Crynodeb

  1. BBC yn gofyn i Huw Edwards roi £200,000 yn ôlwedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst
    Newydd dorri

    Mae'r BBC wedi ysgrifennu at Huw Edwards yn gofyn iddo ddychwelyd dros £200,000 a gafodd ei dalu iddo ar ôl cael ei arestio am greu delweddau anweddus o blant.

    Mewn llythyr at staff dywedodd Cadeirydd y BBC, Samir Shah fod Edwards wedi ymddwyn yn anonest, gan ddweud bod y gorfforaeth yn credu ei fod wedi cymryd ei gyflog er ei fod yn gwybod ei fod am bledio’n euog i’r troseddau.

    Mae'r BBC hefyd wedi cyhoeddi y bydd adolygiad annibynnol i ddiwylliant y gweithle.

    Mae'r gorfforaeth hefyd yn credu fod y digwyddiadau wedi tynnu sylw at faterion anghydbwysedd pŵer yn y gweithle.

    Daeth cadarnhad ddoe fod Edwards wedi'i ddiarddel o Orsedd Cymru gan Lys yr Eisteddfod.

  2. Fideo: Moment emosiynol yn y Pafiliwn wrth urddo Noel Thomaswedi ei gyhoeddi 11:49 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Disgrifiad,

    Urddo Noel Thomas i'r Orsedd

    Dyma'r foment fydd yn aros yn y cof i sawl un.

    Roedd pawb yn y Pafiliwn ar eu traed wrth i'r cyn-bostfeistr, Noel Thomas gael ei urddo i'r Orsedd.

  3. Noel Thomas: 'Wedi gorfod disgwyl ugain mlynedd'wedi ei gyhoeddi 11:42 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Roedd Noel Thomas yn emosiynol iawn wedi iddo gael ei urddo bore 'ma.

    Yn siarad â Tudur Owen ar raglen Eisteddfod S4C, dywedodd Mr Thomas ei fod yn "glod mawr, ac i fod ymysg rhai o'r bobl 'ma sydd wedi cael yr un fath â fi heddiw".

    "Ac i feddwl mod i wedi gorfod disgwyl ugain mlynedd os lici di, a wnes i 'rioed meddwl byswn i'n mynd ar y stage 'na."

    Cyn parhau i gerdded o amgylch y maes, dywedodd wrth Tudur Owen ei fod yn dal i wrando ar ei raglen Radio Cymru bob bore Gwener a Sadwrn!

    Noel Thomas ac Tudur OwenFfynhonnell y llun, S4C
  4. Y Fedal Ddrama: 'Rhaid i ni barchu'r penderfyniad'wedi ei gyhoeddi 11:24 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Yn y gynhadledd i'r wasg y bore 'ma, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses bod yn "rhaid i ni barchu'r penderfyniad" i atal y Fedal Ddrama eleni.

    Dywedodd hefyd bod y penderfyniad "wedi mynd trwy broses o lywodraethiant" a bod "prosesau wedi cael eu dilyn".

    Disgrifiad,

    Betsan Moses yn trafod y diweddaraf o'r maes

  5. Yr ansicrwydd am y Fedal Ddrama yn parhauwedi ei gyhoeddi 11:21 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Mae'r Eisteddfod wedi cadarnhau nad oedd y cystadleuwyr eu hunain wedi cael gwybod y rheswm pam y cafodd y Fedal Ddrama ei hatal eleni.

    Dywedodd llefarydd hefyd bod y cystadleuwyr wedi derbyn yr un wybodaeth â phawb arall.

    Y fedal oedd i fod yn brif seremoni yn y Pafiliwn dydd Iau, cyn iddi gael ei chanslo.

    Darllenwch ragor yma.

    Y Fedal Ddrama
  6. Yr haul yn gwenu ar yr Orseddwedi ei gyhoeddi 11:16 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Mae'r seremoni ar ben ac mae'r haul yn gwenu ar yr Orsedd wrth iddyn nhw adael y Pafiliwn.

    Cafodd 49 o bobl eu hurddo i'r Orsedd mewn seremoni yn y Pafiliwn y bore 'ma.

