Crynodeb

  1. Ymlacio yn yr haulwedi ei gyhoeddi 15:08 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Yn dilyn y glaw trwm ddoe, mae'r olygfa yn wahanol iawn heddiw.

    Mae pobl ym mharc Ynysangharad yn mwynhau ymlacio yn yr haul.

    Parc Ynysangharad
  2. Y Fedal Ddrama: Actor yn datgan ei fod wedi ymgeisiowedi ei gyhoeddi 15:04 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst
    Newydd dorri

    Wrth i'r dyfalu barhau, mae'r actor Wyn Bowen Harries wedi dweud ei fod wedi cystadlu yn y Fedal Ddrama eleni.

    Mewn neges ar ei gyfrif Facebook personol dywedodd: "Gan ei fod yn amlwg na fydd esboniad gan yr Eisteddfod pam y dilewyd (sic) y gystadleuaeth rydw i bellach yn datgan fy mod i wedi cystadlu gyda fy nrama ‘DNA’ dan y ffugenw Shrödinger.

    "Os ydw i neu unrhyw awdur arall wedi tramgwyddo mewn unrhyw ffordd, dylid datgan pam.

    "Os na, yna teimlaf fod hyn yn gryn ddiffyg parch at waith pawb yn y gystadleuaeth."

    Mae'n dweud ei fod wedi derbyn y feirniadaeth ar e-bost gan yr Eisteddfod ddoe ac wedi penderfynu cyhoeddi honno ar ei dudalen Facebook.

    Wyn Bowen Harries
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r actor Wyn Bowen Harries yn dweud ei fod o wedi cystadlu ar gyfer y Fedal Ddrama eleni

    Mae'n honni fod y feirniadaeth gan y beirniaid yn dweud fod y "ddrama fyd-eang hon yn chwa o awyr iach i’r theatr Gymraeg".

    "Stori sy’n olrhain hanes darganfyddiad DNA, a’r fenyw wnaeth gyfrannu at y darganfyddiad.

    "Darn uchelgeisiol o theatr sy’n cyflwyno gwyddoniaeth, a sut mae merched bob amser wedi chwarae’n ail ffidil i ddynion yn y byd gwyddonol.

    "Cipolwg hynod ddiddorol ar ddarganfyddiad DNA, stori feiddgar a chymhellol sy'n amlygu brwydr merched i gael eu clywed."

    Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod: “Rydyn ni’n ymwybodol bod nifer o sïon ar hyd a lled y Maes ynglyn â chystadleuaeth y Fedal Ddrama.

    “Nid ydyn ni’n gallu gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater, gan fod manylion ein cystadlaethau’n gyfrinachol.”

  3. Arwyr tawel yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 14:45 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Tîm y Prif StiwardFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

    Dyma brif stiwardiaid yr Eisteddfod.

    Mae'r gwirfoddolwyr yn cyrraedd y maes yn gynnar yn y bore ac yn aros tan y nos i gadw golwg ar y cyfan.

  4. Cyd-ganu efo Fleur De Lyswedi ei gyhoeddi 14:37 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Roedd 'na ganu uchel yn dod o babell Prifysgol Bangor p'nawn ma wrth i'r gynulleidfa ymuno mewn cân gyda'r band poblogaidd o Fôn, Fleur De Lys.

    Disgrifiad,

    Fleur de Lys

  5. 'Cewri'r genedl' yn cael eu hurddowedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Cafodd 49 o bobl eu hurddo i'r Orsedd yn y Pafiliwn y bore 'ma.

    O chwaraewr rygbi i gyn-wleidydd, mi gafodd Cymru Fyw sgwrs efo rhai o'r aelodau newydd yn dilyn y seremoni.

  6. Yr haul yn gwenuwedi ei gyhoeddi 13:59 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Wrth i'r haul wenu, mae'r maes yn brysur wrth i bobl heidio i barc Ynysangharad.

    Maes
    Maes
  7. 'Wythnos wych' i'r farchnadwedi ei gyhoeddi 13:50 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Welsh Cake shop

    Mae rhai o stondinau'r farchnad y tu allan i'r maes yn dweud eu bod nhw hefyd wedi elwa'r wythnos hon.

    Mae Theresa a Aimee o The Welsh Cake Shop yn dweud eu bod yn cael "wythnos wych".

