polisïau cenedlaethol hefyd wedi denu sylw, gyda’r gwasanaeth iechyd, trafnidiaeth, a mewnfudo – er nad ydy grym i reoli ffiniau wedi ei ddatganoli i’r Senedd – i gyd o dan ystyriaeth.

  8. Pwy yw ymgeisydd Plaid Cymru?wedi ei gyhoeddi 18:31 GMT+1

    Lindsay Whittle

    Ganed Lindsay Whittle yn nhref Caerffili, mae'n byw yn Abertridwr, ac fe gafodd ei fagu ar ystâd gyngor Penyrheol a mynychodd Ysgol Gynradd Cwm Ifor.

    Yn gynghorydd i Benyrheol ers 1976, roedd yn arweinydd Cyngor Caerffili o 1999 i 2004 a 2008 i 2011, ac mae wedi bod yn arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor ers 2022.

    O 2011 i 2016 roedd yn aelod Cynulliad dros ranbarth Dwyrain De Cymru.

  9. Pwy yw ymgeisydd Llafur?wedi ei gyhoeddi 18:28 GMT+1

    Mae Richard Tunnicliffe wedi byw yng Nghaerffili gyda'i wraig Lynda, a aned yn Nhroed-y-rhiw, ers 26 mlynedd ac maen nhw wedi magu eu tri mab yn y dref.

    Mae wedi gweithio fel cyfrifydd a dadansoddwr ariannol ac mae'n rhedeg cwmni cyhoeddi gyda'i wraig, gan arbenigo mewn cyfieithiadau Cymraeg o lyfrau plant poblogaidd.

    Cafodd ei annog i ddod yn fwy gweithgar yn y blaid leol gan Hefin David, a oedd yn ei fentora i fod yn ymgeisydd yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf ar adeg ei farwolaeth.

    Richard TunnicliffeFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Pwy yw ymgeisydd UKIP?wedi ei gyhoeddi 18:26 GMT+1

    Roger QuilliamFfynhonnell y llun, Roger Quilliam

    Mae Roger Quilliam wedi bod yn aelod o bwyllgor gweithredol cenedlaethol UKIP ers 2024.

    Dywed y blaid ei fod wedi gweithio'n agos gydag arweinydd y blaid Nick Tenconi ers dros ddwy flynedd mewn dinasyddiaeth weithgar a newyddiaduraeth ddinasyddion ar gyfer UKIP, Turning Point UK, a Disciples of Christ.

    Dywed UKIP ei fod yn ymgyrchu yn erbyn mewnfudo torfol, comiwnyddiaeth, rhyddfrydiaeth, ac o blaid gwladgarwch, cenedlaetholdeb a thraddodiadaeth, a bod ei werthoedd craidd wedi'u gwreiddio mewn teulu, cymuned, hunaniaeth genedlaethol, cyfiawnder, a chyfraith a threfn.

  11. Pwy yw ymgeisydd Reform UK?wedi ei gyhoeddi 18:22 GMT+1

    Mae Llŷr Powell wedi byw a gweithio yng Nghaerffili am y pum mlynedd ddiwethaf ac mae wedi galw'r ardal yn gartref am lawer o'i fywyd proffesiynol, ar wahân i seibiant byr i weithio yn Nhŷ'r Cyffredin yn 2024.

    Fel arbenigwr cyfathrebu, mae wedi gweithio mewn sefydliadau cyhoeddus, gwleidyddol ac elusennol, gan gynnwys rolau mewn cyfathrebu gwleidyddol a materion cyhoeddus.

    Mae hefyd yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn gefnogwr o rygbi Cymru ar lawr gwlad, yn ogystal â bod yn ddilynwr brwd o'r tîm cenedlaethol.

    Llŷr PowellFfynhonnell y llun, PA Media
  12. Pwy yw ymgeisydd y Ceidwadwyr?wedi ei gyhoeddi 18:19 GMT+1

    Gareth PotterFfynhonnell y llun, Ceidwadwyr Cymreig

    Mae Gareth Potter yn briod ac mae ganddo ddau o blant, ac mae wedi byw yng Nglyn Ebwy ers y llynedd.

    Ganwyd ef ym Mhont-y-pŵl, fe'i magwyd ar ystâd gyngor yn Nhrefddyn a mynychodd Ysgol Gyfun Gorllewin Mynwy.

    Mae wedi bod yn aelod staff i'r aelod Ceidwadol o'r Senedd dros dde-ddwyrain Cymru, Natasha Asghar, ac yn rheolwr ymgyrch Ceidwadwyr Bryste a De Sir Gaerloyw am y pedair blynedd ddiwethaf.

  13. Pwy yw ymgeisydd Y Blaid Werdd?wedi ei gyhoeddi 18:16 GMT+1

    Ganwyd Gareth Hughes ym Mangor ac mae'n byw yng Nghaerffili.

    Mae wedi bod yn brentis argraffydd, newyddiadurwr print, darlithydd prifysgol, ymchwilydd, a chwaraeodd ran amlwg yn nyddiau cynnar cymdeithasau tai yng Nghymru.

    Dychwelodd i newyddiaduraeth gyda chreu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, fel gohebydd a sylwebydd gwleidyddol ITV Cymru, gan ddadansoddi bywyd cyhoeddus yn ddiweddarach ar gyfer BBC Radio Cymru ac eraill.