    Yr Orsedd
    orsedd
  7. Noel Thomas yn emosiynol wrth gael ei urddowedi ei gyhoeddi 11:08 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Disgrifiad,

    Roedd pawb ar eu traed wrth i Noel Thomas gael ei urddo

    Roedd y gynulleidfa ar eu traed i longyfarch Noel Thomas wrth iddo gael ei urddo i'r Orsedd.

    Roedd y gyn-bostfeistr yn ei ddagrau wrth gael ei gyfarch gan yr Archdderwydd, Mererid Hopwood.

  8. Mam a merch yn cael eu derbyn i'r Orseddwedi ei gyhoeddi 11:06 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Cafodd mam a'i merch eu derbyn i'r Orsedd yn swyddogol - yr arbenigwr bwyd Nerys Howell, a'i merch, y chwaraewr rygbi Elinor Snowsill, enillodd 76 o gapiau dros Gymru, cyn iddi ymddeol y llynedd.

    Dywedodd Elinor: "I neud e wrth ochr mam ma' fe'n rili sbesial, achos hi sydd wedi bod yn un o brif gefnogwyr fi dros y blynyddoedd."

    Maswr y Merched ydi ei henw barddol.

    Elinor Snowsill
    Nerys Howell
  9. Y Pafiliwn ar eu traed i longyfarch Noel Thomaswedi ei gyhoeddi 10:56 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Noel Thomas

    Mae'r gynulleidfa ar eu traed ac ambell ddeigryn wrth i Noel Thomas gael ei urddo i'r orsedd.

    Mae'r cyn-bostfeistr o Fôn, gafodd ei garcharu ar gam fel rhan o helynt cyfrifiaduron Horizon Swyddfa'r Post am gael ei adnabod fel 'Noel o'r Iard'.

    Dywedodd: "Fel un o hogia Sir Fôn yn cael fy anrhydeddu ymysg rhai llawer gwell na fi, neu bobl dwi 'di sbio fyny arnyn nhw, mae'n anrhydedd ofnadwy."

    Mae'n derbyn y Wisg Las, am ei gyfraniad i'w fro.

    Y Pafiliwn
    Disgrifiad o’r llun,

    Y gynulleidfa ar eu traed i longyfarch Noel Thomas

  10. 'Gerallt Derwyn Bach'wedi ei gyhoeddi 10:49 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Gerallt Oennant

    Mae Gerallt Pennant yn wyneb cyfarwydd i sawl un fel un o gyflwynwyr y rhaglen Heno yn ogystal â chyflwyno Galwad Cynnar ar BBC Radio Cymru.

    Cafodd ei urddo gyda'r Wisg Las yn y Pafiliwn.

    Bydd yn cael ei adnabod fel Gerallt Derwyn Bach.

  11. Gwisg Las i Joseff Gnagbowedi ei gyhoeddi 10:43 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Joseph Gnagbo

    Mae cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Joseff Gnagbo, wedi derbyn y Wisg Las.

    Mae'n geisiwr lloches o'r Arfordir Ifori, ac wedi bod yn diwtor Cymraeg ail iaith yng Nghaerdydd.

  12. Y Wisg Werdd i Angharad Leewedi ei gyhoeddi 10:33 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Angharad Lee

    Ymhlith y bobl i dderbyn y Wisg Werdd yn y Pafiliwn y bore 'ma am eu cyfraniad i fyd y celfyddydau mae Angharad Lee.

    Hi oedd yn gyfrifol am gynhyrchu'r ddrama gerdd Nia Ben Aur yn yr Eisteddfod eleni.

    Yn ogystal ag un o arweinyddion Côr yr Eisteddfod, Elin Llywelyn-Williams, sy'n ddirprwy bennaeth Ysgol Llwyncelyn yn y Rhondda.

  13. 'Gwaith cynnal a chadw' ar ôl y glawwedi ei gyhoeddi 10:20 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Wrth siarad yng nghynhadledd y wasg, dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses eu bod wedi gwneud “gwaith cynnal a chadw” i’r maes ar ôl y glaw ddoe.

    Ychwanegodd eu bod hefyd wedi gwneud “gwaith cynnal a chadw yn y meysydd carafanau” ac yn annog pobl i beidio symud eu ceir er mwyn sicrhau bod modd i bobl adael y safle ddydd Sul.

