Crynodeb

  1. A dyna ni!wedi ei gyhoeddi 17:43 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    A dyna ni am heddiw, ar ddiwrnod y Cadeirio.

    Llongyfarchiadau mawr i'r enillydd, Carwyn Eckley ac i Cowbois Rhos Botwnnog am ennill Albwm y Flwyddyn 2024.

    Bydd yr holl newyddion diweddaraf ar Cymru Fyw ond gan griw'r llif byw, hwyl i chi!

  2. Carwyn Eckley: 'Rhyddhad mawr' cael rhannu'r gyfrinachwedi ei gyhoeddi 17:40 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Disgrifiad,

    Carwyn Eckley yn siarad efo Cymru Fyw ar ôl ennill y gadair

    Mae enillydd y Gadair wedi dweud bod y profiad yn "wefreiddiol".

    Yn siarad gyda Cymru Fyw, dywedodd Carwyn Eckley bod gwres y pafiliwn yn "ychwanegu at y cyffro".

    "Mae o'n rhyddhad mawr achos dwi wedi bod yn cario'r gyfrinach 'ma am rai wythnosau."

    Yn ôl y beirniad, roedd y gystadleuaeth yn un agos iawn, gyda Carwyn yn dweud bod hyn yn arwydd dda o "iechyd y gystadleuaeth."

    Roedd y cerddi buddugol yn trafod hanes y teulu yn dilyn marwolaeth tad Carwyn pan oedd yn fachgen ifanc.

    "Mae'r digwyddiad wrth wraidd y cerddi yn drist, ond dwi'n gobeithio bod 'na obaith iddyn nhw hefyd."

    Llongyfarchiadau mawr Carwyn!

  3. Prysurdeb y tu allan i'r Pafiliwnwedi ei gyhoeddi 17:34 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Roedd pobl yn ciwio i adael y Pafiliwn ar ôl seremoni'r Cadeirio y pnawn 'ma.

    Y Pafiliwn
  4. 'Yma o Hyd'wedi ei gyhoeddi 17:18 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Wrth i'r Prifardd Carwyn Eckley a gweddill yr Orsedd adael y Pafiliwn, mi ddechreuodd y gynulleidfa ganu 'Yma o Hyd'.

    Disgrifiad,

    Y gân 'Yma o Hyd' yn cael ei chanu gan gynulleidfa Seremoni'r Cadeirio

  5. 'Byddai ei Dad wrth ei fodd'wedi ei gyhoeddi 17:09 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Dywedodd un o feirniaid y Gadair, Aneirin Karadog: "Mae’r golled, a’r ymgiprys â cheisio dal gafael ar atgofion, ceisio ffoi rhagddyn nhw weithiau gan eu bod yn dod â phoen galar gyda nhw, yn cael ei dwysáu drwy ganu moel y cerddi hyn a’r absenoldeb a deimlir o gerdd i gerdd hefyd yn cael ei deimlo yn yr arddull.

    “Mae Brynmair yn llwyddo i gyfleu trymder galar, anobaith llwyr galar, dagrau galar, a’r orfodaeth i gario galar ym mhobman gyda ni ac yna hefyd geisio cysuro ein cyd-alarwyr, a hynny drwy fod yn ddethol ac yn foel ei fynegiant.

    "Mae’n llwyddo i ganfod y geiriau iawn sy’n rhoi mynegiant i ugain mlynedd o gario galar plentyn, arddegyn ac oedolyn gydag e.

    "Mae’n chwerw-felys i feddwl y byddai tad Brynmair wrth ei fodd yn cael gwybod bod ei fab am eistedd yn y Gadair ym Mhontypridd.”

    Aneirin Karadog
  6. 'Tair wsnos anodd' i Cowbois Rhos Botwnnogwedi ei gyhoeddi 16:55 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Disgrifiad,

    Cowbois Rhos Botwnnog yn siarad efo Cymru Fyw wedi iddyn nhw ennill Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2024

    Yn siarad gyda Cymru Fyw, dywedodd Aled o'r band Cowbois Rhos Botwnnog ei bod wedi bod yn "flwyddyn grêt, ond tair wsnos anodd iawn" i'r band wedi i'w frawd a phrif leisydd y band, Iwan Huws gael ei daro'n wael.

    Mi wnaeth eu record, 'Mynd â’r tŷ am dro' ennill Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2024.

    Ychwanegodd Aled ei bod yn neis gallu dod i dderbyn y wobr ar lwyfan y Pafiliwn ar ôl gohirio eu perfformiadau, gan gynnwys rhai yn y Brifwyl.