  8. A fydd teilyngdod ym mhrif seremoni'r dydd?wedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Y Cadeirio fydd prif seremoni'r dydd yn y Pafiliwn heddiw.

    Roedd gofyn i ymgeiswyr gyfansoddi awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol - hyd at 250 o linellau ar y testun Cadwyn.

    Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Aneirin Karadog, Huw Meirion Edwards a Dylan Foster Evans.

    Bydd y seremoni'n dechrau am 16:00 a chofiwch ddilyn llif byw Cymru Fyw am y diweddaraf.

    Y GadairFfynhonnell y llun, Yr Eisteddfod Genedlaethol
  9. Pwy fydd enillydd Albwm Cymraeg y Flwyddyn?wedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Am 15:00 pnawn 'ma bydd enillydd Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn.

    Dyma'r rhai sydd ar y rhestr fer:

    • Amrwd- Angharad Jenkins a Patrick Rimes
    • Bolmynydd- Pys Melyn
    • Caneuon Tyn yr Hendy- Meinir Gwilym
    • Dim dwywaith- Mellt
    • Galargan- The Gentle Good
    • Llond Llaw- Los Blancos
    • Mynd â’r tŷ am dro- Cowbois Rhos Botwnnog
    • Sŵn o’r stafell arall- Hyll
    • Swrealaeth- M-Digidol
    • Ti ar dy ora’ pan ti’n canu– Gwilym

    Cofiwch ddilyn llif Cymru Fyw i gael y diweddaraf!

    Albwm Cymraeg y Flwyddyn
  10. Hwyl yn yr heulwenwedi ei gyhoeddi 13:32 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Jesse a Kezia yn mwynhau chwarae yn yr haul ar faes y Steddfod.

    Jesse a Kezia
  11. Amser cinio!wedi ei gyhoeddi 13:27 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Mae'n amser cinio a dim ond un lle sydd i fod...y pentref bwyd wrth gwrs!

    Pobl yn ciwio
  12. 'Mwy sbeshial cael neud e wrth ymyl Mam'wedi ei gyhoeddi 13:24 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Eluned a'i mam

    Cafodd mam a'i merch eu derbyn i'r Orsedd yn swyddogol - yr arbenigwr bwyd Nerys Howell, a'i merch, y cyn-chwaraewr rygbi Elinor Snowsill.

    Dywedodd Elinor wrth Cymru Fyw: “O'dd e’n emosiynol.. o'n ddim yn disgwyl e i fod yn emosiynol.

    "Mae’n anrhydedd fawr ac hyd yn oed yn fwy sbeshial cael neud e wrth ymyl mam.”

    Disgrifiodd ei mam y profiad fel un "anhygoel ac emosiynol tu hwnt."

    "Mae hyd yn oed yn fwy arbennig ym Mhontypridd, es i i Ysgol Rhydfelen… mae’n sbeshial iawn”

  13. Digwyddiad teuluolwedi ei gyhoeddi 13:19 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Cafodd Ynyr Williams ei urddo i'r Orsedd heddiw.

    Roedd yn gyfrifol am allbwn darlledu'r BBC am dros ddeng mlynedd ac fe gafodd gefnogaeth ei deulu ar y Maes - Betsan Llwyd a'i ferch Nanw.

    Ynyr WilliamsFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  14. Tywydd hufen iâwedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Gyda'r glaw wedi hen ddiflannu, mae'n dywydd hufen iâ ar y maes heddiw!

    hufen iâFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  15. Noel Thomas: 'Finna' fel rhyw bostman cyffredin'wedi ei gyhoeddi 12:51 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Disgrifiad,

    Y cyn-bostfeistr yn siarad gyda Cymru Fyw ar ol cael ei urddo

    Wrth siarad gyda Cymru Fyw dywedodd Noel Thomas bod cael ei dderbyn i'r Orsedd yn brofiad "anhygoel i sefyll ymysg pobl mor alluog i fod yn onest a finna' fel rhyw bostman cyffredin, nes i ‘rioed meddwl fyswn i’n gwisgo’r wisg las ‘ma a bod yn bart o’r Orsedd”.