    Betsan Moses
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Betsan Moses yn siarad yn y gynhadledd i'r wasg

    Oherwydd y glaw, dywedodd eu bod “wedi gorfod neud rhai newidiadau er mwyn gwarchod llwyfan y maes” ddoe ond mae'n gobeithio y bydd y perfformio yn ailddechrau am 12.

    Wrth sôn am Maes B, dywedodd fod “popeth wedi mynd hwylus".

    Er nad ydyn nhw’n cyhoeddi niferoedd sy’n dod i’r eisteddfod, dywedodd eu bod yn “fwy na hapus" gyda'r niferoedd.

  14. Mae'r seremoni wedi dechrau!wedi ei gyhoeddi 10:11 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Mae'r seremoni i anrhydeddu pobl i'r Orsedd wedi dechrau gyda'r Archdderwydd, Mererid Hopwood yn croesawu pawb i'r Pafiliwn.

    Pafiliwn
  15. Y Pafiliwn dan ei sangwedi ei gyhoeddi 10:05 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Yr Orsedd

    Mae'r pafiliwn yn llawn ar gyfer y seremoni i dderbyn aelodau newydd i'r Orsedd.

    Mae'r aelodau newydd yn eistedd yn y gynulleidfa ac yn barod i gamu ar y llwyfan i gael eu cyfarch gan yr Archdderwydd.

  16. Ciwio cyn seremoni'r Orseddwedi ei gyhoeddi 09:50 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Ciwio

    Y bore 'ma yn y Pafiliwn bydd aelodau newydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd ac mae pobl yn ciwio yno'n barod.

    Eleni mae 49 aelod newydd gan gynnwys ambell wyneb cyfarwydd fel y darlledwr Gerallt Pennant a Noel Thomas o Fôn a gafodd ei garcharu ar gam yn sgîl y sgandal Swyddfa Bost.

    Mae rhestr llawn o'r rhai fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd yma.

    Yr Orsedd
  17. Y Fedal Ddrama: Galw am eglurhadwedi ei gyhoeddi 09:40 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Mae 'na alw am fwy o eglurhad gan yr Eisteddfod ynglŷn â pham y cafodd y Fedal Ddrama ei hatal eleni.

    Y fedal oedd i fod yn brif ddefod yn y Pafiliwn dydd Iau, cyn iddi gael ei chanslo.

    Mae'r penderfyniad wedi "peri dryswch" ar faes yr Eisteddfod, yn ôl Cefin Roberts, cyn-enillydd y Fedal Ddrama a chyn-gyfarwyddwr y Theatr Genedlaethol.

    Yn siarad ar Dros Frecwast dydd Gwener, dywedodd Mr Roberts ei bod hi'n "ofynnol i'r Eisteddfod roi dipyn bach mwy o eglurhad i bobl erbyn hyn".

    Ychwanegodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, fore Gwener ei bod hi'n "bwysig ein bod ni'n parchu'r broses a hefyd parchu cyfrinachedd".

    Darllenwch ragor yma.

    Cefin Roberts
    Disgrifiad o’r llun,

    Yn ôl y dramodydd a'r cerddor Cefin Roberts mae'n "ofynnol i'r Eisteddfod roi dipyn bach mwy o eglurhad i bobl erbyn hyn"

  18. Mae'n sychach dan draedwedi ei gyhoeddi 09:32 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Yn dilyn y glaw ddoe, mae 'na dractor wedi bod ar y maes y bore 'ma er mwyn creu tyllau yn y tir.

    Mae hi'n sychach o lawer dan draed heddiw nag yr oedd hi ddoe.

    Mi wnaeth y glaw effeithio ar sawl digwyddiad, gan gynnwys perfformiadau ar Lwyfan y Maes.

    Maes
  19. Croesawu ymwelwyr gyda gwênwedi ei gyhoeddi 09:19 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Croeso i'r Maes

    Mae 'na ddegau o wirfoddolwyr lleol yn croesawu pobl wrth iddyn nhw gyrraedd maes yr Eisteddfod.

    Dau o'r rheiny ydi Osian a Gwion.

  20. Awyr las!wedi ei gyhoeddi 09:10 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Maes yr Eisteddfod

    Ar ôl diwrnod gwlyb ar y maes ddoe, mae awyr las i'w gweld ym Mharc Ynysangharad y bore 'ma.