    Gareth Hughes
  14. Pwy yw ymgeisydd plaid Gwlad?wedi ei gyhoeddi 18:13 GMT+1

    Anthony CookFfynhonnell y llun, Glenn Whitehouse

    Magwyd Anthony Cook yng Nghefn Hengoed, ac mae'n byw yn Ystrad Mynach.

    Dywed fod ei deulu wedi bod yn "rhan o hanes mwyngloddio Cwm Rhymni ers cenedlaethau".

    Ychwanegodd ei fod yn deall y "brwydrau sydd wedi dilyn dirywiad ein diwydiannau traddodiadol".

  15. Pwy yw ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol?wedi ei gyhoeddi 18:10 GMT+1

    Mae Steve Aicheler yn gynghorydd ar Gyngor Cymuned Bedwas, Tretomas a Machen ac yn llywodraethwr Ysgol Machen.

    Mae'n un o reolwyr sefydliad cenedlaethol di-elw sy'n hyrwyddo addysg entrepreneuriaeth, lle mae'n trefnu digwyddiadau cenedlaethol yn ogystal â lobïo llywodraeth genedlaethol a rhanbarthol ar bolisi entrepreneuriaeth ac addysg.

    Mae wedi sefydlu nifer o fusnesau yng Nghaerffili yn y gorffennol ac wedi byw ym Machen gyda'i deulu am 20 mlynedd.

    Steve AichelerFfynhonnell y llun, Democratiaid Rhyddfrydol
  16. Cip tu ôl i’r llen yn Sefydliad a Neuadd y Gweithwyr, Bedwaswedi ei gyhoeddi 18:06 GMT+1

    Disgrifiad,

    Mae'r ddadl yn cael ei chynnal yn Sefydliad a Neuadd y Gweithwyr ym Medwas

  17. Pam mai chwech o'r ymgeiswyr sy'n cymryd rhan?wedi ei gyhoeddi 18:02 GMT+1

    Y chwe ymgeisydd sy'n cymryd rhan yn y ddadl yw'r rheiny sy'n cynrychioli pleidiau sydd â thystiolaeth glir o gefnogaeth etholiadol yng Nghaerffili, o ystyried etholiadau'r gorffennol, yn ogystal ag arolygon barn diweddar yng Nghymru.

    Y rheiny yw:

    • Democratiaid Rhyddfrydol: Steve Aicheler
    • Y Blaid Werdd: Gareth Hughes
    • Ceidwadwyr: Gareth Potter
    • Reform UK: Llyr Powell
    • Llafur: Richard Tunnicliffe
    • Plaid Cymru: Lindsay Whittle

    Fe fydd y ddau ymgeisydd arall - Anthony Cook o Gwlad, a Roger Quilliam o UKIP - yn ymddangos ar raglen Wales Today yn fuan cyn y ddadl.

    Fe allwch chi ddarllen proffil o'r holl ymgeiswyr, a chrynodeb o'u polisïau, yma.

  18. Pam fod yr isetholiad yn digwydd?wedi ei gyhoeddi 17:58 GMT+1

    Daw'r isetholiad yn dilyn marwolaeth sydyn y cyn-aelod Llafur o'r Senedd, Hefin David yn 47 oed.

    Bu farw Mr David, oedd wedi cynrychioli Caerffili ym Mae Caerdydd ers 2016, fis Awst.

    Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan ei fod yn "wleidydd gwych" a fydd yn cael ei golli'n fawr.

    Roedd yn dad i ddwy ferch, a'i bartner oedd AS Cwm Cynon, Vicki Howells.

    Hefin DavidFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Dadansoddiad ein gohebwyr gwleidyddolwedi ei gyhoeddi 17:54 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Yn ymuno gyda ni i roi ei farn ar y ddadl heno fydd Rhys Owen, gohebydd gwleidyddol Golwg.

    A gyda'r diweddaraf i ni o gefn llwyfan yn Neuadd a Sefydliad y Gweithwyr ym mhentref Bedwas fydd gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr.

    Arhoswch gyda ni am eu holl ddadansoddiadau nhw.

  20. Beth sydd yn y fantol yn yr isetholiad?wedi ei gyhoeddi 17:51 GMT+1

    Dyma'r pumed isetholiad i'r Senedd ers dechrau datganoli yn 1999, a gydag etholiad y flwyddyn nesaf ar y gorwel dyma'r mwyaf arwyddocaol.

    Mae Caerffili wedi bod yn gadarnle i Lafur ers dros ganrif, gyda'r blaid yn ennill yma ym mhob etholiad i San Steffan ers sefydlu'r etholaeth ym 1918, ac ym mhob etholiad i Fae Caerdydd.

    Ond, o ystyried yr arolygon barn, mae Plaid Cymru a Reform yn gweld cyfle i brofi pwynt cyn yr etholiad fis Mai.

    Pe bai Llafur yn colli, byddai hynny'n gadael Llywodraeth Lafur Cymru ddwy bleidlais yn brin o fwyafrif yn Senedd Cymru, gan ei gwneud hi'n anoddach i'r llywodraeth basio'i chyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.

    O ganlyniad, byddai dod i gytundeb gydag unig aelod y Democratiaid Rhyddfrydol yn Senedd Cymru - fel wnaeth y llywodraeth eleni i basio'i chynlluniau gwario - ddim yn ddigon.