    Dywedodd ei fod yn "falch iawn" pan gododd y gynulleidfa ar eu traed ond pwysleisiodd mai "dim i fi ma hwn, ma hwn i’r dros 500 arall sydd wedi bod trwy ‘run un peth, ‘da ni wedi sticio efo’n gilydd. Mewn nerth mae egni i ddweud y gwir".

    Dywedodd yr hoffai ddiolch i ohebwyr o Gymru "gan ddechrau gyda Sion Tecwyn, 'Taro Naw' a BBC Cymru... roedd pobl yng Nghymru yn gwybod be' oedd wedi digwydd ond a'th hynny ddim dros y ffin"

    “Rŵan ar ôl y ddrama mae’r cyfryngau mawr i mewn wan ‘tydyn?”

  16. 'Noel Thomas wedi dod yn gyfystyr efo urddas'wedi ei gyhoeddi 12:48 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Roedd Rhun ap Iorwerth yn trafod pwysigrwydd y seremoni urddo er mwyn i "ni fel cenedl gallu dangos ein parch at bobl".

    Yn ogystal â'i balchder o wylio ei chwaer Awen yn cael ei anrhydeddu, dywedodd arweinydd Plaid Cymru bod gweld Noel Thomas yn cael ei urddo yn "rhywbeth wnâi gofio am byth."

    Dywedodd: "Mae Noel wedi dod yn gyfystyr efo urddas a chafodd ei anrhydeddu yn wir ystyr y gair anrhydeddu.

    "Dwi'n gobeithio bod o wedi teimlo hynny heddiw 'ma."

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, S4C
  17. 'O'n i'n synhwyro bysa rhywbeth hanesyddol yn digwydd'wedi ei gyhoeddi 12:37 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Wrth gael ei holi am gael ei dderbyn i'r orsedd, dywedodd y darlledwr Gerallt Pennant: "Roedd o'n fythgofiadwy… gwybod bo fi yn y cwmni dethol yma."

    Wrth gyfeirio at y cyn-bostfeistr, Noel Thomas gafodd ei urddo yn yr un seremoni dywedodd: “Dwi di dod i’w nabod o ers dwy, dair, bedair blynedd bellach… ac wrth gwrs oedd rhywun yn synhwyro bysa rhywbeth hanesyddol yn digwydd yn ystod y seremoni yna heddiw pan gododd pawb fel un i longyfarch Noel Thomas, bydd hwnna efo fi am byth."

    “Syfrdanol, dyna’r unig air fedra i feddwl i ddisgrifio’r profiad," meddai.

    Geralt Pennant
  18. Cymru Fyw ar gael ar sawl platfformwedi ei gyhoeddi 12:27 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Cofiwch fod Cymru Fyw ar gyfer y flwyddyn ac nid dim ond yr Eisteddfod!

    Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap BBC Cymru Fyw ar Google Play, dolen allanol neu App Store, dolen allanol.

    Erbyn hyn, mae modd i chi gael y newyddion diweddaraf gan Cymru Fyw ar WhatsApp hefyd. Pwyswch yma., dolen allanol

    Ac wrth gwrs, 'da ni ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol ac Instagram, dolen allanol.

    Diolch am eich cefnogaeth. Yn ôl â ni at y Maes...

    Cymru Fyw
  19. 'Teimlo mewn undod efo'r dorf'wedi ei gyhoeddi 12:19 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Llongyfarchiadau mawr i Joseff Gnagabo a gafodd ei urddo bore 'ma.

    Yn wreiddiol o'r Arfordir Ifori, mae o bellach yn gadeirydd ar Gymdeithas yr Iaith ar ôl dysgu Cymraeg.

    Er yn teimlo'n emosiynol cyn y seremoni, dywedodd ei fod yn teimlo dipyn gwell wrth gerdded o amgylch y Maes.

    Ar ôl cael ei urddo, dywedodd: "Dwi wedi teimlo mewn undod efo'r dorf, gyda phawb.

    "Yr un ysbryd wedi ei rannu - amser gwych."

    Joseff GnagaboFfynhonnell y llun, S4C
  20. Glaw ddoe yn cael effaith heddiwwedi ei gyhoeddi 12:07 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst

    Er ei bod hi'n argoeli'n ddiwrnod dipyn sychach ym Mhontypridd heddiw, mae'r glaw mawr ddoe wedi gadael ei ôl.

    Dyma'r olygfa yn y maes carafanau y bore 'ma.

    maes carafanau