Crynodeb

  1. Y Cadeirio fydd prif seremoni'r dyddwedi ei gyhoeddi 09:04 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Cadair yr EisteddfodFfynhonnell y llun, Yr Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Berian Daniel wnaeth ddylunio'r gadair a bu'n cydweithio gyda disgyblion ysgol Gymraeg lleol i gael ysbrydoliaeth

    Fe fydd enillydd Cadair Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 - os bydd teilyngdod - yn cael ei gyhoeddi heddiw.

    Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Aneirin Karadog, Huw Meirion Edwards a Dylan Foster Evans.

    Roedd gofyn i ymgeiswyr gyfansoddi awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol - hyd at 250 o linellau ar y testun Cadwyn.

    Fe fydd y buddugol yn cael cadair a £750 - y gwobrau yn rhoddedig gan ddisgyblion a chymuned Ysgol Llanhari ar achlysur dathlu cyfraniad yr ysgol a theulu Llanhari i 50 mlynedd o addysg Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf.

    Darllenwch ragor yma.

  2. Croeso!wedi ei gyhoeddi 09:01 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Croeso i lif byw Cymru Fyw ar ddiwrnod y Cadeirio.

    Dilynwch y dudalen yma ar gyfer y diweddaraf o faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mharc Ynysangharad.