    Fe wnaeth mab Iwan, Now, dderbyn y wobr ar ran ei dad.

    Dywedodd aelod arall, Dafydd ei fod yn "brofiad arbennig iawn."

    "Mae'n braf clywed beirniadaeth fel 'na, yn enwedig yn ganol albyms cryf hefyd."

  7. 'Bydd y cerddi hyn yn aros yn fy nghof am amser maith'wedi ei gyhoeddi 16:44 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Mae cyfres o 12 cerdd enillydd y Gadair, Carwyn Eckley yn ymateb i’r profiad o golli’i dad pan oedd yn blentyn ifanc.

    Yn ei feirniadaeth dywed Huw Meirion Edwards: “Mae dau ddegawd o alar ac o geisio dygymod â’r golled wedi eu distyllu i’r cerddi cynnil teimladwy hyn.

    "Mae’r canu’n dwyllodrus o syml, bron yn foel mewn mannau, a’r dilyniant yn magu grym wrth fynd rhagddo.

    "Mae yma ddryswch, ing, euogrwydd, dirnad a dygymod graddol, cariad a gobaith – teyrnged, hefyd, i dad a mam a llystad – ond mae’r cyfan wedi ei fynegi yn ddiriaethol dynn."

    Ychwanegodd Dylan Foster Evans: “Rydym yng nghwmni bardd arbennig yma, a bydd y cerddi hyn yn aros yn fy nghof am amser maith.”

    Carwyn Eckley
  8. Pwy ydi Carwyn Eckley?wedi ei gyhoeddi 16:38 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Carwyn Eckley

    Daw Carwyn Eckley o Benygroes, Dyffryn Nantlle, ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i bartner Siân a’u ci, Bleddyn.

    Mae’n gweithio fel newyddiadurwr gydag adran Gymraeg ITV Cymru, sy’n cynhyrchu rhaglenni Y Byd ar Bedwar a’r Byd yn ei Le.

    Dechreuodd ymddiddori mewn barddoniaeth dan arweiniad Eleri Owen yn Ysgol Dyffryn Nantlle, cyn iddo fynd ymlaen i astudio Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth a dysgu i gynganeddu mewn gwersi gydag Eurig Salisbury.

    Enillodd y Gadair Ryng-golegol yn ei drydedd flwyddyn yno, cyn ennill Cadair yr Urdd yn 2020-21.

    Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Dros yr Aber o Gaernarfon, sydd wedi ennill y gyfres bedair gwaith.

    Mae’n ddiolchgar iawn i’r tri aelod arall - Rhys Iorwerth, Iwan Rhys a Marged Tudur - am eu cefnogaeth, ac yn enwedig i Rhys Iorwerth sydd wedi bod yn athro barddol iddo.

    Tu hwnt i ysgrifennu, pêl-droed yw un o’i brif ddiddordebau, ac mae’n aelod o Glwb Cymric yng Nghaerdydd.

  9. Carwyn Eckley yn ennill Cadair yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 16:25 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst
    Newydd dorri

    Carwyn Eckley sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

    Yn un o’r ieuengaf i ennill y Gadair, ag yntau'n 28 oed, mae ei gyfres o 12 cerdd yn sôn am y profiad o golli’i dad pan oedd yn blentyn ifanc.

    Daw Carwyn o Benygroes yn Nyffryn Nantlle, ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.

    'Brynmair' oedd ei ffugenw a dywedodd un o'r beirniaid ei bod yn "chwerw-felys i feddwl y byddai tad Brynmair wrth ei fodd yn cael gwybod bod ei fab am eistedd yn y Gadair ym Mhontypridd".

    Roedd y Gadair eleni yn cael ei chyflwyno am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau, ar y teitl Cadwyn.

    Y beirniaid oedd Aneirin Karadog, Huw Meirion Edwards a Dylan Foster Evans.

    Carwyn Eckley
  10. Mae teilyngdod!wedi ei gyhoeddi 16:22 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst
    Newydd dorri

    Mae Aneirin Karadog wedi cyhoeddi bod teilyngdod eleni, rydym yn disgwyl i glywed pwy sydd wedi ennill y Gadair eleni.

  11. Traddodi'r feirniadaethwedi ei gyhoeddi 16:14 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Y Prifardd, Aneirin Karadog sy'n traddodi beirniadaeth y Gadair ar ran y beirniaid, Dylan Foster Evans a Huw Meirion Edwards.

    Dywedodd bod y tri ddaeth i'r brig yn haeddu ennill y Gadair.

    Aneurin Karadog
  12. Yr Orsedd ar y llwyfanwedi ei gyhoeddi 16:09 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Mae'r Orsedd ar lwyfan y Pafiliwn wrth i ni aros i glywed a fydd teilyngdod yn seremoni'r Cadeirio eleni.

    Yr Orsedd
  13. Seremoni'r Cadeirio wedi dechrauwedi ei gyhoeddi 16:05 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Mae seremoni'r Cadeirio yn y Pafiliwn wedi dechrau.

    A fydd teilyngdod?

    Dilynwch y diweddaraf yma ar lif byw Cymru Fyw.

    Osgordd
  14. Yn wên o glust i glust!wedi ei gyhoeddi 15:58 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Un peth sy'n sicr, mae 'na wynebau hapus ar y Maes heddiw wrth i'r haul wenu.

    Mae 'na wên lydan ar wyneb sawl un fel Owain, Rhys ac Elen wrth iddyn nhw fwynhau yn yr heulwen braf.

    Owain, Rhys ac Elen
    Mari, Seren, Esme a Bethan yn yr haul
    Disgrifiad o’r llun,

    Mari, Seren, Esme a Bethan yn yr haul

  15. Ciwio yn eu cannoeddwedi ei gyhoeddi 15:54 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Gyda seremoni'r Cadeirio yn dechrau yn y munudau nesaf, mae cannoedd o bobl yn ciwio er mwyn cael sedd yn y Pafiliwn.

    Ciwio
    Ciwio
  16. Theatr y Strydwedi ei gyhoeddi 15:40 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Y tu allan i'r Pafiliwn mae Theatr y Stryd.

    Mae nifer o bobl yn mwynhau perfformiad gwahanol iawn i'r arfer yn yr heulwen cyn i'r seremoni Cadeirio ddechrau.

    Theatr y stryd
  17. Casglu gwobr Albwm y Flwyddyn ar ran ei dadwedi ei gyhoeddi 15:35 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Aeth Now ar lwyfan y Pafiliwn i dderbyn gwobr Albwm y Flwyddyn ar ran ei dad, Iwan Huws.

    Ymunodd mab y prif leisydd ag aelodau eraill y band - ei ddau ewythr, Aled a Dafydd.

  18. Gorymdaith i ‘warchod ein treftadaeth’wedi ei gyhoeddi 15:22 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Gorymdaith

    Mae gorymdaith yn digwydd ar y maes yn gwrthwynebu'r penderfyniad i gael gwared â swyddi yn amgueddfeydd cenedlaethol Cymru.

    Roedd cadarnhad ym mis Ebrill y bydd o leiaf 90 o swyddi'n mynd.

    Dywedodd prif weithredwr Amgueddfa Cymru, sydd â saith safle ar draws Cymru, bod ymdopi â thoriad o £4.5m yn y gyllideb yn heriol.

  19. Mab Iwan Huws yn derbyn gwobr Albwm y Flwyddynwedi ei gyhoeddi 15:16 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Now

    Aeth mab prif leisydd Cowbois Rhos Botwnnog i dderbyn tlws Albwm y Flwyddyn ar ei ran yn y Pafiliwn.

    Roedd Now ar y llwyfan gydag aelodau eraill y band, Aled a Dafydd.

    Cafodd ei dad ei daro'n wael wrth berfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau.

    Darllenwch fwy yma.

  20. Cowbois Rhos Botwnnog yn ennill Albwm y Flwyddynwedi ei gyhoeddi 15:11 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst
    Newydd dorri

    Llongyfarchiadau i Cowbois Rhos Botwnnog!

    Cafodd 'Mynd â’r tŷ am dro' ei gyhoeddi fel enillydd gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2024 ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol pnawn 'ma.

    Dywedodd un o'r beirniaid, Tomos Jones, fod y maes yn "hynod o gystadleuol."

    Cafodd yr albwm ei ganmol am ei safon i gynhyrchu a'i amrywiaeth, gan ei alw yn "record hynod o gryf."

    Bu'n rhaid i'r band ganslo eu perfformiad ar Lwyfan y Maes yr wythnos hon, ar ôl i brif leisydd y band, Iwan Huws gael ei daro'n wael wrth berfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau.

    Iwan Huws
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd prif leisydd y band Iwan Huws ei daro'n wael wrth berfformio ym mis Gorffennaf